Cynulliad Cenedlaethol Cymru
The National Assembly for Wales

 


Cofnod y Trafodion

The Record of Proceedings

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth, 8 Tachwedd 2011

Tuesday, 8 November 2011


Cynnwys
Contents

 

           

3          Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Questions to the First Minister

 

33        Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Business Statement and Announcement

 

39        Datganiad: Llythrennedd

Statement: Literacy

 

52        Datganiad: Strategaeth ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Statement: The National Flood and Coastal Erosion Risk Management Strategy

 

64        Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

The Older People’s Commissioner Annual Report

 

94        S4C     

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn y golofn chwith, cofnodwyd y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y Siambr. Yn ogystal, cynhwysir cyfieithiad Saesneg o gyfraniadau yn y Gymraeg.

 

In the left-hand column, the proceedings are recorded in the language in which they were spoken in the Chamber. In addition, an English translation of Welsh speeches is included.


Cyfarfu’r Cynulliad am 1.30 p.m. gyda’r Llywydd (Rosemary Butler) yn y Gadair.

The Assembly met at 1.30 p.m. with the Presiding Officer (Rosemary Butler) in the Chair.

 

Y Llywydd: Galwaf Gynulliad Cenedlaethol Cymru i drefn.

 

The Presiding Officer: I call the National Assembly for Wales to order.

 

Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Questions to the First Minister

 

Portffolio Ynni Strategol

Strategic Energy Portfolio

 

1. Yr Arglwydd Elis-Thomas: Sawl cyfarfod a gynhaliodd y Prif Weinidog ers mis Mai 2011, mewn perthynas â’i bortffolio ynni strategol, â chwmnïau sector preifat sydd am fuddsoddi mewn cynhyrchu ynni. OAQ(4)0215(FM)

 

1. Lord Elis-Thomas: How many meetings has the First Minister had since May 2011, in relation to his strategic energy portfolio, with private-sector companies wishing to invest in energy generation. OAQ(4)0215(FM)

 

Y Prif Weinidog (Carwyn Jones): Yr wyf yn cwrdd yn rheolaidd â chwmnïau sector preifat sy’n dymuno buddsoddi yng Nghymru. Yn ogystal â chyfarfod â chwmnïau unigol, ym mis Mehefin cefais drafodaeth gynhyrchiol o amgylch bwrdd gyda nifer o ddatblygwyr ynni cynaliadwy sydd â phrosiectau, a rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru.

 

The First Minister (Carwyn Jones): I regularly meet with private sector companies wishing to invest in Wales. As well as meeting with individual companies, in June, I held a productive round-table discussion attended by a number of renewable energy developers with projects, and key stakeholders in Wales.

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas: Yr oeddwn yn falch o glywed am y cyfarfod hwnnw, Brif Weinidog, ond a fyddai’n rhyfeddod ichi, pe baech yn edrych ar y dystiolaeth yr ydym wedi ei derbyn fel pwyllgor sydd yn edrych ar ynni a chynllunio ar hyn o bryd, weld bod y rhan fwyaf o’r datblygwyr sydd yn siarad â ni yn dweud eu bod o’r farn nad yw Cymru ar agor am fusnes?

 

Lord Elis-Thomas: I was pleased to hear about that meeting, First Minister, but would it surprise you, if you were to look at the evidence that we have received as a committee that is currently looking at planning and energy, to see that the majority of the developers who are speaking to us are saying that they are of the opinion that Wales is not open for business?

 

Y Prif Weinidog: Od iawn oedd clywed yr hyn a ddywedwyd yr wythnos diwethaf ynglŷn â’r Alban, sef bod busnesau yn meddwl nad oedd yr Alban ar agor i fusnes. Yr ydym eisiau sicrhau busnes i Gymru ym maes ynni adnewyddadwy, ac yr ydym yn parhau i siarad gyda chwmnïau o Brydain a thu hwnt er mwyn sicrhau swyddi i bobl Cymru yn y maes hwn.

 

The First Minister: It was most odd to hear what was said last week about Scotland, namely that businesses believe that Scotland is not open to business. We want to ensure business for Wales in the renewable energy sector, and we continue to speak to businesses in Britain and beyond in order to secure jobs for the people of Wales in this sector.

 

Russell George: First Minister, having listened to evidence from energy companies in the renewable energy sector over the last few weeks, what has struck me is that they are still unsure about what your statement last June means for them, that Government policy is still confused and that they are reluctant to invest in further renewable technologies in Wales. In order to restore confidence, do you think that it is time for a full review of technical advice note 8 and for us to start investing in other technologies that will ensure that we meet our emissions and generation targets?

 

Russell George: Brif Weinidog, ar ôl gwrando ar dystiolaeth gan gwmnïau ynni yn y sector ynni adnewyddadwy dros yr ychydig wythnosau diwethaf, beth sydd wedi fy nharo yw eu bod yn dal yn ansicr ynghylch beth mae’ch datganiad fis Mehefin diwethaf yn ei olygu iddynt hwy, bod polisi’r Llywodraeth yn dal yn ddryslyd a’u bod yn amharod i fuddsoddi mewn technolegau adnewyddadwy yng Nghymru. Er mwyn adfer hyder, a gredwch ei bod yn amser am adolygiad llawn o nodyn cyngor technegol 8 ac i ni ddechrau buddsoddi mewn technolegau eraill a fydd yn sicrhau ein bod yn bodloni ein targedau o ran allyriadau a chynhyrchu?

 

The First Minister: It is pointless to review TAN 8 when it is UK Government policy that determines large planning applications, which your party has supported in terms of repatriating the powers, to use a current phrase, to the people of Wales. It is also important that the renewables obligation certificates are changed as quickly as possible to make marine energy more attractive. That has happened in Scotland, because Scotland controls the ROCs in a way that we do not in Wales.

 

Y Prif Weinidog: Mae’n ddibwrpas i adolygu TAN 8 pan fydd polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn penderfynu ar geisiadau cynllunio mawr, a gefnogwyd gan eich plaid o ran ail-wladoli’r pwerau, i ddefnyddio ymadrodd cyfredol, i bobl Cymru. Mae’n bwysig hefyd bod y tystysgrifau rhwymedigaeth ynni adnewyddadwy yn cael eu newid cyn gynted â phosibl i wneud ynni morol yn fwy deniadol. Mae hynny wedi digwydd yn yr Alban, oherwydd mae’r Alban yn rheoli ROCs mewn ffordd nad ydym ni yng Nghymru.

 

Newidiadau ym Mudd-daliadau’r DU

UK Benefit Changes

 

2. Joyce Watson: Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o effaith bosibl newidiadau ym mudd-daliadau’r DU ar y rheini sy’n chwilio am lety rhent preifat yng Nghymru. OAQ(4)0200(FM)

 

2. Joyce Watson: What assessment has the First Minister made of the potential effect UK benefit changes will have on those seeking private rented accommodation in Wales. OAQ(4)0200(FM)

 

The First Minister: I am concerned about increased pressures on household incomes, and a possible reduction in affordable accommodation for those on benefit. You will know that we have established a ministerial group to monitor the cumulative impact of all the welfare changes. We are also funding a study with the Department for Work and Pensions to monitor the impacts.

 

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn bryderus ynghylch y pwysau cynyddol ar incwm aelwydydd, a lleihad posibl mewn llety fforddiadwy ar gyfer y rhai ar fudd-daliadau. Byddwch yn gwybod ein bod wedi sefydlu grŵp gweinidogol i fonitro effaith gronnol yr holl newidiadau lles. Yr ydym hefyd yn ariannu astudiaeth gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i fonitro’r effeithiau.

 

Joyce Watson: Thank you for that answer, First Minister. Around a third of people receiving housing benefit in Wales live in the private rented sector, and charities are warning that changes will hit low-income households and penalise private tenants. Their concerns are borne out by the independent Institute for Fiscal Studies assessment. Do you think that it is likely that we will see a rise in arrears as a result of those changes and do we need to work closely with the private rented sector to mitigate evictions and other housing emergencies? Will you join me in congratulating Carmarthenshire County Council, which has worked hard with private landlords for the benefit of tenants, with 500 landlords already signed up to the council’s accreditation scheme?

 

Joyce Watson: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Mae tua thraean y bobl sy’n derbyn budd-dal tai yng Nghymru yn byw yn y sector rhentu preifat, ac mae elusennau yn rhybuddio y bydd newidiadau yn taro aelwydydd incwm isel ac yn cosbi tenantiaid preifat. Cadarnhawyd eu pryderon gan asesiad annibynnol y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol. A gredwch ei bod yn debygol y byddwn yn gweld cynnydd mewn ôl-ddyledion o ganlyniad i’r newidiadau hynny ac a oes angen inni weithio’n agos gyda’r sector rhentu preifat i liniaru dadfeddiannu ac argyfyngau tai eraill? A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Cyngor Sir Caerfyrddin, sydd wedi gweithio’n galed gyda landlordiaid preifat er budd tenantiaid, gyda 500 o landlordiaid eisoes wedi cofrestru ar gynllun achredu’r cyngor?

 

The First Minister: I share the Member’s concern about the effects of the benefit changes, particularly in terms of arrears. The ministerial group will monitor those effects. I also congratulate Carmarthenshire council on the success of its accreditation scheme.

 

Y Prif Weinidog: Rhannaf bryder yr Aelod ynghylch effeithiau’r newidiadau i fudd-daliadau, yn enwedig o ran ôl-ddyledion. Bydd y grŵp gweinidogol yn monitro’r effeithiau hynny. Yr wyf innau yn llongyfarch cyngor Sir Gaerfyrddin ar lwyddiant ei gynllun achredu.

 

Mark Isherwood: The welfare reforms are also linked to the work programme. We were pleased to hear at the Spotlight North Wales conference, to which you contributed last Friday, not only that the Welsh Government is fully engaged with the work programme, but to hear it described by one of the two providers as one of the biggest welfare to work programmes that the UK has ever seen. I am sure that you will agree that the two are interlinked. Specifically on benefit reform, what action is your Government taking to respond to the evidence given to the Communities and Culture Committee on that matter towards the end of the last Assembly, where we heard that we need to build better relationships and links between local authorities, letting agents and private sector landlords to prepare for and manage the changes?

 

Mark Isherwood: Mae’r diwygiadau lles hefyd yn gysylltiedig â’r rhaglen waith. Yr oeddem yn falch o glywed yng nghynhadledd Goleuo’r Gogledd, y gwnaethoch gyfraniad ati ddydd Gwener diwethaf, nid yn unig bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu’n llawn â’r rhaglen waith, ond i’w chlywed yn cael ei disgrifio gan un o’r ddau ddarparwr fel un o’r rhaglenni o fudd-dâl i waith mwyaf a welodd y Deyrnas Unedig erioed. Mae’n siŵr gennyf y byddwch yn cytuno bod y ddau yn gydgysylltiedig. Yn benodol ar ddiwygio budd-daliadau, pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i ymateb i’r dystiolaeth a roddwyd i’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant ar y mater hwnnw tuag at ddiwedd y Cynulliad diwethaf, lle y clywsom fod angen inni adeiladu gwell perthynas a chysylltiadau rhwng awdurdodau lleol, asiantau gosod a landlordiaid y sector preifat i baratoi ar gyfer newidiadau a’u rheoli?

 

The First Minister: I agree with the second point: what happened in the last Assembly is not a matter for this Government, but nevertheless it is important to ensure that what needs to be done is done for people who will lose out as a result of the benefits changes.

 

Y Prif Weinidog: Cytunaf â’r ail bwynt: nid mater i’r Llywodraeth hon yw’r hyn a ddigwyddodd yn y Cynulliad diwethaf, ond serch hynny mae’n bwysig sicrhau y gwneir yr hyn y mae angen ei wneud i’r bobl a fydd ar eu colled o ganlyniad i’r newidiadau i fudd-daliadau.

 

Leanne Wood: The majority of housing organisations have acknowledged that changes to the housing benefit system by the Westminster Government will have a detrimental impact on homelessness and increase inequality. Housing benefit costs have gone up, not because of the supposed generosity of the system, but because of rent inflation in London and the south-east of England. The lack of available one-bedroomed accommodation is likely to exacerbate the problem, particularly among single people. Do you agree that the UK one-size-fits-all approach will be damaging to Wales, and that people here would benefit from greater autonomy, or at least the ability to opt out of damaging policy proposals, like this housing benefit cut?

 

Leanne Wood: Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau tai wedi cydnabod bod newidiadau i’r system fudd-dal tai gan Lywodraeth San Steffan yn cael effaith niweidiol ar ddigartrefedd ac yn cynyddu anghydraddoldeb. Mae costau budd-dal tai wedi cynyddu, nid oherwydd haelioni tybiedig y system, ond oherwydd chwyddiant rhenti yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Mae diffyg argaeledd llety un ystafell wely yn debygol o waethygu’r broblem, yn enwedig ymhlith pobl sengl. A ydych yn cytuno y bydd dull un-ateb-i-bawb y DU yn niweidiol i Gymru, ac y byddai pobl yma yn elwa o fwy o ymreolaeth, neu o leiaf y gallu i optio allan o’r cynigion polisi niweidiol, megis torri’r budd-dal tai hwn?

 

The First Minister: It would be better if these proposals were not taken forward at all in any part of the UK. The great concern that we have is that more people will become homeless, which will mean that there will be a call on the Government’s budget here. It is a direct transfer of resources, effectively, from the Welsh Government to the UK Government if people are not being supported through UK Government funds and become reliant on Welsh Government funds.

 

Y Prif Weinidog: Byddai’n well pe na chyflwynir y cynigion hyn o gwbl mewn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig. Y pryder mawr sydd gennym yw y bydd mwy o bobl yn ddigartref, a fydd yn golygu y bydd galw ar gyllideb y Llywodraeth yma. Mae’n drosglwyddiad uniongyrchol o adnoddau, i bob pwrpas, o Lywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU os na chefnogir pobl drwy arian Llywodraeth y DU ac os byddant yn dod yn ddibynnol ar arian Llywodraeth Cymru.

 

Peter Black: First Minister, I share your concern about the housing benefit changes and the transfer of cost to the Welsh Government and local government. However, one of the ways in which the Welsh Government can tackle that concern is by increasing the supply of affordable housing as a safety net for those people who are affected by the changes. When will we see a strategy, viable targets and an action plan to deliver those targets in relation to your Government’s plans to provide that affordable housing?

 

Peter Black: Brif Weinidog, rhannaf eich pryder ynghylch y newidiadau i fudd-dal tai a throsglwyddiad y gost i Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Fodd bynnag, un o’r ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r pryder hwnnw yw drwy gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy fel rhwyd ddiogelwch ar gyfer y bobl hynny yr effeithir arnynt gan y newidiadau. Pryd fyddwn yn gweld strategaeth, targedau dichonadwy a chynllun gweithredu i gyflawni’r targedau hynny mewn perthynas â chynlluniau eich Llywodraeth i ddarparu tai fforddiadwy?

 

The First Minister: A total of £1.4 million is being provided to local authorities this year and in the next financial year to support projects that are related to homelessness. That means looking at supporting collaborative projects and projects within local authorities. We are looking at the money that will be available to us as a result of the council tax freeze in England, with a view to including, as part of that money, a commitment to spend more on affordable housing in Wales.

 

Y Prif Weinidog: Mae cyfanswm o £1.4 miliwn yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol eleni ac yn y flwyddyn ariannol nesaf i gefnogi prosiectau sy’n ymwneud â digartrefedd. Mae hynny’n golygu edrych ar gefnogi prosiectau cydweithredol a phrosiectau o fewn awdurdodau lleol. Yr ydym yn edrych ar yr arian a fydd ar gael i ni o ganlyniad i rewi’r dreth gyngor yn Lloegr, gyda golwg ar gynnwys, fel rhan o’r arian hwnnw, ymrwymiad i wario mwy ar dai fforddiadwy yng Nghymru.

 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

 

Questions Without Notice from the Party Leaders

The Leader of the Opposition (Andrew R.T. Davies): First Minister, in your document ‘Together for Health’, you state,

 

Arweinydd yr Wrthblaid (Andrew R.T. Davies): Brif Weinidog, yn eich dogfen ‘Law yn Llaw at Iechyd’, rydych yn nodi,

 

‘NHS success depends from first to last on those who work for it’.

 

‘Mae llwyddiant y GIG yn dibynnu, ym mhob ffordd, ar y bobl sy’n gweithio iddo’.

 

Last week, the Royal College of Nursing brought its staff survey out and addressed Members here last Tuesday. The survey highlights that nearly 50 per cent of nurses are thinking of leaving the profession, and that over 60 per cent have undue stress levels put upon them in their place of work. What action is your Government taking to address these issues?

 

Yr wythnos diwethaf, cyflwynodd Coleg Brenhinol y Nyrsys ei arolwg staff ac anerchwyd Aelodau yma ddydd Mawrth diwethaf. Mae’r arolwg yn amlygu bod bron i 50 y cant o nyrsys yn ystyried gadael y proffesiwn, a bod gan dros 60 y cant lefelau straen gormodol arnynt yn eu lleoedd gwaith. Pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r materion hyn?

 

The First Minister: The Royal College of Nursing has been supportive of the Welsh Government’s policies, as regards our approach to the NHS, which is in stark contrast to elsewhere in the UK.

 

Y Prif Weinidog: Mae Coleg Brenhinol y Nyrsys wedi bod yn gefnogol o bolisïau Llywodraeth Cymru, o ran ein hymagwedd tuag at y gwasanaeth iechyd gwladol, ac y mae hynny’n dra gwahanol i lefydd eraill yn y Deyrnas Unedig.

 

Andrew R.T. Davies: How can you dismiss the concerns of nurses on the ground, at the front line, on a day-to-day basis? They highlight a great disparity in Wales. The survey says that only 37 per cent of nurses agree that the nursing structure provides a secure career, as opposed to 70 per cent in 2009. In fact, 47 per cent have indicated that there are now fewer nurses in Welsh hospitals in their day-to-day environment. A quarter of nurses have said that there are fewer health support workers on wards in Wales. Why are you so flippant when these serious concerns have been brought here by the Royal College Nursing and need to be addressed by your Government to tackle the shortfall in the Welsh NHS?

 

Andrew R.T. Davies: Sut allwch chi wfftio pryderon nyrsys sydd ar lawr gwlad, yn y rheng flaen yn feunyddiol? Maent yn amlygu’r gwahaniaeth mawr yng Nghymru. Mae’r arolwg yn dweud mai dim ond 37 y cant o nyrsys sydd yn cytuno bod y strwythur nyrsio yn cynnig gyrfa ddiogel, o’i gymharu â 70 y cant yn 2009. Mewn gwirionedd, mae 47 y cant wedi nodi bod bellach llai o nyrsys mewn ysbytai yng Nghymru yn eu hamgylchedd beunyddiol. Mae chwarter y nyrsys wedi dweud bod llai o weithwyr cymorth iechyd ar wardiau yng Nghymru. Pam ydych mor wamal pan fod y pryderon difrifol hyn wedi’u eu lleisio gan Goleg Brenhinol y Nyrsys ac angen sylw gan eich Llywodraeth i fynd i’r afael â’r diffyg yng ngwasanaeth iechyd gwladol Cymru?

 

The First Minister: I am not being flippant at all; I am only comparing the situation here to what is happening in England. We take no lectures from parties who are running the health service elsewhere, and it is right to compare. The latest data shows that a third of NHS trusts in England are breaching waiting times for treating patients, almost four times the number this time last year. In Buckinghamshire, dozens of patients have been declined funding after commissioners took action to improve performance against the 18-week referral-to-treatment standard. We know what is happening elsewhere in the UK. We see the criticism coming from the RCN regarding the way in which the health service is being run in England, and I am willing to bet that if you asked Welsh nurses whether they would rather work in Wales or England, they would choose Wales.

 

Y Prif Weinidog: Nid wyf yn wamal o gwbl; dim ond cymharu’r sefyllfa yma i’r hyn sy’n digwydd yn Lloegr ydwyf. Nid ydym yn cymryd unrhyw bregeth gan bleidiau sy’n rhedeg y gwasanaeth iechyd mewn mannau eraill, ac mae’n iawn i gymharu. Mae’r data diweddaraf yn dangos bod traean o ymddiriedolaethau’r gwasanaeth iechyd gwladol yn Lloegr yn torri amseroedd aros ar gyfer trin cleifion, bron bedair gwaith nifer yr adeg hon y llynedd. Yn Swydd Buckingham, gwrthodwyd cyllid i ddwsinau o gleifion wedi i gomisiynwyr gymryd camau i wella perfformiad yn erbyn y safon atgyfeirio-i-driniaeth 18 wythnos. Rydym yn gwybod beth sy’n digwydd mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn gweld y feirniadaeth yn dod o Goleg Brenhinol y Nyrsys ynghylch y ffordd y rhedir y gwasanaeth iechyd yn Lloegr, ac yr wyf yn barod i fentro pe baech yn gofyn i nyrsys yng Nghymru a fyddai’n well ganddynt i weithio yng Nghymru neu yn Lloegr, byddent yn dewis Cymru.

 

Andrew R.T. Davies: You are supposed to be the First Minister for Wales. This survey was undertaken with Welsh nurses working in the Welsh NHS, for whom you and your Government are responsible. I have offered you the opportunity to outline what measures your Government will undertake to address these concerns, but all you seem to be interested in is Government-bashing sessions. If you want to look at waiting times in England, by all means do so, because they are far better than any waiting times that you as First Minister have ever presided over. I ask you again: given the figures that I have put to you, and in your role as First Minister for Wales, what actions will you and your Government take to address the real concerns of front-line workers in the Welsh NHS?

 

Andrew R.T. Davies: Yr ydych i fod i fod yn Brif Weinidog Cymru. Cynhaliwyd yr arolwg hwn gyda nyrsys Cymru yn gweithio yng ngwasanaeth iechyd gwladol Cymru, yr ydych chi a’ch Llywodraeth yn gyfrifol amdanynt. Rwyf wedi cynnig cyfle ichi amlinellu pa fesurau y bydd eich Llywodraeth yn ymgymryd â hwy er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon hyn, ond ymddengys mai’r unig beth sydd o ddiddordeb i chi yw rhoi cweir i’r Llywodraeth. Os dymunwch edrych ar amseroedd aros yn Lloegr, gwnewch hynny ar bob cyfrif oherwydd maent yn well o lawer nag unrhyw amseroedd aros yr ydych chi fel Prif Weinidog erioed wedi llywyddu drostynt. Gofynnaf ichi eto: o ystyried y ffigurau yr wyf wedi eu rhoi i chi, yn eich rôl fel Prif Weinidog Cymru, pa gamau y byddech chi a’ch Llywodraeth yn eu cymryd i ymdrin â phryderon gwirioneddol gweithwyr rheng flaen yn y gwasanaeth iechyd gwladol?

 

The First Minister: I will be meeting with the Royal College of Nurses in the near future, and I can discuss those matters with them. However, it takes the biscuit to say that, somehow, Government-bashing is something that comes from me. Many of us on this side of the Chamber admired Nick Bourne in the years that he was Welsh Conservative leader; he built up the Welsh Conservatives, but we have now seen the leader of the opposition dismantle his work in three months. His party is launching a consultation to see what powers can be taken away from this Assembly, even though we had a referendum in March. It shows that he does nothing unless he is told to do it by the Secretary of State for Wales.

 

Y Prif Weinidog: Byddaf yn cwrdd â Choleg Brenhinol y Nyrsys yn y dyfodol agos, a gallaf drafod y materion hynny gyda hwy. Fodd bynnag, mae’n dweud y cyfan i honni, rywsut, bod rhoi cweir i’r Llywodraeth yn rhywbeth sy’n dod oddi wrthyf i. Roedd sawl un ohonom ar yr ochr hon yn y Siambr yn edmygu Nick Bourne yn y blynyddoedd yr oedd yn arweinydd Ceidwadwyr Cymru; adeiladodd ar y Ceidwadwyr Cymreig, ond yr ydym bellach wedi gweld arweinydd yr wrthblaid yn datgymalu ei waith mewn tri mis. Mae ei blaid yn lansio ymgynghoriad i weld pa bwerau y gellir eu cymryd oddi wrth y Cynulliad hwn, er y cawsom refferendwm ym mis Mawrth. Mae’n dangos nad yw ef yn gwneud unrhyw beth oni ddywedir wrtho i’w wneud gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

 

Andrew R.T. Davies: I think that the First Minister—[Inaudible.]—when he talks about the opportunity for this institution to have a discussion with the Silk commission. I asked him a pointed question about the health service in Wales. He has turned his back on the nurses of Wales with his attitude today, and they will watch his performance in disgust.

 

Andrew R.T. Davies: Credaf fod y Prif Weinidog—[Anghlywadwy.]—pan sonia am y cyfle ar gyfer y sefydliad hwn i gael trafodaeth gyda chomisiwn Silk. Gofynnais iddo gwestiwn pwrpasol am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae wedi troi ei gefn ar nyrsys Cymru gyda’i agwedd heddiw, a byddant yn gwylio ei berfformiad gyda ffieidd-dod.

 

The First Minister: This is the party that holds the NHS in contempt. This is the party that cuts funding to patients in England; this is the party that has always believed in the private sector and has no stake in the NHS; and this is the party that takes its instructions from London and does Wales down. [Interruption.]

 

Y Prif Weinidog: Dyma’r blaid sy’n dangos dirmyg at y gwasanaeth iechyd gwladol. Hon yw’r blaid sy’n torri cyllid i gleifion yn Lloegr; hon yw’r blaid sydd bob amser wedi credu yn y sector preifat ac sydd heb unrhyw gyfranddaliad yn y gwasanaeth iechyd gwladol; a hon yw’r blaid sy’n cymryd ei chyfarwyddiadau o Lundain ac yn rhoi Cymru i lawr. [Torri ar draws.]

 

The Presiding Officer: Order. Leaders’ questions involves three questions each. I call the leader of the Welsh Liberal Democrats, Kirsty Williams.

 

Y Llywydd: Trefn. Mae cwestiynau arweinwyr yn cynnwys tri chwestiwn yr un. Galwaf ar arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams.

 

The Leader of the Welsh Liberal Democrats (Kirsty Williams): First Minister, as you know, the Welsh Liberal Democrats have pushed for many months for the Welsh Government to routinely publish all expenditure over £25,000, and I am pleased that the first set of figures has been published this week. An analysis of those figures shows that some companies in Wales are still receiving non-repayable grants several months after a new economic strategy proposed to scrap them. Could you explain why?

 

Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (Kirsty Williams): Brif Weinidog, fel y gwyddoch, mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi gwthio ers misoedd lawer i Lywodraeth Cymru gyhoeddi, fel mater o drefn, pob gwariant dros £25,000, ac yr wyf yn falch bod y set gyntaf o ffigurau wedi’i gyhoeddi’r wythnos hon. Mae dadansoddiad o’r ffigurau hynny yn dangos bod rhai cwmnïau yng Nghymru yn derbyn grantiau nad ydynt yn rhai ad-daladwy sawl mis ar ôl i strategaeth economaidd newydd awgrymu cael gwared arnynt. A allech esbonio pam?

 

The First Minister: There will be some commitments that are continued from the previous grant regime.

 

Y Prif Weinidog: Bydd rhai ymrwymiadau sy’n parhau o’r gyfundrefn grant blaenorol.

 

Kirsty Williams: So much for the fleetness of foot and the speed of response that Welsh businesses need. Nine months after the single investment fund was closed down, are you seriously suggesting that you have ongoing commitments, and it takes nine months for this Government to get a grant out to business? Let me quote from your own economic renewal strategy:

 

Kirsty Williams: Dyna wfft i fod yn chwim eich troed ac i gyflymder yr ymateb y mae ar fusnesau Cymru ei angen. Naw mis ar ôl cau lawr y gronfa fuddsoddi sengl, a ydych yn awgrymu o ddifrif bod gennych ymrwymiadau parhaus, a’i fod yn cymryd naw mis i’r Llywodraeth hon i gael grant i fusnes? Gadewch imi ddyfynnu o’ch strategaeth adnewyddu economaidd eich hunain:

 

‘Offering grants is perceived by many to distort competition, create dependency and consume resources that could be deployed elsewhere to greater economic impact…Therefore all finance that DE & T provides directly will be repayable’.

 

Ystyrir gan lawer bod cynnig grantiau yn camliwio cystadleuaeth, yn creu dibyniaeth ac yn defnyddio adnoddau y gellid eu defnyddio mewn mannau eraill i fwy o effaith economaidd...Felly, bydd yr holl gyllid a ddarperir gan Adran yr Economi a Thrafnidiaeth yn uniongyrchol yn ad-daladwy.

 

Is that still the Government’s stated policy? When will it be implemented? Can you guarantee that no more direct grants will be used in this way?

 

A ydyw hynny’n dal i fod yn bolisi’r Llywodraeth? Pryd y caiff ei weithredu? A allwch warantu na fydd mwy o grantiau uniongyrchol yn cael eu defnyddio yn y ffordd hon?

 

The First Minister: That is our current policy, but bear in mind that commitments will have been made some months ago to companies about giving them grants. Are you saying that we should renege on those commitments? Clearly, that does not make sense.

 

Y Prif Weinidog: Dyna yw ein polisi presennol, ond cofiwch y bydd ymrwymiadau wedi’u gwneud rai misoedd yn ôl i gwmnïau ynglŷn â rhoi grantiau iddynt. A ydych yn dweud y dylem gamu’n ôl o’r ymrwymiadau hynny? Wrth gwrs, nid yw hynny’n gwneud synnwyr.

 

Kirsty Williams: I am just surprised that some nine months after a scheme was closed down, the Government and its departments are so slow in dealing with companies, and there is such a great time lag. At a time when Welsh business needs clarity from this Government about its economic strategy and the help that is available, there is now confusion as a result of the publication of these figures. I quote the director of the Centre for Research in Futures and Innovation at the University of Glamorgan:

 

Kirsty Williams: Yr wyf yn synnu, ryw naw mis ar ôl cau cynllun, bod y Llywodraeth a’i hadrannau mor araf wrth ymdrin â chwmnïau, a bod cymaint o fwlch amser. Ar adeg pan fo angen eglurder ar fusnesau Cymru o’r Llywodraeth hon am ei strategaeth economaidd a’r help sydd ar gael, ceir dryswch, bellach, o ganlyniad i gyhoeddi’r ffigurau hyn. Dyfynnaf gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil y Dyfodol ac Arloesi ym Mhrifysgol Morgannwg:

 

‘It’s that type of clarity we need, and I think all companies would appreciate it in terms of what the playing field is, and whether the rules of the game are the same for everyone’.

 

Dyna’r math o eglurder y mae arnom ei angen, a chredaf y byddai pob cwmni yn ei werthfawrogi o ran beth yw’r maes chwarae, ac a yw rheolau’r gêm yr un fath i bawb.

 

Can you give business that clarity this afternoon and state clearly that this position of paying non-repayable grants is now finished?

A allwch roi’r eglurder hwnnw i fusnesau y prynhawn yma a datgan yn glir bod y sefyllfa hon o dalu grantiau nad ydynt yn rhai ad-daladwy bellach wedi gorffen?

 

1.45 p.m.

 

The First Minister: Yes, and there is a meeting of the council for economic renewal tomorrow, at which that further clarity will be provided if needed. The reality is that Governments make commitments that can be realised some months in the future. Commitments are not always realised in the next month or two, and if commitments have been made to businesses that they will receive grants in the future, then surely it cannot be right to remove those commitments because the policy has changed. There will still be some commitments that will need to be taken through, even as the policy changes.

 

Y Prif Weinidog: Gallwn, a chynhelir cyfarfod o gyngor adnewyddu’r economi yfory, lle y ceir yr eglurder pellach hwnnw os bydd angen. Y realiti yw bod Llywodraethau yn gwneud ymrwymiadau y gellir eu gwireddu rai misoedd yn y dyfodol. Nid yw ymrwymiadau bob amser yn cael eu gwireddu yn ystod y mis neu ddau nesaf, ac os gwnaed ymrwymiadau i fusnesau y byddant yn derbyn grantiau yn y dyfodol, yna mae’n siŵr na all fod yn iawn i gael gwared ar yr ymrwymiadau hynny am fod y polisi wedi newid. Bydd yna rai ymrwymiadau yn dal i fod angen eu cymryd trwyddo, hyd yn oed wrth i’r polisi newid.

 

The Presiding Officer: On grounds of equality, do you want to come back for a fourth question? It is a special offer today. [Laughter.] I see that you do not.

 

Y Llywydd: Ar sail cydraddoldeb, a ydych eisiau dod yn ôl am bedwerydd cwestiwn? Mae’n gynnig arbennig heddiw. [Chwerthin.] Gwelaf nad ydych eisiau.

 

The Leader of Plaid Cymru (Ieuan Wyn Jones): Last week, First Minister, you failed to name a single capital scheme that had been started since the election, but, yesterday, you gave the press a list of your capital projects, which I have in front of me, and I thought, ‘My goodness, some progress at last’. However, this is the list that you and I and the Minister for finance announced in March of this year. This, First Minister, is a One Wales list. In fact, you failed to mention that some of the schemes listed here have been completed. The Porthmadog bypass and the Four Crosses relief road have been finished. Therefore, how can that help the Welsh economy? Yesterday’s announcement was all about spin, was it not? Where is the substance?

 

Arweinydd Plaid Cymru (Ieuan Wyn Jones): Yr wythnos diwethaf, Brif Weinidog, fe fethoch chi enwi un cynllun cyfalaf a oedd wedi ei gychwyn ers yr etholiad, ond, ddoe, rhoesoch i’r wasg restr o’ch prosiectau cyfalaf, sydd gennyf o’m blaen ar hyn o bryd, a meddyliais, ‘Mawredd mawr, rhywfaint o gynnydd o’r diwedd’. Fodd bynnag, dyma’r rhestr a gyhoeddwyd gennych chi, minnau a’r Gweinidog cyllid ym mis Mawrth eleni. Brif Weinidog, rhestr Cymru’n Un yw hwn. Yn wir, yr ydych wedi methu â sôn bod rhai o’r cynlluniau a restrir yma wedi eu cwblhau. Mae ffordd osgoi Porthmadog a ffordd liniaru Llandysilio wedi eu cwblhau. Felly, sut y gall hynny helpu economi Cymru? Sbin oedd cyhoeddiad ddoe, onid e? Ble mae’r sylwedd?

 

The First Minister: That was the first time that I have heard Government criticised for carrying out its commitments and the first time that I have heard it criticised for delivering on its promises, which is what the leader of Plaid Cymru is suggesting. The reality is that a substantial amount of money has been committed—£1.3 billion in capital infrastructure projects this financial year. There will be a further announcement at the end of this month with regard to more projects that will be financed in the coming financial year. However, given the scale of the cuts that we face, it is an achievement in itself to have delivered on a capital programme that, yes, was agreed before the election.

 

Y Prif Weinidog: Dyna’r tro cyntaf imi glywed beirniadaeth o Lywodraeth am gyflawni ei hymrwymiadau, a’r tro cyntaf imi glywed beirniadaeth o Lywodraeth am gyflawni ei haddewidion, sef yr hyn y mae arweinydd Plaid Cymru yn ei awgrymu. Y realiti yw bod swm sylweddol o arian wedi cael ei gyflawni—£1.3 biliwn mewn prosiectau seilwaith cyfalaf y flwyddyn ariannol hon. Ceir cyhoeddiad pellach ar ddiwedd y mis hwn mewn perthynas â rhagor o brosiectau a fydd yn cael eu hariannu yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Fodd bynnag, o ystyried maint y toriadau a wynebwn, mae’n gyflawniad ynddo’i hun i gyflawni ar raglen gyfalaf a gytunwyd, yn wir, cyn yr etholiad.

 

Ieuan Wyn Jones: I repeat, First Minister, that you have failed to announce a single capital scheme since May. Let me remind you, because perhaps you have forgotten, that on 15 March we also announced 18 centrally retained capital projects with a value of £105 million. That list has been repeated in this year’s draft budget. I have been unable to find a starting date for any of those projects, which means that you are not helping the construction sector to create and retain jobs. Why all of this inactivity, First Minister?

 

Ieuan Wyn Jones: Fe ddywedaf eto, Brif Weinidog: rydych wedi methu â chyhoeddi un cynllun cyfalaf ers mis Mai. Gadewch imi eich atgoffa, oherwydd efallai eich bod wedi anghofio; ar 15 Mawrth cyhoeddasom hefyd 18 o brosiectau cyfalaf a gedwir yn ganolog gyda gwerth o £105 miliwn. Mae’r rhestr honno wedi cael ei hailadrodd yn y gyllideb ddrafft eleni. Nid wyf wedi gallu dod o hyd i ddyddiad cychwyn ar gyfer unrhyw un o’r prosiectau hynny, sy’n golygu nad ydych yn helpu’r sector adeiladu i greu a chadw swyddi. Pam fod cymaint o anweithgarwch, Brif Weinidog?

 

The First Minister: The money has been committed and we are now waiting for those projects to begin. Since May, we have allocated a substantial amount of money to health, for example, £2.8 million for engineering infrastructure at Hywel Dda Local Health Board and £8.2 million for asbestos management at the theatres at Ysbyty Glan Clwyd. The Minister for Health and Social Services has also announced investments of £77 million at Ysbyty Glan Clwyd and £8.5 million at Ysbyty Gwynedd. In addition, on 23 May, more money was awarded to the Dinefwr modernising education programme; on 13 July, £34.5 million was announced for the Penarth learning community award; and there have been various announcements on transport grants. Therefore, a substantial number of announcements have been made.

 

Y Prif Weinidog: Mae’r arian wedi cael ei addo ac yr ydym yn awr yn aros i’r prosiectau hynny ddechrau. Ers mis Mai, rydym wedi dyrannu swm sylweddol o arian i iechyd, er enghraifft, £2.8 miliwn ar gyfer seilwaith peirianneg ym Mwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda ac £8.2 miliwn ar gyfer rheoli asbestos yn y theatrau yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd wedi datgan buddsoddiadau o £77 miliwn yn Ysbyty Glan Clwyd ac £8.5 miliwn yn Ysbyty Gwynedd. Yn ogystal, ar 23 Mai, dyfarnwyd mwy o arian i raglen moderneiddio addysg Dinefwr; ar 13 Gorffennaf, datganwyd £34.5 ar gyfer gwobr cymuned dysgu Penarth; a bu amryw o ddatganiadau ar grantiau trafnidiaeth. Felly, mae nifer sylweddol o ddatganiadau wedi’u gwneud.

 

Ieuan Wyn Jones: Let me tell you, First Minister, that not a single scheme has started. The economy is now waiting for you to make a single announcement on a capital project that has started. I remember you telling us that there is a £77 million project for Ysbyty Glan Clwyd. However, the business case for that has not yet been agreed. The announcement was made in May, when there was an outline business case, but you still have not had the full business case. Therefore, you are actually announcing schemes before they have started. We want to know when these projects will start.

 

Ieuan Wyn Jones: Gadewch imi ddweud wrthych, Brif Weinidog, nad oes un cynllun wedi ei gychwyn. Mae’r economi yn awr yn disgwyl ichi wneud un datganiad ar brosiect cyfalaf sydd wedi cychwyn. Rwy’n eich cofio yn dweud wrthym fod yna brosiect £77 miliwn ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd. Fodd bynnag, nid yw’r achos busnes amdano wedi ei gytuno eto. Gwnaed y datganiad ym mis Mai, pan oedd achos busnes amlinellol, ond rydych yn dal heb gael yr achos busnes llawn. Felly, yr ydych mewn gwirionedd yn cyhoeddi cynlluniau cyn iddynt gychwyn. Rydym eisiau gwybod pryd y bydd y prosiectau hyn yn cychwyn.

 

Since May, we have not had a single piece of legislation to deal with in this Chamber, we have had a programme for government that contains no targets and we have had no action on the economy. The only conclusion that I can now draw from your failure to act is that you have decided to sit back, let the economic crisis do its worst and blame the Tories for everything. First Minister, do you not think that our young people deserve better than that?

 

Ers mis Mai, nid ydym wedi cael un darn o ddeddfwriaeth i ymdrin â hi yn y Siambr hon, cawsom raglen lywodraethu nad yw’n cynnwys unrhyw dargedau ac nid ydym wedi cael unrhyw weithredu o ran yr economi. Yr unig gasgliad y gallaf ei gyrraedd yn awr o ran eich methiant i weithredu yw eich bod wedi penderfynu eistedd yn ôl, gadael i’r argyfwng economaidd wneud ei waethaf a beio’r Torïaid am bopeth. Brif Weinidog, oni chredwch fod ein pobl ifanc yn haeddu gwell na hynny?

 

The First Minister: The ground has now changed. You originally suggested that we had not announced any capital projects, but now you are suggesting that they have not started. Therefore, it has now been accepted that the projects have been announced. Through our budget process, we have done as much as we can to protect the people of Wales from the cuts being imposed on them. However, I will take no lessons from the party opposite. If it had a wealth of ideas, then I would be happy to look at them, but it did not have them in its manifesto. In 1983, the Labour Party was accused of producing the longest suicide note in history for that election, but Plaid Cymru, at our last elections, produced the shortest.

 

Y Prif Weinidog: Mae’r tir wedi newid erbyn hyn. Awgrymasoch yn wreiddiol nad oeddem wedi cyhoeddi unrhyw brosiectau cyfalaf, ond yn awr yr ydych yn awgrymu nad ydynt wedi eu cychwyn. Felly, mae bellach wedi’i dderbyn bod y prosiectau wedi cael eu cyhoeddi. Drwy ein proses gyllideb, rydym wedi gwneud cymaint ag y gallwn i ddiogelu pobl Cymru rhag y toriadau sy’n cael eu gosod arnynt. Fodd bynnag, ni chymeraf unrhyw wersi gan y blaid gyferbyn. Petai ganddi gyfoeth o syniadau byddwn yn barod i edrych arnynt, ond nid oeddent yn ei maniffesto. Ym 1983, cyhuddwyd y Blaid Lafur o gynhyrchu’r nodyn hunanladdiad hiraf mewn hanes ar gyfer yr etholiad hwnnw, ond Plaid Cymru, yn ein hetholiadau diwethaf, a gynhyrchodd y byrraf.

 

Economi Gogledd Cymru

 

The Economy of North Wales

3. Antoinette Sandbach: Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer economi Gogledd Cymru. OAQ(4)0216(FM)

 

3. Antoinette Sandbach: What are the Welsh Government’s priorities for the economy of North Wales. OAQ(4)0216(FM)

 

The First Minister: Our priorities for the economy across all parts of Wales are set out in the programme for government.

 

Y Prif Weinidog: Mae ein blaenoriaethau ar gyfer yr economi ar draws pob rhan o Gymru yn cael eu nodi yn y rhaglen lywodraethu.

 

Antoinette Sandbach: How the two enterprise zones in north Wales will operate is a matter of great interest to the private sector, yet businesses are still lacking any real detail on how they will work in practice. Your Minister has refused a freedom of information request to disclose her discussions relating to capital allowances. First Minister, do you agree that it is reasonable for businesses to expect your Government to respond with a sense of urgency and in an open and collaborative way to the challenges that the north Wales economy faces? Can you confirm when the practical working details for enterprise zones will be published?

 

Antoinette Sandbach: Mae’r modd y mae’r ddau barth menter yng ngogledd Cymru yn gweithredu yn fater o ddiddordeb mawr i’r sector preifat, ac eto mae busnesau yn dal yn aros am fanylion go iawn ar sut y byddant yn gweithredu yn ymarferol. Mae’ch Gweinidog wedi gwrthod cais rhyddid gwybodaeth i ddatgelu ei thrafodaethau yn ymwneud â lwfansau cyfalaf. Brif Weinidog, a ydych yn cytuno ei bod yn rhesymol i fusnesau ddisgwyl i’ch Llywodraeth ymateb gydag ymdeimlad o frys ac mewn ffordd agored a chydweithredol i’r heriau y mae economi gogledd Cymru yn eu hwynebu? A allwch gadarnhau pryd y bydd y manylion o ran gwaith ymarferol ar gyfer ardaloedd menter yn cael eu cyhoeddi?

 

The First Minister: First, Ministers do not refuse FOI requests. That is not done through Ministers; they do not have the final say on them. Officials have met Treasury officials to discuss options for the effective deployment of certain incentives, such as enhanced capital allowances, business rate relief and other issues within enterprise zones across Wales. Those discussions are ongoing, but they have not yet concluded.

 

Y Prif Weinidog: Yn gyntaf, nid yw Gweinidogion yn gwrthod ceisiadau rhyddid gwybodaeth. Nid yw hynny’n cael ei wneud drwy Weinidogion; nid y nhw sydd â’r gair olaf arnynt. Mae swyddogion wedi cyfarfod â swyddogion y Trysorlys i drafod opsiynau ar gyfer defnydd effeithiol o rai cymelliadau, megis lwfansau cyfalaf uwch, rhyddhad ardrethi busnes a materion eraill yn y parthau menter ar draws Cymru. Mae’r trafodaethau hynny’n parhau, ond nid ydynt wedi dod i ben eto.

 

Ann Jones: Last week, the Member who has just asked that question lamented the regeneration money that had been invested by the Welsh Government and the EU along the north Wales coast. It seems that the new Tories, or the class of 2011, have one foot in the past as they echo the words of John Redwood. We all remember John Redwood, the man who sent money back from Wales to the EU. Can you pledge that your Government would never consider such foolish and reckless actions?

 

Ann Jones: Yr wythnos diwethaf, bu’r Aelod sydd newydd ofyn y cwestiwn hwnnw yn galarnadu am yr arian adfywio a fuddsoddwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd ar hyd arfordir gogledd Cymru. Mae’n ymddangos bod gan y Torïaid newydd, neu ddosbarth 2011, un troed yn y gorffennol wrth iddynt adleisio geiriau John Redwood. Yr ydym i gyd yn cofio John Redwood, y dyn a anfonodd arian yn ôl o Gymru i’r Undeb Ewropeaidd. A allwch chi addo na fyddai eich Llywodraeth byth yn ystyried camau gweithredu mor ffôl a di-hid?

 

The First Minister: Absolutely. We want to ensure that money is invested—[Inaudible.]and I particularly note the excellent work that is being done in Rhyl as a result of the investment that has been put in over the years by the Welsh Government.

 

Y Prif Weinidog: Yn hollol. Yr ydym am sicrhau bod arian yn cael ei fuddsoddi [Anghlywadwy.]—a nodaf yn arbennig y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud yn y Rhyl o ganlyniad i’r buddsoddiad sydd wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd gan Lywodraeth Cymru.

 

Llyr Huws Gruffydd: Mae penderfyniad byrbwyll Adran Ynni a Newid Hinsawdd Llywodraeth Llundain i haneru’r tariffau cyflenwi trydan wedi syfrdanu’r diwydiant paneli solar yng ngogledd Cymru. Mae’n peryglu swyddi yn ffatri Sharp ger Wrecsam yn ogystal â buddiannau contractwyr bychain a oedd am weithio ar rai o gynlluniau uchelgeisiol y gogledd, megis cynllun Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i godi paneli ffotofoltäig ar 3,000 o dai cyngor. A wnaiff y Prif Weinidog gysylltu ar fyrder â Gweinidogion Llundain i fynegi’i anfodlonrwydd â’r penderfyniad hwnnw?

 

Llyr Huws Gruffydd: The rash decision by the Department of Energy and Climate Change of the Government in London to halve the feed-in tariffs has shocked the solar panel industry in north Wales. It is endangering jobs in the Sharp factory near Wrexham as well as the interests of small contractors who were hoping to work on some of north Wales’s ambitious schemes, such as Wrexham County Borough Council’s scheme to erect photovoltaic panels on 3,000 council homes. Will the First Minister contact Ministers in London urgently to express his dissatisfaction with that decision?

 

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn cytuno’n llwyr â’r hyn a ddywedodd yr Aelod. Yr wyf yn gwybod y bydd llawer o unigolion a chyrff ar eu colled oherwydd y newidiadau. Mae llythyr ar y ffordd i Lundain er mwyn egluro fy marn ar bolisi ynni’r Llywodraeth.

 

The First Minister: I agree totally with what the Member said. I know that many individuals and organisations will lose out because of the changes. A letter is on its way to London to explain my opinion on the Government’s energy policy.

 

Kenneth Skates: An economic priority for north Wales is the creation of a new internet domain for Wales. I understand that the Welsh Government will be asked, shortly, to endorse possible bids to run that domain, prior to the formal application going to the Internet Corporation for Assigned Names and Numbers. I believe a top-level domain would offer real potential for us to market Wales internationally. It is hugely exiting. Could the First Minister assure me that it is the economic potential for Wales that will be at the top of the list of criteria that the Welsh Government develops to assess which bid to back?

 

Kenneth Skates: Un o’r prif flaenoriaethau economaidd ar gyfer gogledd Cymru yw creu parth rhyngrwyd newydd i Gymru. Rwy’n deall y bydd gofyn i Lywodraeth Cymru, cyn hir, i gymeradwyo ceisiadau posibl cynnal y parth, cyn i’r cais ffurfiol fynd i Gorfforaeth y Rhyngrwyd ar gyfer Enwau a Rhifau a Neilltuir. Credaf y byddai parth lefel uchaf yn cynnig potensial gwirioneddol inni farchnata Cymru yn rhyngwladol. Mae’n gyffrous iawn. A allai’r Prif Weinidog fy sicrhau mai’r potensial economaidd i Gymru a fydd ar frig y rhestr o feini prawf y mae Llywodraeth Cymru yn ei datblygu i asesu pa gais i’w gefnogi?

 

The First Minister: No applications have been made to the Welsh Government for a letter of support. However, we know that two or more parties have expressed an interest in establishing a top-level domain for Wales. We will shortly invite interested parties to submit bids for evaluation to understand what the potential applicants are proposing.

 

Y Prif Weinidog: Nid oes unrhyw geisiadau wedi’u gwneud i Lywodraeth Cymru am lythyr o gefnogaeth. Fodd bynnag, gwyddom fod dau barti neu ragor wedi mynegi diddordeb mewn sefydlu parth lefel uchaf i Gymru. Maes o law byddwn yn gwahodd partïon â diddordeb i gyflwyno ceisiadau ar gyfer eu gwerthuso er mwyn deall yr hyn y mae’r darpar ymgeiswyr yn eu cynnig.

 

Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

British-Irish Council

 

4. David Melding: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am aelodaeth Llywodraeth Cymru o’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. OAQ(4)0201(FM)

 

4. David Melding: Will the First Minister make a statement on the Welsh Government’s membership of the British Irish Council. OAQ(4)0201(FM)

 

The First Minister: The British-Irish Council plays an important role in furthering, promoting and developing links between the different administrations in the UK and the Republic of Ireland—[Inaudible.]—I have attended a number of meetings in the past.

 

Y Prif Weinidog: Mae’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn chwarae rhan bwysig wrth hyrwyddo a datblygu cysylltiadau rhwng y gwahanol weinyddiaethau yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon—[Anghlywadwy.]—yr wyf wedi bod yn bresennol mewn nifer o gyfarfodydd yn y gorffennol.

 

David Melding: You may know that the British-Irish Parliamentary Assembly met recently in Brighton. Many delegates, including the Welsh delegates who attended, called for closer working between the assembly and the council, because it does much good work that is perhaps not very well known. Also, some form of scrutiny role for the parliamentary assembly would now seem appropriate as we see the co-operation between the various Governments and jurisdictions increase, especially as the peace process is so successful that we can move on to wider matters of policy. I wonder if you would take this issue up in the meetings of the council, and urge that a member of the council—one of the Ministers—comes and reports to the assembly. If the British-Irish Parliamentary Assembly were to meet in Wales, it could be a member of the Welsh Government or a member of the Irish Government when we are in the Republic and so on.

 

David Melding: Efallai y gwyddoch fod y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig wedi cyfarfod yn Brighton yn ddiweddar. Bu llawer o’r cynrychiolwyr, gan gynnwys y cynrychiolwyr o Gymru a oedd yn bresennol, yn galw am gydweithio agosach rhwng y cynulliad a’r cyngor, gan ei fod yn gwneud llawer o waith da nad yw, efallai, yn dra hysbys. Hefyd, byddai rhyw fath o rôl craffu ar gyfer y cynulliad seneddol yn awr yn ymddangos yn briodol wrth inni weld cynnydd yn y cydweithio rhwng y gwahanol Lywodraethau ac awdurdodaethau, yn enwedig gan fod y broses heddwch mor llwyddiannus ein bod yn gallu symud ymlaen i faterion polisi ehangach. Tybed a godech y mater hwn yng nghyfarfodydd y cyngor, ac annog bod aelod o’r cyngor—un o’r Gweinidogion—yn dod ac adrodd i’r cynulliad. Petai’r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig i gyfarfod yng Nghymru, gallai fod yn aelod o Lywodraeth Cymru neu aelod o Lywodraeth Iwerddon pan fyddwn yn y Weriniaeth, ac yn y blaen.

 

The First Minister: I do not know whether the membership of the British-Irish Parliamentary Assembly is coterminous with that of the British-Irish Council. I do not know whether the Isle of Man, Jersey or Guernsey are represented—

 

Y Prif Weinidog: Ni wn a ydyw aelodaeth y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig yn cyfateb i aelodaeth y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. Ni wn a ydyw Ynys Manaw, Jersey neu Guernsey yn cael eu cynrychioli—

 

David Melding: They are.

 

David Melding: Ydyn.

 

The First Minister: That was easily clarified. It is an issue that I will raise informally at the next BIC meeting, which will be held in Dublin at the end of this month.

 

Y Prif Weinidog: Roedd hynny yn hawdd i’w egluro. Mae’n fater y byddaf yn ei godi yn anffurfiol yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, a gynhelir yn Nulyn ddiwedd y mis hwn.

 

Bethan Jenkins: Like my colleague David Melding, I attended the meeting of the British-Irish Parliamentary Assembly in Brighton. We heard a presentation from Lord Shutt from the Northern Ireland Office. He talked about progress in devolving certain aspects of power, such as power over air passenger duty, to the Northern Ireland Assembly. It seems to be progressing far faster than we are in Wales. What discussions do you have with colleagues in the north of Ireland and Scotland to ensure a cohesive approach when you go to meetings of the council, so that we can perhaps argue for more devolution across the countries, as opposed to doing it alone?

 

Bethan Jenkins: Fel fy nghyd-Aelod David Melding, yr oeddwn yn bresennol yng nghyfarfod y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig yn Brighton. Clywsom gyflwyniad gan yr Arglwydd Shutt o Swyddfa Gogledd Iwerddon. Soniodd am gynnydd o ran datganoli rhai agweddau o rym, megis pŵer dros dollau teithwyr awyr, i Gynulliad Gogledd Iwerddon. Mae’n ymddangos ei fod yn symud ymlaen yn dipyn cyflymach nag yr ydym ni yng Nghymru. Pa drafodaethau ydych chi’n eu cael gyda chydweithwyr yng ngogledd Iwerddon a’r Alban i sicrhau dull cydlynol pan fyddwch yn mynd i gyfarfodydd y cyngor, fel y gallwn o bosibl ddadlau am fwy o ddatganoli ar draws y gwledydd, yn hytrach na gwneud hynny ar ein pennau ein hunain?

 

The First Minister: The view of the Welsh Government, the Scottish Government and the Northern Ireland Executive is that air passenger duty should be devolved; that is my understanding and it is certainly our position.

 

Y Prif Weinidog: Barn Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yw y dylai tollau teithwyr awyr gael eu datganoli; dyna fy nealltwriaeth i, a dyna, yn sicr, ein safbwynt ni.

 

Gofal Plant

Childcare

 

5. Julie Morgan: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu faint o ofal plant fforddiadwy sydd ar gael yng Nghymru. OAQ(4)0205(FM)

 

5. Julie Morgan: What action is the Welsh Government taking to increase the availability of affordable childcare in Wales. OAQ(4)0205(FM)

 

The First Minister: We will be doubling the provision of Flying Start, which includes free childcare for two to three-year-olds, and targeting our most disadvantaged communities in doing so. We are also investing in childcare through a combination of a range of family support programmes that will enable parents to participate in work, education or training.

 

Y Prif Weinidog: Byddwn yn dyblu darpariaeth Dechrau’n Deg, sy’n cynnwys gofal plant am ddim i blant dwy i dair oed, a byddwn yn targedu ein cymunedau mwyaf difreintiedig wrth wneud hynny. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn gofal plant drwy gyfuniad o amrywiaeth o raglenni cymorth i deuluoedd a fydd yn galluogi rhieni i gymryd rhan mewn gwaith, addysg neu hyfforddiant.

 

Julie Morgan: I thank the First Minister for that response. ‘Making Work Pay—The Childcare Trap’, published by Save the Children, calls for more affordable childcare, particularly for low-income families. Would it be possible to review the existing pre-school provision to see whether any more Government help could be given to drive forward a strategy, particularly to reach low-income families?

 

Julie Morgan: Diolch i’r Prif Weinidog am yr ymateb hwnnw. Mae ‘Making Work Pay—The Childcare Trap’, a gyhoeddwyd gan Achub y Plant, yn galw am ofal plant mwy fforddiadwy, yn enwedig i deuluoedd ar incwm isel. A fyddai modd adolygu’r ddarpariaeth cyn-ysgol sydd eisoes yn bodoli i weld a allai mwy o gymorth gael ei roi gan y Llywodraeth i yrru’r strategaeth, yn enwedig i gyrraedd teuluoedd incwm isel?

 

The First Minister: Our childcare policy statement, ‘Nurturing Children, Supporting Families’, makes clear our commitment to affordable, accessible and quality childcare being made available to parents. Through Flying Start, we know that more childcare will be made available to the age group that you mentioned. Beyond that, as funds allow, we will see what can be done to help those who are outside the scope of Flying Start.

 

Y Prif Weinidog: Mae ein datganiad polisi gofal plant, ‘Magu Plant, Cefnogi Teuluoedd’, yn gwneud yn glir ein hymrwymiad i ddarparu bod gofal plant fforddiadwy, cyraeddadwy ac o safon ar gael i rieni. Drwy Dechrau’n Deg, gwyddom y bydd mwy o ofal plant ar gael i’r grŵp oedran a grybwyllwyd gennych. Tu hwnt i hynny, fel y mae cyllid yn caniatáu, fe welwn beth y gellir ei wneud i helpu’r rhai sydd y tu allan i sgôp Dechrau’n Deg.

 

Mark Isherwood: Updated national minimum standards, which all child minders and day-care settings are inspected against, came into effect on 1 April this year. However, the lack of formal consultation with childcare providers resulted in child minders, including many in north Wales, feeling uncertain and worried about exactly what is being asked of them, and even about the viability of their businesses for the future. I am told that the situation is exacerbated by a postcode lottery that appears to be in operation as a result of widely differing feedback given by Care and Social Services Inspectorate Wales inspectors. Child minders are being given conflicting advice about ratios and the ages of children that they can care for depending on where they are living. What action will your Government take to ensure that registered child minders in Wales are receiving consistent guidance on the minimum standards? Will you ensure that officials continue to work with national umbrella bodies to ensure that child minders are receiving clear and consistent information?

 

Mark Isherwood: Daeth y safonau gofynnol cenedlaethol mwyaf diweddar, yr arolygir pob gwarchodwr plant a’u lleoliadau yn eu herbyn, i rym ar 1 Ebrill eleni. Fodd bynnag, mae’r diffyg ymgynghori ffurfiol â darparwyr gofal plant wedi arwain at warchodwyr plant, gan gynnwys llawer yng ngogledd Cymru, yn teimlo’n ansicr ac yn bryderus ynghylch beth yn union sy’n ofynnol ohonynt, a hyd yn oed am hyfywedd eu busnesau yn y dyfodol. Dywedir wrthyf y gwaethygir y sefyllfa gan loteri cod post sy’n ymddangos i fod yn weithredol o ganlyniad i adborth gwahanol iawn gan arolygwyr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Mae gwarchodwyr plant yn cael cyngor anghyson ynghylch cymarebau ac oedrannau’r plant y gallant ofalu amdanynt, yn dibynnu ar ble y maent yn byw. Pa gamau y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod gwarchodwyr plant cofrestredig yng Nghymru yn derbyn cyfarwyddyd cyson ar y safonau gofynnol? A wnewch chi sicrhau bod swyddogion yn parhau i weithio gyda chyrff ambarél cenedlaethol i sicrhau bod gwarchodwyr plant yn cael gwybodaeth glir a chyson?

 

The First Minister: Beyond what the Member has said, I am not aware of any inconsistency in the advice given. However, if there is evidence of that, I am willing to consider ensuring greater consistency if the Member were to write to me detailing that.

 

Y Prif Weinidog: Y tu hwnt i hyn y mae’r Aelod wedi’i ddweud, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw anghysondeb yn y cyngor a roddwyd. Fodd bynnag, os oes tystiolaeth o hynny, yr wyf yn barod i ystyried sicrhau mwy o gysondeb petai’r Aelod yn ysgrifennu ataf yn manylu ar hynny.

 

Jocelyn Davies: First Minister, 65,000 people across Wales will soon be losing their incapacity benefit, with 20,000 of those being switched over to jobseeker’s allowance and all of those people will have to look for work. How does this impact on your efforts to improve the availability of affordable childcare? Will UK Government decisions wipe out any advances that you have been able to make in this area?

 

Jocelyn Davies: Brif Weinidog, bydd 65,000 o bobl ar draws Cymru cyn bo hir yn colli eu budd-dal analluogrwydd, gydag 20,000 o’r rheiny yn newid i lwfans ceisio gwaith, a bydd yn rhaid i’r holl bobl hynny chwilio am waith. Sut y mae hyn yn effeithio ar eich ymdrechion i wella argaeledd gofal plant fforddiadwy? A fydd penderfyniadau Llywodraeth y DU yn dileu unrhyw ddatblygiadau yr ydych wedi gallu eu gwneud yn y maes hwn?

 

The First Minister: A study carried out by Sheffield Hallam University—which is ironic given the constituency of the Deputy Prime Minister—suggests that up to 75,000 people in Wales, out of the 180,000 who are on incapacity benefit, will not be eligible for the new form of benefit. We also know that it has historically been difficult for many people who have health problems to gain employment. There is a significant element of employer resistance to employing people who have difficult health records. We know that Flying Start is successful in targeting help at those people who need it most. Through the ministerial steering group, we will see whether there is a need to look at Flying Start and other schemes, to see whether they need to be extended in light of the suggested 75,000 people who are no longer eligible for benefit.

 

Y Prif Weinidog: Mae astudiaeth a gynhaliwyd gan Brifysgol Sheffield Hallam—sydd yn eironig o ystyried etholaeth y Dirprwy Brif Weinidog—yn awgrymu na fydd hyd at 75,000 o bobl yng Nghymru, allan o’r 180,000 sydd ar fudd-dal analluogrwydd, yn gymwys ar gyfer y ffurf newydd o fudd-dal. Gwyddom hefyd ei fod, yn hanesyddol, wedi bod yn anodd i lawer o bobl sydd â phroblemau iechyd gael gwaith. Mae yna elfen arwyddocaol o ymwrthedd gan gyflogwyr i gyflogi pobl sydd â hanes iechyd anodd. Gwyddom fod Dechrau’n Deg yn llwyddiannus wrth dargedu cymorth at y bobl hynny sydd fwyaf ei angen. Drwy’r grŵp llywio gweinidogol, fe welwn a oes angen edrych ar Dechrau’n Deg a chynlluniau eraill i weld a oes angen eu hymestyn oherwydd y 75,000 o bobl nad ydynt bellach yn gymwys i gael budd-dal.

 

2.00 p.m.

 

Jenny Rathbone: I want to ask about childcare not only being affordable, but also flexible, especially for families who are not currently in work. For families where no-one is working, we know that getting a job is the most sure-fire way of getting them out of poverty. Particularly with regard to Flying Start, how is childcare flexible enough to enable parents to make the transition from being unemployed and caring for a child to getting paid employment?

 

Jenny Rathbone: Yr wyf am ofyn am ofal plant, nid yn unig ei fod yn fforddiadwy ond hefyd yn hyblyg, yn enwedig i deuluoedd nad ydynt ar hyn o bryd mewn gwaith. I deuluoedd lle nad oes unrhyw un yn gweithio, gwyddom mai cael swydd yw’r ffordd fwyaf sicr o’u cael allan o dlodi. Yn enwedig o ran Dechrau’n Deg, sut mae gofal plant yn ddigon hyblyg i alluogi rhieni i symud o fod yn ddi-waith a gofalu am blentyn i gael cyflogaeth â thâl?

 

The First Minister: Local authorities have a duty under the Childcare Act 2006 to support and develop local childcare provision. We transferred just under £6 million to the revenue support grant in 2008 to provide local authorities with the resources to undertake this duty. That has now increased in the last financial year to £7 million. We will work with local authorities to ensure that the childcare provided is flexible. It is important that it must be accessible as well as available.

 

Y Prif Weinidog: Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd dan Ddeddf Gofal Plant 2006 i gefnogi a datblygu darpariaeth gofal plant lleol. Bu inni drosglwyddo ychydig o dan £6 miliwn i’r grant cynnal refeniw yn 2008 i ddarparu’r adnoddau i’r awdurdodau lleol i ymgymryd â’r ddyletswydd hon. Mae hynny bellach wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf i £7 miliwn. Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y gofal plant a ddarperir yn hyblyg. Mae’n bwysig bod pobl yn gallu cael mynediad ato yn ogystal â bod y ddarpariaeth ar gael.

 

Comisiwn Ewropeaidd

European Commission

 

6. Nick Ramsay: A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaethau gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch a fydd Cymru yn gymwys i gael Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn y dyfodol. OAQ(4)0210(FM)

 

6. Nick Ramsay: Will the First Minister provide an update on any discussions with the European Commission regarding Wales’ qualification for future European Structural Funds. OAQ(4)0210(FM)

 

The First Minister: Discussions are ongoing with the UK Government and the European Commission on the future of cohesion policy. We are campaigning for the continuation of adequately resourced European structural funds programmes in Wales beyond 2013.

 

Y Prif Weinidog: Mae trafodaethau ar y gweill gyda Llywodraeth y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd ar ddyfodol y polisi cydlyniant. Rydym yn ymgyrchu dros barhad rhaglenni cronfeydd strwythurol Ewrop gydag adnoddau digonol yng Nghymru y tu hwnt i 2013.

 

Nick Ramsay: I am pleased to hear that, First Minister. Although I appreciate that European structural funds, and funding in general, is not always the most digestible subject at dinner tables in Wales, there is an important issue here regarding our future qualification. In relation to our qualification for the next round of European funding, for the third consecutive period, I am sure that you are aware that Labour MEP Derek Vaughan said:

 

Nick Ramsay: Yr wyf yn falch o glywed hynny, Brif Weinidog. Er fy mod yn sylweddoli nad cronfeydd strwythurol Ewropeaidd, a chyllid yn gyffredinol, yw’r pwnc mwyaf cyffredin wrth fyrddau cinio yng Nghymru, mae mater pwysig yma o ran a fyddwn yn gymwys yn y dyfodol. Mewn perthynas â’n cymhwyster ar gyfer y cylch nesaf o gyllid Ewropeaidd, am y trydydd cyfnod yn olynol, mae’n siŵr gennyf eich bod yn ymwybodol y dywedodd yr ASE Llafur, Derek Vaughan:

 

‘I think there’s a recognition that the first round of European funding we had perhaps wasn’t spent wisely’.

 

Rwy’n meddwl bod yna gydnabyddiaeth efallai na chafodd y rownd gyntaf o gyllid Ewropeaidd a gawsom ei wario’n ddoeth.

 

I am sure that you agree, First Minister, that we want to make the most of future European funding, especially in this difficult economic time. What discussions are you having with the UK Government and the European Commission to ensure that we maximise the funding that Wales might be able to access?

 

Mae’n siŵr gennyf y cytunwch, Brif Weinidog, ein bod am fanteisio i’r eithaf ar gyllid Ewropeaidd yn y dyfodol, yn enwedig yn y cyfnod economaidd anodd hwn. Pa drafodaethau yr ydych yn eu cael gyda Llywodraeth y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o’r cyllid y gallai Cymru ei gael?

 

The First Minister: The level of funding available will be subject to intense debate until the end of 2012-13 because of the pressure to reduce the proposed levels of funding in the draft multi-annual financial framework. We will be campaigning to ensure that structural funds are available in western Europe and that the amount of money in the funds is more than adequate for the purpose. We hope that the UK Government will be able to support us in our position.

 

Y Prif Weinidog: Bydd lefel y cyllid sydd ar gael yn destun trafodaeth ddwys tan ddiwedd 2012-13 oherwydd y pwysau i leihau lefelau ariannu arfaethedig yn y fframwaith ariannol amlflwydd drafft. Byddwn yn ymgyrchu i sicrhau bod cronfeydd strwythurol ar gael yng ngorllewin Ewrop a bod y swm o arian yn y cronfeydd yn fwy na digonol ar gyfer y diben. Rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gallu ein cefnogi yn ein safbwynt.

 

Alun Ffred Jones: Mae’n hollbwysig bod prosiectau Ewropeaidd yn creu economi fwy bywiog ac yn hybu entrepreneuriaeth. Un cynllun oedd â’r bwriad o wneud hynny oedd Ysgoloriaethau Arloesi Tywysog Cymru, sydd wedi’i ddirwyn i ben. Gwnaed addewid y bydd crynodeb o adroddiad yr archwilwyr, sy’n sail i’r diddymiad hwnnw, gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn cael ei wneud yn gyhoeddus, ond nid wyf wedi gweld y crynodeb hwnnw. Fel Llywodraeth sy’n pregethu’n aml eich bod yn Llywodraeth agored, pam na wnewch ryddhau’r adroddiad cyfan fel y gallwn weld beth oedd sail diddymu’r cynllun?

 

Alun Ffred Jones: It is vital that European projects lead to a more lively economy and promote entrepreneurship. One scheme that has the intention of doing that was the Prince of Wales Innovation Scholarships, which has been terminated. A pledge was made that a summary of the auditors’ report—the basis for that termination—to the Welsh European Funding Office would be made public, but I have not seen that summary. As a Government that often preaches openness, why do you not release the full report so that we can see on what basis the scheme was terminated?

 

Y Prif Weinidog: Nid yw adroddiadau archwilio mewnol yn cael eu gwneud yn gyhoeddus fel rheol. Dyna pam mai crynodeb fydd yn cael ei gyhoeddi, a bydd copi ar gael i Aelodau, fel yr addawyd yr wythnos diwethaf.

 

The First Minister: Internal audit reports are not usually made public. That is why a summary is to be made public, and a copy will be made available to Members, as was pledged last week.

 

Eluned Parrott: First Minister, will you confirm whether the Welsh Government has had discussions with European regions and nations that have previously received structural funds but have managed to lift themselves above the qualification threshold? If so, what lessons do you believe that we could learn from their success?

 

Eluned Parrott: Brif Weinidog, a wnewch chi gadarnhau a ydyw Llywodraeth Cymru wedi cael trafodaethau gyda rhanbarthau a chenhedloedd Ewrop sydd wedi derbyn arian strwythurol yn flaenorol ond wedi llwyddo i godi eu hunain yn uwch na’r trothwy cymhwyster? Os felly, pa wersi ydych chi’n credu y gallem eu dysgu o’u llwyddiant?

 

The First Minister: It goes both ways: there are also lessons for other regions that have had structural funds. We have regular discussions, as does our office in Brussels, with a number of European regions on a number of issues, and structural funds is one of them.

 

Y Prif Weinidog: Mae’n mynd y ddwy ffordd: mae yna hefyd wersi ar gyfer rhanbarthau eraill sydd wedi cael arian strwythurol. Rydym yn cael trafodaethau rheolaidd, fel y mae ein swyddfa ym Mrwsel, gyda nifer o ranbarthau Ewropeaidd ar nifer o faterion, ac mae cronfeydd strwythurol yn un ohonynt.

 

Polisi Dwyieithog

Bilingual Policy

 

7. Rhodri Glyn Thomas: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi dwyieithog Llywodraeth Cymru a’i weithrediad. OAQ(4)0213(FM)

 

7. Rhodri Glyn Thomas: Will the First Minister make a statement on the Welsh Government’s bilingual policy and its implementation. OAQ(4)0213(FM)

 

Y Prif Weinidog: Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun iaith Gymraeg diwygiedig, a gymeradwywyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, ym mis Mawrth eleni, ynghyd â chynllun gweithredu corfforaethol.

 

The First Minister: The Welsh Government published its revised Welsh language scheme, approved by the Welsh Language Board, in March of this year, together with a corporate action plan.

Rhodri Glyn Thomas: Brif Weinidog, yn fy rôl fel Comisiynydd â chyfrifoldeb am bolisi dwyieithog y Comisiwn bûm yn cymryd rhan yn ymgynghoriad y Comisiwn ar draws Cymru dros y misoedd diwethaf, ac yr oeddwn yn derbyn cwynion cyson am y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn rhyddhau dogfennau uniaith Saesneg ac yn ymateb i ohebiaeth yn uniaith Saesneg hyd yn oed pan fo’r ohebiaeth wreiddiol wedi’i chyflwyno yn y Gymraeg. A ydych yn ymwybodol o fethiannau cyson Llywodraeth Cymru i gadw at ei pholisi dwyieithog? Beth yr ydych yn bwriadu ei wneud am hynny?

 

Rhodri Glyn Thomas: First Minister, as the Commissioner with responsibility for the Commission’s bilingual policy, I have taken part in the Commission’s consultation across Wales over the past few months, and I regularly received complaints about the fact that the Welsh Government was releasing documents in English only and responding to correspondence in English only, even when the initial correspondence was in Welsh. Are you aware of the regular failings of the Welsh Government in sticking to its bilingual policy? What do you intend to do about that?

 

Y Prif Weinidog: Nod y Llywodraeth yw gweithio mewn ffordd ddwyieithog. Dylai dogfennau fod ar gael yn y Gymraeg. Mae’n bosibl weithiau fod problem yn codi, ond, yn arferol, byddwn yn disgwyl i ddogfennau fod ar gael yn y Gymraeg, o gofio ein nod fel Llywodraeth.

 

The First Minister: Of course, the aim of the Government is that we work bilingually. Documents should be available in Welsh. It is sometimes possible that problems arise, but, routinely, I would expect documents to be available in Welsh, bearing in mind our objective as a Government.

 

Suzy Davies: Brif Weinidog, mewn llythyr at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yr oeddech yn nodi y gallai’r angen i ystyried y defnydd gorau o adnoddau cyfyngedig weithiau olygu nad yw rhai offerynnau statudol sy’n effeithio ar Gymru yn cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg. Sut mae cysoni hyn â’ch rhwymedigaeth i roi statws cyfartal i’r ddwy iaith?

 

Suzy Davies: First Minister, in a letter to the Constitutional and Legislative Affairs Committee, you noted that the need to consider best use of limited resources could, on occasion, mean that some statutory instruments that impact upon Wales are not published in Welsh. How is this consistent with your commitment to giving equal status to both languages?

 

Y Prif Weinidog: Mae hyn yn rhywbeth a fu’n wir am 12 mlynedd, yn enwedig mewn perthynas ag offerynnau statudol sy’n cael eu cyhoeddi ar draws Cymru a Lloegr. Ond, mae’n bwysig ystyried bod y Llywodraeth, a’r Cynulliad ei hun, yn awr yn cyflwyno dogfennau a deddfwriaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg mewn ffordd nad oedd pobl yn gallu ei dychmygu 15 neu 20 mlynedd yn ôl.

 

The First Minister: This is something that has been true for 12 years, particularly with regard to statutory instruments that are published for England and Wales. However, it is very important to consider that the Government, and the Assembly itself, now publish documents and legislation in Welsh in a way that people could not even imagine 15 or 20 years ago.

 

Aled Roberts: Brif Weinidog, yr oeddech yn sôn am y cynllun gweithredu corfforaethol, sy’n cynnwys nifer o dargedau. Yn ôl targed 19, mae’n ofynnol bob pob adran o fewn y Llywodraeth wedi mabwysiadu cynllun iaith erbyn Ebrill 2011, a bod pob cynllun yn cael ei fonitro gan yr uned bob pedwar mis. A yw’r adrannau yn gweithredu yn ôl gofynion y cynllun?

 

Aled Roberts: First Minister, you mentioned the corporate action plan, which contains a number of targets. According to target 19, it is a requirement that every department in the Government should have adopted a language scheme by April 2011 and that there should be monitoring of every scheme by the unit on a four-monthly basis. Are the departments meeting the requirements of the scheme?

 

Y Prif Weinidog: Yr ydym yn dilyn yr argymhellion a wnaed gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac, fel Llywodraeth, yr ydym yn dilyn yr hyn sydd gan y bwrdd i’w ddweud.

 

The First Minister: We follow the recommendations made by the Welsh Language Board and, as a Government, we follow what the board says.

 

Papur Gwyn

White Paper

 

8. Mark Drakeford: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynhyrchu Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Roi Organau yng Nghymru. OAQ(4)0208(FM)

 

8. Mark Drakeford: Will the First Minister make a statement on the production of the Welsh Government’s White Paper on Organ Donation in Wales. OAQ(4)0208(FM)

 

The First Minister: The Minister for Health and Social Services and I were delighted to launch the White Paper on organ and tissue donation at the University Hospital of Wales today, following its publication yesterday.

 

Y Prif Weinidog: Roedd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau yn falch iawn o lansio’r Papur Gwyn ar roi organau a meinweoedd yn Ysbyty Athrofaol Cymru heddiw, yn dilyn ei gyhoeddiad ddoe.

 

Mark Drakeford: I support the Welsh Government’s decision to proceed on this matter by means of a White Paper in the first instance, as it remains a topic on which there are many different views that need to be brought together to shape the legislation. Can you give us an assurance that, in conducting the consultation that the Government will carry out on the White Paper, the views of staff associations, patient groups and third sector organisations such as the Kidney Foundation, the British Lung Association, Diabetes UK Cymru and so on will be sought in order to form a comprehensive approach to consultation, so that we have a wide range of views and so that an effort is made to spread information and education, which are so important in this area?

 

Mark Drakeford: Rwy’n cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen ar y mater hwn drwy gyfrwng Papur Gwyn yn y lle cyntaf, gan ei fod yn parhau i fod yn bwnc lle y mae yna lawer o wahanol safbwyntiau y mae angen eu dwyn ynghyd i lunio’r ddeddfwriaeth. A allwch roi sicrwydd y bydd ymgynghoriad y Llywodraeth ar y Papur Gwyn yn ceisio barn cymdeithasau staff, grwpiau cleifion a sefydliadau trydydd sector megis y Sefydliad Aren, Cymdeithas Brydeinig yr Ysgyfaint, Diabetes UK Cymru ac yn y blaen er mwyn ffurfio dull cynhwysfawr o ymgynghori, er mwyn inni gael ystod eang o safbwyntiau ac fel y gwneir ymdrech i ledaenu gwybodaeth ac addysg, sydd mor bwysig yn y maes hwn?

 

The First Minister: Yes, we welcome a wide range of views on this issue. It is the Government’s intention to bring forward the organ donation Bill, but the form of that Bill is, of course, a matter for consultation. We want to ensure that we get it right. It will be an important piece of legislation for the people of Wales and for so many people who will, literally, depend on it to get a better life or, indeed, to extend their life.

 

Y Prif Weinidog: Ydym, yr ydym yn croesawu amrywiaeth eang o safbwyntiau ar y mater hwn. Mae’n fwriad gan y Llywodraeth i gyflwyno’r Bil rhoi organau, ond mater ar gyfer ymgynghoriad fydd ffurf y Bil hwnnw, wrth gwrs. Rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn cael pethau’n iawn. Bydd yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth ar gyfer pobl Cymru ac i gymaint o bobl a fydd, yn llythrennol, yn dibynnu arno i gael gwell bywyd neu, yn wir, i ymestyn eu bywyd.

 

Paul Davies: Yr wyf yn cytuno â’r bwriad i ddeddfu yn y maes hwn, gan y bydd yn achub bywydau yn y tymor hir. Fodd bynnag, yr wyf hefyd yn deall bod teimladau cryf ar ddwy ochr y ddadl. Yn naturiol, mae gorfod delio yn ychwanegol gyda mater fel rhoi organau yn anodd i deuluoedd sydd yn colli perthynas. A all y Prif Weinidog gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn darparu canllawiau clir ar ôl pasio unrhyw ddeddfwriaeth newydd, i sicrhau y bydd prosesau digonol ar waith i gefnogi teuluoedd rhoddwyr organau?

 

Paul Davies: I agree with the intention to legislate in this field, because it will save lives in the long term. However, I also understand that there are strong feelings on both sides of the debate. Naturally, having to also deal with a matter such as organ donation will be difficult for families that have lost relatives. Can the First Minister confirm that the Government will provide clear guidelines, following the passing of any new legislation, to ensure that adequate processes are in place to support the families of organ donors?

 

Y Prif Weinidog: Mae hynny’n bwysig. Un o’r cwestiynau yr ydym yn edrych am sylwadau arno yw faint o ystyriaeth y dylid ei rhoi i safbwynt y teulu pan fydd rhywun yn marw. Mae’n bwysig bod hynny’n cael ei ystyried yn fanwl, ac mae’n bwysig bod meddygon hefyd yn deall pa broses i’w dilyn pan fydd rhywun yn marw. Wrth gwrs, mae hyn yn digwydd ar hyn o bryd ac mae’n bwysig bod eglurder yn y dyfodol hefyd.

 

The First Minister: That is important. One of the questions that we are looking for comments on in the consultation is what kind of force should be given to the views of families when a relative passes away. It is important that that is carefully considered, and it is important that doctors should understand which processes to follow when someone passes away. Of course, this happens at the moment, and it is important that there is clarity for the future too.

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas: A wnaiff y Prif Weinidog, pan fydd yn trafod y Papur Gwyn hwn, esbonio i Archesgob Cymru nad yw Cymru yn wladwriaeth? Democratiaeth etholedig yn yr ystafell hon yw Cymru, felly nid oes sail o gwbl i’r honiad bod y mesurau hyn yn gyfystyr â rhoi ein cyrff yn llwyr i’r wladwriaeth.

 

Lord Elis-Thomas: Will the First Minister, when discussing this White Paper, explain to the Archbishop of Wales that Wales is not a state? Wales is an elected democracy in this room, so there is no basis at all for the claim that these measures are akin to giving our bodies wholly to the state.

 

Y Prif Weinidog: Nid wyf yn credu y gallaf wneud mwy nag ailadrodd yr hyn a ddywedodd yr Aelod. Yr wyf yn deall barn yr Archesgob, ond nid wyf yn cytuno â’r farn a fynegwyd ganddo.

 

The First Minister: I do not believe that I can do any more than repeat what the Member has said. I understand the Archbishop’s view, but I do not agree with that view.

 

Ymateb i Argyfyngau Peryglus

Hazardous Emergency Response

 

9. Bethan Jenkins: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waith y prosiect ymateb i argyfyngau peryglus yn Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru. OAQ(4)0206(FM)

 

9. Bethan Jenkins: Will the First Minister make a statement on the work of the hazardous emergency response project within the Welsh Ambulance Trust. OAQ(4)0206(FM)

 

The First Minister: The hazardous area response team is capable of responding to situations where contamination may be present and a usual ambulance response would not be possible.

 

Y Prif Weinidog: Mae’r tîm ymateb ardal beryglus yn gallu ymateb i sefyllfaoedd lle gall fod halogiad a lle na fyddai’n bosibl ymateb gydag ambiwlans yn y ffordd arferol.

 

Bethan Jenkins: First Minister, I have recently corresponded with the Minister for health regarding Welsh ambulance cover for the Olympics. I am told by staff that they are concerned that, for the duration of the event, when they are called to London to provide cover as part of these teams, they will be replaced with inexperienced staff, sometimes with as little as two-weeks’ training. The Minister told me in the letter that she is assured that no staff have been downgraded. That may be true in itself, but it could be argued that the ambulances’ usual crews are being downgraded. There is a key difference here. So, will the First Minister assure Members, whose constituencies and regions could all be affected, that this will not be the case and that Welsh ambulances will continue to be crewed by highly experienced staff, so that the services for the people in our constituencies will reflect that?

 

Bethan Jenkins: Brif Weinidog, rwyf wedi ysgrifennu yn ddiweddar at y Gweinidog dros iechyd ynghylch darpariaeth gan wasanaeth ambiwlans Cymru ar gyfer y Gemau Olympaidd. Dywedwyd wrthyf gan y staff eu bod yn pryderu, drwy gydol y digwyddiad, pan fyddant yn cael eu galw i Lundain i ddarparu gwasanaeth fel rhan o’r timau hyn, y bydd staff amhrofiadol, weithiau gyda chyn lleied â phythefnos o hyfforddiant, yn cymryd eu lle. Dywedodd y Gweinidog wrthyf mewn llythyr ei bod yn sicr nad yw unrhyw staff wedi eu hisraddio. Gall hynny fod yn wir yn ei hun, ond gellid dadlau bod criwiau arferol yr ambiwlansys yn cael eu hisraddio. Mae gwahaniaeth allweddol yma. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog sicrhau Aelodau, oherwydd gellir effeithio ar bob etholaeth a rhanbarth, na fydd hyn yn digwydd ac y bydd ambiwlansys Cymru yn parhau i gael eu criwio gan staff profiadol iawn, fel bod y gwasanaethau ar gyfer y bobl yn ein hetholaethau yn adlewyrchu hynny?

 

The First Minister: Absolutely. It is vitally important that we have the right level of cover in Wales, even when an event like the Olympics takes place in London.

 

Y Prif Weinidog: Yn hollol. Mae’n hanfodol bwysig bod gennym y lefel gywir o ddarpariaeth yng Nghymru, hyd yn oed pan fo digwyddiadau fel y Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal yn Llundain.

 

David Rees: First Minister, last week, figures from the Welsh Ambulance Services NHS Trust showed that, for the eighth month running, it hit national targets for emergency response times. However, there were some variations across Wales and there were some dips below the target figure. Will the Welsh Government be extending the introduction of community emergency responders, particularly in rural and upper Valley areas? It has been commented that the use of community first emergency responders has helped the trust improve its efficiency.

 

David Rees: Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf, dangosodd ffigurau gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ei fod, am yr wythfed mis yn olynol, wedi cyrraedd y targedau cenedlaethol ar gyfer amseroedd ymateb brys. Fodd bynnag, roedd rhai amrywiadau ar draws Cymru ac roedd rhai achlysuron lle na chyrhaeddwyd y targed. A fydd Llywodraeth Cymru yn ehangu’r ddarpariaeth o ymatebwyr brys cymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac ar ben y Cymoedd? Dywedwyd bod y defnydd o ymatebwyr brys cyntaf cymunedol wedi helpu’r ymddiriedolaeth i wella ei effeithlonrwydd.

 

The First Minister: We know of the effect of emergency responders and we are fully aware of the work that they do. That is why we have supported emergency responders, and we will continue to do so.

 

Y Prif Weinidog: Gwyddom am effaith ymatebwyr brys ac yr ydym yn gwbl ymwybodol o’r gwaith y maent yn ei wneud. Dyna pam yr ydym wedi cefnogi ymatebwyr brys, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

 

William Graham: First Minister, you will know that recent forecasts suggest that this winter may be equally as severe as the last, when, despite heroic efforts by the staff of our ambulances, less than 50 per cent of emergency calls were reached in the target time. Will you indicate how your Government and your partners will help to alleviate that problem? It looks as if there may be a poor winter and you want to be absolutely sure that your ambulances can get to all parts of Wales.

 

William Graham: Brif Weinidog, byddwch yn gwybod bod rhagolygon diweddar yn awgrymu y gallai’r gaeaf hwn fod yr un mor ddifrifol â’r un diwethaf, pan, er gwaethaf ymdrechion arwrol gan staff ein gwasanaethau ambiwlans, cyrhaeddwyd llai na 50 y cant o alwadau brys o fewn y targed amser. A wnewch chi nodi sut y bydd eich Llywodraeth a’ch partneriaid yn helpu i leddfu’r broblem honno? Mae’n edrych fel pe gallai fod yn aeaf gwael ac yr ydych am fod yn gwbl sicr y gall eich ambiwlansys gyrraedd pob rhan o Gymru.

 

The First Minister: It is crucial that there is a sufficient stock of salt available for local authorities and trunk roads. I can say to the Assembly that stock levels at the moment are almost twice as high as they were this time last year. So, we are confident that the roads will be clear and that ambulances will be able to achieve a better response time than was the case last year.

 

Y Prif Weinidog: Mae’n hanfodol bod stoc ddigonol o halen ar gael i awdurdodau lleol a chefnffyrdd. Gallaf ddweud wrth y Cynulliad fod lefelau stoc ar hyn o bryd bron ddwywaith mor uchel ag yr oeddent yr adeg hon y llynedd. Felly, rydym yn hyderus y bydd y ffyrdd yn glir ac y bydd ambiwlansys yn gallu cyflawni amser ymateb gwell nag oedd yn wir y llynedd.

 

Addysg Feithrin

Nursery Education

 

10. Jenny Rathbone: Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y plant 3 a 4 oed sy’n cael addysg feithrin. OAQ(4)0211(FM)

 

10. Jenny Rathbone: What are the Welsh Government’s plans to increase the number of 3 and 4 year olds who are receiving nursery education. OAQ(4)0211(FM)

 

The First Minister: There is already a statutory duty on local authorities to offer a minimum of 10 hours per week free education to all three and four-year-olds. Latest information indicates that, across Wales, more than 90 per cent of parents take up this offer.

 

Y Prif Weinidog: Mae eisoes dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i gynnig o leiaf 10 awr yr wythnos o addysg am ddim i bob plentyn tair a phedair blwydd oed. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yn dangos bod mwy na 90 y cant o rieni ar draws Cymru yn manteisio ar y cynnig hwn.

 

Jenny Rathbone: That is excellent news. Unfortunately, the latest available figures for Cardiff show that only 48 per cent of three and four-year-olds are in receipt of their nursery education, which is a cause for concern. What can the Welsh Government do to ensure that every family that wants their nursery entitlement for their child is able to receive it?

 

Jenny Rathbone: Mae hynny’n newyddion gwych. Yn anffodus, mae’r ffigurau diweddaraf sydd ar gael ar gyfer Caerdydd yn dangos mai dim ond 48 y cant o blant tair a phedair oed sy’n derbyn eu haddysg feithrin, sydd yn achos pryder. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod pob teulu sydd am gael addysg meithrin ar gyfer eu plentyn yn gallu derbyn hynny?

 

The First Minister: The figures that we have suggest that the level of uptake in Cardiff is higher. Given that discrepancy, perhaps you could provide me with information regarding your figures and I will investigate to see what the correct figure is.

 

Y Prif Weinidog: Mae’r ffigurau sydd gennym yn awgrymu bod y ffigurau yng Nghaerdydd yn uwch na hynny. O ystyried bod anghysondeb, efallai y gallwch ddarparu gwybodaeth am eich ffigurau a byddaf yn ymchwilio i weld beth yw’r ffigur cywir.

2.15 p.m.

 

Angela Burns: I would like to build upon Jenny’s question, First Minister. Are you aware of any financial disincentives that would explain why some local education authorities are unable to provide more nursery education for our children? Does that reflect the number of hours that a parent can take at any one time in order to help them to gain access to the job market?

 

Angela Burns: Hoffwn adeiladu ar gwestiwn Jenny, Brif Weinidog. A ydych yn ymwybodol o unrhyw datgymhellion ariannol a fyddai’n esbonio pam nad yw rhai awdurdodau addysg lleol yn gallu darparu mwy o addysg feithrin ar gyfer ein plant? A ydyw hynny yn adlewyrchu nifer yr oriau y gall rhiant eu cymryd ar unrhyw un adeg er mwyn eu helpu i gael mynediad i’r farchnad swyddi?

 

The First Minister: I mentioned in my earlier answer that the 10-hour per week minimum is a statutory duty. If local authorities are in breach of that, they could face legal action to ensure that they reach the statutory level. It would be for them to explain why that is not being done.

 

Y Prif Weinidog: Soniais yn fy ateb cynharach bod y lleiafswm o 10 awr yr wythnos yn ddyletswydd statudol. Os ydyw awdurdodau lleol yn torri’r ddyletswydd honno, gallent wynebu camau cyfreithiol i sicrhau eu bod yn cyrraedd y lefel statudol. Mater iddynt hwy fyddai esbonio pam na wneir hynny.

 

Simon Thomas: A wnaiff y Prif Weinidog esbonio pa gamau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd er mwyn sicrhau bod darpariaeth ar gael i blant yr oedran hwn yn eu dewis iaith? Mae’n hynod bwysig ar gyfer twf addysg Gymraeg bod rhieni yn cael dewis darpariaeth Gymraeg pan fydd eu plentyn yn dair neu bedair oed. Pe baent yn dewis darpariaeth cyfrwng Saesneg ar yr adeg honno, byddai’n anodd i’r plant newid iaith wedyn os ydynt yn dod o gefndir di-Gymraeg. Mae’n arbennig o bwysig, hefyd, gefnogi gwirfoddolwyr y Mudiad Meithrin i sicrhau bod darpariaeth ar gael drwy Gymru gyfan.

 

Simon Thomas: Will the First Minister explain what steps the Government is taking in order to ensure that there is provision for children of this age in their language of choice? It is incredibly important for the growth in Welsh-medium education that parents are able to choose Welsh-medium provision when their child is three or four years old. Were they to choose English-medium provision at that age, it would be difficult for the children to change language later if they come from a non-Welsh speaking background. It is also extremely important to support Mudiad Meithrin volunteers to ensure that provision is available throughout Wales.

 

Y Prif Weinidog: Yr ydym wedi rhoi cymorth i Mudiad Meithrin er mwyn sicrhau twf yn yr iaith Gymraeg ac, yn arbennig, i sicrhau bod plant yn dechrau yn y system addysg yn dair oed, oherwydd byddai’r rhan fwyaf—er nid pob plentyn—yn aros yn y system addysg Gymraeg wedi hynny. Yr wyf yn hapus iawn i weld y twf o ran addysg cyfrwng Cymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd o Gymru lle y mae’r iaith, yn gymharol diweddar, wedi bod yn wan.

 

The First Minister: We have provided support to Mudiad Meithrin to ensure that there is growth in the Welsh language and, in particular, to ensure that children start in the education system at the age of three, because the majority—although not all children—will stay in Welsh-medium education in the future. I am extremely happy to see the growth in Welsh-medium education, particularly in parts of Wales where, until fairly recently, the language has been weak.

 

Vaughan Gething: First Minister, I am sure that you will agree that good quality early-years education is hugely important and significantly affects achievement and potential throughout life. You may be aware that two nurseries in my constituency, in Grangetown and Tremorfa, are classed as ‘outstanding’ by Estyn, but face closure by Cardiff Council. Has the Welsh Government provided any specific guidance regarding how the quality of nursery provision should be safeguarded and improved in the face of any proposals to change the nature of that provision?

 

Vaughan Gething: Brif Weinidog, mae’n siŵr gennyf y byddwch yn cytuno bod addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd da yn hynod bwysig ac yn effeithio’n sylweddol ar gyflawniad a photensial gydol oes. Efallai y byddwch yn ymwybodol bod dwy feithrinfa yn fy etholaeth, yn Grangetown a Tremorfa, yn cael eu hystyried yn ‘rhagorol’ gan Estyn, ond yn wynebu cael eu cau gan Gyngor Caerdydd. A ydyw Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau penodol ynghylch sut y dylid diogelu a gwella ansawdd darpariaeth feithrin yn wyneb unrhyw gynigion i newid natur y ddarpariaeth honno?

 

The First Minister: I cannot comment on any particular plans that a local authority might have to reorganise schools, because of the role of Welsh Ministers in appeals. However, I can say that Welsh Government guidance on school reorganisations sets out that the effect of a reorganisation proposal on educational standards will be the prime consideration and there is no presumption in favour of, or against, the closure of any type of school.

 

Y Prif Weinidog: Ni allaf wneud sylwadau ar unrhyw gynlluniau penodol a allai fod gan awdurdod lleol i ad-drefnu ysgolion, oherwydd rôl Gweinidogion Cymru mewn apeliadau. Fodd bynnag, gallaf ddweud bod canllawiau Llywodraeth Cymru ar ad-drefnu ysgolion yn nodi mai effaith cynnig ad-drefnu ar safonau addysg fydd y brif ystyriaeth, ac nid oes unrhyw ragdybiaeth o blaid neu yn erbyn cau unrhyw fath o ysgol.

 

Gwella Gwasanaethau Band Eang

 

Improving Broadband Services

 

11. Paul Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wella gwasanaethau band eang ym Mhreseli Sir Benfro. OAQ(4)0214(FM)

 

11. Paul Davies: Will the First Minister make a statement on improving broadband services in Preseli Pembrokeshire. OAQ(4)0214(FM)

 

Y Prif Weinidog: Mae gwaith yn cael ei wneud yn sir Benfro drwy’r cynllun cefnogi band eang, a bydd y gwasanaeth hefyd yn cael ei wella fel rhan o’r prosiect i sicrhau mynediad at fand eang y genhedlaeth nesaf.

 

The First Minister: Work is being done in Pembrokeshire as part of the broadband support scheme, and the service will also be improved as part of the project to ensure access to next generation broadband.

 

Paul Davies: Yr wyf yn ddiolchgar i’r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw. Fel rhan o’r cynllun, deallaf fod unigolion yn gallu gwneud cais am hyd at £1,000 er mwyn derbyn gwasanaethau band eang. Fodd bynnag, gwn, mewn rhai achosion, nad yw rhai cwmnïau sy’n darparu gwasanaethau band eang, am ryw reswm, yn gallu darparu gwasanaeth cyson a pharhaus ar ôl gwario’r arian. A all y Prif Weinidog ddweud wrthym sut mae’r cynllun hwn yn cael ei fonitro gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr ac, wrth gwrs, er mwyn sicrhau bod etholwyr yn cael y gwasanaeth band eang dibynadwy a pharhaus y mae’r cynllun i fod i’w gynnig?

 

Paul Davies: I am grateful to the First Minister for that response. As part of the scheme, I understand that individuals can apply for up to £1,000 in order to receive broadband services. However, I know that, in some cases, the companies providing broadband services are, for some reason, unable to provide a stable and continuous service after the money has been spent. Can the First Minister tell us how this scheme will be monitored by the Welsh Government in order to ensure that there is value for money for taxpayers, and, of course, in order to ensure that constituents receive the reliable and continuous broadband service that the scheme is meant to provide?

 

Y Prif Weinidog: Nid yw prosiect band eang y genhedlaeth nesaf wedi dechrau eto, ond bydd yn gorffen erbyn 2015. O ran y cynllun cymorth band eang, mae 1,658 o geisiadau wedi’u caniatáu ac, o ganlyniad, mae £1.3 miliwn wedi ei ddosbarthu fel rhan o’r prosiect hwn. Mae’r cyllido hefyd wedi cael ei ganiatáu ar gyfer 13 cynllun cymunedol.

 

The First Minister: The next generation broadband project has not yet begun, but it will end by 2015. With regard to the broadband support scheme, 1,658 applications have been granted and, as a result, £1.3 million has been distributed as part of that project. The funding has also been granted for 13 community schemes.

 

Simon Thomas: Yn sir Benfro, fel yng ngweddill Cymru, nid oes unrhyw wariant cyfalaf ychwanegol wedi cael ei neilltuo ar gyfer band eang. Mae’r gwariant y bu ichi gyfeirio ato wedi bod ar y gweill ers rhai misoedd neu flynyddoedd bellach. Mae’r unig wariant newydd wedi dod gan Lywodraeth San Steffan. Felly, pryd y bydd eich Llywodraeth yn rhoi’r gorau i fod yn bathewod ac yn dechrau bod yn llewod dros economi fodern Gymreig?

 

Simon Thomas: In Pembrokeshire, as in the rest of Wales, no additional capital funding has been set aside for broadband. The funding that you referred to has been available for some months or years. The only new funding has come from the Westminster Government. Therefore, when is your Government going to stop burying its head in the sand and start working for a modern Welsh economy?

 

Y Prif Weinidog: Fel y dywedais, mae £1.3 miliwn wedi cael ei wario hyd yn hyn, ac mae prosiect band eang y genhedlaeth nesaf yn un anferth a fydd yn cyflwyno band eang cyflym i bawb yng Nghymru erbyn 2015. Mae hynny’n uchelgeisiol iawn.

 

The First Minister: As I said, £1.3 has already been spent, and the next generation broadband project is a huge project that will deliver fast broadband to everyone in Wales by 2015. That is very ambitious.

 

Ymweliad â Tsieina

 

Visit to China

 

12. Suzy Davies: Beth oedd manteision ymweliad diweddar y Prif Weinidog â Tsieina i bobl Gorllewin De Cymru. OAQ(4)0203(FM)

 

12. Suzy Davies: What benefits will the First Minister’s recent visit to China bring to the people of South Wales West. OAQ(4)0203(FM)

 

The First Minister: My visit supported the establishment of the China-Europe Standards Institute at Swansea University, which will also benefit from the Wales-China higher education training consortium visit that was coterminous with my visit. Gower College will also benefit from the visit, because the Chongqing further education consortium was also launched there. The business group that came on the trade mission identified a number of opportunities, which will be of benefit to all of Wales.

 

Y Prif Weinidog: Roedd fy ymweliad yn cefnogi sefydlu Sefydliad Safonau Ewrop-Tsieina ym Mhrifysgol Abertawe, a fyddai hefyd yn elwa o ymweliad consortiwm hyfforddiant addysg uwch Cymru-Tsieina a oedd yn digwydd yr un pryd â’m hymweliad i. Bydd Coleg Gŵyr hefyd yn elwa o’r ymweliad, oherwydd lansiwyd consortiwm addysg bellach Chongqing yno hefyd. Nodwyd nifer o gyfleoedd gan y grŵp busnes a ddaeth ar y daith fasnach, a byddant o fudd i Gymru gyfan.

 

Suzy Davies: Thank you for that very encouraging answer, First Minister. I welcome the establishment of the China-Europe Standards Institute at Swansea. Do you not agree that we need to encourage more businesses from around the globe to take advantage of the excellent research and development facilities at Swansea University in particular? What steps are you and your Government taking to help to forge those future partnerships across Wales?

 

Suzy Davies: Diolch ichi am yr ateb calonogol iawn, Brif Weinidog. Croesawaf Sefydliad Safonau Ewrop-Tsieina yn Abertawe. Onid ydych chi’n cytuno bod angen inni annog mwy o fusnesau o bedwar ban y byd i fanteisio ar y cyfleusterau rhagorol ar gyfer ymchwil a datblygu ym Mhrifysgol Abertawe yn benodol? Pa gamau ydych chi a’ch Llywodraeth yn eu cymryd i helpu meithrin partneriaethau’r dyfodol hynny ledled Cymru?

 

The First Minister: I have given you an example, and I have supported the higher education consortium in its meetings with higher education representatives in China. It is right to say that we need to encourage more investment into Wales from countries such as China, but it is also important that the message is not given out by the UK Government that this is a country that is constantly looking at austerity. It was a theme in China that, because the UK Government constantly talks about austerity in the UK, it does not see the UK as a likely place in which to invest. One issue that I will take up with the Prime Minister is that there is a need to ensure that the message is not too gloomy when it comes to attracting outside investment into the UK and into Wales.

 

Y Prif Weinidog: Yr wyf wedi rhoi enghraifft ichi, ac yr wyf wedi cefnogi’r consortiwm addysg uwch mewn cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr addysg uwch yn Tsieina. Mae’n iawn i ddweud bod angen inni annog mwy o fuddsoddiad i mewn i Gymru o wledydd fel Tsieina, ond mae’n bwysig hefyd na roddir y neges gan Lywodraeth y DU bod hon yn wlad sy’n edrych ar lymder drwy’r amser. Yr oedd yn thema yn Tsieina, oherwydd bod Llywodraeth y DU yn sôn am lymder yn y Deyrnas Unedig drwy’r amser, nad yw’n gweld y Deyrnas Unedig fel lle tebygol i fuddsoddi ynddo. Un mater y byddaf yn ei godi gyda’r Prif Weinidog yw bod angen sicrhau nad yw’r neges yn rhy ddiflas pan ddaw at ddenu buddsoddiad y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac i Gymru.

 

Bethan Jenkins: Mae’r grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol wedi bod yn trafod yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud o ran siarad â gwahanol wledydd a’u hanes o ran hawliau dynol. Ar eich taith i Tsieina, pa drafodaethau a gawsoch â’r Llywodraeth yno i sicrhau ei bod yn cyflawni mwy ar yr agenda honno tra ydym yn creu cysylltiadau economaidd â’r wlad honno?

 

Bethan Jenkins: The cross-party group on human rights has been discussing what the Government is doing in speaking to various countries and their track record in terms of human rights. On your trip to China, what discussions did you have with the Government there to ensure that it is delivering more on this agenda while we are creating economic links with that country?

 

Y Prif Weinidog: Mae hynny’n fater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd wedi gwneud llawer o sylwadau i Lywodraeth Tsieina dros y blynyddoedd, ac yr ydym yn cefnogi ei safbwynt.

 

The First Minister: That is a matter for the UK Government, which has made many representations to the Chinese Government over the years, and we support its stance.

 

Antoinette Sandbach: At a recent meeting in north Wales with the Institute of Directors, surprise was expressed to me that only 12 Welsh companies travelled with you. When representatives of the Irish Government went over to China, they were accompanied by over 300 companies. Therefore, First Minister, did you make the most of your opportunities in China to promote Welsh business?

 

Antoinette Sandbach: Mewn cyfarfod diweddar yn y Gogledd gyda Sefydliad y Cyfarwyddwyr, mynegwyd syndod i mi mai dim ond 12 o gwmnïau Cymreig a wnaeth deithio gyda chi. Pan aeth cynrychiolwyr o Lywodraeth Iwerddon i Tsieina, aethant â thros 300 o gwmnïau. Felly, Brif Weinidog, a wnaethoch y gorau o’ch cyfleoedd yn Tsieina i hyrwyddo busnes Cymru?

 

The First Minister: Representatives of the sector panels went to China, and they represent a number of companies that form the subjects of each sector panel. The report that I received from them expressed excitement and the belief that there are some exciting opportunities that can be pursued in China, which will now be taken forward both by Government and by business.

 

Y Prif Weinidog: Aeth cynrychiolwyr y paneli sector i Tsieina, ac maent yn cynrychioli nifer o gwmnïau sy’n ffurfio pynciau pob panel sector. Mynegodd yr adroddiad y cefais ganddynt gyffro a’r gred bod rhai cyfleoedd cyffrous y gellir mynd ar eu hôl yn Tsieina, a fydd yn awr yn cael eu cymryd ymlaen gan y Llywodraeth a byd busnes.

 

Blaenoriaethau

 

Priorities

 

13. Elin Jones: Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru am y chwe mis nesaf. OAQ(4)0212(FM)

 

13. Elin Jones: What are the Welsh Government’s priorities for the next six months. OAQ(4)0212(FM)

 

Y Prif Weinidog: Byddwn yn mynd ati i gyflawni’r agenda a nodir yn ein rhaglen lywodraethu.

 

The First Minister: We shall deliver the agenda set out in our programme for government.

 

Elin Jones: Yn eich ateb i Ken Skates y prynhawn yma, dywedasoch y bydd eich Llywodraeth yn gwahodd cyflwyniadau gan y cwmnïau hynny sydd am gyflwyno cais i ICANN ar gyfer enw parth uchaf i Gymru yn y misoedd nesaf. A wnewch chi gadarnhau na fydd eich Llywodraeth ond yn cefnogi cais sydd yn cynnwys ‘.cymru’ yn ogystal ag, o bosibl, ‘.wales’?

 

Elin Jones: In your response to Ken Skates this afternoon, you said that your Government will invite presentations from those companies that are interested in making a bid to ICANN for a high-level domain name for Wales in the next few months. Will you confirm that your Government will only support a bid that includes ‘.cymru’ as well as, possibly, ‘.wales’?

 

Y Prif Weinidog: Na wnaf. Mae’n bwysig iawn ein bod yn sicrhau’r enw parth a fydd yn rhoi’r hwb economaidd gorau i Gymru.

 

The First Minister: No. It is exceptionally important that we secure the domain name that will give the best economic boost to Wales.

 

Mohammad Asghar: First Minister, the news that 70 jobs are to be lost at Tata Steel in Newport is a major blow to Newport and the Welsh economy. Can you confirm what support the Welsh Government will provide to those facing job losses and to their families? Given the huge number of manufacturing jobs lost in Wales over the past 10 years, what priority is your administration giving to tackling this depressing trend in this part of the world?

 

Mohammad Asghar: Brif Weinidog, mae’r newyddion bod 70 o swyddi yn cael eu colli yn Tata Steel yng Nghasnewydd yn ergyd drom i Gasnewydd ac economi Cymru. A allwch gadarnhau pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i’r rheiny sy’n wynebu colli swyddi ac i’w teuluoedd? O ystyried y nifer helaeth o swyddi gweithgynhyrchu a gollwyd yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf, pa flaenoriaeth y mae eich gweinyddiaeth yn ei rhoi i fynd i’r afael â’r duedd ddigalon hon yn y rhan hon o’r byd?

 

The First Minister: We very much regret the job losses at Tata Steel and we will do what we usually do in these circumstances, which is to use schemes such as the ReAct programme and the Team Wales approach to ensure that support is given to those individuals as they leave employment. However, one issue that I am hearing raised time and again is that industries that have high levels of energy consumption are not staying in or coming to the UK, because UK energy prices are so high. Spain, for example, has energy prices that are not far off half the UK’s energy prices. France has energy prices that are much lower. These are countries where there are, effectively, nationalised providers. There is no competition in the energy market in the UK. We all know that and I urge the UK Government to ensure, as it examines energy reform, that there is proper competition that reduces energy prices. They are becoming a serious barrier to investment, not just in Wales, but in the rest of the UK.

 

Y Prif Weinidog: Rydym yn gresynu’n fawr y colledion swyddi yn Tata Steel, a byddwn yn gwneud yr hyn a wnawn fel arfer o dan yr amgylchiadau hyn, sef defnyddio cynlluniau megis y rhaglen ReAct a’r dull Tîm Cymru i sicrhau y rhoddir cymorth i’r unigolion hynny wrth iddynt adael cyflogaeth. Fodd bynnag, un mater a glywaf yn cael ei godi dro ar ôl tro yw nad yw diwydiannau sydd â lefelau uchel o ddefnydd ynni yn aros neu’n dod i’r Deyrnas Unedig, oherwydd bod prisiau ynni yn y Deyrnas Unedig mor uchel. Er enghraifft, mae gan Sbaen brisiau ynni nad ydynt ymhell o hanner prisiau ynni’r Deyrnas Unedig. Mae gan Ffrainc brisiau ynni llawer yn is. Mae’r rhain yn wledydd lle y mae, i bob pwrpas, darparwyr gwladol. Nid oes cystadleuaeth yn y farchnad ynni yn y Deyrnas Unedig. Yr ydym oll yn gwybod hynny ac anogaf Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau, wrth iddi archwilio diwygio ynni, bod cystadleuaeth briodol sy’n lleihau prisiau ynni. Maent yn dod yn rhwystr difrifol i fuddsoddiad, nid yn unig yng Nghymru, ond yng ngweddill y Deyrnas Unedig.

 

Trafodaethau gyda’r Arglwydd Patten

 

Discussions with Lord Patten

 

14. Keith Davies: Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda’r Arglwydd Patten ynglyn â dyfodol S4C. OAQ(4)0209(FM)

 

14. Keith Davies: What discussions has the First Minister had with Lord Patten with regards to the future of S4C. OAQ(4)0209(FM)

 

Y Prif Weinidog: Cefais gyfarfod â’r Arglwydd Patten ym mis Mehefin. Yn ystod y cyfarfod hwnnw, dywedais yn glir ei bod yn bwysig dod o hyd i ffordd o ddatrys y broblem o gyllido S4C a sicrhau dyfodol y sianel.

 

The First Minister: I met Lord Patten in June. During that meeting, I made it clear that it is important to find a means of solving the problem of funding S4C and to secure the future of the channel.

 

Keith Davies: Diolch am yr ateb hwnnw. Mae sicrwydd ariannol wedi dod yn awr, yr wyf yn credu, ond mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir bod angen adolygiad o S4C. Pa faterion y byddech yn dymuno eu cynnwys mewn adolygiad o’r fath?

 

Keith Davies: Thank you for that response. Financial assurance has now been provided, I believe, but the Welsh Government has been clear that a review of S4C is needed. What issues would you like to see included in such a review?

 

Y Prif Weinidog: Mae’r cyllid wedi cael ei sicrhau am yn awr. Nid wyf yn credu bod y cyllido wedi cael ei sicrhau i’r dyfodol pell. Mae’n bwysig ein bod yn ystyried sefyllfa S4C a’r ffordd y mae S4C yn cael ei lywodraethu. Mae’n bwysig bod y sianel wedi penodi prif weithredwr dros dro a phrif weithredwr parhaol. Cawn weld beth wnaiff ddigwydd yn S4C i ystyried a oes eisiau adolygiad yn y dyfodol.

 

The First Minister: The funding has been secured for now. I do not believe that the funding has been secured for the distant future. It is important that we consider the position of S4C and the way in which it is governed. It is important that the channel has appointed an interim chief executive and a permanent chief executive. We will see what occurs in S4C in considering whether a review is required in future.

 

Polisi Amaethyddol Cyffredin

 

Common Agricultural Policy

 

15. William Powell: Sut mae’r Prif Weinidog yn bwriadu gweithredu’r diwygiadau sydd ar ddod i’r PAC ledled Cymru. OAQ(4)0204(FM)

 

15. William Powell: How does the First Minister plan to implement forthcoming CAP reforms across Wales. OAQ(4)0204(FM)

 

The First Minister: The European Agriculture and Fisheries Council saw the start of the intense debates and negotiations that will shape the final CAP reform package on October 20 2011. It will be some time before we have the detail necessary for us to consider how to implement reforms.

 

Y Prif Weinidog: Gwelodd Cyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd Ewrop ddechrau dwys y dadleuon a’r trafodaethau a fydd yn llunio pecyn terfynol diwygio’r PAC ar 20 Hydref 2011. Bydd cryn amser cyn y cawn y manylion angenrheidiol i ni ystyried sut mae gweithredu’r diwygiadau.

 

William Powell: From discussions that I have recently had with representatives of the Welsh farming unions, it is clear that there is still a good deal of confusion and some unanswered questions regarding the way in which the Welsh Government plans to implement aspects of these reforms. Will the First Minister comment on how he envisages that both regional and landscape considerations will impact upon how the proposed reforms are implemented from a member-state perspective?

 

William Powell: O’r trafodaethau a gefais yn ddiweddar â chynrychiolwyr undebau ffermio Cymru, mae’n amlwg bod yna ddal i fod peth dryswch a rhai cwestiynau heb eu hateb ynghylch y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio gweithredu agweddau ar y diwygiadau hyn. A wnaiff y Prif Weinidog sylwadau ar sut y mae’n rhagweld y bydd ystyriaethau rhanbarthol a thirwedd yn effeithio ar sut y gweithredir y diwygiadau arfaethedig o safbwynt aelod-wladwriaeth?

 

The First Minister: There are bound to be questions, because the policy has not been decided yet; it is still being debated. However, what we will do, as we have done in the past, is secure the best possible outcome for Welsh farmers. It is right to say that the greening approach that has been presented so far is a particularly rigid approach. We would prefer the European Commission to provide a wider range of options so that there would be greater flexibility of choice for administrations such as ourselves in how we implement the policy.

 

Y Prif Weinidog: Mae’n anochel y bydd cwestiynau, oherwydd nid yw’r polisi wedi’i benderfynu eto; mae’n dal i gael ei drafod. Fodd bynnag, yr hyn a wnawn, fel yr ydym wedi ei wneud yn y gorffennol, yw sicrhau’r canlyniad gorau posibl i ffermwyr Cymru. Mae’n iawn i ddweud bod y dull gwyrdd a gyflwynwyd hyd yn hyn yn ymagwedd arbennig o anhyblyg. Byddai’n well gennym petai’r Comisiwn Ewropeaidd yn darparu amrywiaeth ehangach o opsiynau fel y byddai mwy o hyblygrwydd o ran dewis ar gyfer gweinyddiaethau fel ni ein hunain ynglŷn â sut yr ydym yn gweithredu’r polisi.

 

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Business Statement and Announcement

 

The Minister for Finance and Leader of the House (Jane Hutt): There are no changes to report to this week’s business. Business for the next three weeks is as shown in the business statement and announcement, which can be found among the agenda papers that are available to Members electronically.

 

Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ (Jane Hutt): Nid oes unrhyw newidiadau i’w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymhlith y papurau agenda sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

 

William Graham: Thank you for your brief statement, Leader of the House. I ask for a statement on contingency planning, particularly between the Assembly Government and local authorities. You may know that the river bridges at Usk and Crickhowell have both recently been damaged by large vehicles. That leaves only the two bridges in Abergavenny to allow traffic to move freely. As tourism is worth some £150 million to Monmouthshire, could you outline what your Government plans are in the event of both or either of those bridges closing?

 

William Graham: Diolch ichi am eich datganiad byr, Arweinydd y Tŷ. Gofynnaf am ddatganiad ar gynllunio wrth gefn, yn enwedig rhwng Llywodraeth y Cynulliad ac awdurdodau lleol. Efallai y gwyddoch fod pontydd yr Afon Wysg a Chrucywel wedi’u niweidio yn ddiweddar gan gerbydau mawr. Mae hynny’n gadael y ddwy bont yn y Fenni yn unig i alluogi traffig i symud yn ddi-rwystr. Gan fod twristiaeth gwerth tua £150 miliwn i Sir Fynwy, a allech amlinellu beth yw cynlluniau eich Llywodraeth petai’r ddwy bont neu’r naill bont neu’r llall yn cau?

 

Jane Hutt: I thank the Member for that question. These are issues for which local government has to ensure that it has contingency funds and, when there is responsibility for the wider trunk road network and bridges, that has also to be taken on board in terms of our responsibilities. However, it is clear that those contingency funds are there for precisely those incidents.

Jane Hutt: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae’r rhain yn faterion y mae’n rhaid i lywodraeth leol sicrhau bod ganddo gronfeydd wrth gefn ar eu cyfer. Hefyd, pan fydd cyfrifoldeb am y rhwydwaith cefnffyrdd ehangach a’r pontydd, bydd yn rhaid i hynny gael ei ystyried o ran ein cyfrifoldebau. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod y cronfeydd wrth gefn hynny yno yn union ar gyfer y digwyddiadau hynny.

 

2.30 p.m.

 

Lynne Neagle: Minister, the decision of the Tory-led UK Government to slash the feed-in tariff is already having a devastating impact on efforts to tackle fuel poverty and to reduce climate change in my constituency. It has already put in jeopardy a £26 million project recently launched by Bron Afon Community Housing that would have saved more than 3,600 low-income households up to £150 a year on their electricity bills. May we have an urgent statement or a debate in this Chamber on this issue so that Assembly Members can discuss this incredibly worrying and wrongheaded move by the UK Government?

 

Lynne Neagle: Weinidog, mae penderfyniad Llywodraeth y DU o dan arweiniad y Torïaid i dorri’r tariff bwydo i mewn eisoes yn cael effaith ddinistriol ar ymdrechion i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ac i leihau newid yn yr hinsawdd yn fy etholaeth. Mae eisoes wedi rhoi yn y fantol brosiect £26 miliwn a lansiwyd yn ddiweddar gan Tai Cymunedol Bron Afon a fyddai wedi arbed mwy na 3,600 o gartrefi incwm isel hyd at £150 y flwyddyn ar eu biliau trydan. A gawn ni ddatganiad brys neu ddadl yn y Siambr hon ar y mater hwn fel y gall Aelodau’r Cynulliad drafod y penderfyniad anhygoel o bryderus a phengam hwn gan Lywodraeth y DU?

 

Jane Hutt: I am sure that great concern is shared across the Chamber about this proposal from the Government to change the feed-in tariff, which will sabotage that programme. It will waste money and it will mean that jobs will be lost in terms of the contractors that would have been used, all but one of whom are based in Wales. The First Minister has written to the Prime Minister to stress that it is inappropriate to change the tariffs on 12 December, before the consultation on the changes completes on 23 December. I am sure that further representations will be made in the Chamber regarding this to the First Minister and to the Minister for Environment and Sustainability.

 

Jane Hutt: Mae’n siŵr gennyf y rhennir pryder mawr ar draws y Siambr ynghylch y cynnig hwn gan y Llywodraeth i newid y tariff bwydo i mewn, a fydd yn tanseilio’r rhaglen honno. Bydd yn wastraff arian, a bydd yn golygu y collir swyddi o ran y contractwyr a fyddai wedi cael eu defnyddio, gyda phob un ohonynt namyn un wedi’u lleoli yng Nghymru. Mae’r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig i bwysleisio ei fod yn amhriodol i newid y tariffau ar 12 Rhagfyr, cyn y bydd yr ymgynghoriad ar y newidiadau yn cwblhau ar 23 Rhagfyr. Mae’n siŵr gennyf y gwneir sylwadau pellach yn y Siambr ynglŷn â hyn i’r Prif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

 

Lindsay Whittle: Minister, last week, Mohammad Asghar and I met the parents of six autistic young adults who are tenants of Charter Housing Association at Tŷ Nant in Newport, where we heard about serious issues with flats that are far too hot in summer, too cold in winter, where there is a lack of hot water to properties and major concerns with utility bills. This has been a continuous problem for the five and a half years in which they have been tenants of this housing association, and the parents, tenants and the National Autistic Society Cymru are being constantly fobbed off. May we request that the Minister for Housing, Regeneration and Heritage ensures that registered social landlords provide adequate responses to tenants and their representatives in a specific period of time, because this is consuming people’s lives and is simply not acceptable? If this is not forthcoming, funding to these RSLs must be withheld.

 

Lindsay Whittle: Weinidog, yr wythnos diwethaf, cyfarfu Mohammad Asghar a minnau â rhieni chwe oedolyn ifanc awtistig sy’n denantiaid Cymdeithas Tai Charter yn Nhŷ Nant yng Nghasnewydd, lle y clywsom am faterion difrifol ynghylch fflatiau sydd yn llawer yn rhy boeth yn yr haf, yn rhy oer yn y gaeaf, lle mae prinder dŵr poeth i aelwydydd a phryderon mawr gyda biliau cyfleustodau. Mae hyn wedi bod yn broblem barhaus ers y pum mlynedd a hanner y maent wedi bod yn denantiaid o’r gymdeithas dai hon, a theimla’r rhieni, y tenantiaid a Chymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru bod llwch wedi cael ei daflu i’w llygaid drwy’r amser. A allwn ofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth sicrhau bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn darparu ymatebion digonol i’r tenantiaid a’u cynrychiolwyr mewn cyfnod penodol o amser, oherwydd mae hyn yn afradu bywydau pobl ac nid yw’n dderbyniol? Os nad yw hwn ar y gweill, rhaid atal cyllid i’r landlordiaid hyn.

 

Jane Hutt: I am sure that the Member for Caerphilly that the regulation—[Assembly Members: ‘Oh.’] Apologies to the Member for Caerphilly. Back to Lindsay Whittle’s important question, this is where the regulation of RSLs is critical. I am sure that the Minister for Housing, Regeneration and Heritage is mindful of this, and I am sure that you will have made your representation to that particular housing association.

 

Jane Hutt: Mae’n siŵr gennyf bod yr Aelod dros Gaerffili y mae’r rheoliad—[Aelodau’r Cynulliad: ‘O.’] Ymddiheuriadau i’r Aelod dros Gaerffili. Yn ôl i gwestiwn pwysig Lindsay Whittle, dyma lle y mae rheoleiddio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn hanfodol. Mae’n siŵr gennyf bod y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn ymwybodol o hyn, ac mae’n siŵr gennyf eich bod wedi gwneud eich cynrychiolaeth i’r gymdeithas dai benodol honno.

 

Kirsty Williams: Will the Leader of the House schedule time for a debate on the process for school reorganisation and consultation? I know that the Minister for Education and Skills places great store on local authorities consulting properly with communities during the process of school reorganisation, and I am sure that the Minister would be concerned to hear that the assurances given to the parents of pupils at Ysgol Cynlais in Ystradgynlais that their children will be able to move as a single cohort to a new school, which is being financed by investment from the Welsh Government, are quickly disintegrating. There is a great deal of concern among parents of pupils in that school that what they were promised during the consultation process is not now the case. We need to send a clear message to people involved in the consultation process that there is genuine consultation, and that promises given during that process will be kept by local authorities, bearing in mind that people accept what can be quite difficult change.

 

Kirsty Williams: A wnaiff Arweinydd y Tŷ drefnu amser ar gyfer dadl ar y broses ar gyfer ad-drefnu ysgolion ac ymgynghori? Gwn fod y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn gosod pwys mawr ar awdurdodau lleol yn ymgynghori’n briodol â chymunedau yn ystod y broses ad-drefnu ysgolion, ac mae’n siŵr gennyf y byddai’r Gweinidog yn bryderus o glywed bod y sicrwydd a roddwyd i rieni disgyblion yn Ysgol Cynlais yn Ystradgynlais y bydd eu plant yn gallu symud fel un garfan i ysgol newydd, sydd yn cael ei hariannu drwy fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, yn chwalu’n gyflym. Mae llawer iawn o bryder ymysg rhieni’r disgyblion yn yr ysgol honno nad yw’r hyn a addawyd yn ystod y broses ymgynghori yn wir, bellach. Mae angen inni anfon neges glir i bobl sy’n rhan o’r broses ymgynghori bod ymgynghori gwirioneddol, ac y bydd addewidion a roddwyd yn ystod y broses honno’n cael eu cadw gan awdurdodau lleol, o gofio bod pobl yn derbyn yr hyn a all fod yn newid anodd.

 

Jane Hutt: The leader of the Welsh Liberal Democrats will know how rigorous the expectations are of local authorities to conduct these consultations robustly. I am sure that this will be the case in terms of that particular instance in her constituency.

 

Jane Hutt: Bydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gwybod pa mor drwyadl yw disgwyliadau awdurdodau lleol i gynnal yr ymgynghoriadau hyn yn gadarn. Mae’n siŵr gennyf y bydd hyn yn wir o ran yr achos arbennig hwnnw yn ei hetholaeth hi.

 

Antoinette Sandbach: Minister, recent changes have been announced to the Tir Mynydd scheme, which your Government’s Deputy Minister for Agriculture, Food, Fisheries and European Programmes has effectively abolished. These will result in less favoured area payments being removed from farmers unless they enter the Glastir scheme. There will be a substantial distribution of income from those farming in the less favoured areas to those farming in more lowland areas. There has not been an opportunity to question the Deputy Minister and debate this in the Chamber. There is an opportunity for questions from the Environment and Sustainability Committee, but given the amount of Members in the Chamber who represent farming areas, I invite you to schedule time for the Deputy Minister to come to the Chamber to make a statement.

 

Antoinette Sandbach: Weinidog, cyhoeddwyd newidiadau yn ddiweddar i’r cynllun Tir Mynydd, y gwnaeth Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd eich Llywodraeth ei ddiddymu. Bydd hyn yn arwain at lai o daliadau ardaloedd llai ffafriol yn cael eu tynnu oddi wrth ffermwyr os nad ânt i mewn i’r cynllun Glastir. Bydd dosbarthiad sylweddol o incwm o’r rhai sy’n ffermio yn yr ardaloedd llai ffafriol i’r rhai sy’n ffermio mewn ardaloedd mwy isel. Ni fu cyfle i holi’r Dirprwy Weinidog a dadlau hyn yn y Siambr. Mae cyfle ar gyfer cwestiynau yn y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, ond o ystyried faint o Aelodau yn y Siambr sydd yn cynrychioli ardaloedd ffermio, rwy’n eich gwahodd i drefnu amser ar gyfer y Dirprwy Weinidog i ddod i’r Siambr i wneud datganiad.

 

Jane Hutt: I am aware that the Member for North Wales has taken opportunities to raise this matter with the Deputy Minister. She will know that the Deputy Minister has written to the Assembly’s Environment and Sustainability Committee to outline those changes, which will increase the Glastir payment rates. He has also written to all farmers taking part in the scheme to advise them of the new higher rate. It is important to recognise that the payment rate for every single farmer in Glastir will increase as a result of the changes that have been announced.

 

Jane Hutt: Yr wyf yn ymwybodol bod yr Aelod dros Ogledd Cymru wedi cymryd cyfleoedd i godi’r mater hwn gyda’r Dirprwy Weinidog. Bydd yn ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog wedi ysgrifennu at Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad i amlinellu’r newidiadau hynny, a fydd yn cynyddu cyfraddau taliad Glastir. Mae hefyd wedi ysgrifennu at bob ffermwr sy’n cymryd rhan yn y cynllun i’w cynghori ar y gyfradd uwch newydd. Mae’n bwysig cydnabod y bydd y gyfradd dâl ar gyfer pob un ffermwr yn Glastir yn cynyddu o ganlyniad i’r newidiadau sydd wedi’u cyhoeddi.

 

Elin Jones: Siom oedd clywed atebion y Prif Weinidog y prynhawn yma i gwestiynau Ken Skates a finnau am enw parth uchaf i Gymru. Byddwn yn disgwyl y byddai Llywodraeth Cymru yn dymuno sicrhau cais i’r Internet Corporation for Assigned Names and Numbers i gael enwau .cymru yn ogystal â .wales. Bydd cyfle i gyflwyno cais i ICANN y flwyddyn nesaf, ond ni fydd cyfle tebyg am sawl blwyddyn wedi hynny. Mae hwn yn fater o ddiddordeb i’r Llywodraeth, yn amlwg, ond byddwn yn gobeithio ei fod o ddiddordeb i Aelodau Cynulliad ar draws y pleidiau ac i bobl Cymru yn gyffredinol. Yn ogystal, nid yw’n fater economaidd yn unig. Felly, gofynnaf i’r Gweinidog drefnu amser i’r Prif Weinidog ddod â datganiad neu ddadl i’r Siambr inni gael trafodaeth lawn ar sefydlu parthau .cymru a .wales ar gyfer Cymru.

 

Elin Jones: I was disappointed to hear the First Minister’s responses to questions from both Ken Skates and myself on a high-level domain name for Wales. I would have expected the Welsh Government to have wanted to make an application to the Internet Corporation for Assigned Names and Numbers for the .cymru and .wales domain names. There will be an opportunity to make an application to ICANN next year, but a similar opportunity will not then arise for a number of years. This is a matter of interest to Government, obviously, but I would hope that it is of interest to Assembly Members of all parties and to the people of Wales more generally. Furthermore, it is not solely an economic issue. Therefore, I ask the Minister to schedule time for the First Minister to make a statement or to bring a debate to the Chamber so that we can have a comprehensive discussion on establishing the .cymru and .wales domain names for Wales.

 

Jane Hutt: Clearly, the Member has raised this issue with the First Minister this afternoon. All that I can add is that we have to be clear about technical competence and the fact that any development has to be financially robust, but I am sure that the Member’s views will be considered.

 

Jane Hutt: Wrth gwrs, mae’r Aelod wedi codi’r mater hwn gyda’r Prif Weinidog y prynhawn yma. Y cyfan y gallaf ei ychwanegu yw bod yn rhaid inni fod yn glir ynghylch cymhwysedd technegol a’r ffaith bod yn rhaid i unrhyw ddatblygiad fod yn ariannol gadarn, ond mae’n siŵr gennyf y bydd barn yr Aelod yn cael ei hystyried.

 

Eluned Parrott: Minister, I am sure that you are aware of a Westminster consultation that has recently been launched on the subject of changing the UK’s clocks to make the most of the available natural light, which I am sure that you will agree feels less than fulsome right now. Will you schedule a debate in Government time to help us to shape a response that represents the whole of the National Assembly and, hopefully, a consensus across the Chamber?

 

Eluned Parrott: Weinidog, mae’n siŵr gennyf eich bod yn ymwybodol o ymgynghoriad gan San Steffan a lansiwyd yn ddiweddar ar y pwnc o newid clociau’r DU i wneud y mwyaf o’r golau naturiol sydd ar gael, ac mae’n siŵr gennyf y byddwch yn cytuno bod hynny’n teimlo’n llai na hael ar hyn o bryd. A wnewch chi drefnu dadl yn amser y Llywodraeth i’n helpu i lunio ymateb sy’n cynrychioli’r Cynulliad Cenedlaethol cyfan a, gobeithio, consensws ar draws y Siambr?

 

Jane Hutt: I appreciate that this is a private Member’s Bill that attracted some attention last week when the clocks went back. It would be premature at this stage, but I am sure that full time will be made available for consultation, which will include the Chamber, if this comes before us.

 

Jane Hutt: Yr wyf yn sylweddoli mai Bil Aelod Unigol yw hwn a wnaeth ddenu rhywfaint o sylw’r wythnos diwethaf, pan aeth y clociau yn ôl. Byddai’n gynamserol ar hyn o bryd, ond mae’n siŵr gennyf y bydd amser llawn yn cael ei ganiatáu ar gyfer ymgynghori, a fydd yn cynnwys y Siambr, os daw hyn ger ein bron.

 

Mark Isherwood: I call for a Welsh Government statement on its support for independent domestic violence advisers. These advisers depend on funding from both the Home Office and the Welsh Government. The funding application for the Home Office invites voluntary organisations to put a case for providing funding in advance of expenditure, which the Welsh Government does not do. In fact, the advisers that I have spoken to received confirmation of funding for 2011-12 in March with the possibility of annual renewal up to 2014-15. That option for renewal does not exist in Wales, and they have to go through the whole application process again. Further, their applications in December 2010 did not produce funding from the Welsh Government until October 2011 for 2011-12, and they now have to start the whole process again. They point out that their role is essential in supporting people through the criminal justice system, and that, without them, prosecutions would not be seen through with a high cost in terms of withdrawals and retractions of prosecutions. They have said that their role is pivotal and instrumental and that the Welsh Government must come up with some solutions. Otherwise, it will cost Welsh Government departments a lot more money not to have tackled the issue. The issue is not just whether you will continue to support them, but whether you will address these concerns so that they can be given sustainable funding to ensure that their vital role can continue in the future.

 

Mark Isherwood: Galwaf am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei chymorth ar gyfer cynghorwyr annibynnol ar drais domestig. Mae’r cynghorwyr hyn yn dibynnu ar gyllid gan y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru. Mae cais am gyllid y Swyddfa Gartref yn gwahodd sefydliadau gwirfoddol i gyflwyno achos ar gyfer darparu cyllid cyn gwariant, ac nid yw Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn. Yn wir, cafodd y cynghorwyr y siaredais i â hwy gadarnhad o’r cyllid ar gyfer 2011-12 ym mis Mawrth, gyda’r posibilrwydd o adnewyddu blynyddol hyd at 2014-15. Nid yw’r opsiwn hwnnw ar gyfer adnewyddu yn bodoli yng Nghymru, a rhaid iddynt fynd drwy’r broses gyfan o wneud cais eto. Ymhellach, nid oedd eu ceisiadau ym mis Rhagfyr 2010 yn cynhyrchu cyllid gan Lywodraeth Cymru tan Hydref 2011 ar gyfer 2011-12, ac y mae’n rhaid iddynt bellach gychwyn y broses gyfan unwaith eto. Maent yn nodi bod eu rôl yn hanfodol wrth gynorthwyo pobl drwy’r system cyfiawnder troseddol, a hebddynt, ni fyddai erlyniadau yn cael eu dilyn trwyddo, gyda chostau uchel o ran tynnu’r erlyniadau yn eu hôl. Maent wedi dweud bod eu rôl yn hollbwysig ac yn allweddol a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru feddwl am rai atebion. Fel arall, byddai’n costio llawer mwy o arian i adrannau Llywodraeth Cymru drwy beidio â mynd i’r afael â’r mater. Nid mater ohonoch chi yn parhau i’w cefnogi ai peidio ydyw, ond cwestiwn pa un ai a fyddwch yn ymateb i’r pryderon hyn ai peidio fel y gellir rhoi iddynt gyllid cynaliadwy i sicrhau y gall eu rôl hanfodol barhau yn y dyfodol.

 

Jane Hutt: Mark Isherwood may wish to make his representations to his colleagues in the UK coalition Government on that issue, because we have supported the independent domestic violence advisors. We have worked in partnership in relation to Home Office funding. Not only are we protecting our strategy and funding to tackle violence against women and the domestic abuse strategy, but we see that, over the border, the stream of funding for safer communities is being slashed, whereas we are delivering on our commitment to that.

 

Jane Hutt: Efallai yr hoffai Mark Isherwood gyflwyno ei sylwadau i’w gydweithwyr yn Llywodraeth glymblaid y Deyrnas Unedig ar y mater hwnnw, oherwydd yr ydym ni wedi cefnogi cynghorwyr annibynnol ar drais domestig. Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth yng nghyswllt cyllid y Swyddfa Gartref. Nid yn unig ein bod yn diogelu ein strategaeth a’n cyllid i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a’r strategaeth cam-drin domestig, ond rydym yn gweld, dros y ffin, bod y ffrwd ariannu ar gyfer cymunedau mwy diogel yn cael eu torri, tra’r ydym yn cyflawni ein hymrwymiad i hynny.

 

Bethan Jenkins: Minister, could we have a statement on whether the Welsh Government’s views have changed in relation to the UK Government’s current discussion on raising the speed limit on motorways to 80 mph, in the light of the tragic incident on the M5 over the weekend? The conditions on many roads in Wales are still very bad, especially given the weather that we have. Will you make representations to the UK Government, stating that we would be opposed to raising the speed limit?

 

Bethan Jenkins: Weinidog, a allwn gael datganiad ar ba un ai a ydyw barn Llywodraeth Cymru wedi newid mewn perthynas â thrafodaethau presennol Llywodraeth y DU ar godi’r terfyn cyflymder ar draffyrdd i 80 milltir yr awr, yng ngoleuni’r digwyddiad trasig ar yr M5 dros y penwythnos? Mae’r amodau ar nifer o ffyrdd yng Nghymru yn dal yn wael iawn, yn enwedig o ystyried ein tywydd. A wnewch chi sylwadau i Lywodraeth y DU, gan ddweud y byddem yn gwrthwynebu codi’r terfyn cyflymder?

 

I would also like a statement on the Government’s response to the Family Justice Review that has just been published by the UK Government. I understand that the UK Government has said that it would not necessarily implement all of the recommendations, but we all know that there is a contentious and complex issue regarding the rights of fathers and mothers in this piece of work. I would welcome a statement from the Government on this issue.

 

Hoffwn gael datganiad hefyd ar ymateb y Llywodraeth i’r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol sydd newydd ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU. Deallaf fod Llywodraeth y DU wedi dweud na fyddai o reidrwydd yn gweithredu’r holl argymhellion, ond gwyddom oll bod mater cymhleth a dadleuol ynghylch hawliau tadau a mamau yn y darn hwn o waith. Byddwn yn croesawu datganiad gan y Llywodraeth ar y mater hwn.

 

Jane Hutt: It is appropriate at this point in time, Llywydd, to express our deepest sympathies to the family and friends of Tony and Pamela Adams, a retired couple from Newport, who were tragically killed in the horrific crash on the M5 on Friday night. The Minister with responsibility for transport will have to consider and receive reports on the speed limit issue, along with the Assembly, as regards what that means for speed limits. However, this is a point at which we can express our sympathies following the horrific crash on Friday.

 

Jane Hutt: Mae’n briodol ar y pwynt hwn, Lywydd, i fynegi ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau Tony a Pamela Adams, cwpwl a oedd wedi ymddeol o Gasnewydd, a laddwyd yn drasig mewn damwain erchyll ar yr M5 nos Wener. Bydd yn rhaid i’r Gweinidog â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth ystyried a derbyn adroddiadau ar y mater terfyn cyflymder, ynghyd â’r Cynulliad, o ran yr hyn y mae’n ei olygu ar gyfer cyfyngiadau cyflymder. Fodd bynnag, mae hwn yn bwynt y gallwn fynegi ein cydymdeimlad yn dilyn y ddamwain erchyll nos Wener.

 

On your second point, the Deputy Minister for Children and Social Services has taken a keen interest in the Family Justice Review, and I know that she is watching it carefully.

 

Ar eich ail bwynt, mae’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymryd diddordeb brwd yn yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol, a gwn ei bod hi’n ei wylio’n ofalus.

 

Datganiad: Llythrennedd
Statement: Literacy

 

The Minister for Education and Skills (Leighton Andrews): In February 2011, I set out 20 priorities to tackle underperformance in education in Wales, which included a commitment to focus on literacy and numeracy. This statement provides an update on the progress of the National Literacy Programme and outlines the series of actions that the Welsh Government and its partners are taking to achieve a step change in standards of literacy over the next five years.

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau (Leighton Andrews): Ym mis Chwefror 2011, amlinellais 20 o flaenoriaethau i fynd i’r afael â thanberfformiad mewn addysg yng Nghymru, a oedd yn cynnwys ymrwymiad i ganolbwyntio ar lythrennedd a rhifedd. Mae’r datganiad hwn yn rhoi diweddariad ar gynnydd y Rhaglen Llythrennedd Cenedlaethol ac y mae’n amlinellu cyfres o gamau y mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid yn eu cymryd i gyflawni newid sylfaenol mewn safonau llythrennedd dros y pum mlynedd nesaf.

 

Our programme for government states that our aim for education is to help everyone reach their potential, to reduce inequality, and to improve economic and social wellbeing. One of the key ways to ensure that this aim is achieved is by improving education provision for all learners and specifically by improving standards of literacy. Literacy describes a set of skills, including speaking, listening, reading and writing, which enable us to make sense of the world around us. Literacy is more than decoding words on a page or writing grammatically correct sentences. Literacy is about understanding written and spoken language, interpreting what has been written or said, drawing inferences from evidence and being able to communicate effectively. The National Literacy Programme is a five-year programme of action to transform standards of literacy in Wales. It requires that every school in Wales be focused on the development of literacy skills. The groundwork for literacy skills is laid in the early years of primary school. For this reason, we need to ensure that children receive consistently high-quality teaching in the foundation phase, in order to reduce the number of pupils struggling with literacy skills later on in their education. The primary focus of the National Literacy Programme is on increasing the number of children who are taught well first time, and decreasing the number who need individual support to help them catch up or plug gaps in their knowledge and understanding. While our targeted intervention grants have already helped 7,000 primary school children, there is still much to do. To ensure that each child is given every opportunity to succeed, extra support is needed for those falling behind. We will build on the success of current intervention programmes by exploring how they help pupils at risk of falling behind, or those not achieving their potential.

 

Mae ein rhaglen lywodraethu yn datgan mai ein nod ar gyfer addysg yw helpu pawb i gyrraedd eu potensial, lleihau anghydraddoldeb, a gwella lles economaidd a chymdeithasol. Un o’r ffyrdd allweddol o sicrhau y cyflawnir y nod hwn yw drwy wella’r ddarpariaeth addysg ar gyfer pob dysgwr ac yn benodol drwy wella safonau llythrennedd. Mae llythrennedd yn disgrifio cyfres o sgiliau, gan gynnwys siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu, sy’n ein galluogi i wneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas. Mae llythrennedd yn fwy na datgodio geiriau ar dudalen neu ysgrifennu brawddegau yn ramadegol gywir. Mae llythrennedd yn ymwneud â deall iaith ysgrifenedig a llafar, dehongli’r hyn a ysgrifennir neu a ddywedir, gan dynnu casgliadau o dystiolaeth a gallu cyfathrebu’n effeithiol. Mae’r Rhaglen Llythrennedd Genedlaethol yn rhaglen bum mlynedd o weithredu i drawsnewid safonau llythrennedd yng Nghymru. Mae’n gofyn bod pob ysgol yng Nghymru yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau llythrennedd. Gosodir y sylfaen ar gyfer sgiliau llythrennedd yn y blynyddoedd cynnar yr ysgol gynradd. Am y rheswm hwn, mae angen inni sicrhau bod plant yn cael addysg o ansawdd uchel yn gyson yn y cyfnod sylfaen, er mwyn lleihau’r nifer o ddisgyblion sy’n cael trafferthion gyda sgiliau llythrennedd yn ddiweddarach yn eu haddysg. Prif ffocws y Rhaglen Llythrennedd Genedlaethol yw cynyddu nifer y plant a addysgir yn dda y tro cyntaf, a gostwng y nifer sydd angen cymorth unigol i’w helpu i ddal i fyny neu lenwi bylchau yn eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth. Tra bod ein grantiau ymyrraeth sydd wedi’u targedu eisoes wedi helpu 7,000 o blant ysgol gynradd, mae llawer i’w wneud eto. Er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael pob cyfle i lwyddo, mae angen cymorth ychwanegol ar gyfer y rhai sydd ar ei hôl hi. Byddwn yn adeiladu ar lwyddiant y rhaglenni ymyrraeth presennol drwy archwilio sut y maent yn helpu disgyblion sydd mewn perygl o syrthio yn ôl, neu’r rheiny nad ydynt yn cyrraedd eu potensial.

 

2.45 p.m.

 

We will require all teachers to be accomplished teachers of literacy. To achieve this in all schools will require a more systematic approach to developing the skills of the whole workforce in the teaching and learning of literacy skills. We will establish a national approach to professional development in literacy through initial teacher training, induction and continuing professional development. International research has emphasised the importance of having high expectations of teachers and quality continuous professional development for improving standards in schools.

 

Bydd gofyn i bob athro i fod yn athro llythrennedd medrus. Byddai cyflawni hyn ym mhob ysgol angen dull mwy systematig i ddatblygu sgiliau’r gweithlu cyfan mewn addysgu a dysgu sgiliau llythrennedd. Byddwn yn sefydlu ymagwedd genedlaethol at ddatblygiad proffesiynol mewn llythrennedd drwy hyfforddiant cychwynnol athrawon, cynefino a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae ymchwil rhyngwladol wedi pwysleisio pwysigrwydd cael disgwyliadau uchel o athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus o ansawdd ar gyfer gwella safonau mewn ysgolion.

 

The school standards unit will monitor literacy as one of its key priorities. We will strengthen the performance management system for both headteachers and teachers to reflect literacy priorities and give local authorities a direct role in the process. My department is working with the Welsh Local Government Association and local authority consortia to set targets in literacy based on their key priorities as identified in their self-evaluation.

 

Bydd yr uned safonau ysgolion yn monitro llythrennedd fel un o’i blaenoriaethau allweddol. Byddwn yn cryfhau’r system rheoli perfformiad ar gyfer penaethiaid ac athrawon i adlewyrchu blaenoriaethau llythrennedd a rhoi rôl uniongyrchol yn y broses i awdurdodau lleol. Mae fy adran yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r consortia awdurdodau lleol i osod targedau llythrennedd yn seiliedig ar eu blaenoriaethau allweddol fel y nodwyd yn eu hunan-werthusiad.

 

My department has already begun work on developing a new national literacy and numeracy framework so that it becomes a focus for teaching and learning in every school and has a central role in the acquisition of literacy skills. The framework will identify end-of-year expectations in literacy and numeracy for all pupils aged five to 14. The national literacy and numeracy framework will be implemented on a voluntary basis from September 2012 and on a statutory basis from September 2013.

 

Mae fy adran eisoes wedi dechrau gweithio ar ddatblygu fframwaith rhifedd a llythrennedd cenedlaethol newydd fel ei bod yn ffocws ar gyfer addysgu a dysgu ym mhob ysgol ac â rôl ganolog yng nghaffaeliad sgiliau llythrennedd. Bydd y fframwaith yn nodi disgwyliadau diwedd y flwyddyn mewn llythrennedd a rhifedd ar gyfer pob disgybl rhwng pump a 14 oed. Bydd y fframwaith llythrennedd a rhifedd cenedlaethol yn gweithredu ar sail wirfoddol o fis Medi 2012 ymlaen ac yn statudol o fis Medi 2013 ymlaen.

 

My officials have met representatives of the Association of Directors of Education in Wales on a regular basis to develop specific performance-based standards for literacy and numeracy. These standards will define what children should be able to achieve in literacy and numeracy on a year-by-year basis. They will also be used to help to align expectations for literacy across the curriculum, and will strengthen the assessment system to provide reliable data to inform progress.

 

Mae fy swyddogion wedi cwrdd â chynrychiolwyr Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru yn rheolaidd i ddatblygu safonau penodol, sy’n seiliedig ar berfformiad, ar gyfer llythrennedd a rhifedd. Bydd y safonau hyn yn diffinio’r hyn y dylai plant allu ei gyflawni mewn llythrennedd a rhifedd o flwyddyn i flwyddyn. Byddant hefyd yn cael eu defnyddio i helpu cysoni disgwyliadau ar gyfer llythrennedd ar draws y cwricwlwm, a byddant yn cryfhau’r system asesu i ddarparu data dibynadwy i lywio cynnydd.

 

Alongside the national literacy and numeracy framework, we will introduce national reading tests. The tests will be implemented on a statutory basis ready for the first sitting in May 2013. I am pleased that, as an interim step, the Association of Directors of Education in Wales has agreed to implement reading tests on a voluntary basis from September this year, with a view to all local authorities adopting testing on a voluntary basis in this academic year.

 

Ochr yn ochr â’r fframwaith rhifedd a llythrennedd cenedlaethol, byddwn yn cyflwyno profion darllen cenedlaethol. Bydd y profion ar waith yn statudol, yn barod ar gyfer y garfan gyntaf i’w sefyll ym mis Mai 2013. Yr wyf yn falch bod Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru wedi cytuno, yn y cyfamser, i weithredu’r profion darllen yn wirfoddol o fis Medi eleni, gyda golwg ar bob awdurdod lleol yn mabwysiadu’r profion ar sail wirfoddol yn y flwyddyn academaidd hon.

 

We have recently initiated a competitive procurement exercise for the development, publication and distribution of the new national reading tests in Welsh and English. The specifications have been released and we hope to sign the contract in January 2012. All pupils in years 2 to 9 will be required to sit the reading tests.

 

Yn ddiweddar, rydym wedi dechrau ymarfer caffael cystadleuol ar gyfer datblygu, cyhoeddi a dosbarthu’r profion darllen cenedlaethol newydd yn Gymraeg a Saesneg. Rhyddhawyd y manylebau a gobeithiwn lofnodi’r cytundeb ym mis Ionawr 2012. Bydd yn ofynnol ar bob disgybl ym mlynyddoedd 2 i 9 i sefyll y profion darllen.

 

As a Government, we are setting deliberately aspirational targets for practitioners and pupils in relation to teaching and learning, and in turn have set ourselves ambitious targets to implement change successfully in our education system as a whole. Through the national literacy programme, we have put together an impressive agenda set against challenging deadlines. I intend to update Members on a regular basis in order that our vision is shared, supported and fully realised.

 

Fel Llywodraeth, rydym yn gosod targedau uchelgeisiol yn fwriadol ar gyfer ymarferwyr a disgyblion mewn perthynas ag addysgu a dysgu, ac yn ei dro wedi pennu targedau uchelgeisiol i ni ein hunain i weithredu’r newid yn llwyddiannus yn ein system addysg yn ei chyfanrwydd. Drwy’r rhaglen llythrennedd genedlaethol, rydym wedi llunio agenda trawiadol yn erbyn terfynau amser heriol. Bwriadaf roi diweddariad i Aelodau yn rheolaidd er mwyn rhannu, cefnogi a gwireddu’n llawn ein gweledigaeth.

 

Angela Burns: Minister, I thank you for this statement. In your speech on 2 February this year, you said:

 

Angela Burns: Weinidog, diolch ichi am y datganiad hwn. Yn eich araith ar 2 Chwefror eleni, dywedasoch:

 

‘We stand on the shoulders of giants. We owe it to them to ensure that our education system in Wales lives up to the aspirations that they had’.

 

Rydym yn sefyll ar ysgwyddau cewri. Mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau bod ein system addysg yng Nghymru yn gwireddu’r dyheadau a oedd ganddynt.

 

I support you on that comment 100 per cent and I support you regarding the development of a national literacy programme. Given that most of the rest of what I am about to say is also to agree with you, I will have a quick pop now, not at you, but at your Government. We have to say, ‘Well done, Minister’, for facing up to this difficult challenge, because previous Ministers have ducked these issues, failed to see an impending problem, failed to avoid it once they had spotted it, and having spotted it, they failed to sort it out. We welcome the statement as a fresh start for pupils and adults in Wales who cannot read, write or add up properly. It behoves us all to remember how important this is. We need to ensure that our young people have every available opportunity to make the best of their lives and get the jobs that they need. We also need to remove the stigma that haunts so many people because they cannot read and write properly. That is really important. Therefore, I support you on this—extremely so.

 

Rwyf yn eich cefnogi ar y sylw hwnnw 100 y cant ac yn eich cefnogi ynghylch datblygu rhaglen llythrennedd genedlaethol. O ystyried bod y rhan fwyaf o weddill yr hyn yr wyf am ei ddweud hefyd i gytuno â chi, byddaf yn ymosod yn glou yn awr, nid arnoch chi, ond ar eich Llywodraeth. Rhaid inni ddweud, ‘Da iawn, Weinidog’, am wynebu’r her anodd hon, oherwydd mae Gweinidogion blaenorol wedi osgoi’r materion hyn, wedi methu â gweld problem sydd ar fin digwydd, wedi methu â’i osgoi unwaith y maent wedi sylwi arni, ac wrth sylwi arni, wedi methu â’i datrys. Croesawn y datganiad fel cychwyn newydd ar gyfer disgyblion ac oedolion yng Nghymru na allant ddarllen, ysgrifennu na adio’n iawn. Mae’n ddyletswydd arnom i gyd i gofio pa mor bwysig yw hyn. Mae angen inni sicrhau bod pob cyfle ar gael i’n pobl ifanc wneud y gorau o’u bywydau a chael y swyddi y mae arnynt eu hangen. Mae angen inni hefyd gael gwared ar y stigma sydd yn hunllef i gynifer o bobl oherwydd ni allant ddarllen nac ysgrifennu’n iawn. Mae hynny’n wirioneddol bwysig. Felly, rwyf yn eich cefnogi’n galonogol.

 

I particularly want to draw people’s attention to the third paragraph of your statement about what literacy is, because it is not just about being able to read simple words off a sheet; it is about understanding and comprehending what is written and about giving people the drive and the skills to go forward to get the information that they need. We can no longer have engineers who cannot write simple reports, retail staff who cannot use basic mental arithmetic to give you your change or teachers who cannot spell correctly.

 

Hoffwn dynnu sylw pobl yn arbennig at drydydd paragraff eich datganiad ynghylch beth yw llythrennedd, oherwydd nid dim ond mater o allu darllen geiriau syml oddi ar dudalen ydyw; mae’n ymwneud â deall yr hyn a ysgrifennwyd a rhoi’r ysgogiad a’r sgiliau i bobl i symud ymlaen a chael y wybodaeth y mae arnynt ei hangen. Ni allwn gael peirianwyr na all ysgrifennu adroddiadau syml bellach, staff manwerthu sy’n methu â defnyddio’r rhifyddeg meddwl sylfaenol er mwyn gallu rhoi eich newid ichi, nac athrawon na all sillafu’n gywir.

 

Minister, I have a few questions for you and you might have an opportunity to give me some of the answers today, but if you do not, maybe you could do so at a later date. First, you talk about all teachers being accomplished teachers of literacy. Will teachers be asked to have annual assessments of their literacy and numeracy skills? Will you also put in place a programme to ensure that learning support assistants, who are in many schools and who are an invaluable part of the school education programme, also have the correct literacy and numeracy skills? Therefore, will they be regularly assessed or encouraged to develop those skills, so that when they are aiding a teacher, particularly in group work, they have the skills needed to be able to support that teacher in literacy and numeracy?

 

Weinidog, mae gennyf rai cwestiynau i chi ac efallai y cewch gyfle i roi rhai o’r atebion heddiw, ond os na chewch, efallai y gallech wneud hynny yn ddiweddarach. Yn gyntaf, rydych yn sôn am bob athro yn athro llythrennedd medrus. A fydd gofyn i athrawon gael asesiadau blynyddol o’u sgiliau llythrennedd a rhifedd? A fyddwch hefyd yn rhoi ar waith rhaglen i sicrhau bod cynorthwywyr cymorth dysgu, sydd mewn llawer o ysgolion ac sydd yn rhan werthfawr o’r rhaglen addysg ysgolion, hefyd â’r sgiliau llythrennedd a rhifedd cywir? Felly, a fyddant yn cael eu hasesu’n rheolaidd neu eu hannog i ddatblygu’r sgiliau hynny, fel bod ganddynt, pan fyddant yn cynorthwyo athro, yn enwedig mewn gwaith grŵp, y sgiliau angenrheidiol i allu cefnogi’r athro hwnnw mewn llythrennedd a rhifedd?

 

You went on to talk about the development of this programme and I want to talk about the variability in teaching practice and how you might be able to address that. I agree that the different ways that schools are run does not mean that we should abdicate responsibility for ensuring that everyone reaches a national standard, but my concern is that, by having a national standard, we might overly penalise schools that have good methodology, but in a different way. You have said that the provision of the foundation phase, for example, must not be an excuse for having poor reading, writing and arithmetic skills. I agree with that a 100 per cent. We also do not want to chuck the baby out with the bathwater and move away from the ethos behind the foundation phase, which is to allow children to grow at their own pace. It is therefore about marrying that up.

 

Aethoch ymlaen i sôn am ddatblygu’r rhaglen hon ac yr wyf am siarad am yr amrywiadau mewn ymarfer dysgu a sut, efallai, y gellir ymdrin â hynny. Cytunaf nad yw’r gwahanol ffyrdd y caiff ysgolion eu rhedeg yn golygu y dylid gwrthod cyfrifoldeb am sicrhau bod pawb yn cyrraedd safon genedlaethol, ond fy mhryder i yw, drwy gael safon genedlaethol, y gallwn gosbi’n ormodol yr ysgolion sydd â methodoleg dda, ond mewn ffordd wahanol. Yr ydych wedi dweud na ddylai darpariaeth y cyfnod sylfaen, er enghraifft, fod yn esgus dros gael sgiliau darllen, ysgrifennu a rhifyddeg wael. Cytunaf â hynny 100 y cant. Hefyd, nid ydym am daflu’r llo a chadw’r brych a symud oddi wrth yr ethos sydd wrth wraidd y cyfnod sylfaen, sef caniatáu plant i dyfu ar eu cyflymder eu hunain. Felly, mae’n ymwneud â chyfuno hynny.

 

Could you give us more detail about who will receive the data on the annual reading tests? Who will receive and evaluate the data? Will the data be kept within the school or will they go to local education authorities? Will there be a reading test every year for every year group? Will it also be about comprehension, not simply about reading? Towards the end of your statement, you said that you hoped to sign a contract for this to be started in January 2012 and that all pupils in years 2 to 9 will be required to sit the reading test, but that there will be some flexibility in relation to Welsh-medium settings. Why is that flexibility needed and will it be extended to all schools, depending on their teaching methods? How will that affect teachers who already feel under great pressure and strain from endless assessments, and how will they be able to take this on board?

 

A allech chi roi rhagor o fanylion ynghylch pwy fydd yn derbyn y data ar y profion darllen blynyddol? Pwy fydd yn derbyn ac yn gwerthuso’r data? A fydd y data yn cael eu cadw o fewn yr ysgol, neu a fyddant yn mynd i awdurdodau addysg lleol? A fydd prawf darllen bob blwyddyn ar gyfer pob grŵp blwyddyn? A fydd hefyd yn ymwneud â dealltwriaeth, nid darllen yn unig? Tuag at ddiwedd eich datganiad, dywedasoch eich bod yn gobeithio llofnodi cytundeb er mwyn i hyn gychwyn ym mis Ionawr 2012 ac y bydd angen i bob disgybl ym mlynyddoedd 2 i 9 sefyll y prawf darllen, ond y ceir rhywfaint o hyblygrwydd mewn perthynas â lleoliadau cyfrwng Cymraeg. Pam y mae angen yr hyblygrwydd hwnnw ac a gaiff ei ymestyn i bob ysgol, gan ddibynnu ar eu dulliau addysgu? Sut y bydd hynny’n effeithio ar athrawon sydd eisoes yn teimlo o dan bwysau a straen mawr oherwydd asesiadau diddiwedd, a sut y byddant yn gallu gwneud hyn?

 

Finally, your statement does not touch upon the importance of parents. I am not just talking about the parents who are within programmes such as Flying Start, but all parents. Have you had any thoughts on how we might encourage the parents of all schoolchildren between the ages of five and 14 to aid their children when they are at home to read, write and count correctly?

 

Yn olaf, nid yw eich datganiad yn cyffwrdd ar bwysigrwydd rhieni. Nid wyf yn sôn yn unig am y rhieni sydd o fewn rhaglenni megis Dechrau’n Deg, ond pob rhiant. A ydych wedi cael unrhyw syniadau ar sut y gallem annog rhieni pob plentyn ysgol rhwng pump oed a 14 i gynorthwyo eu plant pan fyddant yn y cartref i ddarllen, ysgrifennu a chyfrif yn gywir?

 

Leighton Andrews: I welcome the 100 per cent support that the opposition spokesperson has offered me. She did say one or two critical things about the past and I must say to her at the beginning that my predecessors won support and finance for the foundation phase, the basic skills strategy and the 14-19 learning pathways, which have enabled us to introduce new routes into learning for many people. Therefore, I stand by the achievements of my predecessors in Government and previous Welsh Governments.

 

Leighton Andrews: Croesawaf y cymorth 100 y cant y mae llefarydd yr wrthblaid wedi ei gynnig imi. Dywedodd hi un neu ddau o bethau hanfodol am y gorffennol ac y mae’n rhaid imi ddweud wrthi ar y cychwyn y gwnaeth fy rhagflaenwyr ennill cefnogaeth a chyllid ar gyfer y cyfnod sylfaen, y strategaeth sgiliau sylfaenol a’r llwybr dysgu 14-19, sydd wedi ein galluogi i gyflwyno llwybrau newydd i ddysgu ar gyfer llawer o bobl. Felly, glynaf wrth yr hyn a gyflawnwyd gan fy rhagflaenwyr yn y Llywodraeth ac yn Llywodraethau blaenorol Cymru.

 

I now turn to the specific questions that she asked me. I am not looking at annual assessments of teachers in literacy and numeracy. However, I am looking for teachers, through their initial teacher training, to be assessed on their literacy and numeracy skills and for all teachers to be taught how to teach reading. We expect all teachers in future to be teachers of literacy. That is an important skill that we need to see developed in future teacher training programmes.

 

Trof yn awr at y cwestiynau penodol y gofynnodd imi. Nid wyf yn edrych ar asesiadau blynyddol llythrennedd a rhifedd athrawon. Fodd bynnag, yr wyf yn edrych ar athrawon, drwy eu hyfforddiant cychwynnol athrawon, i gael eu hasesu ar eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ac i bob athro gael eu haddysgu ar sut i addysgu darllen. Rydym yn disgwyl i bob athro yn y dyfodol fod yn athro llythrennedd. Mae hynny’n sgìl pwysig y mae angen inni weld yn cael ei ddatblygu mewn rhaglenni hyfforddi athrawon yn y dyfodol.

 

I agree with her about the importance of learning support assistants. In many cases, we know of examples where they have more expertise in the teaching of literacy than some teachers. Therefore, they are an important part of the education learning team in a school, and we will be announcing further steps in due course about the future professional development of all school staff. It is important that we develop a continuum of progression so that all those involved in the teaching and learning process, if I may put it like that, have an opportunity to graduate on to further qualifications and further stages in their careers.

 

Cytunaf â hi am bwysigrwydd cynorthwywyr cymorth dysgu. Mewn nifer o achosion, yr ydym yn gwybod am enghreifftiau lle y mae ganddynt fwy o arbenigedd mewn addysgu llythrennedd na rhai athrawon. Felly, maent yn rhan bwysig o’r tîm dysgu addysg mewn ysgol, a byddwn yn cyhoeddi rhagor o gamau maes o law ynghylch datblygiad proffesiynol holl staff yr ysgol yn y dyfodol. Mae’n bwysig inni ddatblygu continwwm dilyniant fel bod pawb sy’n cyfranogi yn y prosesau addysgu a dysgu, os caf ei roi felly, yn cael cyfle i raddio ymlaen i gymwysterau pellach a chamau pellach yn eu gyrfaoedd.

 

I understand the point that she made about not being overly standardised throughout this. It is essential that the foundation phase does not lead to a neglect of literacy and numeracy skills. In the best cases, teachers are finding creative ways of introducing literacy and numeracy through the different opportunities that the foundation phase offers. We certainly do not want to lose the basics of the foundation phase in what we do. I would expect local authorities and the consortia to look at the assessment of the reading tests annually. The schools standards unit in my department will be looking at the way in which they respond to that. All pupils from years 2 to 9 will sit these tests, and they will look at comprehension as well.

 

Deallaf y pwynt y gwnaeth am beidio â bod yn rhy safonedig drwy gydol hyn. Mae’n hanfodol nad yw’r cyfnod sylfaen yn arwain at esgeuluso sgiliau llythrennedd a rhifedd. Yn yr achosion gorau, mae athrawon yn canfod ffyrdd creadigol o gyflwyno llythrennedd a rhifedd drwy’r cyfleoedd gwahanol y mae’r cyfnod sylfaen yn eu cynnig. Yn sicr nid ydym am golli pethau sylfaenol y cyfnod sylfaen yn yr hyn yr ydym yn ei wneud. Byddwn yn disgwyl awdurdodau lleol a’r consortia i edrych ar yr asesiad o’r profion darllen bob blwyddyn. Bydd yr uned safonau ysgolion yn fy adran yn edrych ar y ffordd y maent yn ymateb i hynny. Bydd pob disgybl o flynyddoedd 2 i 9 yn sefyll y profion hyn, a byddant yn edrych ar ddealltwriaeth hefyd.

 

Specifically in respect of Welsh-medium education—she did ask about this—the programme will chiefly focus on the development of first-language literacy in either Welsh or English for all children, depending on setting, plus the requirement that children attending Welsh-medium schools are equally literate in both languages by the end of key stage 2. For that reason, tests in Welsh-medium settings will be introduced in a staggered way so as not to disadvantage learners and not to impact adversely on the principle of Welsh-medium immersion. We are currently looking at the best way to deal with that issue.

 

Yn benodol mewn perthynas ag addysg cyfrwng Cymraeg—gofynnodd hi ynglŷn â hyn—bydd y rhaglen yn canolbwyntio yn bennaf ar ddatblygu llythrennedd iaith gyntaf yn y Gymraeg neu Saesneg ar gyfer pob plentyn, yn dibynnu ar y lleoliad, ynghyd â’r gofyniad bod plant sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yr un mor llythrennog yn y ddwy iaith erbyn diwedd cyfnod allweddol 2. Am y rheswm hwnnw, cyflwynir profion mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg yn gyfnodol fel na fydd dysgwyr o dan anfantais ac i beidio â chael effaith andwyol ar yr egwyddor o drochi addysg cyfrwng Cymraeg. Rydym yn edrych ar hyn o bryd ar y ffordd orau i ymdrin â’r mater hwnnw.

 

We see the standardised tests that we are seeking to introduce as, in most cases, replacing forms of testing and assessment that teachers already undertake. Therefore, we do not expect it to add to workload. On the wider family-based approach, we already have a number of schemes in place to support literacy within the family. Some of the initiatives are within our community-focused schools programme and we would expect those to continue.

 

Rydym yn gweld y profion safonol yr ydym yn ceisio eu cyflwyno fel rhai sydd, yn y rhan fwyaf o achosion, yn cymryd lle’r ffyrdd o brofi ac asesu y mae athrawon eisoes yn ymgymryd â nhw. Felly, nid ydym yn disgwyl i ychwanegu at lwyth gwaith. Ar y dull ehangach sy’n seiliedig ar y teulu, mae gennym eisoes nifer o gynlluniau ar waith i gefnogi llythrennedd o fewn y teulu. Mae rhai o’r mentrau o fewn ein rhaglen ysgolion bro a byddem yn disgwyl i’r rheiny barhau.

 

Jenny Rathbone: I am a governor at Ysgol y Berllan Deg, where each class teacher listens to each child in classes of 30 reading once a week, which is a major achievement. I appreciate that it is not always possible for all class teachers to do that. However, it enables them to know exactly the level of the child’s reading skills. It is important that we have that close partnership with parents, because even if the class teachers are able to do that it cannot possibly be more than just a snapshot, and the work that is done at home is just as important as the work that is done in school. Therefore, I welcome the Minister’s statement. I wonder if he will join me in deploring the fact that the UK Government has cut funding for the Bookstart programme by 50 per cent. Does he agree that the Bookstart programme in Wales, as in England, is a way of ensuring that children learn at the earliest age and develop that love of reading? I cannot understand why the Government in England is cutting it.

 

Jenny Rathbone: Yr wyf yn llywodraethwr yn Ysgol y Berllan Deg, lle mae pob athro dosbarth yn gwrando ar bob plentyn mewn dosbarthiadau o 30 yn darllen unwaith yr wythnos, sy’n llwyddiant mawr. Sylweddolaf nad yw bob amser yn bosibl i bob athro dosbarth gwneud hynny. Fodd bynnag, mae’n galluogi iddynt wybod union lefel sgiliau darllen y plentyn. Mae’n bwysig bod gennym y bartneriaeth agos honno gyda rhieni, oherwydd hyd yn oed os bydd yr athro dosbarth yn gallu gwneud hynny ni all o bosibl fod yn fwy na dim ond ciplun, ac mae’r gwaith a wneir yn y cartref yr un mor bwysig â’r gwaith a wneir yn yr ysgol. Felly, croesawaf ddatganiad y Gweinidog. Tybed os gwnaiff ef ymuno â mi i resynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi torri cyllid ar gyfer y rhaglen Dechrau Da drwy 50 y cant. A ydyw’n cytuno bod y rhaglen Dechrau Da yng Nghymru, fel yn Lloegr, yn ffordd o sicrhau bod plant yn dysgu ar yr oedran cynharaf ac yn datblygu’r cariad at ddarllen? Ni allaf ddeall pam y mae’r Llywodraeth yn Lloegr yn ei thorri.

 

Leighton Andrews: The Member for Cardiff Central is quite right. We protected the Bookstart programme in Wales, at a time when the Conservative-led administration in England was looking at doing something different. In the last financial year, for example, 68,000 Bookstart packs were distributed in Wales, while 34,000 Bookstart baby packs were gifted, which represents 94 per cent of the eligible children in Wales. We have given significant sums and support to ensuring that Bookstart is a success in Wales.

Leighton Andrews: Mae’r Aelod dros Ganol Caerdydd yn llygad ei lle. Gwnaethom warchod y rhaglen Dechrau Da yng Nghymru, ar adeg pan oedd y weinyddiaeth dan arweiniad y Ceidwadwyr yn Lloegr yn edrych ar wneud rhywbeth gwahanol. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, er enghraifft, dosbarthwyd 68,000 o becynnau Dechrau Da yng Nghymru, tra rhoddwyd 34,000 o becynnau babanod Dechrau Da, sef 94 y cant o’r plant cymwys yng Nghymru. Yr ydym wedi rhoi symiau sylweddol a chymorth i sicrhau bod Dechrau Da yn llwyddiant yng Nghymru.

 

3.00 p.m.

 

Simon Thomas: Yr wyf yn croesawu’r datganiad hwn, ac yn diolch i’r Gweinidog am roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y rhaglen a’r cynnydd a wnaed arni. Mae Plaid Cymru yn meddwl bod codi lefelau llythrennedd a rhifedd ymhlith ein pobl ifanc o’r pwys mwyaf, felly byddwn yn cefnogi’r camau y mae’r Llywodraeth a’r Gweinidog yn eu cymryd i’r perwyl hwn.

 

Simon Thomas: I welcome this statement, and I thank the Minister for providing us with an update on the programme and the progress to date. Plaid Cymru believes that raising literacy and numeracy levels among our young people is of utmost importance and, therefore, we will be supporting the steps that the Government and the Minister are taking in that direction.

 

Serch hynny, mae nifer o gwestiynau yr hoffwn eu gofyn i’r Gweinidog. Mae’r Gweinidog yn iawn i osod hyn yng nghyd-destun cynllun pum mlynedd. Mae’r datganiad yn sôn yn eithaf manwl am y gwahanol gamau y mae’r Gweinidog yn dymuno eu gweld yn cael eu cymryd mewn ysgolion i godi lefel llythrennedd. Fodd bynnag, nid yw wedi sôn am dargedau nac am allbwn, hynny yw, yr hyn y mae’n disgwyl ei weld ar ddiwedd y broses. A yw’n disgwyl, er enghraifft, haneru nifer y plant sydd yn methu darllen i’r lefel briodol ar gyfer eu hoedran erbyn iddynt adael yr ysgol gynradd? Byddai Plaid Cymru yn hoffi gweld mwy o dargedau a mwy o ffyrdd o graffu ar yr hyn sy’n digwydd, nid yn unig ar ein cyfer ni yn y Cynulliad ond ar gyfer y Gweinidog hefyd er mwyn iddo allu dangos y cynnydd y mae’n dymuno ei weld, yr wyf yn siŵr, yn y maes hwn.

 

Despite that, there are several questions that I would like to put to the Minister. The Minister is right to set this out in the context of a five-year plan. The statement outlines in great detail the various steps that the Minister wishes to see taken in schools to raise literacy levels. However, he has not mentioned targets or outputs, that is, what he expects to see at the end of the process. Does he hope, for example, to halve the number of children who cannot read to the appropriate level for their age by the time that they leave primary school? Plaid Cymru would like to see more targets and more ways of scrutinising what is happening, not only for us in the Assembly, but for the Minister so that he can demonstrate the progress that I am sure he hopes to see in this field.

 

O ran y plant sydd yn syrthio tu ôl, mae’r Gweinidog yn sôn am help penodol i 7,000 o blant ysgol gynradd. Mae’n dweud ei fod yn dymuno dileu’r angen am gynlluniau o’r fath drwy’r rhaglen hon. Yr wyf yn derbyn hynny, ond yn y cyfamser, mae’n rhaid inni gael y cynlluniau hynny fel rhwyd i ddal y plant sy’n syrthio tu ôl. Beth yw’r dull presennol o wella sgiliau’r plant hynny? Yr ydym wedi gofyn yn y gorffennol, mewn datganiadau a thrafodaethau yn y Senedd, am gynllun West Dunbartonshire, er enghraifft. Mae’r Gweinidog, yn briodol iawn, wedi dweud bod ganddo’r person a ddyfeisiodd y cynllun yn gweithio iddo ar hyn o bryd. Fodd bynnag, ai dyma’r math o ymyrraeth yr ydym yn disgwyl ei gweld o fewn y rhaglen lythrennedd hon? Hoffwn glywed mwy—os nad heddiw, yn ystod oes y cynllun—am y cynlluniau dal-i-fyny sy’n cael eu cyflwyno mewn ysgolion. Ai un cynllun cenedlaethol y mae’r Gweinidog yn ei hyrwyddo, ynteu a yw’n gadael i’r gwahanol gonsortia, ysgolion ac ati ddyfeisio eu cynlluniau eu hunain?

 

With regard to the children who fall behind, the Minister mentioned specific help for 7,000 primary school children. He says that he wants to remove the need for such schemes with this programme. I accept that, but in the meantime, we need schemes to provide a net to catch the children who fall behind. What method is used currently to improve the skills of those children? We have asked in the past, during statements and discussions in the Senedd, about the West Dunbartonshire scheme, for example. The Minister has said, quite rightly, that the person who invented that scheme is working for him at the moment. However, is that the sort of intervention that we are expecting to see with this literacy programme? I would like to hear more—if not today, then during the life of the programme—about the catch-up schemes that are being introduced in schools. Is the Minister promoting one national scheme, or is he to allow the various consortia, schools and so on to invent their own schemes?

 

Mae’r datganiad yn dweud yn glir:

 

The statement says clearly:

 

‘We will require all teachers to be accomplished teachers of literacy.’

 

Byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i bob athro fod yn athro llythrennedd medrus.

 

Mae’n od, mewn ffordd, nad yw athrawon ysgolion cynradd yn athrawon llythrennedd o’r fath yn barod. Serch hynny, ein dymuniad ni oll yw cael athrawon o’r fath. Hoffwn glywed mwy am yr hyn y mae’r Gweinidog yn disgwyl ei weld o ran cynllun datblygu proffesiynol parhaus. Yn benodol, a yw’n gweld datblygu gradd Meistr i athrawon fel y ffordd ymlaen i’r proffesiwn yng Nghymru?

 

It is odd, in a way, that primary school teachers are not teachers of literacy already. Despite that, we all wish to have such teachers. I would like to hear more about what the Minister expects to see in terms of continuous professional development. Specifically, does he see the development of a Master’s degree for teachers as the way forward for the profession in Wales?

 

Cwestiwn arall sy’n codi o’r datganiad yw: pwy sy’n monitro hyn i gyd? Mae’r Gweinidog yn sôn am y profion darllen a chasglu gwybodaeth drylwyr. Fodd bynnag, mae sawl corff a all fod yn monitro hyn i gyd. Mae uned safonau ysgolion o fewn adran y Gweinidog, mae rôl o hyd i awdurdodau lleol yn ôl y datganiad, a gallai Estyn, consortia o awdurdodau, yr ysgolion eu hunain a chyrff llywodraethu hefyd fonitro’r sefyllfa. Sut mae’r Gweinidog yn gweld y cyrff hyn yn cydweithio gyda’i gilydd? A yw’n gweld angen i ddiwygio’r trefniadau monitro? Yr wyf yn synhwyro mai ei ddymuniad yw rhoi’r uned safonau ysgolion ar ben y cyfan. Hoffwn ei glywed yn dweud hynny’n blwmp ac yn blaen, er mwyn inni wybod lle’r ydym yn sefyll.

 

Another question that arises from the statement is: who is monitoring all of this? The Minister mentions the reading tests and the collection of detailed data. However, there are several organisations that could be monitoring all of this. There is the school standards unit in the Minister’s department, there is still a role for the local authorities according to the statement, and Estyn, consortia of authorities, schools themselves and governing bodies could also monitor the situation. How does the Minister see the co-operation between these bodies? Does he see a need to reform the monitoring arrangements? I sense that he wishes to put the school standards unit above it all. I would like to hear him say that clearly, so that we know where we stand.

 

Hoffwn glywed mwy am y camau nesaf y mae’r Gweinidog yn bwriadu eu cymryd i sefydlu’r fframwaith llythrennedd a rhifedd yn statudol erbyn 2013, fel y mae’n dymuno gwneud. Hoffwn ategu’r geiriau bod yn rhaid i’r fframwaith hwn gydweithio â chynlluniau gwirfoddol, megis Dechrau Da y soniodd amdano, cyfraniad y rhieni a’r gefnogaeth anffurfiol y mae plant yn ei derbyn mewn ysgolion.

 

I would like to hear more about the next steps that the Minister intends to take to establish a statutory literacy and numeracy framework by 2013, as he wishes to do. I would like to reiterate the fact that this framework has to complement voluntary schemes, such as Bookstart which he has mentioned, the contribution of parents and the informal support that children receive in schools.

 

Mae wedi esbonio’r rheswm dros hyblygrwydd o ran datblygu profion darllen cenedlaethol yn Gymraeg. Gan fod y Gweinidog Cyllid yma hefyd, y cwestiwn olaf sydd gennyf yw: a wnaiff y Gweinidog addysg gadarnhau i’r Cynulliad y prynhawn yma fod ganddo gyllid digonol yn y gyllideb ddrafft ar gyfer ei gynlluniau cyffrous?

 

He has explained the reason for the flexibility in terms of national reading tests through the medium of Welsh. As the Minister for Finance is also here, my final question is: will the Minister for education confirm to the Assembly this afternoon that he has enough money in the draft budget to implement his exciting plans?

 

Leighton Andrews: I welcome, again, the support from the Plaid Cymru spokesperson. He is right to say that there is significant detail in the statement. I have only one target as far as literacy is concerned, which is that every pupil should, at the end of every academic year, reach the expected reading age if they are capable of doing so. That is the only target that we need. However, we are clearly falling short of that at the present time. Yesterday, I had a meeting with Estyn at which it discussed some of its findings over the last year, and it is absolutely apparent that we still have a long way to go in achieving that target.

 

Leighton Andrews: Yr wyf yn croesawu’r gefnogaeth, unwaith eto, gan lefarydd Plaid Cymru. Mae’n iawn i ddweud bod manylion sylweddol yn y datganiad. Dim ond un targed sydd gennyf ynghylch llythrennedd, sef y dylai pob disgybl, ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd, fod yn cyrraedd yr oedran darllen disgwyliedig os ydynt yn gallu gwneud hynny. Dyna’r unig darged sydd arnom ei angen. Fodd bynnag, yr ydym yn amlwg yn disgyn yn fyr o hynny ar hyn o bryd. Ddoe, cefais gyfarfod gydag Estyn lle y trafodwyd rhai o’i ganfyddiadau dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae’n gwbl amlwg bod gennym ffordd bell i fynd i gyflawni’r targed hwnnw.

 

In the last 18 months, we have put support in place for catch-up programmes, specifically focused at pupils aged seven to 11, because we believe that this is a problem that we need to crack in primary school in particular. That funding was announced and rolled out during the period of the One Wales Government, and we are continuing with those programmes. We involved those who had extraordinary success in West Dunbartonshire in Scotland in the development of literacy schemes, in helping us devise the approach that we are taking in Wales.

 

Yn y 18 mis diwethaf, yr ydym wedi darparu cymorth ar gyfer rhaglenni dal i fyny, yn canolbwyntio yn benodol ar y disgyblion saith i 11 oed, gan ein bod yn credu bod angen inni i fynd i’r afael â’r broblem hon yn yr ysgol gynradd yn arbennig. Cyhoeddwyd yr arian hwnnw ac fe’i cyflwynwyd yn ystod cyfnod Llywodraeth Cymru’n Un, ac yr ydym yn parhau gyda’r rhaglenni hynny. Tynasom y rhai a gafodd lwyddiant anhygoel yng Ngorllewin swydd Dunbarton yn yr Alban wrth ddatblygu cynlluniau llythrennedd i mewn, i’n helpu i ddyfeisio ein dull yng Nghymru.

 

We wish to move to single reading tests. We asked Professor Rhona Stainthorp from the University of Reading to look at the tests that we had available, as she is an acknowledged expert in the field. She found that there was too much variability in the process at the present time. I explained that in my speech at the end of June, which I think that the Member attended, at an Institute of Welsh Affairs event.

 

Dymunwn symud at brofion darllen sengl. Gofynasom i’r Athro Rhona Stainthorp o Brifysgol Reading i edrych ar y profion a oedd ar gael gennym, gan ei bod yn arbenigwraig gydnabyddedig yn y maes. Canfu fod gormod o amrywiaeth yn y broses ar hyn o bryd. Eglurais hynny yn fy araith ar ddiwedd Mehefin, yr wyf yn credu y clywodd yr Aelod, mewn digwyddiad a drefnwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig.

 

Currently, insufficient focus is given to the teaching of reading skills within initial teacher training, which is why we are seeking to change the curriculum and why we have also embraced the idea of introducing a Master’s programme, as part of continuous professional development for teachers. I would expect to have more to say about initial teacher training and the Master’s programme in due course. With regard to monitoring, I said explicitly in the statement that the school standards unit will monitor that. Finally, do we have the money? Yes, I believe that we do.

 

Ar hyn o bryd, ni chanolbwyntir digon ar addysgu medrau darllen o fewn hyfforddiant cychwynnol athrawon, a dyna pam yr ydym yn ceisio newid y cwricwlwm a pham yr ydym hefyd wedi croesawu’r syniad o gyflwyno rhaglen Meistr, fel rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus athrawon. Disgwyliaf y bydd mwy gennyf i’w ddweud am hyfforddiant cychwynnol athrawon a’r rhaglen Meistr maes o law. O ran monitro, dywedais yn benodol yn y datganiad y bydd yr uned safonau ysgolion yn monitro hynny. Yn olaf, a oes gennym yr arian? Credaf fod gennym yr arian.

 

Mick Antoniw: I welcome the statement, Minister, but there are one or two matters that you could, perhaps, help to clarify. Among the pupils who have the most difficulty are many of those with special educational needs. The challenges for them, as I know from personal experience with family, are much more frustrating and difficult. How do you see the special educational needs side fitting into the proposals, because they make up a large proportion? Many of those, as they go on to work, have the benefit of the Wales union learning fund. Some 1,300 trade union volunteers benefit from financial support. Do you see any potential follow through benefits? Will you confirm that we will not ignore the ongoing adult literacy issue that still remains with us?

 

Mick Antoniw: Croesawaf y datganiad, Weinidog, ond mae un neu ddau fater y gallech, o bosibl, helpu i’w hegluro. Ymhlith y disgyblion sy’n cael yr anhawster mwyaf ceir llawer sydd ag anghenion addysgol arbennig. Iddynt hwy mae’r heriau, fel y gwn o brofiad personol yn fy nheulu, yn peri rhwystrau ac anawsterau llawer mwy. Sut ydych chi’n gweld yr ochr anghenion addysgol arbennig yn ffitio i mewn i’r cynigion, oherwydd maent yn ffurfio cyfran fawr? Mae llawer ohonynt, wrth iddynt fynd ymlaen i weithio, yn cael budd o gronfa ddysgu undebau Cymru. Mae rhyw 1,300 o wirfoddolwyr undebau llafur yn elwa o gymorth ariannol. A ydych yn gweld unrhyw ddilyniant posibl drwy fudd-daliadau? A wnewch chi gadarnhau na fyddwn yn anwybyddu ein problem barhaus â llythrennedd oedolion?

 

Leighton Andrews: The Member for Pontypridd is right to raise the issue of special educational needs. However, it is important that we recognise that, within groups of pupils who have additional learning needs, we have some who may have issues to do with dyslexia, which can be resolved through certain kinds of teaching methods and support, while others may have more complex needs that might lie outside what we are trying to achieve in respect of the national literacy programme. We need to be clear about the distinctions that apply.

 

Leighton Andrews: Mae’r Aelod dros Bontypridd yn iawn i godi anghenion addysgol arbennig. Fodd bynnag, mae’n bwysig inni gydnabod, o fewn grwpiau o ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, fod gennym rai a allai fod â thrafferthion yn ymwneud â dyslecsia, y gellir eu datrys drwy rai mathau o ddulliau addysgu a chymorth, tra gall eraill fod ag anghenion mwy cymhleth a allai fod y tu hwnt i’r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni drwy’r rhaglen llythrennedd genedlaethol. Mae angen i ni fod yn glir ynghylch y gwahaniaethau sy’n berthnasol.

 

We continue to give support to programmes that address adult literacy issues. My colleague the Deputy Minister for Skills leads on many of those issues. We know that the Wales union learning fund, for example, has been a source of many creative initiatives to enable some of these issues of basic skills to be addressed in the workplace. We look forward to seeing that work continue.

 

Yr ydym yn parhau i roi cymorth i raglenni sy’n mynd i’r afael â phroblemau llythrennedd oedolion. Mae fy nghydweithiwr, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, yn arwain ar lawer o’r problemau hynny. Gwyddom fod cronfa ddysgu undebau Cymru, er enghraifft, wedi bod yn darddle i lawer o fentrau creadigol i alluogi bod rhai pethau ynghylch sgiliau sylfaenol yn cael sylw yn y gweithle. Edrychwn ymlaen at weld y gwaith yn parhau.

 

Aled Roberts: Minister, the thing with going last is that a lot of the questions have already been asked. However, I want to focus on just two issues, because I think that all of us in the Chamber would seek to be as supportive as we can of your efforts to improve literacy and numeracy. Can you explain whether the five-year programme will be delivered within the department or whether it will be contracted out? I am aware that, over the course of the past few weeks, Tribal has assumed responsibility for the delivery of the programme as far as underachieving boys are concerned. This statement is quite clear in its intentions with regard to the development of this project in consultation with ADEW and the WLGA, but there are concerns that the underachieving boys project was delivered without proper consultation with ADEW and the WLGA.

 

Aled Roberts: Weinidog, y peth am fod yn olaf yw bod llawer o’r cwestiynau eisoes wedi cael eu gofyn. Fodd bynnag, yr wyf am ganolbwyntio ar ddau fater yn unig, oherwydd credaf y byddai pob un ohonom yn y Siambr yn ceisio bod mor gefnogol ag y gallwn i’ch ymdrechion i wella llythrennedd a rhifedd. A allwch egluro a fydd y rhaglen pum mlynedd yn cael ei gyflwyno o fewn yr adran neu a fydd yn cael ei gontractio allan? Yr wyf yn ymwybodol fod Tribal, yn ystod yr wythnosau diwethaf, wedi cymryd y cyfrifoldeb am gyflwyno’r rhaglen cyn belled ag y mae bechgyn sy’n tangyflawni yn y cwestiwn. Mae’r datganiad hwn yn eithaf clir am y bwriadau am ddatblygiad y prosiect hwn mewn ymgynghoriad ag CCAC a CLlLC, ond mae pryderon bod y prosiect ar fechgyn sy’n tangyflawni wedi ei ddarparu heb ymgynghori priodol â CCAC a CLlLC.

 

I am also aware that there are some concerns that Tribal itself is measuring outcomes in terms of the number of teachers engaged in the project rather than, as Simon Thomas said, indicating clearly what the outcomes to be achieved under the terms of the project concerned are and how success would be measured. In previous comments, you made it quite clear that the ring-fenced literacy grant is now to be within the school effectiveness grant. You have also made it clear that you see part of the controls that you have with regard to the collaboration agenda and so on being through the controls on the school effectiveness grant. If you were dissatisfied with collaboration projects in particular, how would you ensure that the moneys needed to effect this improvement in literacy still reached the front line?

 

Yr wyf hefyd yn ymwybodol bod rhai pryderon bod Tribal ei hun yn mesur canlyniadau o ran nifer yr athrawon sy’n cymryd rhan yn y prosiect yn hytrach na, fel y dywedodd Simon Thomas, nodi’n glir pa ganlyniadau sydd i’w cyflawni o dan delerau’r prosiect dan sylw a sut y byddai mesur llwyddiant. Mewn sylwadau blaenorol, gwnaethoch yn gwbl glir bod y grant llythrennedd wedi’i neilltuo erbyn hyn i fod o fewn y grant effeithiolrwydd ysgolion. Yr ydych hefyd wedi ei gwneud yn glir eich bod yn gweld rhan o’r rheolaethau sydd gennych o ran yr agenda cydweithio ac yn y blaen yn dod trwy’r rheolaethau ar y grant effeithiolrwydd ysgolion. Os ydych yn anfodlon â phrosiectau cydweithio yn arbennig, sut fyddech yn sicrhau bod yr arian y mae ei angen i sicrhau’r gwelliant hwn mewn llythrennedd yn dal i gyrraedd y rheng flaen?

 

Leighton Andrews: To explain, the national literacy programme involves a range of interventions, as I set out in the statement. We are in the process of procuring the reading tests in Welsh and English. With regard to underachieving boys, we have commissioned research into why boys perform less well than girls, which will inform our approach to tackling boys’ literacy development. We want to see a national programme of interventions that will identify good practice, in the UK and internationally, and develop a programme that helps key stage 2 teachers and practitioners in particular to understand those issues and improve the literacy levels of boys through effective interventions that address boys’ preferred learning methods and the creation of environments that are conducive to boys’ learning.

 

Leighton Andrews: Er mwyn egluro, mae’r rhaglen llythrennedd genedlaethol yn cynnwys ystod o ymyriadau, fel y nodais yn y datganiad. Yr ydym wrthi’n caffael y profion darllen yn Gymraeg a Saesneg. O ran bechgyn sy’n tangyflawni, yr ydym wedi comisiynu ymchwil ynghylch pam fo bechgyn yn perfformio’n waeth na merched, a fydd yn llywio ein dull o fynd i’r afael â datblygiad llythrennedd bechgyn. Yr ydym am weld rhaglen genedlaethol o ymyriadau a fydd yn nodi arfer da, yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, a datblygu rhaglen sy’n helpu athrawon ac ymarferwyr cyfnod allweddol 2 yn benodol i ddeall y materion hynny a gwella lefelau llythrennedd bechgyn drwy ymyriadau effeithiol sy’n ymdrin â’r dulliau dysgu y mae bechgyn yn eu ffafrio a chreu amgylcheddau sy’n ffafriol i ddysgu gan fechgyn.

 

With regard to the school effectiveness framework and the funding within it, I made it very clear that, if local authorities do not collaborate, they will not get school effectiveness framework funding. That is all there is to it. If they do not collaborate and join in with the consortia arrangements, they will not be getting the money. We will then have to put in place other arrangements to ensure that schools in those areas do not lose out and are properly supported. However, the message to all local authorities is very clear: collaborate.

 

O ran y fframwaith effeithiolrwydd ysgolion a’r arian ynddo, fe’i gwneuthum yn glir iawn, os nad yw awdurdodau lleol yn cydweithio, na fyddant yn cael arian fframwaith effeithiolrwydd ysgolion. Dyna ei hyd a’i lled hi. Os nad ydynt yn cydweithio ac yn ymuno yn y trefniadau consortia, ni fyddant yn cael yr arian. Byddwn wedyn yn gorfod rhoi trefniadau eraill ar waith er mwyn sicrhau nad yw ysgolion yn yr ardaloedd hynny yn colli allan ond eu bod yn hytrach yn cael eu cefnogi’n briodol. Fodd bynnag, mae neges glir iawn i bob awdurdod lleol: cydweithiwch.

 

Datganiad: Strategaeth ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
Statement: The National Flood and Coastal Erosion Risk Management Strategy

 

The Minister for Environment and Sustainable Development (John Griffiths): During 2011, we have seen the devastating impact and consequences of flooding across the world. We have experienced significant flooding here, as in 1990, when around 2,800 properties were flooded and thousands evacuated when defences were breached in north Wales. We have also recently been reminded of the potentially devastating consequences of coastal erosion. Although we are grateful that no-one was hurt at Porthkerry in the Vale of Glamorgan, this incident demonstrates the very real threat posed. The Welsh Government is working with the Vale of Glamorgan Council, the Environment Agency and others to consider the incident and its wider ramifications.

 

Y Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (John Griffiths): Yn ystod 2011, yr ydym wedi gweld effaith a chanlyniadau trychinebus llifogydd ar draws y byd. Yr ydym wedi profi cryn lifogydd yma, fel ym 1990, pan orlifwyd tua 2,800 o adeiladau a chafodd miloedd o bobl eu symud pan dorrwyd amddiffynfeydd yng ngogledd Cymru. Yr ydym hefyd wedi cael ein hatgoffa o ganlyniadau dinistriol posibl erydiad arfordirol yn ddiweddar. Er ein bod yn ddiolchgar nad anafwyd unrhyw un ym Mhorthceri ym Mro Morgannwg, mae’r digwyddiad hwn yn dangos y bygythiad gwirioneddol a berir. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg, Asiantaeth yr Amgylchedd ac eraill i ystyried y digwyddiad a’i oblygiadau ehangach.

 

The evidence suggests that, in future, we may see more extreme events, with higher sea levels, increases in the intensity of rainfall and more frequent flooding. The consequences of that flooding will include greater risks to life, the economy and the environment. Coastal erosion will increase, with more coastal communities facing the loss of land, properties and resources.

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu, yn y dyfodol, efallai y byddwn yn gweld mwy o ddigwyddiadau eithafol, gyda lefelau môr uwch, dwyster glaw yn cynyddu a llifogydd amlach. Bydd canlyniadau’r llifogydd hynny yn cynnwys mwy o risgiau i fywyd, yr economi a’r amgylchedd. Bydd erydiad arfordirol yn cynyddu, gyda chymunedau mwy arfordirol yn wynebu colli tir, eiddo ac adnoddau.

 

3.15 p.m.

 

Although we cannot prevent flooding or coastal erosion, there are actions that we can all take to manage the risks and reduce their consequences. We have to adapt to a changing climate. We need to adopt a more holistic risk management approach to flooding and coastal erosion, in which defence is combined with a range of other measures to help communities and the wider environment. We also need to ensure that individuals and communities understand the risks that they face and the actions that they can take in addition to those taken by risk management authorities. We have already gone some way towards achieving that. The Flood and Water Management Act 2010 provides the Welsh Government and risk management authorities with greater powers, clarified responsibilities and a framework to work together. We have seen improvements in our understanding of flood risk through detailed modelling and mapping. The arrangements for flood forecasting and warning have been improved, the capability for flood rescue enhanced, and we have tested our improved response arrangements as part of Exercise Watermark. We have also invested heavily in engaging with our communities to raise their awareness of risks and the actions that they can take in the event of flooding. Despite these advances, still more needs to be done.

 

Er na allwn atal llifogydd nac erydu arfordirol, mae camau y gallwn eu cymryd i reoli’r peryglon a lleihau eu canlyniadau. Mae’n rhaid i ni addasu i hinsawdd sy’n newid. Mae angen i ni arfer dull o reoli perygl mwy cyfannol o ran llifogydd ac erydu arfordirol, lle mae amddiffyn yn cael ei gyfuno ag ystod o fesurau eraill i helpu cymunedau a’r amgylchedd ehangach. Mae angen hefyd i ni sicrhau bod unigolion a chymunedau yn deall y peryglon y maent yn eu hwynebu a’r camau y gallant eu cymryd yn ychwanegol at y rhai y mae awdurdodau rheoli perygl yn eu cymryd. Yr ydym eisoes wedi mynd dipyn o’r ffordd tuag at gyflawni hynny. Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn darparu mwy o bwerau, cyfrifoldebau eglurach a fframwaith i weithio gyda’i gilydd i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau rheoli perygl. Mae gwelliannau wedi bod yn ein dealltwriaeth o berygl llifogydd drwy fodelu a mapio manwl. Mae’r trefniadau ar gyfer rhagweld llifogydd a rhybuddio amdanynt wedi cael eu gwella, mae’r gallu i achub o lifogydd yn fwy, ac yr ydym wedi profi ein trefniadau ymateb gwell fel rhan o Ymarfer Watermark. Yr ydym hefyd wedi buddsoddi’n drwm mewn ymgysylltu â’n cymunedau i godi eu hymwybyddiaeth o risgiau a’r camau y gallant eu cymryd os bydd llifogydd. Er gwaethaf y cynnydd hwn, mae angen gwneud mwy fyth.

 

Later this month, I will publish the first national strategy for flood and coastal erosion risk management in Wales, setting the overarching framework for a holistic flood and coastal erosion risk management system. It will embrace the actions of everyone, from Government to the individual, to increase our nation’s resilience to the impacts and consequences of flooding and coastal erosion. That national strategy will set four overarching objectives for the management of flood and coastal erosion risk. These objectives are to reduce the consequences for individuals, communities, businesses and the environment from flooding and coastal erosion, to raise awareness of, and engage people in, the response to flood and coastal erosion risk, to provide an effective and sustained response to flood and coastal erosion events, and to prioritise investment in the most at-risk communities. This Welsh Government is committed to delivering on these objectives.

 

Yn ddiweddarach y mis hwn, byddaf yn cyhoeddi’r strategaeth genedlaethol gyntaf ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, gan osod y fframwaith cyffredinol ar gyfer system gyfannol i reoli perygl erydu arfordirol a llifogydd. Bydd yn cwmpasu gweithredoedd pawb, o’r Llywodraeth i’r unigolyn, er mwyn cynyddu gwytnwch ein cenedl i effeithiau a chanlyniadau llifogydd ac erydu arfordirol. Bydd y strategaeth genedlaethol honno yn gosod pedwar amcan cyffredinol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Yr amcanion hyn yw lleihau canlyniadau llifogydd ac erydu arfordirol i unigolion, cymunedau, busnesau a’r amgylchedd, codi ymwybyddiaeth o, a chynnwys pobl yn, yr ymateb i berygl lifogydd ac erydu arfordirol, er mwyn darparu ymateb effeithiol a pharhaus i lifogydd ac erydu arfordirol, a blaenoriaethu buddsoddi yn y cymunedau sydd fwyaf mewn perygl. Mae’r Llywodraeth Cymru hon wedi ymrwymo i gyflawni’r amcanion hyn.

 

In our programme for government, we set out our commitment to ensuring that Wales has healthy people living productive lives in a more prosperous and innovative economy, that we have safer and more cohesive communities, with lower levels of poverty and greater equality, that our environment is resilient, with more sustainable use of our natural resources, and that Welsh society has a vital sense of its own culture and heritage. Delivery of the objectives set out in the national strategy is key to delivering these commitments and the publication of our national strategy is not the end of the matter. We will continue to invest in flood and coastal erosion risk management. Despite the restrictions to Wales’s settlement, we have maintained the overall level of funding for flood and coastal risk management, which sees a small cash increase over the period of the budget. Furthermore, the reduction in capital budget has been offset by our successful £50 million bid for European regional development fund funding to support a programme of flood and coastal improvement schemes. Investment in these schemes will provide economic opportunities at a local and national level, with new, sustainable and innovative approaches required to ensure that, in future, we move beyond defence and drainage alone and find ways to work with natural processes. Regular reviews of the changing nature of flood and coastal erosion risk in Wales will be undertaken over its life and the national strategy itself will be reviewed in 2016. By working together, we can adapt to the challenges of a changing climate, ensuring that our communities, infrastructure and environment are more resilient to the impacts of flooding and coastal erosion, which will help to create our vision for economic and environmental wellbeing for people and communities.

 

Yn ein rhaglen lywodraethu, nodwn ein hymrwymiad i sicrhau bod gan Gymru bobl iach sy’n byw bywydau cynhyrchiol mewn economi fwy llewyrchus ac arloesol, bod gennym gymunedau mwy diogel a chydlynol, gyda llai o dlodi a mwy o gydraddoldeb, bod ein hamgylchedd yn wydn, gyda defnydd mwy cynaliadwy o’n hadnoddau naturiol, a bod gan y gymdeithas Gymreig ymdeimlad byw o’i diwylliant a’i hetifeddiaeth ei hun. Mae cyflawni’r amcanion a nodir yn y strategaeth genedlaethol yn allweddol i gyflawni’r ymrwymiadau hyn ac nid cyhoeddi ein strategaeth genedlaethol yw diwedd y gân. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Er gwaethaf y cyfyngiadau i setliad Cymru, yr ydym wedi cynnal lefel gyffredinol y cyllid ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd, sydd yn cael cynnydd bach o arian dros gyfnod y gyllideb. Ar ben hynny, mae’r gostyngiad yn y gyllideb gyfalaf wedi cael ei wrthbwyso gan ein cais llwyddiannus ar gyfer £50 miliwn o gyllid cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop i gefnogi rhaglen o gynlluniau gwella llifogydd a’r arfordir. Bydd buddsoddi yn y cynlluniau hyn yn darparu cyfleoedd economaidd ar lefel leol a chenedlaethol, a bydd angen dulliau newydd, cynaliadwy ac arloesol i sicrhau, yn y dyfodol, ein bod yn symud y tu hwnt i amddiffyn a draenio yn unig a dod o hyd i ffyrdd o weithio gyda phrosesau naturiol. Cynhelir adolygiadau rheolaidd o natur newidiol perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru ar hyd ei oes ac adolygir y strategaeth genedlaethol ei hun yn 2016. Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn addasu i heriau newid yn yr hinsawdd, gan sicrhau bod ein cymunedau, seilwaith ac amgylchedd yn fwy abl i wrthsefyll effeithiau llifogydd ac erydu arfordirol, a fydd yn helpu i greu ein gweledigaeth ar gyfer lles economaidd ac amgylcheddol pobl a chymunedau.

 

Russell George: I thank the Minister for making this statement in the Chamber today and for allowing Members to examine and scrutinise the strategy document before its official launch next week. We know all too well that, with the onset of climate change, changing weather patterns and the intensification of weather extremes will radically alter how we live our daily lives. Increased rainfall means that many communities in Wales are set to be at a greater risk of flooding than ever before. That risk must be managed properly and, where possible, mitigated.

 

Russell George: Diolch i’r Gweinidog am wneud y datganiad hwn yn y Siambr heddiw ac am ganiatáu i Aelodau archwilio a chraffu ar y strategaeth cyn ei lansiad swyddogol yr wythnos nesaf. Gwyddom ond yn rhy dda, gyda dyfodiad newid yn yr hinsawdd, y bydd patrymau tywydd cyfnewidiol a dwysáu eithafion tywydd yn trawsnewid sut yr ydym yn byw ein bywydau beunyddiol. Bydd mwy o law yn golygu bod llawer o gymunedau yng Nghymru mewn mwy o berygl o lifogydd nag erioed o’r blaen. Mae’n rhaid rheoli’r perygl hwnnw yn briodol a, lle bo modd, ei liniaru.

 

As the Minister has already mentioned, one in six households are at risk of flooding. That is 370,000 homes. The average annual estimated cost to residential and non-residential properties is around £200 million. If a co-ordinated and holistic approach is not implemented, then ratios will narrow and costs will rise. That will mean that households will face more damage to their homes, businesses will be destroyed, critical national infrastructure will be damaged, there will be disruption to travel, and there will be higher insurance premiums. A holistic approach is necessary and it should include risk management, because we cannot simply build our way out of future flooding events. That is because the capital and revenue costs are too significant, because defensive structures can be breached or fail, and because building defensive structures does not solve the most recent and probably the most difficult flooding challenge, namely surface water flooding. Therefore, the Welsh Conservatives welcome this strategy and are pleased that the Government has taken on board the recommendations made by both the Environment and Sustainability Committee and the Public Accounts Committee during the last Assembly, as well as by the Wales Audit Office. However, I have some concerns, some of which I hope that the Minister will be able to allay this afternoon.

 

Fel y mae’r Gweinidog wedi ei grybwyll eisoes, mae un cartref o bob chwech mewn perygl o lifogydd. Dyna 370,000 o gartrefi. Amcangyfrifir mai tua £200 miliwn yw’r gost flynyddol gyfartalog o ran eiddo preswyl ac amhreswyl. Os na weithredir dull cydgysylltiedig a chyfannol, bydd cymarebau yn culhau a bydd costau’n cynyddu. Bydd hynny’n golygu y bydd tyeidiau yn wynebu mwy o niwed i’w cartrefi, bydd busnesau yn cael eu dinistrio, bydd seilwaith cenedlaethol allweddol yn cael ei ddifrodi, bydd yna darfu ar deithio, a bydd premiymau yswiriant uwch. Mae dull cyfannol yn angenrheidiol a dylai gynnwys rheoli peryglon, gan na allwn adeiladu y tu hwnt i lifogydd yn y dyfodol. Mae hynny oherwydd bod y costau cyfalaf a refeniw yn rhy fawr, oherwydd gall strwythurau amddiffynnol dorri neu fethu, ac am nad yw adeiladu strwythurau amddiffynnol yn datrys yr her llifogydd mwyaf diweddar ac, yn fwy na thebyg, yr anoddaf, sef llifogydd dŵr wyneb. Felly, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu’r strategaeth hon ac yn falch bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhellion y gwnaeth y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystod y Cynulliad diwethaf, yn ogystal â Swyddfa Archwilio Cymru. Fodd bynnag, mae gennyf rai pryderon, a gobeithiaf y gall y Gweinidog dawelu rai ohonynt y prynhawn yma.

 

In terms of strong and effective leadership, the strategy is clear that the Welsh Government and Welsh Ministers have responsibility for all matters relating to flooding and coastal erosion. It is right that the Government should set out a strategy and take responsibility if that strategy is not implemented. However, I am concerned about the Government’s capacity to monitor and deliver all areas of this strategy. In England, the UK Government has delegated monitoring and delivery to the Environment Agency, and has designated the EA the lead overview agency. In Wales, 31 agencies are involved in this process and, while all are duty bound to work together, it remains to be seen whether that single-body status will be achieved. Therefore, I ask the Minister to explain the rationale of the Government for choosing this particular approach to roles and responsibilities. Are you confident, Minister, that there will be a coherent and seamless delivery mechanism when there is flooding, because that is what really counts?

 

O ran arweinyddiaeth gref ac effeithiol, mae’r strategaeth yn glir mai Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Cymru sydd yn gyfrifol am yr holl faterion sy’n ymwneud â llifogydd ac erydu arfordirol. Mae’n iawn y dylai’r Llywodraeth osod strategaeth a chymryd cyfrifoldeb os nad yw’r strategaeth honno yn cael ei rhoi ar waith. Fodd bynnag, pryderaf am allu’r Llywodraeth i fonitro a chyflwyno pob maes o’r strategaeth hon. Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi dirprwyo’r gwaith monitro a chyflwyno i Asiantaeth yr Amgylchedd, ac wedi ei dynodi fel yr asiantaeth â throsolwg arweiniol. Yng Nghymru, mae 31 o asiantaethau yn cymryd rhan yn y broses hon ac, er bod gan bob un ohonynt ddyletswydd i weithio gyda’i gilydd, rhaid aros i weld a fydd y statws un corff hwnnw yn cael ei gyflawni. Felly, gofynnaf i’r Gweinidog esbonio rhesymeg y Llywodraeth wrth ddewis y dull penodol hwn tuag at rolau a chyfrifoldebau. A ydych yn hyderus, Weinidog, y bydd peirianwaith cyflawni cydlynol a di-dor pan fo llifogydd, oherwydd dyna beth sydd wir yn cyfrif?

 

I mentioned earlier that a holistic management approach to flood prevention means that we cannot build our way out of trouble, but we cannot afford to ignore the fact that defence infrastructure has a part to play in ensuring that the most exposed areas of our coastline and river courses are protected properly. That is vital not just for public confidence but to maintain the confidence of the insurance industry. The Environment Agency Wales stated last year that there needed to be a tripling of investment in the next few years to maintain the current levels of protection. There are obvious concerns in its document, which states that other agencies need their own sources of funding in order to ensure that the objectives within the strategy are fully realised. While I welcome the Government’s levering in of European money to support this programme, local authorities are severely cash-strapped and this will be an additional strain. Will the Minister comment on this issue? Does he believe that the current Government funds are sufficient and that they are being allocated in the right areas? Could the allocation process be improved? How does he envisage local authorities, in particular, levering in additional funding?

 

Soniais yn gynharach fod dull cyfannol o reoli atal llifogydd yn golygu na allwn adeiladu ein ffordd allan o drwbl, ond ni allwn fforddio anwybyddu’r ffaith bod gan seilwaith amddiffyn ran i’w chwarae er mwyn sicrhau bod yr ardaloedd mwyaf agored ar ein harfordir a chyrsiau afon yn cael eu diogelu’n briodol. Mae hynny’n hanfodol nid yn unig i hyder y cyhoedd ond er mwyn cynnal hyder y diwydiant yswiriant. Llynedd dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru fod angen treblu’r buddsoddiad yn y blynyddoedd nesaf er mwyn cynnal y lefelau diogelu presennol. Mae pryderon amlwg yn ei dogfen, sy’n datgan bod asiantaethau eraill angen eu ffynonellau eu hunain o arian er mwyn sicrhau bod yr amcanion yn y strategaeth yn cael eu gwireddu’n llawn. Er fy mod yn croesawu bod y Llywodraeth wedi manteisio ar arian Ewropeaidd i gefnogi’r rhaglen hon, mae awdurdodau lleol yn brin iawn o arian a bydd hyn yn straen ychwanegol. A wnaiff y Gweinidog sylwadau ar y mater hwn? A ydyw’n credu bod cronfeydd presennol y Llywodraeth yn ddigonol a’u bod yn cael eu dyrannu yn y meysydd cywir? A ellir gwella’r broses ddyrannu? Sut y mae’n rhagweld awdurdodau lleol, yn arbennig, yn denu cyllid ychwanegol?

 

I am pleased that the Government has pledged to work closely with the insurance industry to ensure that the universal statement of principles does not run out in 2013 and that members of the public living and working in flood areas will not be left high and dry and unable to access buildings and contents insurance. I hope that, when the Government makes representation to the industry, it makes it clear that insurance firms also have responsibilities to uphold.

 

Yr wyf yn falch bod y Llywodraeth wedi addo gweithio’n agos gyda’r diwydiant yswiriant i sicrhau nad yw’r datganiad cyffredinol o egwyddorion yn rhedeg allan yn 2013 ac na fydd aelodau o’r cyhoedd sy’n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd lle ceir llifogydd yn cael eu gadael ar y clwt ac yn methu â chael yswiriant adeiladau a chynnwys. Pan fydd y Llywodraeth yn cyflwyno sylwadau i’r diwydiant, gobeithiaf ei bod hi’n ei gwneud yn glir bod hefyd gan y cwmnïau yswiriant gyfrifoldebau i’w cynnal.

 

I am, of course, disappointed that the Government has decided to ignore the Welsh Conservatives’ policy idea of ‘blue belt’ schemes in its strategic document. Land close to lakes, rivers and coastlines could be designated as ‘blue belt’ land under such a scheme to prevent further irresponsible development in areas at risk of flooding. I believe that it would also give added confidence to the insurance industry. Minister, will you commit to re-examining this idea, as I believe that it would play a significant part in mitigating risk as part of a wider, holistic approach?

 

Yr wyf, wrth gwrs, yn siomedig bod y Llywodraeth wedi penderfynu anwybyddu syniad polisi’r Ceidwadwyr Cymreig o gynlluniau ‘llain lliw’r môr’ yn ei dogfen strategol. Gallai tir yn agos i lynnoedd, afonydd a’r arfordir gael ei ddynodi fel tir ‘llain lliw’r môr’ o dan gynllun o’r fath i atal datblygiadau anghyfrifol pellach mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd. Credaf y byddai hefyd yn rhoi hyder ychwanegol i’r diwydiant yswiriant. Weinidog, a wnewch ymrwymo i edrych eto ar y syniad hwn, gan fy mod yn credu y byddai’n chwarae rhan arwyddocaol wrth liniaru perygl fel rhan o ddull cyfannol ehangach?

 

Finally, I will touch on pragmatic solutions for flood management beyond defence structures. A more recent challenge is surface water flooding, not only in urban areas, but in rural areas. We need to develop and incorporate novel solutions as part of sustainable drainage systems, be that through the proliferation of household water butts, the development of community ponds, or through wetland areas. It is crucial that we ensure that communities are consulted properly on, and engaged fully in, shaping solutions for their localities. However, in creating and developing these sustainable drainage systems, we should not neglect the condition of our current drainage systems, many of which were designed and built in the Victorian era and are not fit to meet the climate challenges of the twenty-first century.

 

Yn olaf, byddaf yn cyffwrdd ar atebion pragmatig i reoli llifogydd y tu hwnt i strwythurau amddiffyn. Her fwy diweddar yw llifogydd dŵr wyneb, nid yn unig mewn ardaloedd trefol, ond mewn ardaloedd gwledig. Mae angen i ni ddatblygu ac ymgorffori atebion newydd fel rhan o systemau draenio cynaliadwy, boed hynny drwy amlhad casgenni dŵr cartref, datblygu pyllau cymunedol, neu drwy wlypdiroedd. Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod ymgynghori addas â chymunedau yn iawn a’u bod yn cymryd rhan lawn yn ffurfio atebion ar gyfer eu milltiroedd sgwâr. Fodd bynnag, wrth greu a datblygu’r systemau draenio cynaliadwy hyn, ni ddylem esgeuluso cyflwr ein systemau draenio presennol. Cafodd llawer ohonynt eu dylunio a’u hadeiladu yn oes Fictoria ac nid ydynt yn addas i ateb heriau hinsawdd yr unfed ganrif ar hugain.

 

Just coming to an end—

 

Gan ddod i ben—

 

The Presiding Officer: Order. I think that you have come to an end three times. Can you really come to an end now?

 

Y Llywydd: Trefn. Yr wyf yn meddwl eich bod wedi dod i ben dair gwaith. A allwch chi ddod i ben go iawn yn awr?

 

Russell George: May I just have 30 seconds, Presiding Officer?

 

Russell George: A gaf i ond 30 eiliad, Lywydd?

 

The Presiding Officer: You can have 20.

 

Y Llywydd: Gallwch gael 20.

 

Russell George: Thank you. Minister, do you intend to build protection of our peat land into the natural environment framework? What linkages will there be between the two strategies, and what will the budgetary implications be? This is an important strategy, and, while it has been long in the making, I believe that it will ensure a more coherent approach to managing the frequency of flood events in Wales in the future.

 

Russell George: Diolch yn fawr. Weinidog, a ydych yn bwriadu adeiladu diogelu ein tir mawn i mewn i’r fframwaith amgylchedd naturiol? Pa gysylltiadau fydd rhwng y ddwy strategaeth, a beth fydd y goblygiadau cyllidebol? Mae hon yn strategaeth bwysig, ac, er ei bod wedi bod ar y gweill ers amser maith, credaf y bydd yn sicrhau dull mwy cydlynol o reoli amlder llifogydd yng Nghymru yn y dyfodol.

 

The Presiding Officer: I remind Members that this is an opportunity to question the Minister. I do not think it necessary to speak for longer than the Minister did in the first instance. I ask Members to remember that.

 

Y Llywydd: Atgoffaf yr Aelodau mai cyfle i holi’r Gweinidog yw hwn. Nid wyf yn credu ei bod yn angenrheidiol i siarad am fwy o amser nag a wnaeth y Gweinidog yn y lle cyntaf. Gofynnaf i Aelodau gofio hynny.

 

John Griffiths: I welcome the Member’s welcome for the statement and for our national strategy. I very much agree with the points about co-ordination and taking a holistic approach. The Welsh Government clearly takes responsibility for the strategy and its implementation, but we will work closely with the Environment Agency Wales on implementation and with all of the risk management authorities.

 

John Griffiths: Croesawaf groeso’r Aelod i’r datganiad ac i’n strategaeth genedlaethol. Cytunaf yn fawr iawn â’r pwyntiau am gydlynu a mabwysiadu dull cyfannol. Mae’n amlwg bod Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am y strategaeth a’i gweithrediad, ond byddwn yn gweithio’n agos gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ar weithredu a gyda phob un o’r awdurdodau rheoli perygl.

 

With regard to the concerns that the Member raised, it will be important to make links between our national strategy and the local plans and to ensure that all of the risk management authorities join up as is required. As I said, the Environment Agency will have an important co-ordinating role. In many ways, the Environment Agency has a lead and important role in national development and linking with local projects and works.

 

O ran y pryderon a godwyd gan yr Aelod, bydd yn bwysig i wneud cysylltiadau rhwng ein strategaeth genedlaethol a’r cynlluniau lleol a sicrhau bod pob un o’r awdurdodau rheoli perygl yn ymuno yn ôl yr angen. Fel y dywedais, bydd gan Asiantaeth yr Amgylchedd rôl gydlynu bwysig. Mewn sawl ffordd, mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd rôl arweiniol a phwysig mewn datblygu cenedlaethol a chysylltu gyda phrosiectau a gwaith lleol.

 

The rationale for not having a single organisation with responsibility for flood strategy in Wales is that there are a number of organisations with roles to play, and that very much includes the local authorities, of course, as well as the Environment Agency Wales and the water companies. At the moment, there is also an important role for the independent drainage boards. There are many organisations that have a role to play, and our challenge is to make sure that they all fulfil their responsibilities effectively.

 

Y rhesymeg dros beidio â chael un sefydliad sy’n gyfrifol am strategaeth lifogydd yng Nghymru yw bod yna nifer o sefydliadau sydd â rolau i’w chwarae, a hynny i raddau helaeth yn cynnwys awdurdodau lleol, wrth gwrs, yn ogystal ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a’r cwmnïau dŵr. Ar hyn o bryd, mae yna hefyd rôl bwysig i’r byrddau draenio annibynnol. Mae llawer o sefydliadau sydd â rôl i’w chwarae, a’n her yw gwneud yn siŵr eu bod i gyd yn cyflawni eu cyfrifoldebau yn effeithiol.

 

Investment is always key, as Russell George mentioned. We have made strenuous efforts to maximise the funding available, but we operate in the context of a very limiting UK Government settlement. That makes things very difficult, particularly with regard to capital investment. The European funding is valuable, and we will, of course, try to lever in additional funding if we can. The criteria for funding bids are very much about protecting people and property.

Mae buddsoddi bob amser yn allweddol, fel y crybwyllodd Russell George. Yr ydym wedi ymdrechu’n galed i wneud y gorau o’r arian sydd ar gael, ond yr ydym yn gweithredu yng nghyd-destun setliad cyfyngol iawn gan Lywodraeth y DU. Mae hynny’n gwneud pethau’n anodd iawn, yn enwedig o ran buddsoddiad cyfalaf. Mae’r cyllid Ewropeaidd yn werthfawr, a byddwn, wrth gwrs, yn ceisio denu cyllid ychwanegol os gallwn. Mae’r meini prawf ar gyfer ceisiadau am arian yn ymwneud ag amddiffyn pobl ac eiddo i raddau helaeth.

 

3.30 p.m.

 

We will talk with the insurance companies, as the Member mentioned, and with the UK Government, to try to make sure that the insurance companies recognise and properly fulfil their responsibilities. When it comes to planning, there is further enactment to take place under the Flood and Water Management Act 2010, and that will be ongoing. When that further implementation has taken place it will then be appropriate to review our planning policies. Finally, the issues the Member raised on surface water and the natural environment framework are relevant. We must be a lot smarter in avoiding hard surfaces and creating areas that will absorb water and release it slowly. Our natural environment framework will be important in looking at those natural processes and how they can aid the measures we take to reduce the impact of flooding.

 

Byddwn yn siarad â’r cwmnïau yswiriant, fel y crybwyllwyd gan yr Aelod, ac â Llywodraeth y DU, i geisio sicrhau bod y cwmnïau yswiriant yn cydnabod eu cyfrifoldebau a’u cyflawni’n briodol. O safbwynt cynllunio, mae deddfiad arall i ddigwydd o dan y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, a bydd hynny’n parhau. Pan fydd y gweithredu pellach wedi digwydd bydd wedyn yn briodol i adolygu ein polisïau cynllunio. Yn olaf, mae’r materion a godwyd gan yr Aelod ar ddŵr wyneb a’r fframwaith amgylchedd naturiol yn berthnasol. Mae’n rhaid i ni fod yn llawer callach wrth osgoi arwynebau caled a chreu ardaloedd a fydd yn amsugno dŵr a’i ollwng yn araf. Bydd ein fframwaith amgylchedd naturiol yn bwysig wrth edrych ar y prosesau naturiol hynny a sut y gallant gynorthwyo mesurau yr ydym yn eu cymryd i leihau effaith llifogydd.

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas: Fel y gŵyr y Gweinidog, oherwydd lle yr wyf wedi byw ar lan gwahanol afonydd ar hyd fy mywyd, a chan imi gynrychioli ardaloedd arfordirol ac eraill sydd wedi eu bygwth gan lifogydd difrifol, mae gennyf ddiddordeb mawr yn y pwnc hwn, yn arbennig yn yr ymgais i gysylltu’r pwnc hwn â’r gwirionedd am yr hyn sy’n digwydd erbyn hyn drwy newid hinsawdd. Mae effaith llifogydd afonol ac erydiad morol, arfordirol yn un o’r arwyddion cliriaf a mwyaf bygythiol o’r newid hinsawdd. Yr wyf, felly, yn croesawu’r strategaeth genedlaethol rheoli risg llifogydd ac erydiad arfordirol a’i hamcanion. Wrth wneud hynny, a gaf fi longyfarch Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ar ei hymgais ddewr i esbonio’r materion dyrys hyn i’r cyhoedd? Yr oeddwn yn falch o fod yn gysylltiedig â’r seminar ddiweddar a gynhaliwyd yn yr adeilad hwn.

 

Lord Elis-Thomas: As the Minister knows, having lived on the banks of various rivers throughout my life, and having represented coastal regions and others that have faced significant flood risk, I have a great interest in this subject, and particularly in the attempt to link the subject with what truly is happening as a result of climate change. The impact of fluvial flooding and coastal erosion is one of the clearest signs of climate change, and one of its greatest threats. I therefore welcome the national flood and coastal erosion risk management strategy and its objectives. In so doing, may I congratulate Environment Agency Wales on its brave attempt to explain all of these complex issues to the public? I was pleased to be part of the recent seminar held in this building.

 

Tri chwestiwn cryno sydd gennyf. Yn gyntaf, ynglŷn â rôl Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn awr, ac, o bosibl, yn y dyfodol, i ba raddau y mae’r asiantaeth yn rhoi cyngor ar sail ei gwybodaeth a data llifogydd i awdurdodau eraill, gan adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru? I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio ei phwerau a’i swyddogaeth orfodol i sicrhau bod y strategaeth genedlaethol hon yn cael ei gwireddu a’i delifro mewn gwirionedd? A allwch fod yn sicr, Weinidog, fod y 31 awdurdod rheoli risg yn deall a dehongli’r strategaeth genedlaethol, eu swyddogaethau nhw a phobl eraill yn briodol? Felly, wrth inni edrych ymlaen at gyhoeddi’r strategaeth, yr wyf yn gobeithio y bydd trafodaeth wirioneddol arni ac y byddwn yn sylweddoli’r bygythiad yr ydym yn ei wynebu, yr achosion gwirioneddol sydd wedi peri hyn i ddigwydd, a’r angen i wynebu’r sefyllfa drwy fuddsoddi dewisol. Yr oeddwn yn falch, Weinidog, eich bod yn pwysleisio’r angen i fuddsoddi cyfalaf yn y lleoedd hynny lle mae atalfeydd yn bosibl, ac yr wyf yn llongyfarch y Llywodraeth ar y ddau ddatblygiad ardderchog, y naill yn f’ardal i a’r llall yn nes i’r de ym mae Ceredigion.

 

I have three brief questions. First, in terms of the role of Environment Agency Wales now and, possibly, in the future, to what extent is the agency providing advice based on its own flood information and data to other authorities, and reporting back to the Welsh Government? To what extent does the Welsh Government intend to use its functions and powers of enforcement to ensure that this national strategy is truly realised and delivered? Can you be certain, Minister, that the 31 risk management authorities will understand and interpret the national strategy, along with their functions and those of others, appropriately? Therefore, in looking forward to the publication of the strategy, I hope that it will be the subject of a real debate and that we realise the threat we face, the real causes of flooding, and the real need to address the situation through selective investment. I was pleased, Minister, that you emphasised the need to invest capital in those areas where defences are possible, and I congratulate the Government on the two excellent developments, one in my area and the other further south in Cardigan bay.

 

John Griffiths: Thank you for that positive contribution on the strategy. It is the case that climate change is obviously an important context for future planning around flood and coastal erosion risk. We are keen to get the message across that we must future-proof this strategy and our efforts in that context. I am pleased to hear the Member’s praise for the Environment Agency, which has been doing a good job in raising public awareness and reaching out to communities. Flood Awareness Wales is an important initiative and it has reached a lot of people. The helpline and flood forecasting is valuable. People need to understand the risks, be properly prepared and plan for them. So, notwithstanding the 31 risk management authorities, Environment Agency Wales has an important co-ordinating role, but it is up to the Welsh Government as well to ensure that enforcement action is taken forward effectively. It will be a proportionate approach that is appropriate to the circumstances, which is how we will seek to work with the Environment Agency, local authorities and others. There is also a role for the Welsh Government to provide appropriate guidance and training so that all of those 31 organisations understand what the national strategy is about and are fully up to speed with developments, so that we all understand how we can best work together and co-ordinate most effectively. The training workshops, guidance and toolkits that have been provided are an important part of that picture.

 

John Griffiths: Diolch ichi am y cyfraniad cadarnhaol ar y strategaeth. Mae’n wir fod newid yn yr hinsawdd yn amlwg yn gyd-destun pwysig ar gyfer cynllunio yn y dyfodol o amgylch llifogydd ac erydu arfordirol. Rydym yn awyddus i gyfleu’r neges bod yn rhaid i’r strategaeth hon fod yn addas at y dyfodol a’n hymdrechion yn y cyd-destun hwnnw. Yr wyf yn falch o glywed canmoliaeth yr Aelod i Asiantaeth yr Amgylchedd, sydd wedi bod yn gwneud gwaith da o ran codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ac estyn allan i gymunedau. Mae Ymwybyddiaeth Llifogydd Cymru yn fenter bwysig a fydd wedi cyrraedd llawer o bobl. Mae’r llinell gymorth a rhagolygon am lifogydd yn werthfawr. Mae angen i bobl ddeall y peryglon, bod yn barod a chynllunio yn briodol ar eu cyfer. Felly, er gwaethaf y 31 o awdurdodau rheoli risg, mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru rôl cydlynu bwysig, ond mater i Lywodraeth Cymru ydyw hefyd i sicrhau bod camau gorfodi effeithiol yn cael eu cymryd. Bydd yn ddull cymesur sy’n briodol i’r amgylchiadau, a dyna sut y byddwn yn ceisio gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, awdurdodau lleol ac eraill. Mae hefyd rôl i Lywodraeth Cymru i ddarparu arweiniad a hyfforddiant priodol fel bod pob un o’r 31 sefydliad yn deall pwrpas y strategaeth genedlaethol ac â’r wybodaeth ddiweddaraf, fel ein bod i gyd yn deall sut y gallwn weithio gyda’n gilydd a chydlynu yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae’r gweithdai hyfforddi, canllawiau a phecynnau cymorth a ddarparwyd yn rhan bwysig o’r darlun hwnnw.

 

We must always work with communities in terms of understanding their needs and concerns. So, we will always work to build on what has already been achieved, and I hope that we can do that effectively moving forward.

 

Mae’n rhaid i ni bob amser weithio gyda chymunedau o ran deall eu hanghenion a’u pryderon. Felly, byddwn bob amser yn gweithio i adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes, ac yr wyf yn gobeithio y gallwn wneud hynny yn effeithiol wrth symud ymlaen.

 

William Powell: I thank the Minister for his important statement. With the undeniable reality of climate change upon us, there is no doubt that the erosion and flooding threats discussed here today present a real and increasing danger to communities across Wales. In that context, I welcome the schemes currently being rolled out, such as those on the Lledan Brook in Welshpool and the river Ennig in Talgarth, in addition to the schemes that Lord Dafydd Elis-Thomas made reference to earlier. These schemes are co-funded by the European regional development fund and the Welsh Government, and they are extremely welcome.

 

William Powell: Diolch i’r Gweinidog am ei ddatganiad pwysig. Gyda realiti diamheuol newid yn yr hinsawdd arnom, nid oes amheuaeth bod y bygythiadau erydu a llifogydd a drafodir yma heddiw yn cyflwyno perygl gwirioneddol a chynyddol i gymunedau ledled Cymru. Yn y cyd-destun hwnnw, croesawaf y cynlluniau sy’n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, fel y rhai ar Nant Lledan yn y Trallwng a’r afon Ennig yn Nhalgarth, yn ychwanegol at y cynlluniau y cyfeiriodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas atynt yn gynharach. Mae’r cynlluniau hyn yn cael eu cyd-ariannu gan gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru, ac maent i’w croesawu’n fawr.

 

I welcome the statement and the national strategy that it brings into being. In doing so, I especially welcome the attempt to consider these issues from what the Minister has termed to be a ‘holistic approach’. The complexities of climate change present real challenges to any management strategy and these challenges make it easy to neglect the interdependencies on which they are based. With this approach in mind, will the Minister expand a little further on the ways in which he sees the national strategy fitting in with other important challenges that the Welsh Government is currently facing and will face in the coming years? I refer especially to the looming housing crisis and to the necessity to develop sufficient affordable homes across the nation.

 

Croesawaf y datganiad a’r strategaeth genedlaethol sy’n bodoli o ganlyniad iddo. Wrth wneud hynny, yr wyf yn arbennig yn croesawu’r ymgais i ystyried y materion hyn o’r hyn y mae’r Gweinidog wedi’i alw’n ‘ymagwedd gyfannol’. Mae cymhlethdodau newid yn yr hinsawdd yn cyflwyno heriau gwirioneddol i unrhyw strategaeth reoli ac mae’r heriau hyn yn ei wneud yn hawdd esgeuluso’r cyd-ddibyniaethau y maent yn seiliedig arnynt. Gyda’r dull hwn mewn golwg, a wnaiff y Gweinidog ehangu ychydig ymhellach ar y ffyrdd y mae’n gweld y strategaeth genedlaethol yn ffitio gyda heriau pwysig eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd ac y bydd yn eu hwynebu yn y blynyddoedd sydd i ddod? Cyfeiriaf yn arbennig at yr argyfwng tai sydd ar y gorwel ac at yr angen i ddatblygu digon o dai fforddiadwy ar draws y genedl.

 

As the Minister will be aware, the strategy document that he referred to makes only limited reference to new housing throughout its 100 pages. He will also be aware that flood plain and seafront developments are an ever-present concern from the report’s society risk perspective. Given these community risks, will the Minister further outline the steps that he intends to take, along with his ministerial colleagues, to ensure that this holistic approach takes into account all relevant Government departments, especially housing, which I mentioned earlier? Will he also ensure that risk is managed in future developments through the local development plan process and other procedures to the same degree as it is managed in current developments?

 

Fel y bydd y Gweinidog yn ymwybodol, dim ond cyfeiriad bras at dai newydd sydd yn 100 tudalen y ddogfen strategaeth y cyfeiriodd ato. Bydd hefyd yn ymwybodol bod datblygiadau o ran gorlifdir a glan y môr yn peri pryder cyson yn yr adroddiad o safbwynt risg i gymdeithas. O ystyried y risgiau cymunedol hyn, a wnaiff y Gweinidog amlinellu’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd, ynghyd â’i gyd-Weinidogion, i sicrhau bod y dull cyfannol hwn yn cymryd i ystyriaeth holl adrannau perthnasol y Llywodraeth, yn enwedig tai, a grybwyllais yn gynharach? A wnaiff hefyd sicrhau bod y risg yn cael ei reoli mewn datblygiadau yn y dyfodol drwy broses y cynllun datblygu lleol a gweithdrefnau eraill i’r un graddau ag y mae’n cael ei reoli mewn datblygiadau cyfredol?

 

John Griffiths: Once again, I thank William Powell for his positive welcome for the strategy and the wide-ranging, rounded approach that is being taken within it. It is always important to join up as a Government, and, for me, sustainable development is the central organising principle of the Welsh Government. It is a bedrock principle for all of us in addressing issues across the board, given that sustainable development is relevant to the environment, the economy and to our social policies. So, we necessarily join up around sustainable development, and I accept that in the context of the impact of flooding, which obviously has an environmental, economic and social impact, it is important to take that approach. I have discussed and will continue to discuss with all my ministerial colleagues the necessary progress to be made as part of our national strategy. Housing is an important aspect of that. It is important that we get new housing right, as we do not want to add to existing problems. It is important that we have an adequate provision of new housing. I said earlier that, when it comes to planning, we will take forward further enactment of the Act, probably over the next six to 12 months. After that implementation, it will be appropriate to review our planning policy in terms of flooding—the technical advice notes and planning policy more generally. I very much look forward to engaging with Members on those planning issues at that stage.

 

John Griffiths: Unwaith eto, diolchaf i William Powell am ei groeso cadarnhaol ar gyfer y strategaeth a’r dull eang sy’n cael ei gymryd ynddo. Mae bob amser yn bwysig i uno fel Llywodraeth, ac, i mi, datblygu cynaliadwy yw egwyddor ganolog Llywodraeth Cymru. Mae’n egwyddor sylfaenol i ni i gyd wrth fynd i’r afael â materion ar draws y bwrdd, o ystyried bod datblygu cynaliadwy yn berthnasol i’r amgylchedd, yr economi ac i’n polisïau cymdeithasol. Felly, yr ydym o reidrwydd yn uno o amgylch datblygu cynaliadwy, a derbyniaf, yng nghyd-destun effaith llifogydd, sydd yn amlwg yn cael effaith amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol, ei bod yn bwysig i gymryd y dull gweithredu hwnnw. Yr wyf wedi trafod a byddaf yn parhau i drafod gyda fy holl gydweithwyr gweinidogol y cynnydd angenrheidiol y mae angen ei wneud fel rhan o’n strategaeth genedlaethol. Mae tai yn agwedd bwysig o hynny. Mae’n bwysig ein bod yn sicrhau ein bod yn gwneud y peth iawn o ran tai newydd, gan nad ydym am ychwanegu at y problemau sy’n bodoli eisoes. Mae’n bwysig ein bod yn cael darpariaeth ddigonol o dai newydd. Dywedais yn gynharach, o ran cynllunio, byddwn yn gweithredu deddfiad pellach o’r Ddeddf, yn ôl pob tebyg yn ystod y chwech i 12 mis nesaf. Ar ôl rhoi hynny ar waith, bydd yn briodol i adolygu ein polisi cynllunio o ran llifogydd—y nodiadau cyngor technegol a pholisi cynllunio yn fwy cyffredinol. Yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr at ymgysylltu ag Aelodau ar y materion cynllunio hynny ar yr adeg honno.

 

Janet Finch-Saunders: I also welcome the report. After 12 years, it is good to welcome the first national flood and coastal erosion strategy. I note that the report takes us to 2023, but as a Member for a constituency that has problems in the here and now, there are a couple of points that I would like to pick up and ask a couple of questions on.

 

Janet Finch-Saunders: Yr wyf innau yn croesawu’r adroddiad. Ar ôl 12 mlynedd, mae’n dda i groesawu’r strategaeth llifogydd ac erydu arfordirol cenedlaethol cyntaf. Nodaf fod yr adroddiad yn mynd â ni at 2023, ond fel Aelod dros etholaeth sydd â phroblemau yn awr, mae un neu ddau o bwyntiau yr hoffwn eu codi a gofyn ychydig o gwestiynau arnynt.

 

Throughout the report, there is much talk of a partnership approach. One of the partnerships in existence at the moment, especially where coastal erosion is a problem, is between the local authority, the householder and the Welsh Government. I know that this scheme works extremely well, because in the ward that I represented as a councillor we were able to put in good sea defence works, and the three-part partnership worked well. However, in another area in my constituency, residents feel completely let down, because negotiations were taking place, the local authority had taken money out of its capital programme, the Welsh Government had provided its promised funding and the residents were discussing and negotiating the arrangements. When it came to agreeing what proportions were needed from each resident, the money was then withdrawn. Since then, the council has—

 

Drwy gydol yr adroddiad, mae llawer o sôn am ddull partneriaeth. Un o’r partneriaethau sy’n bodoli ar hyn o bryd, yn enwedig lle mae erydiad arfordirol yn broblem, yw rhwng yr awdurdod lleol, y deiliad tŷ a Llywodraeth Cymru. Gwn fod y cynllun hwn yn gweithio’n arbennig o dda, oherwydd yn y ward yr oeddwn yn ei gynrychioli fel cynghorydd roeddem yn gallu sefydlu amddiffynfeydd môr da, ac mae’r bartneriaeth rhwng y tair rhan yn gweithio’n dda. Fodd bynnag, mewn ardal arall yn fy etholaeth, mae’r trigolion yn siomedig tu hwnt, oherwydd bod trafodaethau yn cael eu cynnal, yr oedd yr awdurdod lleol wedi cymryd arian allan o’i raglen gyfalaf, yr oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu’r cyllid a addawyd ac yr oedd y trigolion yn trafod a negodi’r trefniadau. Pan ddaeth i gytuno pa gyfran oedd ei hangen wrth bob preswylydd, tynnwyd yr arian yn ôl. Ers hynny, mae’r cyngor wedi—

 

The Presiding Officer: Order. Can we stick to the Minister’s report, please?

 

Y Llywydd: Trefn. A allwn ni gadw at adroddiad y Gweinidog, os gwelwch yn dda?

 

Janet Finch-Saunders: Since then, a second application has gone in, because hopes have been built up and residents are now aware of the coastal erosion. Therefore, I now have quite a few residents who are very concerned. The application has gone in, but the response was ‘We are sorry, but there is no more money for this year’. How do I, as a Member, seek to work with those residents and address their concerns, now that they feel badly let down in this way?

 

Janet Finch-Saunders: Ers hynny, mae ail gais wedi mynd i mewn, oherwydd mae gobeithion wedi cael eu hadeiladu i fyny a thrigolion bellach yn ymwybodol o’r erydu arfordirol. Felly, mae gennyf yn awr nifer o drigolion sy’n bryderus iawn. Mae’r cais wedi mynd i mewn, ond yr ymateb oedd ‘Mae’n ddrwg gennym, ond nid oes rhagor o arian ar gyfer y flwyddyn hon’. Sut y gallaf i, fel Aelod, geisio gweithio gyda’r trigolion hynny a mynd i’r afael â’u pryderon, nawr eu bod wedi cael eu siomi yn y modd hwn?

 

John Griffiths: The Member raised a particular problem in her constituency. If she were to write to me with details of that, obviously, I would respond. What I can say, as the Member herself said, is that funding is fully committed for this financial year, but, for future years, we will consider bids in line with our criteria, which are very much about protecting people and property, and understanding those who are at most risk. We are committed to working with communities and people and to the sort of partnership approach that the Member mentioned. Therefore, if there are any obstacles and issues on that front, I would be pleased to consider them and, if possible, ensure that they are overcome.

 

John Griffiths: Cododd yr Aelod broblem arbennig yn ei hetholaeth. Pe bai’n ysgrifennu ataf gyda’r manylion hynny, wrth gwrs, byddwn yn ymateb. Yr hyn y gallaf ei ddweud, fel y dywedodd yr Aelod ei hun, yw bod cyllid wedi ei ymrwymo’n llawn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ond, ar gyfer blynyddoedd y dyfodol, byddwn yn ystyried ceisiadau yn unol â’n meini prawf, sy’n seiliedig ar amddiffyn pobl ac eiddo, a deall pwy sydd fwyaf mewn perygl. Rydym yn ymroddedig i weithio gyda chymunedau a phobl ac i’r math o ddull partneriaeth a grybwyllwyd gan yr Aelod. Felly, os oes unrhyw rwystrau neu broblemau yn y maes hwnnw, byddwn yn falch i’w hystyried ac, os yn bosibl, sicrhau eu bod yn cael eu goresgyn.

 

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Melding) i’r Gadair am 3.43 p.m.
The Deputy Presiding Officer (David Melding) took the Chair at 3.43 p.m.

 

Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
The Older People’s Commissioner Annual Report

 

The Deputy Presiding Officer: I have selected amendment 1 in the name of Jocelyn Davies and amendments 2, 3 and 4 in the name of William Graham.

 

Y Dirprwy Lywydd: Yr wyf wedi dethol gwelliant 1 yn enw Jocelyn Davies a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw William Graham.

 

Cynnig NDM4841 Jane Hutt

 

Motion NDM4841 Jane Hutt

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

To propose that the National Assembly of Wales:

 

Yn nodi adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn ar gyfer 2010/11, y gosodwyd copi ohono yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Hydref 2011.

 

Notes the report of the Commissioner for Older People for 2010/11, a copy of which was laid in Table Office on 6 October 2011.

 

Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol (Gwenda Thomas): Cynigiaf y cynnig.

 

The Deputy Minister for Children and Social Services (Gwenda Thomas): I move the motion.

 

Mae’n bleser gennyf agor y ddadl hon ar bedwerydd adroddiad blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Y comisiynydd yw’r hyrwyddwr a’r llais ar gyfer pobl hŷn ac mae’n annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Mae hi’n ffynhonnell gwybodaeth a chymorth i bobl hŷn yn ogystal â bod yn eiriolydd drostynt. Fe welwch o’r adroddiad fod y comisiynydd wedi datblygu’r defnydd o’i phwerau cyfreithiol. Mae’r adolygiad cyntaf i driniaeth pobl hŷn mewn ysbytai mewn perthynas ag urddas a pharch wedi treiddio i waith cyrff cyhoeddus yng Nghymru ac wedi dylanwadu ar y gwaith hwnnw. Mae’r cyhoeddiad diweddar gan y comisiynydd y bydd ei hail adolygiad yn canolbwyntio ar drefniadau eiriolaeth mewn cartrefi gofal yn amserol ac yn bwysig.

It gives me great pleasure to open this debate on the fourth annual report of the Commissioner for Older People in Wales. The commissioner is the champion and the voice of older people, and is independent of the Welsh Government. She is a source of information and assistance for older people, in addition to being an advocate for them. You will see from the report that the commissioner has developed the use of her legal powers. The first review into the treatment of older people in hospitals in relation to dignity and respect has permeated into the work of public bodies in Wales and has influenced that work. The commissioner’s recent announcement that her second review will concentrate upon advocacy arrangements in care homes is timely and important.

 

3.45 p.m.

 

Earlier this year, I issued ‘Sustainable Social Services for Wales’, which is the Welsh Government’s vision for social services over the next decade. It aims to reshape and refocus social services in order to ensure that they remain strong, and can continue to meet citizens’ needs and aspirations. Members will be aware that work is currently under way within the Welsh Government to review the strategy for older people. Our ground-breaking and internationally recognised strategy is now almost nine years old. I have initiated the review of the strategy by finding out the views, issues and aspirations of older citizens in Wales. We have seen a tremendous response from every part of Wales. Almost 2,000 people have completed our survey. Older people have told us that they appreciate and value the concessionary bus passes, free prescriptions, free swimming and the maximum charge for home care. However, older people have also reported that they are concerned about age discrimination, the current financial climate and public sector efficiency. These are comments that the commissioner has heard too and will be key considerations in shaping our future work. As stated in the programme for government, we will publish the review of the strategy for older people and consult on proposals for the third phase next spring.

Yn gynharach eleni, cyhoeddais ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru’, sef gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol dros y ddegawd nesaf. Ei nod yw ail-lunio ac ail-ganolbwyntio gwasanaethau cymdeithasol er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gryf, ac yn gallu parhau i fodloni anghenion a dyheadau dinasyddion. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod gwaith yn bwrw rhagddi o fewn Llywodraeth Cymru i adolygu’r strategaeth ar gyfer pobl hŷn ar hyn o bryd. Mae ein strategaeth arloesol a gydnabyddir yn rhyngwladol bron yn naw mlwydd oed yn awr. Yr wyf wedi cychwyn yr adolygiad o’r strategaeth trwy ddarganfod safbwyntiau a dyheadau dinasyddion hŷn yng Nghymru a pha faterion sydd ganddynt i’w codi. Yr ydym wedi gweld ymateb aruthrol yn dod o bob rhan o Gymru. Mae bron i 2,000 o bobl wedi cwblhau ein harolwg. Mae pobl hŷn wedi dweud wrthym eu bod yn gwerthfawrogi ac yn rhoi gwerth ar docynnau bws consesiynol, presgripsiynau am ddim, nofio am ddim a’r uchafswm tâl am ofal cartref. Fodd bynnag, mae pobl hŷn wedi adrodd hefyd eu bod yn poeni am wahaniaethu ar sail oedran, yr hinsawdd ariannol bresennol ac effeithlonrwydd yn y sector cyhoeddus. Mae’r comisiynydd wedi clywed y sylwadau hyn hefyd a byddant yn ystyriaethau allweddol wrth lunio ein gwaith yn y dyfodol. Fel y nodwyd yn y rhaglen lywodraethu, byddwn yn cyhoeddi adolygiad o’r strategaeth ar gyfer pobl hŷn ac ymgynghori ar gynigion ar gyfer y trydydd cam y gwanwyn nesaf.

 

The programme for government and ‘Sustainable Social Services for Wales’ also recognise our commitment to introducing a stronger legal framework for protecting adults. I know that the commissioner has undertaken work in the area previously, and I am grateful for the focus she has given to that. I announced to Members on 18 October measures that I would put in place to protect and safeguard all people in Wales, and the broad arrangements for adult protection. We will be taking these measures forward through the social services Bill. However, that does not mean that it is an issue of concern to social services alone, and we will ensure that the Bill places responsibility on a range of agencies, including the NHS, to protect all people at risk within our society.

Mae’r rhaglen lywodraethu a ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru’ hefyd yn cydnabod ein hymrwymiad i gyflwyno fframwaith cyfreithiol cryfach ar gyfer amddiffyn oedolion. Gwn fod y comisiynydd wedi gwneud gwaith yn y maes yn y gorffennol, ac yr wyf yn ddiolchgar am y ffocws mae hi wedi rhoi i hynny. Cyhoeddais wrth Aelodau ar 18 Hydref fesurau y byddwn yn eu rhoi ar waith i amddiffyn a diogelu pawb yng Nghymru, a’r trefniadau cyffredinol ar gyfer amddiffyn oedolion. Byddwn yn cymryd y camau hyn yn eu blaen drwy’r Bil gwasanaethau cymdeithasol. Fodd bynnag, nid yw hynny’n golygu ei fod yn fater i wasanaethau cymdeithasol yn unig, a byddwn yn sicrhau bod y Bil yn gosod cyfrifoldeb ar ystod o asiantaethau, gan gynnwys y GIG, er mwyn amddiffyn yr holl bobl mewn perygl yn ein cymdeithas.

 

We have a saying in Welsh, henaint ni ddaw ei hunan—old age does not come on its own. However, we must not retreat back towards a negative view of older people based on deficit and decline. The strategy for older people and the commissioner have played important roles in emphasising the positive and vital contribution of older people across Wales. Older age is a period of opportunity for us to become more involved in our communities. We must work together to maximise those opportunities.

 

Mae gennym ddywediad: henaint ni ddaw ei hunan. Fodd bynnag, rhaid inni beidio â chilio yn ôl tuag at farn negyddol o bobl hŷn sy’n seiliedig ar ddiffyg a dirywiad. Mae’r strategaeth ar gyfer pobl hŷn a’r comisiynydd wedi chwarae rolau pwysig yn pwysleisio cyfraniad cadarnhaol a hanfodol pobl hŷn ledled Cymru. Mae henoed yn gyfnod pan fo cyfle i ni gymryd rhan fwy yn ein cymunedau. Rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i wneud y gorau o’r cyfleoedd hynny.

 

I will move now to the amendments that have been proposed to today’s motion. With regard to amendment 1 in the name of Jocelyn Davies, I assure you that we recognise the need to prioritise action to protect older people and to safeguard their dignity. ‘Sustainable Social Services for Wales’ sets out our intention to legislate to provide a legal framework to protect adults at risk. I built on that commitment in my statement of 18 October to the Assembly and we will continue to develop these proposals in consultation with key stakeholders and take forward our intentions within the social services Bill. Therefore, I support this amendment as we are already taking this forward.

Symudaf yn awr at y gwelliannau sydd wedi cael eu cynnig i’r cynnig heddiw. O ran gwelliant 1 yn enw Jocelyn Davies, yr wyf yn eich sicrhau ein bod yn cydnabod yr angen i flaenoriaethu camau i warchod pobl hŷn a diogelu eu hurddas. Mae ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru’ yn nodi ein bwriad i ddeddfu i ddarparu fframwaith cyfreithiol i amddiffyn oedolion mewn perygl. Adeiledais ar yr ymrwymiad hwnnw yn fy natganiad ar 18 Hydref i’r Cynulliad a byddwn yn parhau i ddatblygu’r cynigion hyn mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol a bwrw ymlaen â’n bwriadau o fewn y Bil gwasanaethau cymdeithasol. Felly, yr wyf yn cefnogi’r gwelliant hwn gan ein bod eisoes yn bwrw ymlaen â hyn.

 

Moving on to the amendments tabled in the name of William Graham, I support them also.  The Welsh Government has already put in place a programme of work which was launched in February 2011. The Government’s vision for sustainable social services and the forthcoming social services Bill, as well as the wider programme for government, will deal with the issues that the commissioner raised in ‘Turning the Page’. ‘Sustainable Social Services for Wales’ already makes a strong commitment to develop a business case to introduce a comprehensive advocacy service for older people, to identify what infrastructure is needed and to set initial priorities. The Welsh Government will also consider that issue in taking forward the social services Bill.

Gan symud ymlaen at y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw William Graham, yr wyf yn eu cefnogi hefyd. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi sefydlu rhaglen o waith a lansiwyd ym mis Chwefror 2011. Bydd gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy a’r Bil gwasanaethau cymdeithasol sydd ar y gweill, yn ogystal â’r rhaglen llywodraethu ehangach, yn delio â’r materion a gododd y comisiynydd yn ‘Oed yr Addewid’. Mae ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru’ eisoes yn gwneud ymrwymiad cryf i ddatblygu achos busnes dros gyflwyno gwasanaeth eiriolaeth cynhwysfawr ar gyfer pobl hŷn, nodi pa seilwaith sydd ei angen a gosod blaenoriaethau cychwynnol. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried y mater hwnnw wrth fwrw ymlaen â’r Bil gwasanaethau cymdeithasol.

 

We recognise the value of reablement, and it is at the heart of the Welsh Government’s approach as we commit to developing a pan-Wales service. By quickly supporting people to do for themselves, it will enable them to recover quickly or develop ways of living that fit their new circumstances. The Welsh Government has demonstrated its sustainable commitment to healthy ageing and independent living through its healthy ageing action plan and the announcement of ‘Sustainable Social Services for Wales’ and the programme for government. There is also a commitment that the strategy for older people will be reviewed, and proposals for a third phase launched. The Welsh Government has also continued funding Care and Repair Cymru to support older people to live independently.

Yr ydym yn cydnabod gwerth ail-alluogi, ac y mae wrth wraidd ymagwedd Llywodraeth Cymru wrth i ni ymrwymo i ddatblygu gwasanaeth ar gyfer Cymru gyfan. Drwy gefnogi pobl yn gyflym i ofalu drostynt eu hunain, fe’u galluogir i wella’n gyflym neu i ddatblygu ffyrdd o fyw sy’n cyd-fynd â’u hamgylchiadau newydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ei hymrwymiad cynaliadwy i heneiddio’n iach a byw’n annibynnol drwy ei chynllun gweithredu heneiddio’n iach a chyhoeddi ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru’ a’r rhaglen lywodraethu. Ceir hefyd ymrwymiad i adolygu’r strategaeth ar gyfer pobl hŷn, a lansio cynigion ar gyfer trydydd cam. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi parhau i ariannu Gofal a Thrwsio Cymru i gefnogi pobl hŷn i fyw’n annibynnol.

 

I am also aware, particularly in these constrained times, that older people are crucial contributors to our economy. The WRVS recently issued research to show that the over-65s in Wales contribute £2.9 million daily to the Welsh economy and, over the next 20 years, will contribute over £27 billion. Older people in Wales must no longer be described in terms of being a burden or a drain on society, but rather a valuable asset for communities, families and public service delivery.

Yr wyf hefyd yn ymwybodol, yn enwedig yn y cyfnod o gyfyngu hyn, fod pobl hŷn yn gyfranwyr hanfodol i’n heconomi. Cyhoeddodd WRVS ymchwil yn ddiweddar i ddangos bod pobl dros 65 oed yng Nghymru yn cyfrannu £2.9 miliwn bob dydd i economi Cymru ac, yn ystod yr 20 mlynedd nesaf, byddant yn cyfrannu mwy na £27 biliwn. Ni ddylai pobl hŷn yng Nghymru gael eu disgrifio mwyach fel baich neu dreth ar gymdeithas, ond yn hytrach fel ased gwerthfawr i gymunedau, teuluoedd a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus.

 

I firmly believe that ageing should be a part of life that we look forward to and relish—not one that we ignore and dread. I have been pleased to see the commissioner use a phrase that I have previously used to share our standpoint on this: we both want to make Wales a great place to grow older. I commend this report to the National Assembly.

Credaf yn gryf y dylai heneiddio fod yn rhan o fywyd yr ydym yn edrych ymlaen ato ac yn ei fwynhau—nid un yr ydym yn anwybyddu ac arswydo rhagddo. Yr wyf wedi bod yn falch bod y comisiynydd yn defnyddio ymadrodd yr wyf wedi ei ddefnyddio o’r blaen i rannu ein safbwynt ar hyn: yr ydym yn awyddus i wneud Cymru yn lle gwych i heneiddio. Cymeradwyaf yr adroddiad hwn i’r Cynulliad Cenedlaethol.

 

Gwelliant 1 Jocelyn Davies

Amendment 1 Jocelyn Davies

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add new point at end of motion:

 

Yn annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu camau i warchod pobl hŷn sydd mewn perygl o niwed neu sy’n methu ag ymdopi; ac i ddiogelu eu hurddas.

 

Urges the Welsh Government to prioritise action to protect older people who are at risk of harm or unable to cope; and to safeguard their dignity.

Lindsay Whittle: I move amendment 1 in the name of Jocelyn Davies.

Lindsay Whittle: Cynigiaf welliant 1 yn enw Jocelyn Davies.

 

I speak as an Assembly Member who employs staff from their 20s to their 70s. That is a good point on which to start, I think.

Siaradaf fel Aelod Cynulliad sy’n cyflogi staff yn eu 20au ac yn eu 70au. Mae hynny’n bwynt da i ddechrau, yr wyf yn meddwl.

 

One of the key points that the commissioner made in her report related to the need for legislation to protect older people from harm. The commissioner wants to see the same legal protection afforded to older people as that rightly given to children and to people experiencing domestic violence. There will be no-one in this Chamber who would argue with that.

 

Yr oedd un o’r pwyntiau allweddol a wnaeth y comisiynydd yn ei hadroddiad yn ymwneud â’r angen am ddeddfwriaeth i amddiffyn pobl hŷn rhag niwed. Mae’r comisiynydd am weld yr un amddiffyniad cyfreithiol a roddir i bobl hŷn a roddir yn gywir i blant ac i bobl sy’n dioddef trais domestig. Ni fydd neb yn y Siambr hon a fyddai’n dadlau â hynny.

 

Smacking children exercised our minds recently—I had lots of e-mails on that—but stopping the physical abuse of older people is just as important, and I believe that it must be our top priority. That would surely be in harmony with the Equality Act 2010. In many cases of the abuse of older people in hospitals and care homes, we are talking about what we might call the older older people—people who, because of their advanced years, are considered by some nursing and care staff to be less worthy of care and support. Thank goodness those staff are in a mindless minority, but they do exist.

Mae rhoi smac i blant wedi bod ar ein meddyliau yn ddiweddar—cefais llawer o negeseuon e-bost ar hynny—ond mae atal cam-drin pobl hŷn yn gorfforol yr un mor bwysig, ac yr wyf yn credu bod yn rhaid iddo fod yn brif flaenoriaeth i ni. Byddai hynny’n sicr mewn cytgord â Deddf Cydraddoldeb 2010. Mewn llawer o achosion o gam-drin pobl hŷn mewn ysbytai a chartrefi, yr ydym yn sôn am bobl y gallem ei galw’n bobl hŷn hŷn—pobl sydd, oherwydd eu bod mewn gwth o oedran, yn cael eu hystyried gan rai staff nyrsio a gofal i fod yn llai teilwng o ofal a chefnogaeth. Diolch byth bod y staff hynny yn y lleiafrif difeddwl, ond maent yn bodoli.

 

This is discrimination of the worst kind, as has been highlighted in the ‘Dignified Care?’ report and by certain third sector organisations. I understand that all the bodies covered in that report have responded with details as to how those issues are to be resolved. I look forward to the day that those details are shared with the Assembly, no doubt in future reports.

Gwahaniaethu ar ei waethaf yw hyn, fel y tynnwyd sylw ato yn yr adroddiad ‘Gofal gydag Urddas?’ a gan rai sefydliadau trydydd sector. Deallaf fod yr holl gyrff a drafodir yn yr adroddiad hwnnw wedi ymateb gyda manylion ynghylch sut mae datrys y materion hynny. Edrychaf edrych ymlaen at y diwrnod  y caiff y manylion hynny eu rhannu gyda’r Cynulliad, yn ddi-os mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

Without proper legislation to protect and safeguard our older people, those who neglect and abuse them are likely to go unpunished. It would be interesting to find out how many staff have been identified as causing distress to patients and their families, and how many staff have actually been punished. One of the issues covered in the report—this is not a pleasant subject, but it needs to tackled—is that staff on some hospital wards rely on pads instead of looking after patients’ toilet needs properly. I like to use examples from my own family in this Chamber, as you have probably noticed, and I recall that when my father was in hospital, a nurse put a pad on him as a precautionary measure, as she said. He explained to the nurse that he was 84, not four years of age, and needed to be treated with dignity. I found it entirely shocking and wholly unacceptable. It was an assault on that man’s self-respect and was totally against the United Nations’ principles for older people. We should be telling staff in the NHS, who rely on this as a precautionary measure, that that is not acceptable. That message should go out loud and clear from this debating Chamber today.

Heb ddeddfwriaeth briodol i amddiffyn a diogelu ein pobl hŷn, bydd y rhai sy’n eu hesgeuluso a’u cam-drin yn debygol o beidio â chael eu cosbi. Byddai’n ddiddorol cael gwybod faint o staff wedi cael eu nodi fel rhai sy’n peri gofid i gleifion a’u teuluoedd, a faint o staff sydd wedi cael eu cosbi mewn gwirionedd. Un o’r materion a drafodir yn yr adroddiad hwn—nid yw’n bwnc pleserus, ond mae angen mynd i’r afael ag ef—yw bod staff ar rai wardiau ysbytai yn dibynnu ar badiau yn lle edrych ar ôl anghenion toiled cleifion yn briodol. Yr wyf yn hoffi defnyddio enghreifftiau o blith fy nheulu fy hun yn y Siambr hon, fel yr ydych wedi sylwi yn ôl pob tebyg, ac yr wyf yn cofio pan oedd fy nhad yn yr ysbyty, gwnaeth nyrs roi pad arno fel mesur rhagofalus, chwedl hithau. Eglurodd wrth y nyrs ei fod yn 84, nid yn bedair blwydd oed, a bod angen iddo gael ei drin ag urddas. Fe’i cefais yn gwbl syfrdanol ac yn hollol annerbyniol. Yr oedd yn ymosodiad ar hunan-barch y gŵr ac yn hollol yn erbyn egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn. Dylem fod yn dweud wrth staff yn y GIG, sy’n dibynnu ar hyn fel mesur rhagofalus, nad yw hynny’n dderbyniol. Dylai’r neges hwnnw fynd ar goedd yn eglur o’r Siambr hon heddiw.

 

We need to take on responsibility to ensure that our older citizens can enjoy living in a safe and caring environment. The Deputy Minister stated in her White Paper, ‘Sustainable Social Services for Wales: A Framework for Action’, published in February 2011, that the Government will consider the experience of the new system in Scotland when looking to introduce changes to strengthen adult safeguarding in Wales. Scotland seems to be ahead on so many things, no wonder it is heading for independence. Deputy Minister, are you able to comment on any work that has been done on that issue so far?

Mae angen i ni gymryd cyfrifoldeb dros sicrhau y gall ein dinasyddion hŷn fwynhau byw mewn amgylchedd diogel a gofalgar. Dywedodd y Dirprwy Weinidog yn ei Phapur Gwyn, ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu’, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2011, y bydd y Llywodraeth yn ystyried profiad y system newydd yn yr Alban wrth ystyried cyflwyno newidiadau i gryfhau diogelu oedolion Cymru. Ymddengys fod yr Alban ar y blaen ar gymaint o bethau, nid oes rhyfedd ei bod yn ei gwneud hi at annibyniaeth. Ddirprwy Weinidog, a allwch roi sylwadau ar unrhyw waith sydd wedi ei wneud ar y mater hwnnw hyd yn hyn?

 

I will conclude by saying that we need to ensure that the commissioner’s report is not just noted, but acted upon. We tend to note a lot of things in this Chamber, and while they are worthy of noting, they are also worthy of action. Joe Public out there wants action now.

Yr wyf am gloi drwy ddweud bod angen i ni sicrhau nad yw adroddiad y comisiynydd yn cael ei nodi yn unig, ond y gweithredir arno. Yr ydym yn tueddu i nodi llawer o bethau yn y Siambr hon, ac er eu bod yn teilyngu cael eu nodi, maent hefyd yn teilyngu cael eu gweithredu. Mae’r cyhoedd allan yno eisiau bod gweithredu yn awr.

 

Gwelliant 2 William Graham

Amendment 2 William Graham

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add new point at end of motion:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i’r heriau a nodwyd yn ‘Galwadau’r Comisiynydd’.

 

Calls upon the Welsh Government to respond to the challenges defined in ‘Calls from the Commissioner’.

 

Gwelliant 3 William Graham

Amendment 3 William Graham

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add new point at end of motion:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaeth eiriolaeth cynhwysfawr a chyson ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.

 

Calls upon the Welsh Government to establish a comprehensive and consistent advocacy service for older people in Wales.

 

Gwelliant 4 William Graham

Amendment 4 William Graham

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add new point at end of motion:

 

Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru

 

Believes that the Welsh Government should:

 

a) werthuso cynlluniau lleol, wedi’u hanelu at gynorthwyo pobl hŷn, sy’n:

 

a) evaluate local schemes, aimed at assisting elderly people, which:

 

i) eu hannog i fabwysiadu ffyrdd iach o fyw ac yn eu galluogi i fyw’n ddiogel mewn cymuned gefnogol, a thrwy hynny osgoi gorfod aros yn ddiangen mewn ysbyty; a

 

i) encourage the adoption of healthy lifestyles and allow them to live safely within a supportive community thus avoiding unnecessary hospital admissions; and

 

ii) hyrwyddo byw’n annibynnol.

 

ii) promote independent living; and

 

b) ymgorffori’r arfer gorau mewn cynllun gweithredu Cymru gyfan ar gyfer iechyd ataliol.

 

b) incorporate best practices into an all-Wales action plan on preventative health.

William Graham: I move amendments 2, 3 and 4 tabled in my name.

William Graham: Cynigiaf welliannau 2, 3 a 4 a gyflwynwyd yn fy enw i.

 

I would like to express my gratitude to the Deputy Minister for stating that she will support these amendments to the motion today. The Welsh Conservatives, like all parties in this Assembly, applaud the hard work that the Commissioner for Older People in Wales and her staff have done to improve the lives of older people in Wales. All too often we say that we live in an ageing society and accept that, almost as a matter of fact, without showing a true understanding of the impact of this reality.

Hoffwn fynegi fy niolch i’r Dirprwy Weinidog am ddatgan y bydd yn cefnogi’r gwelliannau hyn i’r cynnig heddiw. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig, fel pob plaid yn y Cynulliad hwn, yn cymeradwyo gwaith caled Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a’i staff i wella bywydau pobl hŷn yng Nghymru. Yn rhy aml yr ydym yn dweud ein bod yn byw mewn cymdeithas sy’n heneiddio ac yn derbyn hynny, bron fel mater o ffaith, heb ddangos gwir ddealltwriaeth o effaith y realiti hwn.

 

In the lifetime of this Assembly, we have addressed issues concerning the lives of the people of Wales—how to support and care for them—by enacting policies to provide the best health service, education, environment and employment opportunities possible. We have enshrined laws in statute or set targets to enhance the lives of people of all ages, including those who are able to make their own life choices and those vulnerable people who require additional attention, care and support. We need to fully realise all of the implications of our ageing society and see the advantages of being able to proactively implement support services now, and not have to react to the demands and strains that are placed upon our support services in future.

Yn ystod oes y Cynulliad hwn, yr ydym wedi mynd i’r afael â materion yn ymwneud â bywydau pobl Cymru—sut i’w cefnogi a gofalu amdanynt—wrth ddeddfu polisïau i ddarparu’r cyfleoedd gwasanaeth iechyd, addysg, yr amgylchedd a chyflogaeth gorau posibl. Yr ydym wedi ymgorffori cyfreithiau mewn statud neu osod targedau i wella bywydau pobl o bob oedran, gan gynnwys y rhai sy’n gallu gwneud eu dewisiadau bywyd eu hunain a’r bobl hynny sy’n agored i niwed sydd angen sylw, gofal a chefnogaeth ychwanegol. Mae angen i ni sylweddoli holl oblygiadau ein cymdeithas sy’n heneiddio yn llawn a gweld y manteision o allu gweithredu gwasanaethau cymorth yn rhagweithiol yn awr, heb orfod ymateb i’r gofynion a’r straen sy’n cael eu gosod ar ein gwasanaethau cymorth yn y dyfodol.

 

We can begin this process by responding to the challenges laid out in the ‘Calls from the Commissioner’ section of the report. We must ensure that services for older people mirror the support services afforded all vulnerable people. Protecting older people from harm must be given the same statutory recognition as the protection of other vulnerable people, such as those with disabilities, children who require protection or those who experience domestic violence. We need to address poverty among older people by extending the policies that tackle child poverty to include all ages and understanding that older relatives’ financial circumstances impact upon all generations of a family.

Gallwn ddechrau’r broses hon drwy ymateb i’r heriau a nodwyd yn adran ‘Galwadau’r  Comisiynydd’ o’r adroddiad. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn yn adlewyrchu’r gwasanaethau cymorth a roddir i’r holl bobl sy’n agored i niwed. Mae’n rhaid bod amddiffyn pobl hŷn rhag niwed yn cael yr un gydnabyddiaeth statudol ag amddiffyn pobl eraill sy’n agored i niwed, fel pobl ag anableddau, plant sydd angen eu hamddiffyn neu bobl sy’n dioddef trais domestig. Mae angen i ni fynd i’r afael â thlodi ymhlith pobl hŷn drwy ymestyn y polisïau sy’n mynd i’r afael â thlodi plant i gynnwys pob oedran a deall bod amgylchiadau ariannol perthnasau hŷn yn effeithio ar bob cenhedlaeth o deulu.

 

We must ensure that we address the issues raised in ‘Dignified Care?’. There are positive examples, including effective ward leadership and older people telling us how much they appreciate good care. However, we need to ensure that comments such as, ‘I don’t know why I’m here’ or ‘I don’t know what is wrong with me or what they’re doing about it’ become a thing of the past. Immobility and confusion must not be a hallmark of our treatment of older people.

Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r materion a godwyd yn ‘Gofal gydag Urddas?’. Ceir enghreifftiau cadarnhaol, gan gynnwys arweinyddiaeth ward effeithiol a phobl hŷn yn dweud wrthym faint y maent yn gwerthfawrogi gofal da. Fodd bynnag, mae angen inni sicrhau bod sylwadau fel, ‘Nid wyf yn gwybod pam rydw i yma’ neu ‘Nid wyf i’n yn gwybod beth sydd o’i  le arnaf fi neu beth maen nhw’n ei wneud am y peth’ yn troi’n sylwadau sy’n perthyn i’r oes a fu. Ni ddylai aros yn y fan a dryswch nodweddu sut yr ydym yn trin pobl hŷn.

 

For all the services that we provide we must end the postcode lottery and ensure consistent service provision and delivery. The Welsh Conservatives’ amendment 3 draws specific attention to advocacy services, which, throughout the report, is a matter of increasing concern to the commissioner. She remarks that advocacy is vital

Yn yr holl wasanaethau a ddarparwn mae’n rhaid i ni roi terfyn ar y loteri cod post a sicrhau darpariaeth a chyflenwad gwasanaeth cyson. Mae gwelliant 3 y Ceidwadwyr Cymreig yn tynnu sylw penodol at wasanaethau eiriolaeth, sydd, drwy gydol yr adroddiad, yn fater o bryder cynyddol i’r comisiynydd. Mae hi’n gwneud y sylw bod eiriolaeth yn hanfodol

 

‘to help people to say what they want, secure their rights, represent their interests and obtain services they need.’

‘i helpu pobl i ddweud beth y maent eisiau ei ddweud, diogelu eu hawliau, cynrychioli eu buddiannau a chael y gwasanaethau y maent eu hangen.’

 

We have determined the requirement of advocacy services for the vulnerable members of our society, but that support option must be extended to older people. Throughout Wales, there are schemes aimed at supporting older people to live independently and safely in their own homes, in addition to encouraging the adoption of healthy lifestyles, which will keep them active and prevent unnecessary hospital admissions. Particularly in that respect, we should note the Gwent frailty programme. We need to ensure that best practice is incorporated into an all-Wales action plan, for the best provision of all of these support services.

Yr ydym wedi pennu’r gofyniad dros wasanaethau eiriolaeth ar gyfer aelodau agored i niwed ein cymdeithas, ond mae’n rhaid ymestyn yr opsiwn cymorth hwnnw yn cael at bobl hŷn. Ledled Cymru, mae cynlluniau sydd â’r nod o gefnogi pobl hŷn i fyw’n annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain, yn ogystal ag annog mabwysiadu ffyrdd iach o fyw, a fydd yn eu cadw’n fywiog ac yn atal derbyniadau diangen i’r ysbyty. Yn arbennig yn y cyswllt hwnnw, dylem nodi rhaglen eiddilwch Gwent. Mae angen i ni sicrhau bod yr arferion gorau yn cael eu hymgorffori mewn cynllun gweithredu Cymru gyfan, er mwyn y ddarpariaeth orau o bob un o’r gwasanaethau cymorth hyn.

 

Older people make an enormous contribution to family life and to their communities, particularly their participation in voluntary work. However, their greatest contribution is all too often undervalued and unnoticed. The Welsh Conservatives want to increase the recognition for the large role that grandparents play in the caring for children within the family. The RIAS insurance group report in June 2011 indicated that the United Kingdom’s grandparents will save parents around £806 million in childcare costs by providing vital childcare during the summer holidays, which would cost parents up to £558 per week, if they had to pay for it. The report also indicated that, in Wales, 54 per cent of grandparents explained that their childcare duties increased during the summer holidays, against a national UK average of 50 per cent. Addressing the issues included in these reports can allow for the amendments and strategies outlined in the commissioner’s report to become reality. We must seize the advantage of being able to proactively implement the support services that our older people deserve.

Mae pobl hŷn yn gwneud cyfraniad enfawr i fywyd teuluol ac i’w cymunedau, yn enwedig eu cyfranogiad mewn gwaith gwirfoddol. Fodd bynnag, mae eu cyfraniad mwyaf yn llawer rhy aml yn cael ei danbrisio a neb yn sylwi arno. Mae Ceidwadwyr Cymru am gynyddu’r gydnabyddiaeth am y rôl fawr y mae mamau-cu a thadau-cu yn eu chwarae yn gofalu am blant yn y teulu. Dangosodd adroddiad y grŵp yswiriant RIAS ym mis Mehefin 2011 y bydd mamau-cu a thadau-cu y Deyrnas Unedig yn arbed rhieni tua £806 miliwn mewn costau gofal plant drwy ddarparu gofal plant hanfodol yn ystod gwyliau’r haf, a fyddai’n costio hyd at £558 yr wythnos i rieni, pe baent yn gorfod talu amdano. Dangosodd yr adroddiad hefyd, yng Nghymru, fod 54 y cant o famau-cu a thadau-cu yn egluro bod eu dyletswyddau gofal plant yn cynyddu yn ystod gwyliau’r haf, yn erbyn cyfartaledd cenedlaethol y DU o 50 y cant. Bydd mynd i’r afael â’r materion a gynhwysir yn yr adroddiadau hyn yn caniatáu i’r gwelliannau a strategaethau a amlinellir yn adroddiad y comisiynydd ddod yn realiti. Mae’n rhaid i ni fanteisio ar y gallu i weithredu’r gwasanaethau cymorth y mae ein pobl hŷn yn eu haeddu yn rhagweithiol.

 

4.00 p.m.

 

The Deputy Presiding Officer: Ten Members wish to speak in this debate, and I would like to call as many of them as possible. Therefore, I ask Members to be succinct.

 

Y Dirprwy Lywydd: Mae 10 Aelod sy’n dymuno siarad yn y ddadl hon, a hoffwn alw cymaint ohonynt â phosibl. Felly, gofynnaf i Aelodau fod yn gryno.

 

Mark Drakeford: Diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Yr wyf yn siarad yn rhinwedd fy swydd yn Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yr oedd yn ddefnyddiol iawn clywed am gyfraniad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru  yn y pwyllgor iechyd am y tro cyntaf ym mis Hydref, a chlywed am y gwaith y mae ei swyddfa wedi’i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf. Nid yw’n syndod mai iechyd a gofal cymdeithasol yw’r materion sydd ar frig rhestr pobl hŷn pan maent yn mynd at y comisiynydd i drafod eu blaenoriaethau. Byddaf yn canolbwyntio ar dri pheth a gododd yn yr adroddiad, ac a drafodwyd yn y pwyllgor.

 

Mark Drakeford: Thank you for the opportunity to participate in this afternoon’s debate. I speak in my role as Chair of the Health and Social Care Committee. It was very useful to hear of the contribution of the Older People’s Commissioner for Wales in the health committee for the first time in October, and to hear about the work that her office has done over the last year. It is no surprise that health and social care top the list of priorities for older people when they contact the commissioner. I will focus on these issues that arose in the report and that were discussed in committee.

The first of these is the work on dignified care, which the commission has undertaken, and the willingness of that office to use its powers to drive compliance among bodies for which this Assembly has responsibility. The second is the work that the commission has undertaken on care home closure and quality of care in residential homes. This has been especially important in the context of the collapse of Southern Cross Healthcare, and will feed directly into the inquiry into residential care of older people, on which the committee intends to embark after Christmas. The third is the issue of finance, and the impact of inflation on those on fixed incomes. We know that the change to uprating pensions by the consumer price index, rather than the retail price index, will reduce the incomes of the poorest pensioners in Wales by more than £200 a year. It is little wonder that the Daily Telegraph refers to CPI as the ‘cutting pensions index’—a development that cannot but be of concern to anyone who reads what the commissioner has to say about poverty across the course of a person’s life. 

 

Y cyntaf o’r rhain yw’r gwaith ar ofal gydag urddas, sydd wedi’i wneud gan y comisiwn, a pharodrwydd y swyddfa honno i ddefnyddio ei phwerau i yrru cydymffurfiaeth ymhlith cyrff y mae’r Cynulliad hwn yn gyfrifol amdanynt. Yr ail yw’r gwaith y mae’r comisiwn wedi ymgymryd ar gau cartrefi gofal ac ansawdd y gofal mewn cartrefi preswyl. Mae hyn wedi bod yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun methiant Southern Cross Healthcare, a bydd yn bwydo yn uniongyrchol i mewn i’r ymchwiliad ar ofal preswyl pobl hŷn y mae’r pwyllgor yn bwriadu ei gychwyn ar ôl y Nadolig. Y trydydd yw’r mater o gyllid, ac effaith chwyddiant ar y rhai sydd ar incwm sefydlog. Yr ydym yn gwybod bod y newid i uwchraddio pensiynau gan y mynegai prisiau defnyddwyr yn hytrach na’r mynegai prisiau manwerthu yn lleihau incwm y pensiynwyr tlotaf yng Nghymru gan fwy na £200 y flwyddyn. Nid yw’n syndod bod y Daily Telegraph yn cyfeirio at CPI fel y ‘cutting pensions index’—datblygiad sydd ond yn gallu fod yn destun pryder i unrhyw un sy’n darllen yr hyn y mae’r comisiynydd yn ei ddweud am dlodi yn ystod oes person.

 

It seems to me that the unifying thread in the work of the commission is that it exists for the purpose of taking on those issues that make life uncomfortable for those who occupy positions of power in our society, whether that be major public sector organisations, such as local health boards, large multinational corporations providing residential care or Ministers here and in Whitehall.

 

Mae’n ymddangos imi fod y ddolen gyswllt yng ngwaith y comisiwn yw ei fod yn bodoli ar gyfer y diben o fynd ar ôl y materion hynny sy’n gwneud bywyd yn anghyfforddus ar gyfer y rhai sy’n byw mewn safleoedd o bŵer yn ein cymdeithas, boed yn sefydliadau mawr yn y sector cyhoeddus, megis byrddau iechyd lleol, corfforaethau rhyngwladol mawr yn darparu gofal preswyl neu Weinidogion yma ac yn Whitehall.

 

We recognise most public services by the extent to which they generate satisfaction among their users. The commission is different. That office does best when it provides the grit that allows us to hear from those who know where things are not as they ought to be. I wish the commissioner well for the future, but most of all I wish her well in making that future uncomfortable for the rest of us.

 

Yr ydym yn cydnabod y rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus gan y graddau y maent yn cynhyrchu boddhad ymysg eu defnyddwyr. Mae’r comisiwn yn wahanol. Mae’r swyddfa honno ar ei orau pan fydd yn darparu’r wybodaeth sy’n ein galluogi i glywed gan y rhai sy’n gwybod lle nad yw pethau fel y dylent fod. Dymunaf yn dda i’r comisiynydd ar gyfer y dyfodol, ond yn bennaf oll dymunaf yn dda iddi wrth wneud y dyfodol hwnnw yn anghyfforddus ar gyfer y gweddill ohonom.

 

Eluned Parrott: I also think that it is important that we extend our thanks to Ruth Marks and all of her staff—they continue to provide an excellent service and a voice for older people living in Wales. Reading this report, the fact that the main concerns of older people revolve around health and social care leaps out. One of the findings of the report is that almost 40 per cent of all enquiries made by older people, their families and carers to the commission relate to these two topics, which is something that the commissioner was at pains to highlight in her evidence to the Health and Social Care Committee on 6 October. The commissioner highlighted that close and effective liaison across health and social services can pay real dividends for older people, preventing avoidable hospital admission, planning for effective hospital discharge and focusing on reablement to promote independent living.

 

Eluned Parrott: Yr wyf hefyd yn credu ei bod yn bwysig ein bod yn diolch i Ruth Marks a phob un o’i staff—maent yn parhau i ddarparu gwasanaeth ardderchog a llais i bobl hŷn sy’n byw yng Nghymru. Wrth ddarllen yr adroddiad hwn, mae’r ffaith bod prif bryderon pobl hŷn yn ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol yn neidio allan. Un o ganfyddiadau’r adroddiad yw bod bron i 40 y cant o’r holl ymholiadau a wneir gan bobl hŷn, eu teuluoedd a’u gofalwyr at y comisiwn yn ymwneud â’r ddau destun hynny, sy’n rhywbeth y mae’r comisiynydd yn awyddus iawn i dynnu sylw ato yn ei thystiolaeth i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 6 Hydref. Amlygodd y comisiynydd y gall cyswllt agos ac effeithiol ar draws iechyd a gwasanaethau cymdeithasol dalu ar ei ganfed ar gyfer pobl hŷn, gan atal derbyniadau diangen i’r ysbyty, cynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion o’r ysbyty yn effeithiol, a chanolbwyntio ar ail-alluogi i hyrwyddo byw’n annibynnol.

 

For many older people, independence is life. The loss of it is the loss of their sense of self, their worth in the world and an important aspect of their personality. Loss of independence is truly devastating. For this reason, the Welsh Liberal Democrats welcome the first review by the commissioner of the treatment of older people in hospitals in Wales, the findings of which were published in March of this year. As part of the ‘Dignified Care?’ review, the commissioner took evidence from real people in real situations, and shone a light on the standards of care experienced by older people in Wales today. Shockingly, the commissioner found that the treatment of some older people in hospitals is ‘shamefully inadequate’. For those of us with elderly and vulnerable relatives receiving treatment from the NHS in Wales, this will sadly ring true.

 

I lawer o bobl hŷn, annibyniaeth yw bywyd. Mae colli hynny yn meddwl colli eu hunaniaeth, eu gwerth yn y byd ac yn agwedd bwysig ar eu personoliaeth. Mae colli annibyniaeth wir yn ddinistriol. Am y rheswm hwn, mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn croesawu’r adolygiad cyntaf gan y comisiynydd o driniaeth pobl hŷn mewn ysbytai yng Nghymru, a’r canfyddiadau a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni. Fel rhan o’r adolygiad ‘Gofal gydag Urddas?’, cymerodd y comisiynydd dystiolaeth gan bobl go iawn mewn sefyllfaoedd go iawn, a disgleiriodd oleuni ar y safonau gofal a brofir gan bobl hŷn yng Nghymru heddiw. Yn gywilyddus, canfu’r comisiynydd fod triniaeth rhai pobl hŷn mewn ysbytai un warthus o annigonol. I’r rhai ohonom sydd â pherthnasau oedrannus ac agored i niwed sy’n cael triniaeth gan y GIG yng Nghymru, bydd tinc o wirionedd i hyn, yn anffodus.

 

The review found examples of good practice across Wales. I think that it is vital that the Welsh Government demonstrates leadership to health boards in tackling this shameful blight on the Welsh NHS by learning from and sharing those best practices. In July, the commissioner announced that all local authorities and three other bodies—Betsi Cadwaladr University Local Health Board, Hywel Dda Local Health Board and Powys Teaching Local Health Board—had submitted evidence to satisfy the commissioner that they would implement the 12 recommendations made in that report. However, further information was required from six other bodies. Sadly, they included the Welsh Government. That is hardly leadership. The commissioner gave these bodies until mid September to produce further evidence, so I would respectfully ask the Deputy Minister to confirm that the Welsh Government has now submitted satisfactory evidence to the commissioner.

 

Canfu’r adolygiad enghreifftiau o arfer da ledled Cymru. Yr wyf yn meddwl ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn dangos arweiniad i fyrddau iechyd wrth fynd i’r afael â’r methiant cywilyddus hwn yn y GIG yng Nghymru drwy ddysgu gan yr arferion gorau hynny a’u rhannu. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd y comisiynydd bod pob awdurdod lleol a thri chorff arall-Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Lleol Addysg Powys-wedi cyflwyno tystiolaeth i fodloni’r comisiynydd y byddent yn gweithredu’r 12 o argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwnnw. Fodd bynnag, yr oedd angen gwybodaeth bellach gan chwe chorff arall. Yn anffodus, ymhlith yr rhain oedd Llywodraeth Cymru. Nid arweinyddiaeth yw hynny. Rhoddodd y comisiynydd tan ganol mis Medi i’r cyrff gynhyrchu tystiolaeth bellach, felly gofynnaf yn barchus i’r Dirprwy Weinidog gadarnhau bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cyflwyno tystiolaeth foddhaol i’r comisiynydd.

 

On the topic of vulnerable adults, I am pleased that the commission has produced and launched a practical guide to the current law protecting older people in Wales, which clearly outlines the areas of law that practitioners should know about. I am also glad that the Deputy Minister has recognised that more can be done. Of the 28 Bills submitted to the Assembly by Members for selection on 18 October of this year, 13 were for an adult support and protection Bill. This shows the strength of feeling on this issue from Members across all parties. The Government needs to take this issue seriously and produce a white paper on it.

 

Ar y pwnc o oedolion sy’n agored i niwed, yr wyf yn falch bod y comisiwn wedi cynhyrchu a lansio canllaw ymarferol i’r gyfraith bresennol sy’n amddiffyn pobl hŷn yng Nghymru, sy’n amlinellu’n glir y meysydd hynny o’r gyfraith y dylai ymarferwyr wybod amdanynt. Yr wyf yn falch hefyd fod y Dirprwy Weinidog wedi cydnabod y gellir gwneud mwy. O’r 28 Mesur a gyflwynwyd i’r Cynulliad gan Aelodau i’w dethol ar 18 Hydref eleni, roedd 13 am Fil gymorth ac amddiffyn oedolion. Mae hyn yn dangos cryfder teimladau Aelodau o bob plaid ar y mater hwn. Mae angen i’r Llywodraeth gymryd y mater hwn o ddifrif a chynhyrchu papur gwyn arno.

 

We welcome the fact that the commission undertook a fact-finding mission to Scotland to examine the Scottish adult support and protection legislation, which has already been mentioned. It was particularly interesting to consider the aspects of Scottish legislation that the commissioner thinks would be beneficial in Wales, namely a duty to co-operate, to share information, to make inquiries at an early stage when harm, as opposed to serious harm, is suspected and to provide advocacy where needed. The latter duty goes one step further than the Scottish provisions. In introducing this debate, the Deputy Minister stated that the commission has influenced public bodies in Wales. Has it influenced her? Will she be including these duties in the social services Bill when it is introduced? I respectfully ask her to give us an outline of what the timescale for that will be. I am sure that many of us feel that this is a matter of great urgency. Given the evidence that we have been presented with, the case is both compelling and pressing.

 

Yr ydym yn croesawu’r ffaith bod y comisiwn wedi ymgymryd ag ymweliad â’r Alban i ddysgu mwy am ddeddfwriaeth gefnogaeth ac amddiffyn oedolion yr Alban, sydd wedi cael ei chrybwyll yn barod. Yr oedd yn arbennig o ddiddorol i ystyried agweddau ar ddeddfwriaeth yr Alban y mae’r comisiynydd yn credu y byddai o fudd yng Nghymru, sef dyletswydd i gydweithredu, i rannu gwybodaeth, i wneud ymholiadau ar gam cynnar pan fod amheuaeth o niwed, yn hytrach na niwed difrifol, ac i ddarparu eiriolaeth lle bod angen. Mae’r ddyletswydd olaf yn mynd un cam ymhellach na ddarpariaethau’r Alban. Wrth gyflwyno’r ddadl hon, dywedodd y Dirprwy Weinidog fod y comisiwn wedi dylanwadu ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru. A yw hyn wedi cael dylanwad arni? A bydd yn cynnwys y dyletswyddau hyn yn y Bil gwasanaethau cymdeithasol pan gaiff ei gyflwyno? Gofynnaf yn barchus iddi roi inni amlinelliad o’r hyn a fydd yr amserlen ar gyfer hynny. Yr wyf yn siŵr bod llawer ohonom yn teimlo bod hyn yn fater o frys mawr. O ystyried y dystiolaeth yr ydym wedi ei chael, mae’r achos yn gymhellol ac yn enbyd.

 

I finish with a note of praise for Ruth Marks, who has given the office of the commissioner a real voice as an advocate for the rights of older people in Wales. The contribution that the office has made to the lives of older people is tremendous. While we wish her the best of luck in her future life, we recognise that the incoming commissioner will have a hard act to follow in pushing this agenda forward. We hope that the commission continues to highlight these issues and that work can be done to make Wales a greater place in which to grow old.

 

Hoffwn orffen drwy ganmol Ruth Marks, sydd wedi rhoi llais go iawn i swydd y comisiynydd fel eiriolwr dros hawliau pobl hŷn yng Nghymru. Mae’r cyfraniad y mae’r swyddfa wedi ei wneud i fywydau pobl hŷn yn aruthrol. Er ein bod yn dymuno pob hwyl iddi yn ei bywyd yn y dyfodol, yr ydym yn cydnabod y bydd yn anodd i’r comisiynydd nesaf lenwi’i hesgidiau wrth wthio’r agenda hwn yn ei blaen. Yr ydym yn gobeithio y bydd y comisiwn yn parhau i dynnu sylw at y materion hyn, a gall gwaith gael ei wneud i wneud Cymru yn lle gwell i heneiddio.

 

Rebecca Evans: In her report to the Health and Social Care Committee, the commissioner made the point that all too often an ageing population is seen as a problem. In fact, older people make a huge contribution by providing a tremendous amount of unpaid care and by volunteering in every community across Wales; William Graham alluded to this in his contribution. However, beyond recognition of the contribution of carers, I am concerned that the needs of older carers are not being widely addressed in either policy or practice. Two weeks ago, it was my privilege to address the ‘Hardest Hit’ march in Cardiff, where 1,000 people with disabilities, their carers and supporters joined together to protest against the UK Government cuts to disability benefits and services. Among those marching were older carers. Wales has the highest proportion of family and unpaid carers in the UK. Two thirds of over-50s here regularly undertake unpaid caring duties. About a third of them have health conditions of their own, which makes caring difficult.

 

Rebecca Evans: Yn ei hadroddiad i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gwnaeth y comisiynydd y pwynt bod poblogaeth sy’n heneiddio yn rhy aml yn cael ei hystyried fel problem. Yn wir, mae pobl hŷn yn gwneud cyfraniad enfawr trwy ddarparu llawer iawn o ofal di-dâl a drwy wirfoddoli ym mhob cymuned ledled Cymru; cyfeiriodd William Graham at hyn yn ei gyfraniad. Fodd bynnag, y tu hwnt i gydnabod cyfraniad gofalwyr, yr wyf yn pryderu nad yw anghenion gofalwyr hŷn yn cael sylw eang naill ai mewn polisi neu ymarfer. Bythefnos yn ôl, roedd yn fraint i mi annerch ymdaith ‘the Hardest Hit’ yng Nghaerdydd, lle daeth 1,000 o bobl ag anableddau, eu gofalwyr a’u cefnogwyr at ei gilydd i brotestio yn erbyn toriadau Llywodraeth y DU i fudd-daliadau a gwasanaethau anabledd. Ymhlith y rhai a ymdeithiodd oedd gofalwyr hŷn. Cymru sydd â’r gyfran uchaf o ofalwyr teuluol a di-dâl yn y DU. Mae dwy ran o dair o’r rhai dros 50 oed yma yn ymgymryd â dyletswyddau gofalu yn ddi-dâl yn rheolaidd. Mae tua thraean ohonynt sydd â chyflyrau iechyd eu hunain, sy’n gwneud gofalu yn anodd.

 

Caring can have a significant impact on the health and quality of life of the carer. The WRVS showed in its ‘Shaping our Age’ report this week that overcoming loneliness and isolation is the issue that older people say is most important to improving their quality of life; older carers are not immune to this. In fact, the responsibilities of caring can compound loneliness and isolation, and this is one reason why more must be done to ensure that older people have access to things such as community transport, as highlighted by the commissioner, and support such as befriending services, so that they are not left lonely and isolated.

 

Gall ofalu gael effaith sylweddol ar iechyd ac ansawdd bywyd y gofalwr. Dangosodd y Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol y Merched yn ei adroddiad ‘Shaping our Age’ yr wythnos hon mai goresgyn unigrwydd ac unigedd yw’r broblem bwysicaf, yn ôl pobl hyn, i wella ansawdd eu bywyd; nid yw gofalwyr hŷn yn ddiogel rhag hyn. Yn wir, gall cyfrifoldebau gofalu cymhlethu unigrwydd ac unigedd, a dyma un rheswm pam y mae’n rhaid gwneud mwy i sicrhau bod pobl hŷn yn cael mynediad at bethau fel cludiant cymunedol, fel yr amlygwyd gan y comisiynydd, a chefnogaeth megis gwasanaethau cyfeillio, fel nad ydynt yn cael eu gadael yn unig ac yn ynysig.

 

Sometimes, however, carers need a break to enable them to continue caring. The Welsh Government recently commissioned an independent review of respite care, which said that there is a strong case for funding more outcome-focused respite services in Wales. The research demonstrated a need for greater quality and quantity of services and found that existing provision is patchy. Disappointingly though, instead of seeing improved provision as a response to this research, we are seeing one local authority after another slashing their respite budgets; that is a false economy. With carers providing 96 per cent of community care in Wales, it is in all our interests to ensure that they are supported and that their needs are met so that they can continue caring for their loved ones. I strongly urge local authorities and the Welsh Government to take urgent action to address this situation.

 

Weithiau, fodd bynnag, mae angen egwyl ar ofalwyr i’w galluogi i barhau i ofalu. Yn ddiweddar, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad annibynnol o ofal seibiant, a ddywedodd fod yna achos cryf dros ariannu mwy o wasanaethau seibiant sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau yng Nghymru. Dangosodd yr ymchwil fod angen mwy o wasanaethau, a gwasanaethau o ansawdd a chanfu bod y ddarpariaeth bresennol yn dameidiog. Yn siomedig, fodd bynnag, yn hytrach na gweld gwell darpariaeth mewn ymateb i’r ymchwil hwn, yr ydym yn gweld un awdurdod lleol ar ôl y llall yn torri eu cyllidebau gofal seibiant; economi ffug yw hynny. Gyda gofalwyr yn darparu 96 y cant o ofal yn y gymuned yng Nghymru, mae o fudd i ni gyd i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu fel y gallant barhau i ofalu am eu hanwyliaid. Yr wyf yn annog awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn gryf i gymryd camau brys i fynd i’r afael â’r sefyllfa hon.

 

The commissioner has raised concerns that older people do not always know what their rights are. Older carers are often unaware of their entitlements to have their own needs assessed and to receive services and support if their needs are not already being met. I hope that the Deputy Minister will seriously consider how the Welsh Government can ensure that older carers are aware of their right to an assessment and, if they need them, services and support. I would hope to see this reflected in the forthcoming social services Bill.

 

Mae’r comisiynydd wedi mynegi pryderon nad yw pobl hŷn bob amser yn gwybod beth yw eu hawliau. Mae gofalwyr hŷn yn aml yn anymwybodol o’u hawliau i gael asesiad o’u hanghenion eu hunain ac i dderbyn gwasanaethau a chymorth os nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu yn barod. Yr wyf yn gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn ystyried o ddifrif sut y gall Lywodraeth Cymru sicrhau bod gofalwyr hŷn yn ymwybodol o’u hawl i asesiad ac, os oes angen, gwasanaethau a chymorth. Byddwn yn gobeithio gweld hyn yn cael ei adlewyrchu yn y Bil gwasanaethau cymdeithasol sydd ar y gweill.

 

Caring can also have a negative impact on household finances. Over half of all carers are forced into debt, and three quarters struggle to pay basic household bills. Citizens Advice Cymru reported an increase in the number of queries from people over 60 about the management of debt and it is also reporting growing concerns about pensions and benefits. These concerns are also reflected in the commissioner’s report. The commissioner said that older people consistently tell her that they struggle to make ends meet and that navigating the system can be difficult. I ask the Welsh Government to fight the corner of older carers and that, in their discussions with the UK Government, they press the need for the work of carers to be better reflected in the level of carer’s allowance, and to work to encourage a greater take-up of carer’s allowance among the eligible over-50s.

 

Gall gofalu hefyd gael effaith negyddol ar gyllid y cartref. Mae mwy na hanner o ofalwyr yn cael eu gorfodi i mewn dyled, ac mae tri chwarter yn cael trafferth i dalu biliau sylfaenol yn eu cartrefi. Dywedodd Cyngor ar Bopeth Cymru y cafwyd cynnydd yn nifer yr ymholiadau gan bobl dros 60 oed am reoli dyledion, ac y mae hefyd yn adrodd pryderon cynyddol ynghylch pensiynau a budd-daliadau. Mae’r pryderon hyn hefyd yn cael eu hadlewyrchu yn adroddiad y comisiynydd.  Dywedodd y comisiynydd bod pobl hŷn yn dweud wrthi yn gyson ei bod yn anodd iddynt gael deupen y llinyn ynghyd a gall lywio drwy’r system fod yn anodd. Yr wyf yn gofyn i Lywodraeth Cymru i sefyll cornel gofalwyr hŷn, ac, yn ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU, i bwyso’r angen i waith gofalwyr gael ei adlewyrchu yn well yn lefel lwfans gofalwyr, ac i weithio i annog mwy defnydd o’r lwfans gofalwyr ymhlith y rhai dros 50 oed sydd â’r hawl.

 

In her report, the commissioner outlined her forward work programme and said that information and advice services are high on her agenda. Pensioner poverty and accessing benefits will receive a particular focus in her work, and I hope that the commissioner will ensure that the needs of older carers are suitably reflected within that.

 

Yn ei hadroddiad, amlinellodd y comisiynydd ei blaenraglen waith, a dywedodd fod gwasanaethau gwybodaeth a chyngor yn uchel ar ei hagenda. Bydd tlodi ymhlith pensiynwyr a chael gafael ar fudd-daliadau yn cael ffocws penodol yn ei gwaith, ac yr wyf yn gobeithio y bydd y comisiynydd yn sicrhau bod anghenion gofalwyr hŷn yn cael eu hadlewyrchu yn addas o fewn hynny.

 

Mohammad Asghar: I am pleased to welcome the publication of this report and to thank Ruth Marks and her team for her invaluable efforts over the last 12 months. Estimates vary, but, by 2031, as many as one in three people in Wales will be over 65. That highlights the importance of Ruth Marks’s work.

 

Mohammad Asghar: Yr wyf yn falch o groesawu cyhoeddiad yr adroddiad hwn ac i ddiolch i Ruth Marks a’i thîm am ei hymdrechion amhrisiadwy dros y 12 mis diwethaf. Mae’r amcangyfrifon yn amrywio, ond, erbyn 2031, bydd cymaint ag un o bob tri o bobl yng Nghymru dros 65 oed. Mae hynny’n amlygu pwysigrwydd gwaith Ruth Marks.

 

I welcome the opportunity to contribute to this debate. I want to start my contribution by highlighting the immense contribution that older people make to Welsh communities. In the workplace, in the third sector, in the family unit and all across society, older people make a vast contribution to our lives. As I said last year, it is crucial that we do not simply label older people as one. Wales’s older population is full of different people from different backgrounds with different needs.

 

Yr wyf yn croesawu’r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon. Yr wyf am ddechrau fy nghyfraniad drwy dynnu sylw at y cyfraniad aruthrol y mae pobl hŷn yn ei wneud i gymunedau Cymru. Yn y gweithle, yn y trydydd sector, yn yr uned deuluol ac ar draws y gymdeithas, mae pobl hŷn yn gwneud cyfraniad enfawr i’n bywydau. Fel y dywedais y llynedd, mae’n hanfodol nad ydym yn syml yn labelu pobl hŷn fel un. Pobl gwahanol o wahanol gefndiroedd gydag anghenion gwahanol yw poblogaeth hŷn Cymru.

 

However, there are many steps that the Welsh Government must take to ensure that services most frequently used by older people are improved. Yet again, and perhaps unsurprisingly, one of the most common areas of concern is health, with almost one in four issues dealt with by the commissioner focusing on this.

 

Fodd bynnag, mae llawer o gamau y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod y gwasanaethau a ddefnyddir yn amlaf gan bobl hŷn yn cael eu gwella. Unwaith eto, ac efallai nad yw’n syndod, un o’r ardaloedd mwyaf cyffredin sy’n peri pryder yw iechyd, gyda bron i un o bob pedwar mater yr ymdrinnir â hwy gan y comisiynydd yn canolbwyntio ar hyn.

 

Our older population deserves to be treated with dignity and respect in Welsh hospitals and homes. Yet, Members will be aware that the commissioner’s ‘Dignified Care?’ study highlighted some shamefully inadequate issues regarding the delivery of appropriate care. These centred on a lack of privacy, unsuitable hospital wards and a lack of effective communication.

 

Mae ein poblogaeth hŷn yn haeddu cael eu trin ag urddas a pharch mewn ysbytai a chartrefi yng Nghymru. Eto i gyd, bydd Aelodau’n ymwybodol bod astudiaeth y comisiynydd ‘Gofal gydag Urddas?’  wedi amlygu rhai materion gwarthus o annigonol o ran cyflenwi gofal priodol. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar ddiffyg preifatrwydd, wardiau ysbytai anaddas a diffyg cyfathrebu effeithiol.

 

4.15 p.m.

 

Throughout the commissioner’s report, advocacy services are also a common theme, as my colleague William Graham mentioned. Sadly, it seems that a postcode lottery presently exists across Wales in the availability and effectiveness of advocacy services. It is deeply concerning that large areas of Wales exist without funded generic or specialised advocacy provision for our older population. I welcome that the commissioner has launched a review of advocacy arrangements in Welsh care homes. The Welsh Government must closely monitor and, if appropriate, be prepared to act upon its findings.

 

Drwy gydol adroddiad y comisiynydd, mae gwasanaethau eirioli hefyd yn thema gyffredin, fel y soniodd fy nghyd-Aelod William Graham. Yn anffodus, mae’n ymddangos bod loteri cod post yn bodoli ar hyn o bryd ledled Cymru o ran argaeledd ac effeithiolrwydd y gwasanaethau eiriolaeth. Mae’n ofid mawr fod ardaloedd mawr o Gymru yn bodoli heb ddarpariaeth eiriolaeth generig neu arbenigol a ariennir ar gyfer ein poblogaeth hŷn. Croesawaf fod y comisiynydd wedi lansio adolygiad o drefniadau eiriolaeth mewn cartrefi gofal yng Nghymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru fonitro’n agos a bod yn barod i weithredu ar ei ganfyddiadau, os yn briodol.

 

Another key issue is the potential role that public transport can play in combating social exclusion. Many older people rely heavily on public transport to live full and independent lives. The Welsh Government must promote to transport providers the importance of their acknowledging the social responsibility that they have with regard to older people. However, there are many other steps providers can take, such as involving older people in effective dialogue about the services that they require and the problems that they face.

 

Mater allweddol arall yw’r rôl bosibl y gall trafnidiaeth gyhoeddus ei chwarae wrth ymladd yn erbyn allgau cymdeithasol. Mae llawer o bobl hŷn yn dibynnu’n drwm ar gludiant cyhoeddus i fyw bywydau llawn ac annibynnol. Rhaid i Lywodraeth Cymru hyrwyddo i ddarparwyr trafnidiaeth y pwysigrwydd o gydnabod eu cyfrifoldeb cymdeithasol o ran pobl hŷn. Fodd bynnag, ceir llawer o gamau eraill y gall darparwyr eu cymryd, megis cynnwys pobl hŷn mewn deialog effeithiol am y gwasanaethau y mae arnynt ei angen a’r problemau y maent yn eu hwynebu.

 

I also want to focus briefly on the Equality Act 2010. The commissioner notes that legislation provides an ideal opportunity to put an end to age discrimination in Wales. By next April, Welsh public bodies must have outlined equality objectives and equality plans. I hope that, within these plans, Welsh public bodies will look closely at how they can tackle any existing prejudice and discrimination against older people. There is huge scope here for really achieving something for older people in Wales, so I hope that the Deputy Minister can outline what discussions she has had with her ministerial colleague, the Member for the Vale of Glamorgan, with this in mind. Clearly, with regard to our older people, we face big challenges in Wales. Proportionally, Wales has more older people than any other UK nation.

 

Hefyd, hoffwn ganolbwyntio’n fyr ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r Comisiynydd yn nodi bod y ddeddfwriaeth yn gyfle delfrydol i roi terfyn ar wahaniaethu ar sail oedran yng Nghymru. Erbyn mis Ebrill nesaf, rhaid i gyrff cyhoeddus Cymru fod wedi amlinellu amcanion cydraddoldeb a chynlluniau cydraddoldeb. Gobeithiaf, o fewn y cynlluniau hyn, y bydd cyrff cyhoeddus Cymru yn edrych yn fanwl ar sut y gallant ymdrin ag unrhyw ragfarn bresennol a gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn. Mae cyfle mawr yma am wir gyflawni rhywbeth ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru, felly gobeithiaf y gall y Dirprwy Weinidog amlinellu pa drafodaethau a gafodd gyda’i gyd-Aelod, yr Aelod dros Fro Morgannwg, gyda hyn mewn golwg. Yn amlwg, o ran ein pobl hŷn, yr ydym yn wynebu heriau mawr yng Nghymru. Yn gymesurol, mae gan Gymru fwy o bobl hŷn nag unrhyw wlad arall yn y DU.

 

It is essential that older people are directly involved in the decision-making process in all fields that affect their lives, from changes to Welsh care services, to community planning and so on. This must extend to those from minority groups. For example, the Welsh Government and local authorities must think carefully about how older people from ethnic minorities have their voices heard in local decision making. Minister, I am fortunate to come from a community of people who not only respect their parents, but worship them. We do not call them ‘old’ people. We love them, we respect them, and we give them not only attention, but affection. Love and care come from the family first, before we look elsewhere. Basically, this is part of our religion, and we should look to families and support those who care for their elders. 

Mae’n hanfodol bod pobl hŷn yn cymryd rhan uniongyrchol yn y broses o wneud penderfyniadau ym mhob maes sy’n effeithio ar eu bywydau, o newidiadau i wasanaethau gofal Cymraeg, i gynllunio cymunedol ac yn y blaen. Rhaid i hyn ymestyn i’r rheiny o grwpiau lleiafrifol. Er enghraifft, rhaid i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ystyried yn ofalus sut y mae pobl hŷn o leiafrifoedd ethnig yn cael eu clywed yn y broses o wneud penderfyniadau yn lleol. Weinidog, yr wyf yn ffodus i ddod o gymuned o bobl sydd nid yn unig yn parchu eu rhieni, ond yn eu haddoli. Nid ydym yn eu galw yn ‘hen’ pobl. Rydym yn eu caru, yn eu parchu, ac yn rhoi iddynt nid yn unig sylw, ond anwyldeb. Mae cariad a gofal yn dod oddi wrth y teulu yn gyntaf, cyn edrych mewn mannau eraill. Yn y bôn, mae hyn yn rhan o’n crefydd, a dylem edrych i deuluoedd a chefnogi’r rhai sy’n gofalu am eu hynafiaid.

 

Keith Davies: Fel aelod o’r grŵp trawsbleidiol ar bobl hŷn a heneiddio, croesawaf adroddiad y comisiynydd pobl hŷn a phob gwelliant. Mae Cymru’n cael ei hadnabod yn rhyngwladol am ymdrechion y Llywodraeth i gynllunio ar gyfer pobl hŷn drwy gyhoeddi strategaeth pobl hŷn, ac mae wedi arwain y ffordd drwy benodi’r comisiynydd pobl hŷn cyntaf yn y byd.

Keith Davies: As a member of the cross-party group on older people and ageing, I welcome the older people’s commissioner’s report and every amendment. Wales is recognised internationally for the efforts made by the Government to plan for older people by publishing an older people’s strategy, and it has led the way by appointing the first older people’s commissioner in the world.

 

Yn adroddiad y comisiynydd, mae rhestr o’r ffactorau sydd yn dylanwadu ar brofiad cadarnhaol wrth heneiddio, a’r prif ffactor yw sicrwydd ariannol. Mae pobl hŷn yn ei chael yn anodd ymdopi’n ariannol wrth iddynt wynebu cynnydd mawr mewn costau byw—mae treth ar werth wedi codi, er enghraifft, yn ogystal â chostau ynni—ar yr un pryd ag y maent yn ceisio ymdopi ag incwm cyfyngedig, gyda’r rhan fwyaf ar bensiwn y wladwriaeth.

 

The commissioner’s report contains a list of factors that influence a positive experience in ageing, and the main factor is financial security. Older people find it difficult to cope financially as they face a large increase in living costs—VAT has gone up, for example, as have energy costs—while, at the same time, they are trying to cope on a limited income, with most on a state pension.

 

Ffactor arall sydd yn achosi pryder i bobl hŷn yw’r perygl o fod mewn dyled. Nid ydynt yn barod i fynd allan i wario symiau bach o arian pan ddylent. Yn y misoedd sydd i ddod, y ffactorau sydd yn fy mhoeni fwyaf yw tlodi tanwydd a’r cyswllt rhwng tywydd oer a phroblemau iechyd. Ar gyfartaledd, mae 27,000 o farwolaethau ychwanegol yn y gaeaf, ac ystyrir bod 80 y cant o’r rheini yn gysylltiedig â’r tywydd oer—er enghraifft, trawiadau ar y galon. Cyflwynodd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf daliad tanwydd gaeaf o £400 i bobl dros 80 a £250 i bobl dros 60. Yng nghyllideb 2011 San Steffan, mae toriadau i’r taliadau hynny: £100 o doriad i bobl dros 80 a £50 o doriad i bobl dros 60.

 

Another factor that concerns older people is the threat of being in debt. They are not prepared to go out and spend small sums of money when they should. In the ensuing months, the factors that concern me most are fuel poverty and the link between cold weather and health problems. On average, 27,000 excess deaths occur in the winter, with 80 per cent considered to be linked to the cold weather—for example, heart attacks. The last Labour Government introduced a winter fuel payment of £400 for people aged over 80 and £250 for those aged over 60. In the 2011 Westminster budget, there are cuts to these payments: a £100 cut for those aged over 80 and a £50 cut for those aged over 60.

 

A yw’r gaeaf hwn i fod yn gymedrol o ran tywydd? Efallai fod y Llywodraeth yn Llundain yn gwybod mwy na ni. Fodd bynnag, efallai nad yw, oherwydd, yn ddiweddar, lansiwyd system rybuddio tywydd oer ar gyfer yr ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr, sef partneriaeth rhwng yr Adran Iechyd, y Swyddfa Dywydd, yr Asiantaeth Diogelu Iechyd ac Age UK. A fyddai’n bosibl inni gael rhywbeth tebyg yng Nghymru er mwyn i ni hefyd achub bywydau?

 

Is this winter expected to be a mild one? Perhaps the London Government knows more than we do. However, perhaps it is not, because, recently, a cold weather warning system was launched for the health trusts in England, which is a partnership between the Department of Health, the Met Office, the Health Protection Agency and Age UK. Would it be possible for us to have something similar in Wales so that we too can save lives?

Mark Isherwood: The Commissioner for Older People in Wales has worked hard to improve the lives of older people in Wales. As we have heard, the most common issue that the commissioner was contacted about was health. Reference has been made to the ‘Dignified Care?’ report, launched by the older people’s commissioner this year. It detailed shocking examples of neglect of older people in Welsh hospitals—stripped of their health, dignity, respect and privacy. It also noted much good practice, but, as the older people’s commissioner herself said, it is vital that examples of effective leadership and good practice are built on and become the norm. After all, this has been a devolved matter for 12 years. Only action will address the issues identified—poor communication, poor continence care, poor clinical leadership and poor specialist knowledge in both acute and community hospitals. It is not acceptable that people have low expectations of care. Therefore, it is encouraging that the commissioner has judged that all of the bodies subject to the review have now developed clear action plans to ensure that dignified care is delivered consistently. We look to the commissioner to monitor progress and to keep a close watching brief. 

 

Mark Isherwood: Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi gweithio’n galed i wella bywydau pobl hŷn yng Nghymru. Fel y clywsom, y mater mwyaf cyffredin y cysylltwyd â’r comisiynydd amdano oedd iechyd. Cyfeiriwyd at yr adroddiad ‘Gofal gydag Urddas?’, a lansiwyd eleni gan y comisiynydd pobl hŷn. Mae’n disgrifio enghreifftiau brawychus o esgeuluso pobl hŷn mewn ysbytai yng Nghymru—wedi’u hamddifadu o’u hiechyd, urddas, parch a phreifatrwydd. Nododd hefyd fod llawer o arfer da, ond, fel y dywedodd y comisiynydd pobl hŷn ei hun, mae’n hanfodol bod enghreifftiau o arweinyddiaeth ac arfer da effeithiol yn cael eu hadeiladu arnynt ac yn dod yn bethau normal. Wedi’r cyfan, mae hwn wedi bod yn fater sydd wedi’i ddatganoli ers 12 mlynedd. Dim ond camau gweithredu a fydd yn mynd i’r afael â’r materion a nodwyd—cyfathrebu gwael, gofal ymataliaeth gwael, arweinyddiaeth wael a gwybodaeth arbenigol clinigol gwael yn y ddau ysbyty aciwt a chymunedol. Nid yw’n dderbyniol bod gan bobl disgwyliadau isel o ofal. Felly, mae’n galonogol bod y comisiynydd wedi barnu fod pob un o’r cyrff sy’n ddarostyngedig i’r adolygiad bellach wedi datblygu cynlluniau gweithredu clir i sicrhau bod gofal urddasol yn cael ei ddarparu’n gyson. Rydym yn edrych at y comisiynydd i fonitro cynnydd ac i gadw golwg agos.

 

Advocacy services are a theme throughout the report and an increasing concern for the commissioner. As she says,

 

Mae gwasanaethau eiriolaeth yn thema drwy gydol yr adroddiad ac yn bryder cynyddol ar gyfer y comisiynydd. Fel y dywed,

‘advocacy is vital to help people to say what they want, secure their rights, represent their interests and obtain the services they need.’

 

Mae eiriolaeth yn hanfodol i helpu pobl i ddweud eu dweud, sicrhau eu hawliau, cynrychioli eu buddiannau a chael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

 

In March, I sponsored and chaired the Assembly launch of Age Cymru’s ‘Advocacy Counts 3’ report. In October 2007, the first ‘Advocacy Counts’ survey established a baseline against which future changes in the provision and availability of advocacy services in Wales could be measured. It found that only 23 organisations provided advocacy services for older people. In November 2008, ‘Advocacy Counts 2’ reported that the number had fallen to 19. In 2010, with support from the older people’s commissioner for Wales, Age Cymru conducted the ‘Advocacy Counts’ survey for the third time. This found that advocacy was still mainly being provided in community hospitals and care homes, with the majority delivering crisis or issue-based advocacy. It found only one paid advocate per 17,000 older people in Wales, and only one advocate per 9,500 if volunteer advocates were included. Age Cymru added that these figures are too low. The report stated that bringing an end to the postcode lottery in the availability of advocacy services for older people in Wales is essential, and concluded that all older people in vulnerable situations must have the right to access independent advocates. We must ensure that all older people have a voice and are not marginalised or discriminated against.

 

Ym mis Mawrth, noddais a chadeiriais lansiad y Cynulliad o adroddiad ‘Pwysigrwydd Eiriolaeth 3’ Age Cymru. Ym mis Hydref 2007, sefydlodd arolwg cyntaf ‘Pwysigrwydd Eiriolaeth’ llinell sylfaen y gellid mesur newidiadau mewn darpariaeth ac argaeledd gwasanaethau eiriolaeth yng Nghymru yn y dyfodol yn ei herbyn. Canfu mai dim ond 23 o sefydliadau a oedd yn darparu gwasanaethau eiriolaeth i bobl hŷn. Ym mis Tachwedd 2008, adroddodd ‘Pwysigrwydd Eiriolaeth 2’ fod y nifer wedi gostwng i 19. Yn 2010, gyda chymorth gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, cynhaliodd Age Cymru arolwg ‘Pwysigrwydd Eiriolaeth’ am y trydydd tro. Canfu hwn bod eiriolaeth yn bennaf yn cael ei ddarparu mewn ysbytai cymunedol a chartrefi gofal, gyda’r mwyafrif yn darparu eiriolaeth argyfwng neu eiriolaeth a oedd yn seiliedig ar faterion. Canfu dim ond un eiriolwr cyflogedig fesul 17,000 o bobl hŷn yng Nghymru, a dim ond un eiriolwr fesul 9,500 os yr oedd eiriolwyr gwirfoddol yn cael eu cynnwys. Ychwanegodd Age Cymru fod y ffigurau hyn yn rhy isel. Dywedodd yr adroddiad bod rhoi diwedd ar y loteri cod post o ran argaeledd gwasanaethau eirioli ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru yn hanfodol, a daeth i’r casgliad y dylai fod gan yr holl bobl hŷn mewn sefyllfaoedd bregus yr hawl i gael mynediad at eiriolwyr annibynnol. Rhaid inni sicrhau bod gan bob person hŷn lais ac nad ydynt yn cael eu gwthio i’r cyrion neu eu gwahaniaethu yn eu herbyn.

 

Other key issues referred to by the commissioner include transport, housing and money, but toilets are also a key issue. The Welsh Senate of Older People is campaigning for better toilets in Wales. Its campaign, P is for People, focuses on public toilet provision in Wales—an issue that requires urgent action. Poor public toilet provision can lead to poor health, loneliness and isolation. It says:

 

Mae’r materion allweddol eraill y’u cyfeirir atynt gan y comisiynydd yn cynnwys trafnidiaeth, tai ac arian, ond hefyd mae toiledau yn fater allweddol. Mae Senedd Pobl Hŷn Cymru yn ymgyrchu o blaid cael toiledau gwell yng Nghymru. Mae ei ymgyrch, ‘P is for People’ yn canolbwyntio ar ddarpariaeth toiledau cyhoeddus yng Nghymru—mater sydd angen gweithredu arno ar frys. Gall ddarpariaeth wael o doiledau cyhoeddus arwain at iechyd gwael, unigrwydd ac arwahanrwydd. Dywed:

 

‘The strategy for older people in Wales focuses on wellbeing and promoting independence, but without adequate access to public toilets, many older people are unable to take advantage of services as they are not confident of being able to go out without being caught short.’

 

Mae’r strategaeth ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru yn canolbwyntio ar les a hybu annibyniaeth, ond heb fynediad digonol at doiledau cyhoeddus, mae llawer o bobl hŷn yn methu â manteisio ar y gwasanaethau oherwydd nid ydynt yn hyderus y byddant yn gallu mynd allan heb eisiau mynd i’r toiled.

 

The British Toilet Association estimates that there are 40 per cent fewer public toilets in the UK than there were 10 years ago and Age Cymru’s community calculator questionnaire found that older people in Wales rated their access to public toilets as just 3.32 out of 10.

 

Mae Cymdeithas Toiledau Prydain yn amcangyfrif bod 40 y cant yn llai o doiledau cyhoeddus ym Mhrydain nag ydoedd 10 mlynedd yn ôl a chanfu holiadur cyfrifiannell gymunedol Age Cymru fod pobl hŷn yng Nghymru yn ystyried bod eu mynediad i doiledau cyhoeddus yn ddim ond 3.32 allan o 10.

 

Personalisation means putting the person at the centre of the process for identifying their needs, allowing them to choose to be in control. I spoke at the launch of the independent living campaign for Wales and I cautiously welcome the Welsh Government’s announcement last month on the framework for action on independent living. We understand that the framework will detail the work that is to be undertaken across Welsh Government departments and with external partners to support independent living. As Rhian Davies, the chief executive of Disability Wales, said, in these financially challenging times it is even more vital that services and facilities are designed and delivered in a way that responds to the needs of individuals and supports independence and inclusion rather than dependency and exclusion. Therefore, nothing less than a significant transformation of adult social care will suffice, so that all systems, processes, staff and services are geared up to put people first.

 

Mae personoleiddio’n golygu rhoi’r person yng nghanol y broses ar gyfer nodi eu hanghenion, gan ganiatáu iddynt ddewis i fod mewn rheolaeth. Siaradais yn lansiad yr ymgyrch byw’n annibynnol ar gyfer Cymru ac yr wyf yn croesawu’n ofalus cyhoeddiad Llywodraeth Cymru fis diwethaf ar y fframwaith gweithredu ar gyfer byw’n annibynnol. Rydym yn deall y bydd y fframwaith yn rhoi manylion y gwaith sydd yn cael ei wneud ar draws adrannau Llywodraeth Cymru a chyda phartneriaid allanol i gefnogi byw’n annibynnol. Fel y dywedodd Rhian Davies, prif weithredwr Anabledd Cymru, mewn cyfnod ariannol heriol, mae’n hyd yn oed yn fwy hanfodol bod cyfleusterau a gwasanaethau yn cael eu cynllunio a’u darparu mewn ffordd sy’n ymateb i anghenion unigolion ac yn cefnogi annibyniaeth a chynhwysiant yn hytrach na dibyniaeth ac allgau. Felly, ni fydd dim llai na thrawsnewid sylweddol o ofal cymdeithasol oedolion yn ddigonol, fel bod yr holl systemau, prosesau, staff a gwasanaethau yn barod i roi pobl yn gyntaf.

 

Joyce Watson: I would also like to welcome the report. I wish to add my thanks to the commissioner and her team for the advocacy that they have provided to older people over the past year. It is particularly pleasing to see how the scope and the depth of the commission’s work has grown with time, and the flexing of its legal muscle has also been a good development. The inquiry into dignity and respect in care, which other Members have discussed this afternoon, was an especially important one and sparked debate and initiated action.

 

Joyce Watson: Hoffwn hefyd groesawu’r adroddiad. Hoffwn ychwanegu fy niolch i’r comisiynydd a’i thîm am yr eiriolaeth y maent wedi ei ddarparu i bobl hŷn dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n braf iawn gweld sut y mae cwmpas a dyfnder gwaith y comisiwn wedi tyfu gydag amser, ac y mae ystwytho ei gyhyrau cyfreithiol hefyd wedi bod yn ddatblygiad da. Mae’r ymchwiliad i urddas a pharch mewn gofal, y mae Aelodau eraill wedi eu trafod y prynhawn yma, yn un arbennig o bwysig ac wedi sbarduno dadl a gweithredu cychwyn.

Members will have read the revealing case study of local bus services, which drew my attention. It described the case of a Mrs B, who wrote to the commission on behalf of herself and a group of older people who live in a small, rural community in west Wales. Mrs B organised a parish group that attended weekly meetings at a town a short distance away. The trip gave older people not only the chance to go to the shops, to visit the doctor and to use other services that are not available in their village, but also the opportunity to escape the house and to socialise. Recently, Mrs B was informed that the bus service was to be cut, so she contacted the commission, which worked with the local authority and the regional voluntary association to reach an agreement to reintroduce this service. That is a very happy outcome, but Members will be aware that many more bus services are under threat of cancellation and the case study led me to wonder whether we should revisit proposals for the reregulation of bus services in Wales.

 

Bydd Aelodau wedi darllen yr astudiaeth achos dadlennol o’r gwasanaethau bws lleol, a dynnodd fy sylw. Disgrifiodd achos Mrs B, a ysgrifennodd at y comisiwn ar ran ei hun a grŵp o bobl hŷn sy’n byw mewn cymuned fach, wledig yng ngorllewin Cymru. Roedd Mrs B yn trefnu grŵp plwyf sy’n mynychu cyfarfodydd wythnosol mewn tref ychydig bellter i ffwrdd. Rhoddodd y daith gyfle i bobl hŷn nid yn unig i fynd i siopa, ymweld â meddyg ac i ddefnyddio gwasanaethau eraill nad ydynt ar gael yn eu pentref, ond hefyd y cyfle i ddianc rhag y tŷ ac i gymdeithasu. Yn ddiweddar, hysbyswyd Mrs B bod y gwasanaeth bws yn cael ei dorri, felly cysylltodd â’r comisiwn, a gweithio gyda’r awdurdod lleol a’r gymdeithas wirfoddol ranbarthol i ddod i gytundeb i ailgyflwyno’r gwasanaeth hwn. Dyna ganlyniad hapus iawn, ond bydd Aelodau yn ymwybodol bod llawer mwy o wasanaethau bws o dan fygythiad canslo ac arweiniodd yr astudiaeth achos imi feddwl tybed a ddylid ailystyried cynigion ar gyfer ailrheoleiddio gwasanaethau bws yng Nghymru.

 

Members will be aware that this is something that the Member for Merthyr Tydfil and Rhymney proposed as the subject of a Member-proposed legislative competence Order in the previous Assembly. Under Huw Lewis’s proposals, bus service providers would have to run unprofitable but socially valuable routes in order to get profitable routes. That would stop companies in Wales from cherry-picking the most profitable routes, leaving some areas with a poor or non-existent service. Now is a good time to revisit the idea, given that local authorities no longer have the budget to subsidise services when companies pull out. Therefore, I ask the Deputy Minister to speak to the Minister for Local Government and Communities, Carl Sargeant, to look at ways to take that forward in the very near future.

 

Bydd Aelodau’n ymwybodol bod hyn yn rhywbeth a gynigiwyd gan yr Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni fel pwnc gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig gan Aelod yn y Cynulliad blaenorol. O dan gynigion Huw Lewis, byddai’n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau bws redeg llwybrau amhroffidiol ond cymdeithasol werthfawr er mwyn cael llwybrau proffidiol. Byddai hynny’n atal cwmnïau yng Nghymru rhag dewis a dethol y llwybrau mwyaf proffidiol, gan adael rhai ardaloedd â gwasanaeth gwael neu heb wasanaeth o gwbl. Mae nawr yn amser da i edrych eto ar y syniad, o gofio nad yw awdurdodau lleol bellach yn cael y gyllideb i roi cymhorthdal i wasanaethau pan fydd cwmnïau yn tynnu allan. Felly, gofynnaf i’r Dirprwy Weinidog i siarad â’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant, i edrych ar ffyrdd o fwrw ymlaen â hynny yn y dyfodol agos iawn.

 

Janet Finch-Saunders: I welcome this report. In doing so, I would like to express my support for amendment 1 in the name of Jocelyn Davies and for amendments 2, 3 and 4 in the name of William Graham. I also endorse the praise that has been given today to the office of the Commissioner for Older People in Wales. We hope that this document will improve the lives of our many older people in Wales. In the short time that I have been an Assembly Member, I have seen many reports and I hope that this report will be a living and breathing report that succeeds in bringing about much-needed changes.

continuously

Janet Finch-Saunders: Croesawaf yr adroddiad hwn. Wrth wneud hynny, hoffwn fynegi fy nghefnogaeth ar gyfer gwelliant 1 yn enw Jocelyn Davies a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw William Graham. Ategaf hefyd y ganmoliaeth a roddwyd heddiw i swydd y Comisiynydd Pobl Hŷn yng Nghymru. Rydym yn gobeithio y bydd y ddogfen hon yn gwella bywydau llawer o bobl hŷn yng Nghymru. Yn yr amser byr y bûm yn Aelod Cynulliad, yr wyf wedi gweld llawer o adroddiadau ac rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn adroddiad gweithredol a gaiff ei ddiweddaru’n barhaus sy’n llwyddo i gyflwyno newidiadau sydd mawr eu hangen.

 

This debate is close to my heart as my constituency—I would guess that I am not alone in this—has one of the highest proportions of people aged over 65 in Wales. The report touches on the need to remove the injustice facing many old people and to focus on improving respect, community values and recognition. However, I would like to talk about the expectations that we should have and the aims that we should support with regard to health services for our older people. I know that other Members have already touched upon ‘Dignified Care?’, which was published in March, but, only this week, I had a situation in my constituency that does not make for good reading in light of the reports and strategy documents that have come before. You can therefore understand why I feel a little demoralised.

Mae’r ddadl hon yn agos at fy nghalon gan fod gan fy etholaeth—byddwn yn dyfalu nad wyf ar fy mhen fy hun o ran hyn—un o’r cyfrannau uchaf o bobl dros 65 oed yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn crybwyll yr angen i gael gwared ar yr anghyfiawnder sy’n wynebu llawer o hen bobl ac i ganolbwyntio ar wella parch, gwerthoedd cymunedol a chydnabyddiaeth. Fodd bynnag, hoffwn sôn am y disgwyliadau y dylai fod gennym a’r nod y dylem ei gefnogi o ran gwasanaethau iechyd ar gyfer ein pobl hŷn. Gwn fod Aelodau eraill wedi sôn eisoes am ‘Gofal gydag Urddas?’, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, ond, dim ond yr wythnos hon, roedd sefyllfa yn fy etholaeth i nad yw’n gwneud darllen da yng ngoleuni’r adroddiadau a dogfennau strategaeth sydd wedi dod gerbron. Gallwch felly ddeall pam yr wyf yn teimlo ychydig yn ddigalon.

 

4.30 p.m.

 

Ambulances have been left stuck in a hospital car park for hours at a time, waiting to hand over patients for treatment. Health professionals and the relatives of patients have contacted the local press to say that the situation has become so bad that nurses have been taking blood from patients inside ambulances, while one elderly woman was told to wear warm clothes before setting off to hospital. A local GP said that people are suffering dreadful patient care as a result of the delays. The doctor also said that she had admitted an 88-year-old lady, who was advised to tell her relatives that she would be waiting for many hours in the ambulance and should therefore wear warm clothes. That clearly indicates that we are not looking to support our more elderly citizens when it comes to healthcare. The Welsh Government must remain committed to improving the conditions and treatment of older people in hospital, and older people must be consulted when changes to their care homes are made. Their awareness of their rights while in hospital or in a care home should be increased.

 

Mae ambiwlansys wedi cael eu dal yn sownd ym maes parcio ysbyty am oriau ar y tro, yn aros i drosglwyddo cleifion i gael triniaeth. Mae perthnasau cleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol wedi cysylltu â’r wasg leol i ddweud bod y sefyllfa mor wael bod nyrsys wedi cymryd gwaed gan gleifion y tu mewn i ambiwlansys, tra dywedwyd wrth un fenyw oedrannus i wisgo dillad cynnes cyn gadael am yr ysbyty. Dywedodd meddyg teulu lleol bod cleifion yn dioddef gofal ofnadwy o ganlyniad i’r oedi. Dywedodd y meddyg hefyd ei bod wedi cyflwyno gwraig 88 mlwydd oed i’r ysbyty, ac fe’i cynghorwyd i ddweud wrth ei pherthnasau y byddai’n aros am oriau lawer yn yr ambiwlans ac felly dylai wisgo dillad cynnes. Dengys hynny’n glir nad ydym yn cefnogi ein dinasyddion hŷn pan ddaw’n fater o ofal iechyd. Rhaid i Lywodraeth Cymru barhau’n ymrwymedig i wella amodau a thriniaeth pobl hŷn mewn ysbytai, a rhaid ymgynghori â phobl hŷn pan wneir newidiadau i’w cartrefi gofal. Dylid cynyddu’u hymwybyddiaeth o’u hawliau tra eu bod yn yr ysbyty neu mewn cartref gofal.

 

The commissioner’s launch of a review of advocacy arrangements in care homes is most welcome. Our manifesto called for such a review to be conducted. However, I have to take issue with comments that have been made here yet again about cuts, and with the scaremongering that comes from the benches opposite. At the end of the day, responsible governance is about enabling, empowering and encouraging our more elderly people, not scaring them. If situations arise, we should be out there supporting those people while they seek to obtain benefits. However, ultimately, welfare reform is based purely on ensuring that those who need support get it. If anybody here can argue with that—[Interruption.] I have highlighted previously in this Chamber my belief that local government settlements should take into account local demographic variations, and yet the First Minister last week barely acknowledged my question about the formula implications for local authorities in the settlement. Implementation of this would surely ensure proportional funding for advocacy throughout Wales and would seek to reduce the postcode lottery that tends to favour other areas of Wales over north Wales.

 

Croesewir y comisiynydd yn lansio adolygiad o drefniadau eiriolaeth mewn cartrefi gofal. Roedd ein maniffesto yn galw am adolygiad o’r fath i gael ei gynnal. Fodd bynnag, rhaid imi anghytuno â sylwadau a wnaed yma eto ar doriadau, a’r codi bwganod a ddaw o’r meinciau gyferbyn. Ar ddiwedd y dydd, mae llywodraethu cyfrifol am alluogi, grymuso ac annog ein pobl hŷn, nid codi dychryn arnynt. Os cyfyd sefyllfaoedd, dylem fod yno yn cefnogi’r bobl hynny tra eu bod yn ceisio cael budd-daliadau. Fodd bynnag, yn syml, yn y pen draw, mae diwygio lles yn seiliedig ar sicrhau bod y rhai sydd angen cymorth yn ei gael. Os gall unrhyw un yma dadlau â hynny—[Torri ar draws.] Rwyf wedi tynnu sylw’r Siambr hon o’r blaen at fy nghred y dylai setliadau llywodraeth leol ystyried amrywiadau demograffig lleol, ac eto prin y gwnaeth y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf cydnabod fy nghwestiwn ynghylch goblygiadau’r fformiwla ar gyfer awdurdodau lleol yn y setliad. Oni fyddai gweithredu hyn yn sicrhau cyllid cyfrannol ar gyfer eiriolaeth ledled Cymru a fyddai’n ceisio lleihau’r loteri cod post sy’n tueddu i ffafrio ardaloedd eraill yng Nghymru dros ogledd Cymru.

Older people deserve the best care and advocacy services to enable them to live independent and dignified lives. [Interruption.] Is it so dignified of Members that they cannot even listen? We must show them the respect they deserve.

 

Mae pobl hŷn yn haeddu’r gwasanaethau eiriolaeth a gofal gorau i’w galluogi i fyw bywydau annibynnol ac urddasol. [Torri ar draws.] A oes urddas ar ran Aelodau pan nad ydynt hyd yn oed yn gallu gwrando? Rhaid inni ddangos iddynt y parch maent yn ei haeddu.

 

The Deputy Presiding Officer: Order. Conclude now, please.

 

Y Dirprwy Lywydd: Trefn. Gorffennwch yn awr, os gwelwch yn dda.

Janet Finch-Saunders: Grandparents and older people play a large role in caring for children in the family—

 

Janet Finch-Saunders: Mae neiniau a theidiau a phobl hŷn yn chwarae rhan fawr mewn gofalu am blant yn y teulu—

The Deputy Presiding Officer: I call Mike Hedges.

 

Y Dirprwy Lywydd: Galwaf ar Mike Hedges.

Mike Hedges: Up to the end of that last speech, I was going to say that this debate has shown the Assembly in the best light I have known it to be seen in. There is agreement across the Chamber, with all trying to do their best for a number of people who are among the most vulnerable in society. One brief point to make is that cuts are bound to affect the elderly disproportionately, because of the nature of their benefits. I shall stop there on that point because I think there are a lot of important things that we are in total agreement on across the Chamber, and I would much prefer to concentrate on those than on finding points of disagreement.

 

Mike Hedges: Hyd at ddiwedd yr araith ddiwethaf, yr oeddwn am ddweud bod y ddadl hon wedi dangos y Cynulliad are i orau. Mae cytundeb ar draws y Siambr, gyda phawb yn ceisio gwneud eu gorau i nifer o bobl sydd ymysg y mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Un pwynt byr i’w wneud yw bod toriadau yn sicr o effeithio ar yr henoed yn anghymesur, oherwydd natur eu budd-daliadau. Fe orffennaf ar y pwynt hwnnw oherwydd credaf fod nifer o bethau pwysig yr ydym yn cytuno’n llwyr arnynt ar draws y Siambr, a byddai’n llawer gwell gennyf ganolbwyntio ar y rheini nag ar ganfod pwyntiau o anghytundeb.

 

I agree with Mark Isherwood and Mohammed Asghar about the importance of advocacy services for older people. It is my belief that advocacy services are essential, as they not only ensure that every older person has a voice and receives the support they need, they are also vital in protecting older people from any form of abuse. While I realise that not all older people are vulnerable or in need of an advocate all of the time, it is important to ensure that advocacy is provided as and when it is needed.

 

Cytunaf â Mark Isherwood a Mohammed Asghar am bwysigrwydd gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer pobl hŷn. Fy nghred yw bod gwasanaethau eiriolaeth yn hanfodol, gan eu bod nid yn unig yn sicrhau bod llais gan bob person hŷn ac yn cael y cymorth sydd angen arnynt, maent hefyd yn hanfodol i amddiffyn pobl hŷn rhag unrhyw fath o gam-drin. Er y sylweddolaf nad yw pob person hŷn yn agored i niwed neu mewn angen eiriolwr bob amser, mae’n bwysig sicrhau bod eiriolaeth ar gael pan fo’i angen.

I was pleased to see the Welsh Government’s sustainable social services framework launched earlier this year. The Welsh Government made a robust commitment to develop and introduce comprehensive advocacy services for older people and to look at the infrastructure needed to allow such services to be provided. Therefore, I wonder Minister, if you would consider including the provision of advocacy service in the forthcoming social services Bill to ensure that all 22 local authorities are legally obliged to provide this vital service in all parts of Wales.

 

Yr oeddwn yn falch o weld fframwaith gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy Llywodraeth Cymru a lansiwyd yn gynharach eleni. Gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad cadarn i ddatblygu a chyflwyno gwasanaethau eiriolaeth cynhwysfawr ar gyfer pobl hŷn ac i edrych ar y seilwaith sydd ei angen i ganiatáu darpariaeth gwasanaethau o’r fath. Tybed felly, Weinidog, pe baech yn ystyried cynnwys darpariaeth gwasanaeth eiriolaeth yn y Bil gwasanaethau cymdeithasol sydd ar y gweill i sicrhau ei fod yn ofynnol yn gyfreithiol i bob un o’r 22 o awdurdodau lleol ddarparu’r gwasanaeth hanfodol hwn ym mhob rhan o Gymru.

 

May I now move on to something that affects, perhaps, older people and children more than anybody else, which is the provision of toilets and public toilets? I know from my own experience, in the area that I represent that even when there are public toilets they have to be in the right place. When the doctor’s surgery is at one end of a street and the public toilets are two bus stops away at the other end, it can put off some elderly people from trying to enact the journey to the doctor’s. It is vital that we realise how important public toilets are. I, personally, would like to see a duty on local authorities to consult prior to closing toilets. I know of a case, in the past, where people turned up one day and discovered the toilets had disappeared without any consultation at all. They were immediately closed.

 

A allaf symud ymlaen i rywbeth sydd, efallai, yn effeithio ar bobl hŷn a phlant yn fwy nag unrhyw un arall, sef darparu toiledau a thoiledau cyhoeddus? Gwn o’m profiad fy hun yn yr ardal y cynrychiolaf, hyd yn oed pan mae yna doiledau cyhoeddus rhaid iddynt fod yn y lle iawn. Pan fo feddygfa ar ddiwedd un stryd a’r toiledau cyhoeddus dwy arhosfa bys i ffwrdd ar y pen arall, gall droi rai pobl oedrannus oddi ar wneud y daith at y meddyg. Mae’n hanfodol ein bod yn sylweddoli pa mor bwysig yw toiledau cyhoeddus. Yn bersonol, hoffwn weld dyletswydd ar awdurdodau lleol i ymgynghori cyn cau toiledau. Gwn am achos, yn y gorffennol, lle y gwnaeth bobl troi i fyny un diwrnod a darganfod bod y toiledau wedi diflannu heb unrhyw ymgynghori o gwbl. Caewyd hwy ar unwaith.

 

Earlier this year, I welcomed the report from the Commissioner for Older People in Wales about the care and treatment some older people are receiving in hospitals across Wales. I am sure we all believe that every person has the right to dignity and respect in their old age. As such, these qualities must be reflected as central to both delivery and planning of health and care services. We heard Lindsay Whittle talk earlier about his father in hospital, and I am sure that other people are aware of similar cases. It is important to ensure that, within the hospital setting, those who are at the front end realise that they have a duty to treat their patients with dignity.

 

Yn gynharach eleni, croesewais yr adroddiad gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru am y gofal a’r driniaeth a gaiff rhai pobl hŷn mewn ysbytai ledled Cymru. Yr wyf yn siŵr ein bod i gyd yn credu bod gan bob person yr hawl i urddas a pharch yn eu henaint. Os hynny, rhaid adlewyrchu’r rhinweddau hyn fel rhywbeth sy’n ganolog i ddarparu a chynllunio gwasanaethau iechyd a gofal. Clywsom Lindsay Whittle yn siarad yn gynharach am ei dad yn yr ysbyty, ac yr wyf yn siŵr bod pobl eraill yn ymwybodol o achosion tebyg. Mae’n bwysig sicrhau, o fewn yr ysbyty, bod y rhai sydd ar y rheng flaen yn sylweddoli bod ganddynt ddyletswydd i drin eu cleifion gydag urddas.

The Welsh Government has a proud record on supporting and promoting the importance of dignity in care, particularly through the funding of projects promoting quality of life in care homes, and the creation of small dignity grants that have enabled development in the promotion of dignity.

 

Mae gan Lywodraeth Cymru record falch ar gefnogi a hyrwyddo pwysigrwydd urddas mewn gofal, yn enwedig drwy ariannu prosiectau sy’n hyrwyddo ansawdd bywyd mewn cartrefi gofal, a chreu grantiau urddas bach sydd wedi galluogi datblygiad wrth hyrwyddo urddas.

On a final note, I would like to draw Members’ attention to Age Cymru who, next week, will launch the Rule out Abuse campaign, which echoes the findings of the older people’s commission on changes to adult safeguarding procedures. I would encourage all Members to lend their support to this worthwhile campaign. We will all be old someday, although my students would say that I am old now, but it is important that we realise that we have a duty to the elderly. They are a growing proportion of the population. I believe and hope that we are doing the right things. I was pleased to hear most of the contributions made earlier.

 

Yn olaf, hoffwn dynnu sylw Aelodau at Age Cymru, a fydd, yr wythnos nesaf, yn lansio’r ymgyrch Rule out Abuse, sy’n adleisio canfyddiadau’r comisiwn pobl hŷn ar newidiadau i weithdrefnau diogelu oedolion. Anogaf bob Aelod i roi eu cefnogaeth i’r ymgyrch werth chweil hon. Byddwn i gyd yn hen ryw ddydd, er y byddai fy myfyrwyr yn dweud fy mod yn hen yn awr, ond mae’n bwysig inni sylweddoli bod gennym ddyletswydd i’r henoed. Maent yn gyfran gynyddol o’r boblogaeth. Yr wyf yn credu, ac yn gobeithio ein bod yn gwneud y pethau cywir. Yr oeddwn yn falch o glywed y rhan fwyaf o’r cyfraniadau a wnaethpwyd yn gynharach.

 

The Deputy Presiding Officer: Before I call the Deputy Minister to reply, may I thank those Members who did trim their speeches? Most of you did. That enabled me to get through nine speakers. I apologise to the speaker that I have not been able to call and I will make sure that that person gets preference in one of the debates I chair in the near future.

 

Y Dirprwy Lywydd: Cyn imi alw ar y Dirprwy Weinidog i ymateb, hoffwn ddiolch i’r Aelodau hynny a wnaeth grynhoi eu hareithiau. Gwnaeth y rhan fwyaf ohonoch. Galluogodd hynny imi alw naw o siaradwyr. Ymddiheuraf i’r siaradwr nad wyf wedi gallu galw, a gwnaf yn siŵr bod y person hwnnw yn cael blaenoriaeth yn un o’r dadleuon yr wyf yn ei chadeirio yn y dyfodol agos.

 

The Deputy Minister for Children and Social Services (Gwenda Thomas): I will deal with the issues, rather than each Member’s contribution. I must say that protection and safeguarding are at the forefront obviously and that has come through in this Chamber this afternoon. I have made it clear from as long ago as February that we would legislate to place adult protection on a statutory footing, and we will do that. We will set up a national independent safeguarding board. It will be independently chaired, and I promise you that it will have teeth and executive powers. We will also set up adult protection boards in 2013, based on the six footprints that we are already committed to, and we will expect local safeguarding children’s boards to reduce to that number. I will expect LSCBs to move towards that footprint before 2013. We will consult officially on these proposals at the beginning of the year, but, in the meantime, I am absolutely committed and determined to work with stakeholders in the run-up to that consultation. I think that might deal, in part, with the point made by the Member for Llanelli.

 

Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol (Gwenda Thomas): Byddaf yn delio â’r materion, yn hytrach na chyfraniad pob Aelod. Rhaid imi ddweud bod diogelu ac amddiffyn ar flaen y gad yn amlwg ac mae hynny wedi dod trwodd yn y Siambr hon y prynhawn yma. Yr wyf wedi ei wneud yn glir mor bell yn ôl â mis Chwefror y byddwn yn deddfu er mwyn gosod amddiffyn oedolion ar sail statudol, ac fe fyddwn yn gwneud hynny. Byddwn yn sefydlu bwrdd diogelu annibynnol cenedlaethol. Caiff ei gadeirio’n annibynnol, ac addawaf ichi y bydd â dannedd a phwerau gweithredol. Byddwn hefyd yn sefydlu byrddau amddiffyn oedolion yn 2013, yn seiliedig ar y chwe ôl troed yr ydym eisoes wedi ymrwymo iddynt, a byddwn yn disgwyl i fyrddau lleol diogelu plant i leihau’r nifer hwnnw. Byddaf yn disgwyl i fyrddau lleol diogelu plant i symud tuag at yr ôl troed hwnnw cyn 2013. Byddwn yn ymgynghori’n swyddogol ar y cynigion hyn ar ddechrau’r flwyddyn, ond, yn y cyfamser, yr wyf yn gwbl ymrwymedig ac yn benderfynol o weithio gyda rhanddeiliaid yn ystod y cyfnod cyn yr ymgynghoriad hwnnw. Credaf efallai bod hynny’n delio, yn rhannol, â’r pwynt a wnaed gan yr Aelod dros Lanelli.

 

The situation in Scotland has been mentioned and I think we are referring to the 2007 Act. We have a lot to learn from this Act and we will do so. However, we need to realise that the status of Scotland is different to our status even now. With regard to the challenging issues that we will face on intervention and enforcement, we need to study that Act, learn from it and recognise what our status as a country will be in that regard.

 

Soniwyd am y sefyllfa yn yr Alban, a chredaf ein bod yn cyfeirio at Ddeddf 2007. Mae gennym lawer i’w ddysgu gan y Ddeddf hon, a byddwn yn gwneud hynny. Fodd bynnag, mae angen inni sylweddoli bod statws yr Alban yn wahanol i’n statws ni hyd yn oed yn awr. O ran y materion heriol a wynebwn ar ymyrryd a gorfodi, mae angen inni astudio’r Ddeddf honno, dysgu ohono a chydnabod beth fydd ein statws fel gwlad yn hynny o beth.

 

On advocacy, Sustainable Social Services for Wales: A Framework for Action is committed to setting up a business case for advocacy services, to identify the infrastructure needed, as Mike Hedges mentioned, and to set initial priorities. That is a commitment contained in the document. I look forward to the review of the Health and Social Care Committee of residential care. I am sure that that review will be helpful, and we will take due regard of it.

 

Ar eiriolaeth, mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu yn ymrwymedig i sefydlu achos busnes ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth, i nodi’r seilwaith sydd ei angen, fel y gwnaeth Mike Hedges ei grybwyll, ac i bennu blaenoriaethau cychwynnol. Mae hynny’n ymrwymiad yn y ddogfen. Edrychaf ymlaen at adolygiad gofal preswyl y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yr wyf yn siŵr y bydd yr adolygiad hwnnw’n ddefnyddiol, a byddwn yn talu sylw dyledus ohono.

 

Reablement is another important issue. The independent commission on social services in Wales under Professor Jeffrey Pearson’s chairmanship identified this. Off the top of my head, I think that he said that good reablement can save up to 57 per cent of the need for homecare, so it is an important issue, and it is one that we have identified as perhaps being better commissioned and provided on a regional basis.

 

Mae ail-alluogi yn fater pwysig arall. Nododd y comisiwn annibynnol ar wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru dan gadeiryddiaeth yr Athro Jeffrey Pearson hwn. Os cofiaf yn iawn, credaf iddo ddweud gall ail-alluogi da arbed hyd at 57 y cant o’r angen am ofal yn y cartref, felly mae’n fater pwysig, ac yn un yr ydym wedi nodi efallai fydd yn well comisiynu a darparu ar sail ranbarthol.

I think that it was Eluned Parrott who raised the fact that the commissioner has received all the responses that she is expecting on her ‘Dignified Care?’ review. I am sure that there are comprehensive answers to all of the questions raised by Eluned Parrott in the statement that I issued to Members on 18 October. If there is anything that is not answered, perhaps she will come back to me on that. I believe that dignity in care is a fundamental right, and the point about older carers is well made. The regulations relating to our carers strategies will be introduced at the beginning of next year, which will go quite a way towards realising the needs of carers. However, some older carers could be subject to protection issues and safeguarding themselves, so we must ensure that we take a broad enough view of the way that we are going. I assure Members that there is cross-portfolio commitment to this agenda and that Ministers are working well together in order to get to where we want to be by the beginning of next year. 

 

Credaf mai Eluned Parrott a gododd y ffaith bod y comisiynydd wedi derbyn yr holl ymatebion y mae hi’n disgwyl ar ei hadolygiad ‘Gofal gydag Urddas?’. Yr wyf yn siŵr bod atebion cynhwysfawr i bob un o’r cwestiynau a godwyd gan Eluned Parrott yn y datganiad y cyhoeddais i Aelodau ar 18 Hydref. Os oes unrhyw beth nad yw wedi’i ateb, efallai y daw hi yn ôl ataf ar hynny. Credaf fod urddas mewn gofal yn hawl sylfaenol, a gwneir y pwynt ynghylch gofalwyr hŷn yn dda. Cyflwynir y rheoliadau sy’n ymwneud â’n strategaethau ar gyfer gofalwyr ar ddechrau’r flwyddyn nesaf, a fydd yn mynd cryn ffordd tuag at wireddu anghenion gofalwyr. Fodd bynnag, gallai rhai gofalwyr hŷn fod yn ddibynnol ar faterion amddiffyn a diogelu eu hunain, felly mae’n rhaid inni sicrhau ein bod yn cymryd golwg ddigon eang ar y ffordd yr ydym yn symud ymlaen. Gallaf sicrhau’r Aelodau bod ymrwymiad traws-bortffolio i’r agenda hon a bod Gweinidogion yn gweithio’n dda gyda’i gilydd er mwyn cyrraedd lle yr ydym am fod erbyn dechrau blwyddyn nesaf.

 

There has been a clear focus during the debate that we must not tolerate discrimination. I have been subjected to this myself; one or two local journalists might think that it is clever to do that. It sometimes takes guts to rise above it and to take it where it comes from. We are all agreed that, as a society, respect, protection and safeguarding are matters for all of us. I hope that we can send out that message clearly.

 

Bu ffocws clir yn ystod y ddadl bod yn rhaid inni beidio â goddef gwahaniaethu. Yr wyf wedi gorfod dioddef hyn fy hun; gallai un neu ddau o newyddiadurwyr lleol feddwl ei fod yn glyfar i wneud hynny. Weithiau, mae angen fod yn ddigon dewr i’w anwybyddu a’i gymryd o le y daw. Yr ydym oll yn gytûn, fel cymdeithas, bod parchu, amddiffyn a diogelu yn faterion i bob un ohonom. Gobeithiaf y gallwn anfon y neges glir.

 

The establishment of an older people’s commissioner is a world first. The first review of dignity in hospital has made a lasting impact, and the second review into advocacy is under way. The annual report also demonstrates significant engagement with older people. It is important that citizens are at the heart of what we do. The commissioner has a critical independent role in addressing the implications of an ageing Wales.

 

Dyma’r comisiynydd pobl hŷn cyntaf i gael ei sefydlu yn y byd. Mae’r adolygiad cyntaf o urddas mewn ysbytai wedi cael effaith barhaol, ac mae’r ail adolygiad o eiriolaeth ar waith. Mae’r adroddiad blynyddol hefyd yn dangos ymgysylltiad sylweddol â phobl hŷn. Mae’n bwysig bod dinasyddion wrth galon yr hyn yr ydym yn ei wneud. Mae gan y comisiynydd annibynnol rôl hollbwysig o ran mynd i’r afael â goblygiadau’r heneiddio Cymru.

We must also change our perceptions of older people in Wales. This group is not a small minority disassociated from the rest of the population. Over-50s account for almost 40 per cent of the Welsh population, and it is a group that the overwhelming majority of us have or will become part of. I and other Ministers are well aware of the challenging economic environment in which we find ourselves. The commissioner has an important role in supporting us and in considering how, in these challenging times, we provide the right services—

 

Rhaid inni hefyd newid ein canfyddiadau o bobl hŷn yng Nghymru. Nid yw’r grŵp hwn yn lleiafrif bach sy’n ddatgysylltiedig oddi wrth weddill y boblogaeth. Mae pobl dros 50 oed yn cyfrif am bron 40 y cant o boblogaeth Cymru, ac y mae’n grŵp y bydd y mwyafrif llethol ohonom naill ai wedi dod yn rhan ohono neu byddwn ryw ddydd. Yr wyf i a Gweinidogion eraill yn ymwybodol iawn o’r amgylchedd economaidd heriol yr ydym ynddi. Mae gan y comisiynydd rôl bwysig yn ein cefnogi ac yn ystyried sut, yn y cyfnod heriol hwn, yr ydym yn darparu’r gwasanaethau cywir-

 

Nick Ramsay rose

 

Nick Ramsay a gododd—

 

Gwenda Thomas: I only have three words left, but I will take the intervention.

 

Gwenda Thomas: Dim ond tri gair sydd ar ôl gennyf, ond fe wnaf gymryd yr ymyriad.

Nick Ramsay: I timed that well then. Minister, you mentioned the review of dignified care in hospitals, but you mentioned it briefly. You know full well that when we had a debate on it in this Chamber, many concerns were raised about the report. I notice from this report that the health boards were to liaise with you and report back in June. That deadline may well have been extended, but aside from all the good words that we have heard, which no-one doubts the good will behind, what is happening on the ground with the new health boards to make sure that the real concerns in that report, which have not been addressed in the past, will be addressed by you and your Government?

Nick Ramsay: Fe wnes i amseru hynny’n dda. Weinidog, soniasoch am yr adolygiad gofal gydag urddas mewn ysbytai, ond soniasoch yn fyr. Yr ydych yn gwybod yn iawn pan gawsom ddadl arno yn y Siambr hon, roedd nifer o bryderon ynghylch yr adroddiad. Sylwaf o’r adroddiad hwn yr oedd y byrddau iechyd i fod i gysylltu â chi ac adrodd ym mis Mehefin. Gall fod y dyddiad cau hwnnw wedi cael ei ymestyn, ond ar wahân i’r holl eiriau da yr ydym wedi eu clywed, ac nid oes neb yn amau’r ewyllys da y tu ôl iddynt, beth sy’n digwydd ar lawr gwlad gyda’r byrddau iechyd newydd i wneud yn siŵr bod y pryderon gwirioneddol yn yr adroddiad hwnnw, sydd heb gael sylw yn y gorffennol, yn cael sylw gennych chi a’ch Llywodraeth?

 

4.45 p.m.

 

Gwenda Thomas: The Minister for health has made absolutely plain her response to the ‘Dignified Care?’ report by the older person’s commissioner, and the Minister is also intent on implementing the responses that she has made. There is no excuse for any abuse, and we are all agreed on that. Today’s debate has underlined our commitment as a legislature to ensuring that we all move together in that direction. You will hold Ministers, quite rightly, accountable for the way that we move forward, but I believe that placing protection in statute has to be the way forward; we have to move in that direction. I believe that ‘Sustainable Social Services for Wales’ and the commitment to a social services Bill is the way to move forward. I emphasise again that that Bill will not be confined to social services; it will embrace the NHS and it may also include other public bodies. I hope that that is helpful.

 

Gwenda Thomas: Mae’r Gweinidog iechyd wedi ymateb yn glir i’r adroddiad ‘Gofal gydag Urddas?’ gan y comisiynydd pobl hŷn, ac y mae’r Gweinidog hefyd yn benderfynol o weithredu’r ymatebion a wnaed ganddi. Nid oes unrhyw esgus am unrhyw gam-drin, ac yr ydym i gyd yn cytuno ar hynny. Mae’r ddadl heddiw wedi tanlinellu ein hymrwymiad fel deddfwrfa i sicrhau ein bod i gyd yn symud gyda’n gilydd yn y cyfeiriad hwnnw. Byddwch yn dal Gweinidogion, yn gwbl briodol, i gyfrif am y ffordd yr ydym yn symud ymlaen, ond yr wyf yn credu ei fod yn hanfodol ein bod yn gosod diogelu mewn statud; mae’n rhaid i ni symud i’r cyfeiriad hwnnw. Credaf mai ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru’ a’r ymrwymiad i Fil gwasanaethau cymdeithasol yw’r ffordd i symud ymlaen. Pwysleisiaf eto na fydd y Bil yn cael ei gyfyngu i wasanaethau cymdeithasol; bydd yn ymwneud â’r gwasanaeth iechyd gwladol a gall hefyd gynnwys cyrff cyhoeddus eraill. Yr wyf yn gobeithio bod hynny’n ddefnyddiol.

 

The Deputy Presiding Officer: The proposal is that amendment 1 be agreed. Is there any objection? I see that there is not. Amendment 1 is therefore agreed in accordance with Standing Order No. 12.36.

 

Y Dirprwy Lywydd: Y cynnig yw cytuno ar welliant 1. A oes unrhyw wrthwynebiad? Gwelaf nad oes. Derbynnir gwelliant 1, felly, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 12.36.

 

Derbyniwyd gwelliant 1.
Amendment 1 agreed.

 

 

The Deputy Presiding Officer: The proposal is that amendment 2 be agreed. Is there any objection? I see that there is not. Amendment 2 is therefore also agreed in accordance with Standing Order No. 12.36.

 

Y Dirprwy Lywydd: Y cynnig yw cytuno ar welliant 2. A oes unrhyw wrthwynebiad? Gwelaf nad oes. Derbynnir gwelliant 2 hefyd, felly, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 12.36.

 

Derbyniwyd gwelliant 2.
Amendment 2 agreed.

 

 

The Deputy Presiding Officer: The proposal is that amendment 3 be agreed. Is there any objection? I see that there is not. Amendment 3 is therefore also agreed in accordance with Standing Order No. 12.36.

 

Y Dirprwy Lywydd: Y cynnig yw cytuno ar welliant 3. A oes unrhyw wrthwynebiad? Gwelaf nad oes. Derbynnir gwelliant 3 hefyd, felly, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 12.36.

 

Derbyniwyd gwelliant 3.
Amendment 3 agreed.

 

 

The Deputy Presiding Officer: The proposal is that amendment 4 be agreed. Is there any objection? I see that there is not. Amendment 4 is therefore also agreed in accordance with Standing Order No. 12.36.

 

Y Dirprwy Lywydd: Y cynnig yw cytuno ar welliant 4. A oes unrhyw wrthwynebiad? Gwelaf nad oes. Derbynnir gwelliant 4 hefyd, felly, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 12.36.

 

Derbyniwyd gwelliant 4.
Amendment 4 agreed.

 

 

Cynnig NDM4841 fel y’i diwygiwyd:

 

Motion NDM4841 as amended:

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

The National Assembly for Wales:

 

Yn nodi adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn ar gyfer 2010/11, y gosodwyd copi ohono yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Hydref 2011.

 

Notes the report of the Commissioner for Older People for 2010/11, a copy of which was laid in Table Office on 6 October 2011.

 

Yn annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu camau i warchod pobl hŷn sydd mewn perygl o niwed neu sy’n methu ag ymdopi; ac i ddiogelu eu hurddas.

 

Urges the Welsh Government to prioritise action to protect older people who are at risk of harm or unable to cope; and to safeguard their dignity.

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i’r heriau a nodwyd yn ‘Galwadau’r Comisiynydd’.

 

Calls upon the Welsh Government to respond to the challenges defined in ‘Calls from the Commissioner’.

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaeth eiriolaeth cynhwysfawr a chyson ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.

 

Calls upon the Welsh Government to establish a comprehensive and consistent advocacy service for older people in Wales.

 

Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru

 

Believes that the Welsh Government should

 

a) werthuso cynlluniau lleol, wedi’u hanelu at gynorthwyo pobl hŷn, sy’n:

 

a) evaluate local schemes, aimed at assisting elderly people, which:

 

i) eu hannog i fabwysiadu ffyrdd iach o fyw ac yn eu galluogi i fyw’n ddiogel mewn cymuned gefnogol, a thrwy hynny osgoi gorfod aros yn ddiangen mewn ysbyty; a

 

i) encourage the adoption of healthy lifestyles and allow them to live safely within a supportive community thus avoiding unnecessary hospital admissions; and

 

ii) hyrwyddo byw’n annibynnol.

 

ii) promote independent living.

 

b) ymgorffori’r arfer gorau mewn cynllun gweithredu Cymru gyfan ar gyfer iechyd ataliol.

 

b) incorporate best practices into an all-Wales action plan on preventative health.

 

The Deputy Presiding Officer: The proposal is that the motion as amended be agreed. Is there any objection? I see that there is not. The motion as amended is therefore agreed in accordance with Standing Order No. 12.36.

 

Y Dirprwy Lywydd: Y cynnig yw cytuno ar y cynnig fel y’i diwygiwyd. A oes unrhyw wrthwynebiad? Gwelaf nad oes. Derbynnir y cynnig fel y’i diwygiwyd, felly, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 12.36.

 

Derbyniwyd cynnig NDM4841 fel y’i diwygiwyd.
Motion
NDM4841as amended agreed.

 

S4C

 

Cynnig NDM4842 Jane Hutt

 

Motion NDM4842 Jane Hutt

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

To propose that the National Assembly of Wales:

 

1. Yn nodi’r cytundeb diweddar ynghylch y bartneriaeth newydd rhwng S4C a’r BBC;

 

1. Notes the recent agreement regarding S4C’s new partnership with the BBC;

 

2. Yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru drafod â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yr angen i gynnal adolygiad llawn o brosesau gweithredu a llywodraethu S4C ac atebolrwydd y sianel, ond gan ganiatáu amser i’r trefniadau diwygiedig yn S4C gael amser i weithio; a

 

2. Agrees that the Welsh Government should discuss with the UK government the need for a full review of the operation, governance and accountability of S4C, subject to the revised arrangements at S4C being given time to work; and

 

3. Yn cytuno y dylai fod cysylltiadau cryfach rhwng S4C, darlledwyr eraill y gwasanaeth cyhoeddus a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

3. Agrees that there should be stronger links between S4C, other public service broadcasters and the National Assembly for Wales.

 

The Minister for Housing, Regeneration and Heritage (Huw Lewis): I move the motion.

 

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth (Huw Lewis): Cynigiaf y cynnig.

 

This debate today is very timely considering recent developments in relation to S4C. I know that the challenge of safeguarding S4C has rightfully been a matter of concern to many of us across the Chamber over recent months. The Welsh Government warmly welcomes the agreement that has been reached between the BBC Trust and the S4C authority. The agreement concerns the funding, governance and accountability of S4C for the next six years. Crucially, it does so in a manner that protects the editorial and managerial independence of S4C. The assurance of funding until 2017 is a major step forward and should at least provide stability for S4C and the independent production sector. I would like to pay tribute today to the S4C authority and the BBC Trust, which have delivered this agreement after prolonged discussions. I am pleased in particular to acknowledge the contribution of the BBC Trust member for Wales, Elan Closs Stephens, and S4C’s chair, Huw Jones. The leadership that they have shown over recent months augurs well for the partnership between the two organisations, which will, I hope, continue to provide the basis for Welsh-language public service broadcasting into the future.

 

Mae’r ddadl hon heddiw yn amserol iawn o ystyried datblygiadau diweddar mewn perthynas â S4C. Gwn fod yr her o ddiogelu S4C wedi bod yn destun pryder i lawer ohonom ar draws y Siambr dros y misoedd diwethaf. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu’n gynnes y cytundeb sydd wedi ei gyrraedd rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac awdurdod S4C. Mae’r cytundeb yn ymwneud â chyllid, llywodraethiant ac atebolrwydd S4C am y chwe blynedd nesaf. Yn hanfodol, mae’n gwneud hynny mewn modd sy’n diogelu annibyniaeth olygyddol a rheolaethol S4C. Mae’r sicrwydd o gyllid tan 2017 yn gam mawr ymlaen a dylai hynny ddarparu sefydlogrwydd o leiaf i S4C a’r sector cynhyrchu annibynnol. Hoffwn dalu teyrnged heddiw i awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC, sydd wedi cyflwyno’r cytundeb hwn ar ôl trafodaethau hir. Yr wyf yn falch yn arbennig i gydnabod cyfraniad aelod Ymddiriedolaeth y BBC dros Gymru, Elan Closs Stephens, a chadeirydd S4C, Huw Jones. Mae’r arweinyddiaeth y maent wedi ei ddangos dros y misoedd diwethaf yn argoeli’n dda ar gyfer y bartneriaeth rhwng y ddau sefydliad, a fydd, rwy’n gobeithio, yn parhau i ddarparu’r sail ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y Gymraeg yn y dyfodol.

 

The recent announcement is a major step in the right direction, but it is important to bear in mind that the funding situation facing S4C is dramatically different to that which was previously guaranteed in statute. Broadcasting policy remains a non-devolved matter and it is worth reflecting on the overall impact of decisions taken by the UK Government during the last year in relation to the channel. At the beginning of 2010, S4C’s grant in aid from the Department for Culture, Media and Sport amounted to almost £102 million. As a result of the Secretary of State’s decisions during the comprehensive spending review, S4C’s funding will have reduced to a little under £75 million by 2015. That is around a third less in real terms. Therefore, we welcome the deal that has been agreed with the BBC Trust, but it is worth pausing to consider the implications of the scale of that reduction. S4C’s television service by 2015 will, of necessity, be very different to that which viewers have been used to in the past.

 

Mae’r cyhoeddiad diweddar yn gam pwysig yn y cyfeiriad cywir, ond mae’n bwysig cofio bod y sefyllfa ariannu sy’n wynebu S4C yn ddramatig o wahanol i’r hyn a gafodd ei warantu yn flaenorol mewn statud. Mae polisi darlledu yn parhau i fod yn fater sydd heb ei ddatganoli ac mae’n werth myfyrio ar effaith gyffredinol penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o ran y sianel. Ar ddechrau 2010, cyfanswm grant S4C oddi wrth yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon oedd bron i £102 miliwn. O ganlyniad i benderfyniadau’r Ysgrifennydd Gwladol yn ystod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, bydd cyllid S4C wedi gostwng i ychydig o dan £75 miliwn erbyn 2015. Mae hynny tua thraean yn llai mewn termau real. Felly, yr ydym yn croesawu’r cytundeb a gytunwyd gydag Ymddiriedolaeth y BBC, ond mae’n werth ystyried goblygiadau graddfa’r gostyngiad hwnnw. Bydd gwasanaeth teledu S4C erbyn 2015, o reidrwydd, yn wahanol iawn i’r hyn sydd wedi bod yn gyfarwydd i wylwyr yn y gorffennol.

 

I know that S4C will be exploring every avenue to ensure that its broadcasting operations are as streamlined as possible. However, the level of the cut imposed by Westminster will eventually find its way into the level of service that viewers will see on their screens, which will be a significantly less extensive service, in one way or another, than was provided until very recently. The scale of that reduction reflects the magnitude of the political decisions that have been taken at the other end of the M4. It certainly does not reflect the continued importance of S4C to the people of Wales because, if anything, S4C is going to have an even more important role to play in the next few years than in the past.

 

Gwn y bydd S4C yn archwilio pob dull i sicrhau bod ei gweithrediadau darlledu mor syml ag y bo modd. Fodd bynnag, bydd lefel y toriad a osodir gan San Steffan yn y pen draw yn effeithio ar lefel y gwasanaeth y bydd gwylwyr yn ei weld ar eu sgriniau, a fydd yn wasanaeth llawer llai helaeth, mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, nag a ddarparwyd hyd yn ddiweddar iawn. Mae maint y gostyngiad hwnnw yn adlewyrchu maint y penderfyniadau gwleidyddol sydd wedi eu cymryd ar ben draw’r M4. Yn sicr nid yw’n adlewyrchu pwysigrwydd parhaus S4C i bobl Cymru oherwydd, os unrhyw beth, mae S4C yn mynd i gael rôl hyd yn oed yn fwy pwysig i’w chwarae yn yr ychydig flynyddoedd nesaf nag yn y gorffennol.

 

Its central function will continue to be to provide a wide-ranging public broadcasting service for viewers in Wales and beyond. S4C will also continue to have a key role in ensuring that the Welsh language continues to thrive. In this regard, S4C is more than just a broadcaster. On screen—and increasingly online—S4C helps to establish Welsh as a modern language. As the competition for viewers becomes ever more cut-throat in this world of ever-growing digital options, the importance of that role—and the importance of making sure that the Welsh language has a place on those digital platforms—will continue to grow.

 

Bydd ei swyddogaeth ganolog yn parhau i fod yr un fath, sef darparu gwasanaeth darlledu cyhoeddus eang i wylwyr yng Nghymru a thu hwnt. Bydd S4C hefyd yn parhau i fod â rôl allweddol wrth sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn parhau i ffynnu. Yn hyn o beth, mae S4C yn fwy na dim ond darlledwr. Ar y sgrin—ac yn gynyddol ar-lein—mae S4C yn helpu i sefydlu’r Gymraeg fel iaith fodern. Wrth i’r gystadleuaeth am wylwyr fynd yn anoddach yn y byd hwn o opsiynau digidol cynyddol, bydd pwysigrwydd y rôl—a phwysigrwydd gwneud yn siŵr bod lle i’r iaith Gymraeg ar y llwyfannau digidol hynny—yn parhau i dyfu.

 

Members will also be acutely aware of S4C’s economic role. S4C’s commissioning policy has greatly contributed to growth in the independent production sector in Wales. One of S4C’s great contributions has been to facilitate the growth of an independent production sector that has pockets of excellence all over Wales. The sector has made an important contribution to our economy and has widened the skills base for the creative industries. It is also worth recalling that S4C has done much to realise our creative potential as a nation. S4C’s contribution in all these areas is difficult to overestimate. We all therefore need to be concerned about the reduced scale of its operations moving forward. We all need to be concerned about the impact of that on our economy and our ability to harness our creative talent.

 

Bydd Aelodau hefyd yn ymwybodol iawn o rôl economaidd S4C. Mae polisi comisiynu S4C wedi cyfrannu’n fawr at dwf yn y sector cynhyrchu annibynnol yng Nghymru. Un o gyfraniadau mawr S4C yw ei bod wedi hwyluso twf sector cynhyrchu annibynnol sydd â phocedi o ragoriaeth ledled Cymru. Mae’r sector wedi gwneud cyfraniad pwysig i’n heconomi ac wedi ehangu’r sylfaen sgiliau ar gyfer y diwydiannau creadigol. Mae hefyd yn werth cofio bod S4C wedi gwneud llawer i wireddu ein potensial creadigol fel cenedl. Mae cyfraniad S4C yn yr holl feysydd hyn yn anodd ei oramcangyfrif. Felly, mae angen i bob un ohonom fod yn bryderus am raddfa lai ei gweithrediadau wrth symud ymlaen. Mae angen i bawb fod yn bryderus am effaith hynny ar ein heconomi a’n gallu i harneisio ein talent greadigol.

 

The funding settlement that S4C received is already having a negative impact. We recently heard of job losses at Boomerang, which was a direct result of the reduction in the budgets of S4C and BBC Wales. It is inevitable, unfortunately, that we will hear about similar scenarios in the future. I urge S4C to work closely with the independent sector and the broadcasting unions—I met BECTU recently, for example—to ensure that there is a clear strategy in place to deal with these issues, and wherever possible, to help mitigate them.

 

Mae’r setliad cyllid a gafodd S4C eisoes yn cael effaith negyddol. Yn ddiweddar, clywsom am golli swyddi yn Boomerang, a oedd yn ganlyniad uniongyrchol i ostyngiad yng nghyllidebau S4C a BBC Cymru. Mae’n anochel, yn anffodus, y byddwn yn clywed am sefyllfaoedd tebyg yn y dyfodol. Yr wyf yn annog S4C i weithio’n agos gyda’r sector annibynnol a’r undebau darlledu—cyfarfûm â BECTU yn ddiweddar, er enghraifft—er mwyn sicrhau bod yna strategaeth glir ar waith i ymdrin â’r materion hyn a, lle bo hynny’n bosibl, helpu eu lliniaru.

 

It is because S4C is so important that we have been so concerned with putting the uncertainty generated over recent months behind us. The ingredients are now in place for S4C to begin to respond to its new challenges. To begin with, it has new leadership. We welcome Huw Jones’s appointment as chair of the channel. He has a wealth of experience in the broadcasting industry, not least from his previous role at S4C. He will need all that experience to help navigate the authority and the channel through the challenging times ahead. I also congratulate Ian Jones on his recent appointment as chief executive. He will take up the post at a vital juncture for the channel. It is encouraging that S4C has been able to find a new leader with experience of the increasingly international business of broadcasting, as well as of broadcasting here in Wales. I am sure that we wish Ian all the best and hope that he is able to take up his post as soon as possible.

 

Pwysigrwydd S4C yw’r rheswm yr ydym wedi bod mor bryderus o ran rhoi’r ansicrwydd a gynhyrchwyd dros y misoedd diwethaf y tu ôl i ni. Mae popeth yn ei le bellach i ganiatáu i S4C ddechrau ymateb i’w heriau newydd. I ddechrau, mae ganddi arweinyddiaeth newydd. Rydym yn croesawu penodiad Huw Jones fel cadeirydd y sianel. Mae ganddo gyfoeth o brofiad yn y diwydiant darlledu, nid lleiaf o’i swydd flaenorol yn S4C. Bydd angen yr holl brofiad hwnnw arno i helpu llywio’r awdurdod a’r sianel drwy’r cyfnod heriol sydd o’u blaenau. Yr wyf hefyd yn llongyfarch Ian Jones ar ei benodiad diweddar fel prif weithredwr. Bydd yn dechrau ar ei swydd ar adeg hanfodol i’r sianel. Mae’n galonogol bod S4C wedi medru dod o hyd i arweinydd newydd sydd â phrofiad o’r busnes cynyddol ryngwladol o ddarlledu, yn ogystal â darlledu yma yng Nghymru. Mae’n siŵr gennyf ein bod yn dymuno pob lwc i Ian ac yn gobeithio y bydd yn gallu dechrau yn ei swydd cyn gynted â phosibl.

 

Crucially, what S4C can now build on is its new partnership with the BBC. There was a whole host of potential difficulties surrounding the need to establish new governance and funding arrangements with the BBC Trust, but the outcome of the discussions seems to demonstrate a fair amount of goodwill on both sides. The aim now must be to capitalise on that and to implement the new partnership for the benefit of viewers. People have rightfully been concerned about ensuring S4C’s independence in any new arrangements. Now that that independence seems to have been safeguarded—I understand that the operating agreement will be subject to public consultation—it is time to move on. These matters are matters for the broadcasters.

 

Yn bennaf, yr hyn y gall S4C bellach adeiladu arno yw ei phartneriaeth newydd gyda’r BBC. Roedd llu o anawsterau posibl o amgylch yr angen i sefydlu trefniadau llywodraethu ac ariannu newydd gydag Ymddiriedolaeth y BBC, ond mae canlyniadau’r trafodaethau yn dangos cryn dipyn o ewyllys da ar y ddwy ochr. Mae’n rhaid manteisio ar hynny yn awr a gweithredu’r bartneriaeth newydd er budd y gwylwyr. Mae pobl wedi bod yn pryderu am sicrhau annibyniaeth S4C mewn unrhyw drefniadau newydd. Gan ei fod yn ymddangos yn awr bod yr annibyniaeth honno wedi cael ei diogelu—deallaf y bydd y cytundeb gweithredu yn destun ymgynghoriad cyhoeddus—mae’n amser i symud ymlaen. Materion i’r darlledwyr yw’r rhain.

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas: A wnaiff y Gweinidog gydnabod nad yw’r trefniadau hyn o bartneriaeth newydd yn newydd i S4C? Yn wreiddiol, pan sefydlwyd yr awdurdod, partneriaeth rhwng y BBC, Channel 4 y Deyrnas Unedig, yr Awdurdod Darlledu Annibynnol a chynhyrchwyr annibynnol oedd y sianel. Felly, yr hyn sy’n digwydd yn awr yw mynd yn ôl i bartneriaeth oddi wrth annibyniaeth ffug.

 

Lord Elis-Thomas: Will the Minister recognise that these new partnership arrangements are not new to S4C? Originally, when the authority was established, the channel was a partnership between the BBC, the UK’s Channel 4, the Independent Broadcasting Authority and independent producers. Therefore, what is happening now is a return to partnership from a false independence.

 

Huw Lewis: Yes, I accept what the Member says and that that is the history of S4C until now. Of course, this partnership must now be re-forged and made anew, and the discussions over the next few months regarding the detail as to how exactly that partnership will operate will be critical in securing the future of S4C.

 

Huw Lewis: Gwnaf. Yr wyf yn derbyn yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud ac mai dyna beth fu hanes S4C tan nawr. Wrth gwrs, mae’n rhaid ail-greu’r bartneriaeth hon o’r newydd, a bydd y trafodaethau dros yr ychydig fisoedd nesaf ynghylch y manylion o ran sut yn union y bydd y bartneriaeth honno yn gweithredu yn allweddol wrth sicrhau dyfodol S4C.

 

We do care very much about S4C and the services it provides to Welsh-speaking viewers, but we also care about the services on BBC1 Wales, about Radio Wales and Radio Cymru, and the development of online services. Surely all of these are more likely to prosper if we have a partnership that is as fruitful, wide-ranging and creative as possible between our two national broadcasters. I would like to think that that is a partnership to which ITV Wales could contribute as well.

 

Mae S4C yn bwysig iawn inni, yn ogystal â’r gwasanaethau y mae’n eu darparu i wylwyr Cymraeg eu hiaith, ond mae’r gwasanaethau ar BBC1 Cymru, Radio Wales a Radio Cymru, a datblygu gwasanaethau ar-lein hefyd yn bwysig inni. Bydd y rhain yn fwy tebygol o ffynnu os oes gennym bartneriaeth sydd mor ffrwythlon, eang a chreadigol â phosibl rhwng ein dau ddarlledwr cenedlaethol. Hoffwn feddwl bod hynny’n bartneriaeth y gallai ITV Wales gyfrannu ati hefyd.

 

As a Government, we are very encouraged by the deal between the BBC Trust and S4C. We are encouraged that the new partnership between the two broadcasters offers important benefits for the citizens of Wales. The first priority should be for S4C and the BBC to begin to deliver on the back of that partnership. However, because of the crucial importance of S4C’s role, we also believe that the outcome of this partnership should at some point be subject to an independent review. I am conscious that the need for such a review has, to date, been a matter on which all parties in this Assembly have agreed. The Welsh Government’s position is clear: there should be a wide ranging review of S4C, commissioned jointly by the UK and Welsh Governments. This commitment to press for an undertaking for a review is outlined in our programme for government. We will continue to discuss the timing of this review with the UK Government.

 

Fel Llywodraeth, yr ydym wedi ein calonogi gan y cytundeb rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac S4C. Mae’n galonogol bod y bartneriaeth newydd rhwng y ddau ddarlledwr yn cynnig manteision pwysig i ddinasyddion Cymru. Y flaenoriaeth gyntaf a ddylai fod yw sicrhau bod S4C a’r BBC yn dechrau cyflawni o ganlyniad i’r bartneriaeth. Fodd bynnag, oherwydd pwysigrwydd hanfodol rôl S4C, credwn hefyd y dylai canlyniad y bartneriaeth hon ar ryw adeg fod yn destun adolygiad annibynnol. Yr wyf yn ymwybodol bod pob plaid yn y Cynulliad hwn wedi cytuno ar yr angen am adolygiad o’r fath hyd yn hyn. Mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir: dylid cynnal adolygiad eang o S4C, wedi ei chomisiynu ar y cyd gan Lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru. Mae’r ymrwymiad hwn i bwyso am ymrwymiad i gynnal adolygiad wedi ei amlinellu yn ein rhaglen lywodraethu. Byddwn yn parhau i drafod amseriad yr adolygiad hwn gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

 

We were very disappointed by the response that we received to the letter sent by the four party leaders in the Assembly last year. Now that the new governance and funding arrangements between the two broadcasters have been agreed, we will re-engage with the Secretary of State regarding this review. We will also want to raise with the Secretary of State how we can establish stronger links between S4C—and, indeed, the other broadcasters in Wales—and the National Assembly. We believe that the activities of the public service broadcasters are too important not be discussed in this Chamber. It is because we believe that those activities are important that there have to be periodic opportunities for Members to quiz the broadcasters about their plans. I would be very pleased to discuss with other party spokespersons whether it would be possible to develop a common approach to these matters that we could then discuss with the UK Government.

 

Cawsom ein siomi’n fawr gan yr ymateb a gawsom i’r llythyr a anfonwyd gan arweinwyr y pedair plaid yn y Cynulliad y llynedd. Nawr bod y trefniadau llywodraethu a chyllid newydd rhwng y ddau ddarlledwr wedi eu cytuno, byddwn yn ail-ymgysylltu â’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch yr adolygiad hwn. Byddwn hefyd am godi gyda’r Ysgrifennydd Gwladol sut y gallwn sefydlu cysylltiadau cryfach rhwng S4C—ac, yn wir, y darlledwyr eraill yng Nghymru—a’r Cynulliad Cenedlaethol. Credwn fod gweithgareddau’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn rhy bwysig i beidio â’u trafod yn y Siambr hon. Mae hynny oherwydd y credwn fod y gweithgareddau hynny yn bwysig a bod yn rhaid cael cyfleoedd o bryd i’w gilydd i Aelodau gael holi darlledwyr am eu cynlluniau. Byddwn yn falch iawn i drafod gyda llefarwyr y pleidiau eraill a fyddai’n bosibl datblygu dull cyffredin i’r materion hyn y gallem wedyn eu trafod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

 

S4C is too important to Wales for us not to be engaged fully in discussions about its future role, but so is broadcasting in the round. I look forward to hearing the views of other Members on this important topic today, and I look forward to continuing this discussion over the coming months.

 

Mae S4C yn rhy bwysig i Gymru i ni beidio â chael ein cynnwys yn llawn yn y trafodaethau ynglŷn â’i rôl yn y dyfodol, ond felly hefyd darlledu yn gyffredinol. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau eraill ar y pwnc pwysig heddiw, ac yr wyf yn edrych ymlaen at barhau â’r drafodaeth hon dros y misoedd nesaf.

 

Suzy Davies: Efallai ei fod wedi cymryd pwysau’r Cynulliad cyfan i ddwyn perswâd ar y Llywodraeth i gytuno i gyflwyno dadl ar y pwnc hwn, ond croesawaf y ddadl heddiw beth bynnag. Mae cynnig y Llywodraeth a gytunwyd gan y pleidiau eraill, wrth gwrs, yn canolbwyntio ar S4C, ond mae’n caniatáu hefyd drafodaeth ehangach i gynnwys darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill yng Nghymru, ac, yn fwy penodol, eu perthynas â’r Cynulliad Cenedlaethol.

 

Suzy Davies: Perhaps it has taken pressure from the whole Assembly to persuade the Government to bring forward this debate, but I welcome today’s debate anyway. The Government’s motion, agreed by all parties, of course, concentrates on S4C, but it also allows a broader discussion to include other public service broadcasters in Wales and, more specifically, their relationship with the National Assembly.

 

The first two points of the motion invite us to discuss the new arrangement between S4C and the BBC. Whether this long relationship can resist an unintended incremental merger of these two broadcasters, despite essential guarantees of independence, remains to be seen. While it is obvious that one way that both bodies could cut costs would be by sharing backroom functions and exploring collaborative ventures, there is a question about whether that would lead to a level of interdependence that could make it difficult to dissolve the partnership at any point in the future. While that may be a worry for S4C and the BBC, it could have wider implications for the plurality of public service broadcasts on television and radio, and that is already a concern.

 

Mae dau bwynt cyntaf y cynnig yn ein gwahodd i drafod y trefniant newydd rhwng S4C a’r BBC. Rydym yn aros i weld a all y berthynas hir hon wrthsefyll uno cynyddrannol anfwriadol y ddau darlledwr, er gwaethaf gwarantau hanfodol o annibyniaeth. Er ei bod yn amlwg mai un ffordd y gallai’r ddau gorff dorri costau fyddai drwy rannu swyddogaethau ystafell gefn ac archwilio mentrau ar y cyd, mae cwestiwn ynghylch a fyddai’n arwain at lefel o gyd-ddibyniaeth a allai ei gwneud yn anodd i ddiddymu’r bartneriaeth ar ryw adeg yn y dyfodol. Er y gall hynny fod yn destun pryder i S4C a’r BBC, gallai fod â goblygiadau ehangach ar gyfer lluosogrwydd darllediadau gwasanaeth cyhoeddus ar deledu a radio, ac mae hynny eisoes yn bryder.

 

I am conscious that focusing our concern on certain parts of the BBC-S4C arrangement means that we risk overlooking the question of the channel 3 franchise, for example, and worries expressed by Teledwyr Annibynnol Cymru that too much collaboration between BBC and S4C could freeze out other producers. Nevertheless, I welcome the period of stability that the S4C-BBC agreement brings us; it is now up to S4C and the BBC to show us what they are made of by making this relationship work. We must give them time to do so.

 

Yr wyf yn ymwybodol bod canolbwyntio ein pryder ar rai rhannau o’r trefniant BBC-S4C yn golygu ein bod mewn perygl o beidio ag ystyried y cwestiwn o fasnachfraint sianel 3, er enghraifft, a’r pryderon a fynegwyd gan Teledwyr Annibynnol Cymru y gallai gormod o gydweithio rhwng y BBC ac S4C allgau cynhyrchwyr eraill. Serch hynny, croesawaf y cyfnod o sefydlogrwydd sy’n dod o ganlyniad i’r cytundeb S4C-BBC; mater i S4C a’r BBC ydyw yn awr i ddangos i ni eu bod yn gallu gwneud i’r berthynas hon i weithio. Rhaid i ni roi amser iddynt wneud hynny.

 

5.00 p.m.

 

The UK Government has already committed to a review by 2015. Unless the new relationship between S4C and the BBC shows signs of unravelling early on, I see no need for Government to interfere before then. That timing also allows a period for planning any changes that may be identified by such a review for implementation post 2016-17. The primary responsibility for S4C lies with the UK Government and is subject to scrutiny by Parliament. Its intention to preserve that position is clear from its own amendment to the Public Bodies Bill. However, the framing of the communications Bill is an opportunity to refine that, if we wish to. We will all be curious to hear what the Welsh Government has to say on that potential development.

 

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi ymrwymo i adolygiad erbyn 2015. Oni bai bod y berthynas newydd rhwng S4C a’r BBC yn dangos arwyddion o ymddatod yn gynnar, ni welaf unrhyw angen i’r Llywodraeth ymyrryd cyn hynny. Mae’r amseru hwnnw hefyd yn caniatáu cyfnod ar gyfer cynllunio unrhyw newidiadau y gallai adolygiad o’r fath eu nodi i’w rhoi ar waith ar ôl 2016-17. Saif y prif gyfrifoldeb am S4C gyda Llywodraeth y DU ac mae’n destun craffu gan y Senedd. Mae ei bwriad i warchod y sefyllfa honno yn glir o’i gwelliant ei hun i’r Bil Cyrff Cyhoeddus. Fodd bynnag, mae fframio’r Bil cyfathrebu yn gyfle i fireinio hynny, os dymunwn. Byddwn i gyd yn chwilfrydig i glywed yr hyn sydd gan Lywodraeth Cymru i’w ddweud ar y datblygiad posibl hwnnw.

 

That leads me to the point 3 of the motion. If you view S4C simply as a tool to promote and grow the Welsh language, it is easy to sympathise with the suggestion that the primary responsibility for S4C be transferred to this place. However, it is not just a tool to promote and grow the Welsh language; it is a broadcaster with scope to be more. It shares public service broadcast obligations with the BBC and ITV, and all three have a duty to represent the Welsh experience to us and, just as importantly, to the world at large. Indeed, according to S4C, hundreds of thousands of viewers from other parts of the UK tune in annually. Its very existence reminds the rest of the UK that Wales is a distinctive member of the union, but a member nevertheless. Its experience remains part of the British experience.

 

Mae hynny’n fy arwain at bwynt 3 yn y cynnig. Os ydych yn gweld S4C ond fel offeryn i hyrwyddo a thyfu’r iaith Gymraeg, mae’n hawdd cydymdeimlo â’r awgrym y dylid trosglwyddo’r prif gyfrifoldeb dros S4C i’r lle hwn. Fodd bynnag, nid dim ond offeryn i hyrwyddo a datblygu’r iaith Gymraeg ydyw; mae’n ddarlledwr gyda phosibiliadau i fod yn fwy. Mae’n rhannu rhwymedigaethau darlledu gwasanaeth cyhoeddus gyda’r BBC ac ITV, ac mae gan y tri ohonynt ddyletswydd i bortreadu’r profiad Cymreig i ni ac, a chyn bwysiced, i’r byd yn gyffredinol. Yn wir, yn ôl S4C, mae cannoedd o filoedd o wylwyr o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn flynyddol. Mae ei bodolaeth yn atgoffa gweddill y DU bod Cymru yn aelod arbennig o’r undeb, ond yn aelod er hynny. Mae ei phrofiad yn parhau i fod yn rhan o’r profiad Prydeinig.

 

Yet, public service broadcasting, by its very nature, affects and is affected by aspects of life that come within Assembly areas of competence. The Welsh language is just one of those. Therefore, should we leave our public service broadcasters under the sole purview of the UK Parliament, or might we investigate a form of joint responsibility—partial devolution? It could mean the permitting of Assembly scrutiny of UK Government decisions on broadcasting in Wales—scrutiny to which the UK Government could give consideration equal to that of its own committees. It could also mean sharing executive power, where a UK Government broadcasting policy directly impacts on a devolved area. That may be for the consideration of part 2 of the Silk commission—more ambitious than the Minister’s earlier indications.

 

Eto i gyd, mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus, yn gynhenid, yn effeithio ar ac yn cael ei effeithio gan agweddau ar fywyd sy’n dod o dan feysydd cymhwysedd y Cynulliad. Dim ond un ohonynt yw’r iaith Gymraeg. Felly, a ddylem adael ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yng nghylch Senedd y DU yn unig, neu tybed a allem ymchwilio i fath o gyfrifoldeb ar y cyd—datganoli rhannol? Gallai olygu caniatáu i’r Cynulliad graffu ar benderfyniadau Llywodraeth y DU ar ddarlledu yng Nghymru—craffu y gallai Llywodraeth y DU roi’r un ystyriaeth iddo â chraffu ei phwyllgorau ei hun. Gallai hefyd olygu rhannu pŵer gweithredol, lle mae polisi darlledu Llywodraeth y DU yn cael effaith uniongyrchol ar faes datganoledig. Efallai bod hynny i’w ystyried gan ran 2 o gomisiwn Silk—yn fwy uchelgeisiol nag arwyddion cynharach y Gweinidog.

 

Yr ydym yn parhau i fyw o dan gwmwl o ansicrwydd yn y tymor hir. Yr hyn sydd yn sicr ei angen yw strategaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a darlledwyr, er mwyn sicrhau’r gorau i Gymru.

 

We are still living under a cloud of uncertainty in the long term. What is definitely needed is the Welsh Government’s strategy for working with the UK Government and broadcasters to get the best for Wales.

 

Keith Davies: Dilynaf yr hyn a ddywedodd Suzy Davies drwy ddweud mai’r ansicrwydd sy’n poeni’r rhan fwyaf ohonom. Yr wyf felly’n falch o gael y cyfle i gael trafodaeth yn y Cynulliad. Yr wyf hefyd yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi S4C, gan gydnabod rôl allweddol S4C i ddiwylliant Cymru. Mae S4C yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn parhau ac yn ffynnu. Mae hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth adfer ein heconomi, drwy gynnig rhaglen gomisiynu sydd wedi sicrhau cynnydd yn y sector cyfryngau annibynnol. Er enghraifft, mae cwmni Tinopolis yn Llanelli yn un o’r mwyaf yn y Deyrnas Unedig.

 

Keith Davies: Following on from what Suzy Davies said, it is the uncertainty that worries most of us. I am, therefore, pleased to have the opportunity for a discussion in the Assembly. I am also pleased that the Welsh Government has given a commitment to support S4C, recognising S4C’s key role in the culture of Wales. S4C plays a key role in ensuring that the Welsh language continues and flourishes. It also plays an important role in our economic recovery, by providing a commissioning programme that has secured growth in the independent media sector. For example, Tinopolis in Llanelli is one of the biggest companies in the United Kingdom.

 

Dangosodd adroddiad annibynnol yn 2010 fod effaith S4C ar yr economi Gymreig yn werth bron £90 miliwn, ac yn gyfrifol am gynnal dros 2,000 o swyddi yn y sector annibynnol. Darllenais rai ystadegau calonogol eraill yn ddiweddar, megis bod 73 o raglenni S4C yn derbyn cynulleidfa o fwy na 100,000 o bobl, bod cynnydd eleni o 3 y cant yn y nifer sy’n gwylio S4C a bod cynnydd o 54 y cant yn y nifer sy’n gwylio ar-lein. Fel y gwyddom, y broblem sydd gennym yw’r cyllid. Yn wir, fel y dywedodd y Gweinidog yn gynharach, bu i’r cyllid gynyddu o dan Lywodraeth Lafur, ond edrychwch ar yr hyn sydd wedi digwydd ers hynny. Erbyn 2015, bydd S4C yn colli 32 y cant o’i chyllid a bydd BBC Cymru, yn yr un cyfnod, yn gweld gostyngiad o rhwng 16 ac 20 y cant. Beth mae’r Arglwydd Patten wedi gofyn amdano? Yn 2016-17, mae wedi gofyn bod S4C yn cael yr un toriadau â’r BBC. Bydd S4C, felly, yn cael dwywaith y toriadau yn y tair blynedd nesaf y bydd y BBC yn eu cael. Nid yw hynny’n deg.

 

An independent report in 2010 showed that S4C’s impact on the Welsh economy was worth nearly £90 million, and that it was responsible for supporting over 2,000 jobs in the independent sector. I recently read some other heartening statistics, such as that 73 S4C programmes attracted audiences of over 100,000 people, that there was an increase this year of 3 per cent in the numbers watching S4C and that there was an increase of 54 per cent in the numbers watching online. As we know, the problem that we have is one of funding. Indeed, as the Minister said earlier on, funding went up under a Labour Government, but look at what has happened since then. By 2015, S4C will lose 32 per cent of its funding while BBC Wales, in the same period, will see a reduction of between 16 and 20 per cent. What is Lord Patten asking for? In 2016-17, he has asked that S4C take the same level of cuts as the BBC. Therefore, S4C will face twice the level of cuts faced by the BBC over the next three years. That is not fair.

 

Mae hynny’n fy arwain at y pwyntiau canlynol. Yr ydym wedi dadlau y dylai S4C gael ei thrin yn debyg i ddarlledwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill wrth drafod ei dyfodol, ac mai cyllid tymor hir sydd ei angen. Dylai hyn fod wedi digwydd yng nghyd-destun y trefniadau a osodwyd ac a gytunwyd dan ddeddfwriaeth darlledu. Cafodd S4C ei chreu dan statud i sicrhau ei sefydlogrwydd tymor hir a’i hannibyniaeth. Gosodwyd ei chyfrifoldebau, ei dyletswyddau a’i threfniadau cyllid mewn cyfraith am reswm da. Nid oeddwn yn credu y gallai neb ymyrryd. Ni ddylai’r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon fod wedi anwybyddu ei rhwymedigaethau statudol i’r sianel, a pheidied neb ag anghofio bod S4C yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus; nid adran Llywodraeth na chorff anllywodraethol yw S4C.

 

That leads me to the following points. We have argued that S4C should be treated in the same way as other public service broadcasters in discussing its future, and that what is needed is long-term funding. This should have happened in the context of the arrangements made and agreed under broadcasting legislation. S4C was set up by statute in order to secure its long-term stability and independence. Its responsibilities, duties and funding arrangements were set down in law for a good reason. I did not believe that they could be interfered with. The Department for Culture, Media and Sport should not have ignored its statutory commitments to the channel, and let no-one forget that S4C is a public service broadcaster; it is not a Government department or a non-governmental organisation.

 

Mae angen adolygiad. Yr oeddwn yn falch o allu holi’r Prif Weinidog am hyn yn gynharach Yr oedd yn cytuno bod rhaid cael adolygiad o’r hyn sydd wedi digwydd, gan na chafwyd unrhyw drafodaeth gyda ni yn y Cynulliad ar y penderfyniad i drosglwyddo’r cyllid o’r BBC i S4C. Beth am i ni yn y Cynulliad gael cyfrifoldeb dros S4C? Byddwn yn derbyn hynny, ar yr amod ein bod yn cael y cyllid hefyd, a’n bod yn annibynnol ar DCMS. Dyna sut y dylai fod.

 

A review is needed. I was pleased to be able to ask the First Minister about this earlier on. He agreed that a review was needed of what has happened, as there had been no discussion with us in the Assembly on the decision to transfer funding to S4C from the BBC. What about devolving responsibility for S4C to the Assembly? I would accept that, on the condition that funding followed responsibility and that we were independent of DCMS. That is how it should be.

 

Bethan Jenkins: Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog am ddod â’r mater hwn gerbron y Senedd yn amser y Llywodraeth, er ein bod wedi bod yn galw am hyn ers peth amser. Nid yw’n syndod bod Plaid Cymru yn cefnogi’r cynnig hwn. Byddem, fel plaid, yn hoffi mynd ymhellach na hyn, ond mae consensws, ac mae hynny yn anarferol iawn yn y Siambr hon. Mae hynny’n rhywbeth i fod yn ddiolchgar amdano. Bydd angen cryn dipyn o waith ar lawer o’r hyn y byddaf yn ei drafod, ac nid yw Plaid Cymru yn gwadu hynny. Yr ydym yn barod i wneud y gwaith yn hynny o beth. Rhaid inni gael y systemau yn eu lle yn awr, a dechrau drwy wneud yr hyn y gallwn ei wneud yn y tymor byr.

 

Bethan Jenkins: I would like to thank the Minister for bringing this issue before the Senedd in Government time, although we have been calling for this for some time. It is no surprise that Plaid Cymru supports this motion. We, as a party, would like to go further than this, but there is consensus, which is very unusual in this Chamber. That is something that we should be grateful for. Plaid Cymru does not deny that a lot of work needs to be done on many of the things that I will discuss. We are willing to do that work. We must have systems in place now and start by doing what we can in the short term.

 

Yn ddiweddar, yr oedd yr Athro Ian Hargreaves yn rhoi tystiolaeth i’r grŵp gorchwyl ar ddyfodol y cyfryngau, gan roi cyfle arall inni edrych ar adroddiad ‘Calon Cymru Ddigidol’, ac yr oedd yn cynnwys argymhelliad ynghylch S4C. Mae’r adroddiad yn nodi y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu dialog strwythuredig gyhoeddus gydag Awdurdod S4C, wedi ei chynllunio i ehangu’r drafodaeth ar weithgareddau S4C. Mae pwynt 3 cynnig y Llywodraeth yn cyfeirio at y mater y mae’r Athro Hargreaves yn ei godi, ond cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Mawrth y llynedd—pam mae Llywodraeth Cymru yn cymryd cymaint o amser i fynd i’r afael â’r pwynt hwn a gweithredu’r adroddiad yn ei gyfanrwydd yn hynny o beth?

 

Recently, Professor Ian Hargreaves gave evidence to the task and finish group on the future of the media, giving us another opportunity to look at ‘The Heart of Digital Wales’, which included recommendations on S4C. The report notes that the Welsh Government should create a structured public dialogue with the S4C Authority, planned in order to expand discussions on the activities of S4C. Point 3 of the Government’s motion refers to the issue that Professor Hargreaves raised, but the report was published in March of last year—why is the Welsh Government taking so long to get to grips with this point and to implement the recommendations of the report in its entirety in this regard?

 

Nid oes gennyf amser i drafod y cytundeb partneriaeth rhwng S4C a’r BBC mewn manylder, ond digon yw dweud, er gwaetha’r hyn y mae’r BBC yn ei hawlio, nad wyf yn hollol argyhoeddedig bod yr arian a gyhoeddwyd yn fargen mor dda ag y mae’n honni. Mae cwestiynau ar annibyniaeth weithredol a golygyddol yn dal i fodoli. Mae hyn wedi ei werthu fel setliad ariannol anrhydeddus, ond mae’r arian yn dibynnu ar S4C yn derbyn cytundeb gweithredu wedi ei drosglwyddo gan Ymddiriedolaeth y BBC. Yr hyn y mae’n rhaid bod yn ymwybodol ohono, wrth ystyried y trafferthion sydd wedi amharu ar S4C yn ystod y misoedd diwethaf, yw ei dyfodol tymor hir. Yr wyf yn ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid trafod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yr angen am adolygiad llawn o weithrediadau, llywodraethu ac atebolrwydd S4C, ond mae hyn yn teimlo fel pe baem yn symud yn araf o hyd at y man cychwyn. Oni ddylai trafodaethau felly fod ar waith eisoes? Ni allwn gael helyntion fel hyn bob tair, pedair neu bum mlynedd—bob tro y bydd yn amser adolygu cyllideb S4C. Mae angen atebion hirdymor er mwyn creu sefydlogrwydd i bawb: i S4C ac i’r sector annibynnol yn bennaf.

 

I do not have time to discuss the partnership agreement between S4C and the BBC in detail, but suffice to say that, despite what the BBC claims, I am not convinced that the funding announced is such a great deal. Questions remain about editorial and executive independence. This has been sold as a generous financial settlement, but the money depends on S4C accepting an agreement passed down by the BBC Trust. What we must be aware of, in considering the difficulties that have been so detrimental to S4C over the last few months, is its long-term future. I am grateful that the Welsh Government proposes that there should be discussions with the UK Government on the need for a full review of S4C’s accountability and governance, but it feels as if we are still moving very slowly to the start line. Should the discussions not already be ongoing? We cannot have such difficulties every three, four or five years—every time the S4C budget comes up for review. We need long-term solutions in order to create stability for all: particularly for S4C and the independent sector.

 

Felly, gadewch inni fynd i’r afael â’r eliffant yn yr ystafell. Mae’n siŵr nad oes un Aelod Cynulliad yn gwirioneddol gredu ei bod yn well rheoli S4C o Lundain. Os oes, yr wyf yn hapus i dderbyn ymyriad yn awr. Y tro diwethaf y cafodd cyllideb S4C ei thorri gan DCMS, yr hyn a oedd fwyaf nodedig oedd y diffyg cyfiawnhad. Y rheswm a roddwyd oedd bod yn rhaid gwneud toriadau. Mae hyn yn awgrymu nad oedd fawr o ystyriaeth i’r cwestiwn a oedd y toriadau’n briodol. Yn hytrach, mae’r penderfyniad ar doriadau yn adlewyrchu diffyg diddordeb yn S4C gan DCMS. Os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i drafod dyfodol S4C, gadewch iddi gael y nod hwn: datganoli darlledu i Gymru.

 

Therefore, let us get to grips with the elephant in the room. I am sure that not one Assembly Member honestly believes that it is better to control S4C from London. If any Member does believe this, I am happy to take an intervention from them now. The last time that the S4C budget was cut by DCMS, what was most notable was the lack of justification. The reason given was that cuts had to be made. This suggests that there was not much consideration of the question of whether these cuts were appropriate. Rather, decisions on cuts reflect a lack of interest in general in S4C from within DCMS. If the Welsh Government is to discuss the future of S4C, let it have this aim in mind: full devolution of broadcasting to Wales.

 

Yr ydym yn credu bod tair prif ddadl o blaid datganoli darlledu. Yn gyntaf, mae gan y Cynulliad ddyletswydd ddemocrataidd i graffu a chael y gorau o’r £250 miliwn sy’n cael ei wario ar ddarlledu yng Nghymru—llawer ohono’n arian cyhoeddus. Yn ail, mae’r byd darlledu’n newid yn gyflym ac mae anghenion lleol lle mae angen gwneud penderfyniadau strategol ystwyth. Mae canoli pŵer yn hen ffasiwn, yn feichus ac yn aneffeithiol. Yn drydydd, mae’r sector diwydiannau creadigol wedi cael ei roi wrth wraidd polisi economaidd Llywodraeth Cymru. Mae darlledu’n chwarae rôl allweddol yn y sector diwydiannau creadigol, Mae angen, felly, i Lywodraeth Cymru wneud y penderfyniadau strategol yn y maes hwn.

 

We believe that there are three main arguments in favour of the devolution of broadcasting. First, the Assembly has a democratic duty to scrutinise and maximise the impact of the £250 million spent on broadcasting in Wales—much of which is public money. Secondly, broadcasting is a fast moving industry, and there are local needs where strategic decisions need to be made flexibly. Centralising power is old-fashioned and ineffective. Thirdly, the creative industries sector is at the heart of the Welsh Government’s economic policy. Broadcasting plays a key role in the creative industries sector. Therefore, we need to see the Welsh Government making the strategic decisions in this area.

 

Mae’n hawdd i bobl wrthod y cais i ddatganoli darlledu a dweud bod Plaid Cymru o blaid datganoli popeth. Wrth gwrs ein bod am ddatganoli popeth, ond ein man cychwyn ar S4C a darlledu’n gyffredinol yw bod pawb yn rhannu’r pryder dros ddyfodol y cyfryngau yng Nghymru. Mae angen gweithredu yn awr. Dylem fod yn bryderus. Dylai Llywodraeth Cymru, os yw’n ddiffuant yn ei dymuniad i roi Cymru y tu hwnt i niwed o doriadau clymblaid San Steffan, gytuno â’r egwyddorion sydd yn sail i’n dadl.

 

It is easy for people to reject the bid for the devolution of broadcasting and say that Plaid Cymru is in favour of devolving everything. Of course we are, but our starting point on S4C and broadcasting in general is that everyone shares the concern about the future of the media in Wales and that we need to take action now. We should be concerned. The Welsh Government, if it is sincere in its wish to put Wales beyond harm of the Westminster coalition’s cuts, should agree with the principles behind our argument.

 

Os nad ydych yn cytuno â’r hyn y mae San Steffan yn ei wneud o ran cyfeiriad polisi a thoriadau, y cam rhesymegol nesaf yw ystyried sut y gall y penderfyniadau gael eu cymryd o ddwylo San Steffan. Yr wyf yn erfyn ar Lywodraeth Cymru: mae Plaid Cymru yn cefnogi’r cynnig hwn, ond rhowch ddyddiadau inni ar gyfer yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud. Dangoswch eich syniadau clir a’ch ymrwymiad i S4C a fydd yn sicrhau sefydlogrwydd yn nyfodol ein sianel.

 

If you do not agree with what Westminster is doing in terms of policy direction and cuts, the rational next step is to consider how these decisions could be taken out of the hands of Westminster. I urge the Welsh Government: Plaid Cymru supports this motion, but give us dates for what you propose to do. Show us clear ideas of your commitment to S4C that will secure stability for the future of our channel.

 

Aled Roberts: Fel pawb arall, yr wyf yn diolch i’r Gweinidog am y ffaith ein bod o’r diwedd yn cael cyfle i drafod dyfodol S4C yn y Senedd. Mae gennym gyfle i ddangos bod cytundeb, i ryw raddau, rhwng y pleidiau ym mae Caerdydd ar y cynigion gwreiddiol a gafwyd gan Lywodraeth San Steffan. Fel y dywedodd y Gweinidog, dylem groesawu’r cytundeb diweddar ar y bartneriaeth newydd rhwng S4C a’r BBC, sy’n datblygu, fel y dywedodd Dafydd Elis-Thomas, o’r bartneriaeth wreiddiol ar y ddarpariaeth o ryw 10 awr yr wythnos o raglenni gan y BBC. Mae’n wir bod y cytundeb yn delio â rhai o’r pwyntiau yr ydym yn eu gwrthwynebu, sef pwyntiau yn ymwneud ag annibyniaeth Awdurdod S4C a’r tîm rheoli. Wrth gefnogi’r galw yn y cynnig hwn am ragor o drafod rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae’n rhaid sicrhau bod y trafodaethau hynny’n canolbwyntio ar y cytundeb gweithredu tan 2017.

 

Aled Roberts: Like everyone else, I thank the Minister for the opportunity, at last, to discuss the future of S4C in the Senedd. We have an opportunity to demonstrate consensus, to an extent, between the parties in Cardiff bay on the original proposals made by the Westminster Government. As the Minister said, we should welcome the recent agreement on the new partnership between S4C and the BBC, which, as Dafydd Elis-Thomas said, builds upon the original partnership for BBC provision of some 10 hours per week of programming. It is true that the agreement deals with some of the points that we oppose, namely those dealing with the independence of the S4C Authority and management team. In supporting the call made in this motion for more discussions between the Welsh Government and the UK Government, we must ensure that any such discussions focus on the operational agreement up to 2017.

 

Mae’n debyg fy mod yn cytuno â Bethan Jenkins i ryw raddau; efallai fod yr holl drafodaethau yn San Steffan wedi dangos nad yw dyfodol S4C yn ddiogel yn nwylo gwleidyddion Llundain. Anwybyddodd Llywodraeth San Steffan adroddiad gan y Pwyllgor Materion Cymreig, a ddywedodd:

 

It seems that I agree, to some extent, with Bethan Jenkins; the debate in Westminster might have demonstrated that the future of S4C is not secure in the hands of London politicians. The Westminster Government ignored a Welsh Affairs Committee report that said:

 

‘We believe that it is essential that there is a long term funding formula enacted in primary legislation…Any reduction in S4C’s funding should be comparable to other public sector broadcasters.’

 

Credwn ei bod yn hanfodol bod fformiwla ariannu hirdymor yn cael ei ddeddfu mewn deddfwriaeth sylfaenol...Dylai unrhyw ostyngiad yng nghyllid S4C fod yn debyg i’r hyn a welir gan ddarlledwyr sector cyhoeddus eraill.

 

Gwnaethpwyd yr ail bwynt gan Keith Davies. O ran y cytundeb o hyn tan 2015, mae angen inni sylweddoli y bydd cyllideb S4C yn gael ei gwtogi o tua 32 y cant, tra bo cyllideb BBC Cymru yn gostwng rhwng 16 ac 20 y cant, fel y dywedodd Keith Davies. Nid yw galwad yr Arglwydd Patten yn ddiweddar, fod angen cysondeb yn nhoriadau BBC Cymru ac S4C rhwng 2015 a 2017, yn dderbyniol i ni fel plaid.

 

That second point was made by Keith Davies. On the agreement for the period running up to 2015, we must realise that the S4C budget will be cut by some 32 per cent, while the BBC budget will shrink by between 16 and 20 per cent, as Keith Davies said. Lord Patten’s recent call, that there should be consistency in the cuts faced by BBC Wales and S4C between 2015 and 2017, is unacceptable to us as a party.

 

Fel y dywedodd pawb arall, mae cwestiynau’n codi oherwydd mai S4C yw’r unig ddarlledwr cyhoeddus yn yr iaith Gymraeg. Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n edrych ar y sefyllfa yn credu bod y cytundeb ychydig yn rhy dawel ar ddyletswydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Gemau Olympaidd, y Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan ynglŷn â gwarantu bod unrhyw swm sy’n cael ei anfon gan y BBC i S4C yn ddigonol i warantu bod y gwasanaeth hwnnw’n cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

As everyone else has said, questions arise because of S4C’s role as the only Welsh-medium public broadcaster. Most people who look at this situation believe that the agreement is a little too quiet on the duty of the Westminster Secretary of State for Culture, Olympics, Media and Sport about guaranteeing that any sum that is sent from the BBC to S4C is enough to guarantee that that service will be provided through the medium of Welsh.

 

 

5.15 p.m.

 

 

Yn y pen draw, mae angen i ni, fel sefydliad, ymateb i rai o’r cwestiynau sy’n codi ynglŷn â darlledu yn Saesneg yng Nghymru, fel y dywedodd y Gweinidog. Mae ein safbwynt ni, fel plaid, yn glir: yr ydym yn credu y dylid datganoli darlledu. Bydd yn rhaid i Peter Black ymateb i ofynion y Gweinidog ynglŷn â’r ffaith ei fod yn awyddus i gael trafodaeth drawsbleidiol am y ffordd ymlaen, ond yr ydym ni, fel plaid, yn barod i gefnogi’r cynnig sydd gerbron y Senedd heddiw.

 

At the end of the day, as an institution, we also need to respond to some of the questions that have arisen about English-language broadcasting in Wales, as the Minister said. Our position as a party is clear: we believe that broadcasting should be devolved. Peter Black will have to respond to the Minister’s requests regarding a cross-party discussion on the way forward, but we, as a party, are willing to support the motion that is before the Senedd today.

 

Alun Ffred Jones: Yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle i ddweud gair yn y ddadl hon. Hoffwn longyfarch y Gweinidog ar ei araith. Tynnaf sylw at yr hyn yr wyf yn credu a ddywedodd, sef bod S4C yn fwy na darlledwr. Credaf fod hynny’n wir; dyna sy’n gwneud y gwasanaeth yn wahanol, efallai, i wasanaethau darlledwyr eraill.

 

Alun Ffred Jones: I am grateful for the opportunity to contribute to this debate. I would like to congratulate the Minister on his speech. I draw attention to something that I believe he said, that is, that S4C is more than a broadcaster. I think that that is true. That may be what makes the service different to those of other broadcasters.

 

Yn y blynyddoedd sydd i ddod, mae angen i S4C drafod â chyrff diwylliannol eraill yng Nghymru er mwyn cael y gorau o’r gwasanaeth, gan gyfrannu hefyd at wneud yr iaith Gymraeg yn iaith fodern a hyfyw.

 

In the next few years, S4C needs to hold discussions with other cultural organisations in Wales in order to provide the best service possible, while also contributing to making the Welsh language a modern and viable one.

 

I fynd yn ôl at graidd y broblem, mae’r penderfyniad i roi’r cyfrifoldeb dros ariannu gwasanaeth darlledu S4C ar ysgwyddau’r BBC yn gamgymeriad sylfaenol. Rhagwelaf y bydd y penderfyniad hwn yn creu ansicrwydd a dadlau i’r dyfodol.

 

To return to the core of the problem, the decision to place the responsibility for funding S4C’s broadcasting service on the shoulders of the BBC is a fundamental error. I foresee that that decision will create uncertainty and conflict in future.

 

Crëwyd S4C i ymateb i argyfwng a diffyg penodol; yr oedd yn ateb gwleidyddol i broblem. Cyfrifoldeb y Llywodraeth ydoedd, ac mae’n parhau i fod yn gyfrifoldeb ar y Llywodraeth, yn fy marn i. Credaf fod y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn euog o fradychu’r gynulleidfa yng Nghymru gyda’r hyn a wnaed ganddynt.

 

S4C was created to respond to a specific crisis and deficit; it was a political solution to a problem. It was the responsibility of Government, and it continues to be the responsibility of Government in my opinion. I believe that the Tories and Liberal Democrats are guilty of betraying the audience in Wales with what they have done.

 

Mae Aled Roberts a Keith Davies wedi cyfeirio at y ffaith bod toriadau llym iawn yn wynebu S4C—32 y cant hyd at 2015. Hefyd, cyfeiriodd Aled a Keith at y ffaith bod Chris Patten wedi dweud ei fod yn credu y dylai S4C a’r BBC rannu’r un toriadau ar ôl 2015. Nid yw hynny’n deg o ystyried bod toriadau’r BBC gryn dipyn yn llai na’r 32 y cant sy’n wynebu S4C, er mor ddrwg yw’r rheini a’r dylanwad a gânt ar y gwasanaeth Saesneg a Chymraeg yng Nghymru. Dyna’r union fath o dyndra a dadl y mae’r trefniant hwn gan Jeremy Hunt a’r Llywodraeth glymblaid yn eu creu, a dyna’r math o ddadleuon y byddant yn eu creu nes y bydd trefniant newydd, gobeithio, yn y dyfodol.

 

Aled Roberts and Keith Davies have referred to the fact that S4C is facing very stringent cuts—32 per cent until 2015. Also, Aled and Keith referred to the fact that Chris Patten said that he believes that S4C and the BBC should face the same cuts after 2015. That is not fair considering that the cuts that the BBC is facing are much smaller than the 32 per cent that is facing S4C, albeit that they are bad enough, as is the impact that they will have on services in English and Welsh in Wales. That is exactly the sort of tension and conflict that this new arrangement by Jeremy Hunt and the coalition Government will create, and those are the sorts of debates that they will create until there is a new arrangement in future, as I hope there will be.

 

Dyna pam y credaf ei bod yn hollbwysig bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn parhau i ysgwyddo’r cyfrifoldeb terfynol dros sicrhau cyllideb ddigonol i S4C nes y bydd trefniant amgen ar waith. Nid oes sicrwydd o hyn ar ôl 2017. Dyna pam, felly, y dylai’r Bil Cyrff Cyhoeddus, sydd wrthi’n mynd drwy’r Senedd, gynnwys cymal sy’n rhoi’r cyfrifoldeb ar yr Ysgrifennydd Gwladol i sicrhau bod S4C yn cael swm sy’n ddigonol i’r awdurdod gyllido ei oblygiadau fel darlledwr cyhoeddus.

 

That is why I believe that it is essential that the Secretary of State continues to bear the ultimate responsibility for ensuring sufficient funding for S4C until an alternative arrangement is put in place. There is no certainty in this after 2017. That is why the Public Bodies Bill that is going through Parliament should include a clause that places responsibility on the Secretary of State to ensure that S4C receives enough funding so that the authority can fulfil its obligations as a public broadcaster.

 

Y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yw y bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar y cytundeb rhwng y BBC ac S4C a’r cytundeb gweithredol rhwng y BBC ac S4C tan 2017. Gan y bydd y rhain yn hollbwysig i weithrediad S4C, gan gynnwys cyfyngiadau ar ei rhyddid golygyddol a masnachol, mae’n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru, Aelodau’r Cynulliad a dinasyddion Cymru benbaladr yn ymateb ac yn rhoi sylw manwl a gofalus i’r hyn a gynigir ac yn ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw. Wedi’r cwbl, gwasanaeth i bobl Cymru yw S4C, ac ymgyrchu gan bobl Cymru roddodd fod iddi yn y lle cyntaf. Nid adain arall o’r BBC yn Llundain yw hi. Mae’n gyfrifoldeb arnom yn y Cynulliad ac yn y gymdeithas ehangach yng Nghymru sicrhau annibyniaeth y gwasanaeth hwn a’i fod yn gwasanaethu cynulleidfa eang, Gymraeg a di-Gymraeg, yng Nghymru.

 

The last point that I would like to make is that a public consultation will be held on the agreement between the BBC and S4C and the operational agreement between BBC and S4C until 2017. As these will be crucial to the operation of S4C, and will include restrictions on its editorial and commercial freedom, it is essential that the Welsh Government, Assembly Members and citizens throughout Wales respond and give detailed and careful consideration to the proposals and respond to the consultation. After all, S4C is a service for the people of Wales, and it was a campaign by the people of Wales that brought it into existence in the first place. It is not another facet of the BBC in London. It is incumbent upon us in the Assembly and in wider society in Wales to ensure the independence of the service and that is serves a broad audience, both Welsh-speaking and not-Welsh-speaking, in Wales.

 

Rhodri Glyn Thomas: Yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu’n fyr at y drafodaeth hon. Fel ag y gwnaeth Alun Ffred Jones, yr wyf yn croesawu nid yn unig y cynnig a’r drafodaeth y prynhawn yma, ond eich datganiad chi, Weinidog. Yn eich sylwadau rhagarweiniol i’r ddadl hon, yr oeddech yn mynegi cefnogaeth gref i S4C fel sefydliad sy’n cynnig cryn dipyn i Gymru—nid yn unig o ran darlledu ond o ran yr economi ac, yn benodol, y diwydiannau creadigol. Croesawaf hynny’n fawr. Bu llawer o sôn am y sefyllfa ariannol, a mynegwyd pryderon. Yr wyf yn rhannu’r pryderon hynny ynglŷn â’r setliad hwn gyda’r BBC, ond mae’n creu llwyfan hyd at 2017 ac yn creu elfen o sefydlogrwydd.

 

Rhodri Glyn Thomas: I am grateful for the opportunity to contribute briefly to this debate. As Alun Ffred Jones did, I welcome not only the motion and this afternoon’s discussion, but your statement, Minister. In your introductory remarks to this debate, you expressed strong support for S4C as an institution that offers much to Wales—not only in broadcasting terms, but in terms of the economy and the creative industries. I welcome that very much. There has been a great deal of talk about the funding arrangement, and concerns have been expressed. I share those concerns, but the arrangement does create a platform up to 2017 and provides an element of stability.

 

Weinidog, yr wyf yn eich annog i gynnal trafodaeth gyda DCMS ynglŷn â’r sefyllfa hon, gan fod yr egwyddor bellach wedi’i sefydlu fod gan S4C hawl i ganran o ffi’r drwydded yng Nghymru. Nid arian y BBC yw hwnnw, er bod y BBC yn hoff iawn o sôn amdano fel ei arian ef. Arian y drwydded darlledu cyhoeddus yw hwnnw, ac mae’r cytundeb hwn yn gosod canran o’r arian hwnnw i S4C. A wnewch chi gynnal trafodaeth gyda DCMS i sefydlu’r egwyddor hon y tu hwnt i 2017? Os yw ffi’r drwydded yn cynyddu, byddai’r swm sy’n dod o ganran y BBC hefyd yn cynyddu. Mae’r setliad gyda’r BBC, fel y dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, wedi ailsefydlu’r bartneriaeth gychwynnol a oedd yn bodoli o fewn darlledu cyhoeddus yng Nghymru.

 

Minister, I urge you to have a discussion with DCMS about the arrangement, because the principle has now been established that S4C has the right to a proportion of the licence fee in Wales. That is not BBC money, although the BBC is fond of talking about it as if it were its own money. It is the public broadcasting licence fee money, and the funding arrangement gives a proportion of that money to S4C. Will you hold a discussion with DCMS about maintaining this principle beyond 2017? If the licence fee increases, the proportion of funding from the BBC would also increase. The settlement with the BBC has also, as Lord Elis-Thomas said, re-established the original partnership that existed in public service broadcasting in Wales.

 

Weinidog, pan ydym yn sôn am ddatganoli, byddwn yn eich annog yn gryf iawn i beidio â chael eich tynnu ar hyd y llwybr o drafod S4C yn unig. Yr hyn sydd ei angen arnom yng Nghymru yw datganoli darlledu yn ei gyfanrwydd i Gymru. Efallai fod hynny’n ymddangos fel rhywbeth ar gyfer y dyfodol, ond byddwn yn eich annog, Weinidog, i gynnal trafodaeth gyda’r Gweinidog priodol yn Senedd yr Alban ynghylch y trafodaethau yno i ddatganoli’r BBC yn yr Alban yn ei gyfanrwydd i ofal Senedd yr Alban. Ni chredaf fod hynny mor bell â hynny i ffwrdd yn y dyfodol. Gall effeithio ar y trafodaethau yng Nghymru. Mae’n eithriadol o bwysig ein bod yn ymladd yr achos dros ddatganoli darlledu yn ei gyfanrwydd i’r lle hwn, fel y gallwn drafod darlledu yn ei gyfanrwydd a gwarchod darlledu rhag bygythiadau o San Steffan yn y dyfodol.

 

Minister, when we talk about devolving broadcasting, I urge you very strongly not to be drawn down the path of discussing just S4C itself. What we need is to have broadcasting devolved to Wales in its entirety. That may seem to be something for the future, but, Minister, I urge you to hold discussions with the relevant Minister in the Scottish Parliament regarding the discussions there to devolve BBC Scotland in its entirety to the care of the Scottish Parliament. I do not think that that is that far away in the future. That could affect the discussions in Wales. It is extremely important that we fight the case for devolving broadcasting in its entirety to this place, so that we can discuss broadcasting in its entirety in Wales and safeguard it from threats from Westminster in future.

 

Weinidog, yr oeddech yn llongyfarch cadeirydd newydd Awdurdod S4C, Huw Jones, a’r prif weithredwr newydd, Ian Jones, ar eu penodi. Gofynnaf i chi sicrhau bod y cadeirydd newydd a’r prif weithredwr newydd yn cael y cyfle i symud S4C ymlaen, i dynnu llinell o dan y gorffennol ac i adeiladu ar y cyfle newydd hwn. Credaf fod angen i ni weld awdurdod newydd, gydag aelodau newydd a gwaed newydd.

 

Minister, you also congratulated the new S4C Authority chair, Huw Jones, and chief executive, Ian Jones, on their appointment. I ask that the new chair and chief executive be given the opportunity to move S4C forward, to draw a line under the past and to build on this new opportunity. I believe that we need to see a new authority, with new members and new blood.

 

O dan y cytundeb gyda’r BBC, mae proses newydd o benodi aelodau i’r awdurdod. Byddwn yn eich annog i gynnal trafodaethau gyda chadeirydd Awdurdod S4C a chynrychiolwyr Ymddiriedolaeth y BBC yng Nghymru ynghylch y broses o benodi aelodau newydd i’r awdurdod fel ein bod yn cael gwaed newydd arno—nid pobl sydd â chreithiau o frwydrau’r gorffennol, ond pobl sydd â gweledigaeth ynghylch dyfodol S4C. Credaf fod y ffordd y bydd yr awdurdod newydd yn cael ei ddatblygu yn eithriadol o bwysig a bod penodi aelodau newydd i’r awdurdod yn gam eithriadol o bwysig ymlaen i’r dyfodol.

 

Under the agreement with the BBC, there is a new process for appointing authority members. I urge you to hold discussions with the chair of the S4C Authority and the representatives of the BBC Trust in Wales about the process of appointing new members to the authority so that we get new blood on it—not people who bear the scars from the battles of the past, but people who have a vision for the future of S4C. The way that the new authority will be developed is extremely important and appointing new members to the authority will be an extremely important step forward for the future.

 

Yr ydym yn croesawu eich ymrwymiad, Weinidog. Gallwch fod yn sicr o’n cefnogaeth yn hyn o beth, dim ond ichi gadw at eich addewidion y prynhawn yma.

 

We welcome your commitment, Minister. You can be certain of our support in this regard, as long as you keep your promises this afternoon.

 

The Minister for Housing, Regeneration and Heritage (Huw Lewis): The debate today has underlined once again the cross-party support for S4C here and I welcome all the contributions that have been made this afternoon on this important agenda. I have noted in particular the comments from Plaid Cymru relating to the possible devolution of S4C and broadcasting more generally. It is a position with which I have sympathy, but DCMS and the UK Government have made it clear to us that that is not on the table right now. That means that my immediate priority, and that of the First Minister, must be to secure a good outcome for our broadcasters with the current arrangements in mind.

 

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth (Huw Lewis): Mae’r ddadl heddiw wedi tanlinellu unwaith eto y gefnogaeth drawsbleidiol i S4C yma ac yr wyf yn croesawu’r holl gyfraniadau sydd wedi’u gwneud y prynhawn yma ar yr agenda pwysig hwn. Yr wyf wedi nodi yn arbennig y sylwadau gan Blaid Cymru sy’n ymwneud â datganoli posibl S4C a darlledu yn fwy cyffredinol. Yr wyf yn deall y safbwynt hynny i raddau, ond mae DCMS a Llywodraeth y DU wedi ei gwneud yn glir i ni nad yw hynny ar y bwrdd ar hyn o bryd. Mae hynny’n golygu mai fy mlaenoriaeth gyntaf i a’r Prif Weinidog yw sicrhau canlyniad da ar gyfer ein darlledwyr gyda’r trefniadau presennol mewn golwg.

 

Rhodri Glyn Thomas: The point that I was making in my contribution was that, although it may not be on the agenda for Wales at the moment, it is certainly on the agenda for Scotland. Those discussions are ongoing. That is why I was asking you to have discussions with the Minister in the Scottish Parliament to ensure that we do not lose out on any developments in terms of the devolution of the BBC in Scotland.

 

Rhodri Glyn Thomas: Y pwynt yr oeddwn yn ei wneud yn fy nghyfraniad oedd, er efallai na fydd ar yr agenda ar gyfer Cymru ar hyn o bryd, mae’n sicr ar yr agenda ar gyfer yr Alban. Mae’r trafodaethau hynny’n parhau. Dyna pam yr wyf yn gofyn i chi i gael trafodaethau gyda’r Gweinidog yn Senedd yr Alban i sicrhau nad ydym yn colli allan ar unrhyw ddatblygiadau o ran datganoli’r BBC yn yr Alban.

 

Huw Lewis: I am always willing to take on board and understand the experience of our Scottish colleagues, and I do not see any impediment to me chatting with my equivalent in Edinburgh.

 

Huw Lewis: Yr wyf bob amser yn barod i ystyried a deall profiad ein cydweithwyr yn yr Alban, ac nid wyf yn gweld unrhyw rwystr o ran sgwrsio â’r Gweinidog perthnasol yng Nghaeredin.

 

As I was saying, my priority and the priority of the Welsh Government right now must be to secure a good outcome for our broadcasters with these current arrangements in mind. There is a broader discussion to be had on the future of broadcasting and media in Wales, but it was never going to happen in time to influence the issues in front of us today. The proposals from DCMS that S4C’s funding should, in future, become the responsibility of the BBC are of far-reaching importance to Wales, the Welsh language and the creative industries sector. S4C was created by statute to ensure the organisation’s long-term stability and independence and to avoid periodic wrangling—Alun Ffred Jones is quite right about that. Its duties, responsibilities and funding arrangements were laid down in law for good reasons. It is imperative that S4C does not become another BBC service. As the only Welsh-language channel, S4C must be protected as an independent, stand-alone channel.

 

Fel yr oeddwn yn ei ddweud, fy mlaenoriaeth i a blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw sicrhau canlyniad da ar gyfer ein darlledwyr gan gadw’r trefniadau presennol hyn mewn cof. Mae trafodaeth ehangach i’w chael ar ddyfodol darlledu a’r cyfryngau yng Nghymru, ond nid yw byth yn mynd i ddigwydd mewn pryd i ddylanwadu ar y materion ger ein bron heddiw. Mae’r cynigion gan DCMS y dylai cyllid S4C, yn y dyfodol, fod yn gyfrifoldeb i’r BBC o bwysigrwydd pellgyrhaeddol i Gymru, yr iaith Gymraeg a’r sector diwydiannau creadigol. Crëwyd S4C drwy statud i sicrhau sefydlogrwydd ac annibyniaeth hirdymor y sefydliad ac i osgoi ymgecru cyfnodol—mae Alun Ffred Jones yn llygad ei le ynglŷn â hynny. Cafodd ei dyletswyddau, ei chyfrifoldebau a’i threfniadau ariannu eu gosod i lawr yn y gyfraith am resymau da. Mae’n hanfodol nad yw S4C yn cael ei throi yn un o wasanaethau’r BBC. Fel yr unig sianel Gymraeg, rhaid i S4C gael ei diogelu fel sianel annibynnol ar wahân.

 

It has been interesting to hear it said recently—it has also been raised today—that we as a Government should do more to protect S4C. I can assure you that, during the last year, we have consistently expressed in no uncertain terms to the UK Government and the BBC Trust our concerns about the impact that any major funding cuts will have on S4C and its ability to serve the Welsh audience, and that S4C must remain independent, with its own budget. The First Minister met the Secretary of State for Culture, Olympics, Media and Sport, Jeremy Hunt, back on 6 July, and discussed the range of broadcasting issues affecting Wales, including S4C. We have been in regular dialogue with the senior management of S4C and the BBC over the future of S4C and I can assure Rhodri Glyn Thomas that dialogue with DCMS will continue.

 

Mae wedi bod yn ddiddorol clywed yn ddiweddar—cafodd hefyd ei godi heddiw—y dylem ni fel Llywodraeth wneud mwy i amddiffyn S4C. Gallaf eich sicrhau ein bod, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, wedi mynegi’n gyson yn blwmp ac yn blaen i Lywodraeth y DU ac Ymddiriedolaeth y BBC ein pryderon am yr effaith y bydd unrhyw doriadau cyllido mawr yn eu cael ar S4C a’i gallu i wasanaethu’r gynulleidfa Gymraeg, a bod yn rhaid i S4C aros yn annibynnol, gyda’i chyllideb ei hun. Cyfarfu’r Prif Weinidog â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Gemau Olympaidd, y Cyfryngau a Chwaraeon, Jeremy Hunt, ar 6 Gorffennaf, a thrafodwyd yr ystod o faterion darlledu sy’n effeithio ar Gymru, gan gynnwys S4C. Yr ydym wedi bod mewn trafodaethau rheolaidd gydag uwch reolwyr S4C a’r BBC ar ddyfodol S4C a gallaf sicrhau Rhodri Glyn Thomas y bydd deialog gyda DCMS yn parhau.

 

I can confirm, as I have said, that the UK Government has made it very clear that it is not minded to devolve S4C just now. It would not make sense for us as a Government to be responsible for S4C without assurance that the appropriate funding was transferred as well. However, the broadcasting landscape is changing rapidly, that much is for sure, and there is no guarantee that the structures currently in place will remain in the future.

 

Gallaf gadarnhau, fel y dywedais, bod Llywodraeth y DU wedi ei gwneud yn glir iawn nad yw’n bwriadu datganoli S4C ar hyn o bryd. Ni fyddai’n gwneud synnwyr i ni fel Llywodraeth i fod yn gyfrifol am S4C heb sicrwydd y byddai’r cyllid priodol hefyd yn cael ei drosglwyddo. Fodd bynnag, yn sicr, mae’r tirwedd darlledu yn newid yn gyflym, ac nid oes unrhyw sicrwydd y bydd y strwythurau sy’n bodoli ar hyn o bryd yn aros yn y dyfodol.

 

Bethan Jenkins: It is the duty and responsibility of the Government to make the case for devolving broadcasting and the money. We would not want it to be devolved without the money either, because we would need to implement changes. So, could you not have those discussions with the UK Government?

 

Bethan Jenkins: Mae’n ddyletswydd a chyfrifoldeb gan y Llywodraeth i wneud yr achos dros ddatganoli darlledu a’r arian. Ni fyddem yn dymuno iddo gael ei ddatganoli heb yr arian ychwaith, oherwydd byddai angen i ni gyflwyno newidiadau. Felly, a oes modd i chi gael y trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU?

 

Huw Lewis: Discussions with DCMS are ongoing. I have read Plaid Cymru’s press release today. It made no mention of the funding regime that would be preferred by the party. It is useful to have that amount of clarity and that sense of realism dawn now.

 

Huw Lewis: Mae trafodaethau gyda DCMS yn parhau. Rwyf wedi darllen datganiad Plaid Cymru i’r wasg heddiw. Ni soniodd am y drefn ariannu a fyddai’n cael ei ffafrio gan y blaid. Mae’n ddefnyddiol i gael cymaint â hynny o eglurder a realaeth yn awr.

 

It cannot be right for the future of broadcasting in Wales to be shaped simply by the cuts being forced through by the UK Government. The Welsh Government will continue, therefore, to stand up for maintaining full services in the Welsh language.

 

Ni all fod yn iawn i ddyfodol darlledu yng Nghymru gael ei llunio yn syml gan y toriadau sy’n cael eu gorfodi gan Lywodraeth y DU. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau, felly, i sefyll i fyny dros gynnal gwasanaethau llawn yn yr iaith Gymraeg.

 

5.30 p.m.

 

 

If I may, Deputy Presiding Officer, I would like to add a little more. We also need to be aware of the implications of the Public Bodies Bill on S4C. We remain very concerned that changes to S4C’s legislative arrangements will have an impact on its funding in the future. We will continue to argue that Welsh-language broadcasting should not be treated any less favourably than other aspects of public service broadcasting. Keith Davies, the Member for Llanelli, put his finger on it when raising this point. We will also continue to emphasise that the principles upon which S4C was established under successive broadcasting Acts should not be abandoned and that this contract—for that is what it is—with the Welsh people should not be broken.

 

Os caf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ychwanegu ychydig yn fwy. Rhaid i ni hefyd fod yn ymwybodol o oblygiadau’r Bil Cyrff Cyhoeddus ar S4C. Rydym yn parhau i fod yn bryderus iawn y bydd newidiadau i drefniadau deddfwriaethol S4C yn cael effaith ar ei chyllid yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i ddadlau na ddylai darlledu yn yr iaith Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol nag agweddau eraill o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus. Rhoddodd Keith Davies, yr Aelod dros Lanelli, ei fys arno wrth godi’r pwynt hwn. Byddwn hefyd yn parhau i bwysleisio na ddylid anghofio’r egwyddorion y sefydlwyd S4C arnynt dan Ddeddfau darlledu olynol ac na ddylai’r contract hwn—gan mai dyna beth ydyw—â phobl Cymru gael ei dorri.

 

The Deputy Presiding Officer: The proposal is to agree the motion. Does any Member object? I see that there are no objections. Therefore, the motion is agreed in accordance with Standing Order No. 12.36.

 

Y Dirprwy Lywydd: Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiad. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 12.36.

 

Derbyniwyd y cynnig.
Motion agreed.

 

 

Y Dirprwy Lywydd: Dyna ddiwedd ein trafodion am heddiw.

 

The Deputy Presiding Officer: That brings today’s proceedings to a close.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.31 p.m.
The meeting ended at 5.31 p.m.

 

Aelodau a’u Pleidiau
Members and their Parties

 

Andrews, Leighton (Llafur – Labour)
Antoniw, Mick (Llafur – Labour)
Asghar, Mohammad (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Black, Peter (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Burns, Angela (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Butler, Rosemary (Llafur – Labour)
Chapman, Christine (Llafur – Labour)
Cuthbert, Jeff (Llafur – Labour)
Davies, Alun (Llafur – Labour)
Davies, Andrew R.T. (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Davies, Byron (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Davies, Jocelyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Davies, Keith (Llafur – Labour)
Davies, Paul (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Davies, Suzy (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Drakeford, Mark (Llafur – Labour)
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Evans, Rebecca (Llafur – Labour)
Finch-Saunders, Janet (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
George, Russell (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Gething, Vaughan (Llafur – Labour)
Graham, William (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Gregory, Janice (Llafur – Labour)
Griffiths, John (Llafur – Labour)
Griffiths, Lesley (Llafur – Labour)
Gruffydd, Llyr Huws (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Hart, Edwina (Llafur – Labour)
Hedges, Mike (Llafur – Labour)
Hutt, Jane (Llafur – Labour)
Isherwood, Mark (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
James, Julie (Llafur – Labour)
Jenkins, Bethan (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Alun Ffred (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Ann (Llafur – Labour)
Jones, Carwyn (Llafur – Labour)
Jones, Elin (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Ieuan Wyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Lewis, Huw (Llafur – Labour)
Melding, David (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Mewies, Sandy (Llafur – Labour)
Millar, Darren (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Morgan, Julie (Llafur – Labour)
Neagle, Lynne (Llafur – Labour)
Parrott, Eluned (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Powell, William (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Price, Gwyn R. (Llafur – Labour)
Ramsay, Nick (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Rathbone, Jenny (Llafur – Labour)
Rees, David (Llafur – Labour)
Roberts, Aled (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Sandbach, Antoinette (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Sargeant, Carl (Llafur – Labour)
Skates, Kenneth (Llafur – Labour)
Thomas, Gwenda (Llafur – Labour)
Thomas, Rhodri Glyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Thomas, Simon (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Watson, Joyce (Llafur – Labour)
Whittle, Lindsay (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Williams, Kirsty (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Wood, Leanne (Plaid Cymru – The Party of Wales)